· Archwilio newidiadau I Wasanaethau Cymunedol
· Archwilio Asesiadau Effaith Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Cofnodion:
Cyd-destun:
Derbyniasom adroddiad oddi wrth y Rheolwr Craffu er mwyn ystyried y cyfarwyddyd i Graffu a gynhyrchwyd gan y Comisiynydd Pobl H?n parthed Newidiadau Craffu i Wasanaethau Cymunedol a Chydraddoldebau Craffu ac Asesiadau Effaith ar Hawliau Dynol.
Materion Allweddol:
Mae’r Comisiynydd Pobl h?n wedi ysgrifennu i awdurdodau lleol i gyflwyno’r gwaith a gynhaliwyd i gynhyrchu cyfarwyddyd i Gynghorau ar y modd i graffu Newidiadau i Wasanaethau Cymunedol ac ‘Asesiadau Effaith Cydraddoldebau a Hawliau Dynol’.
Mae’r Comisiynydd yn cydnabod y bydd amserau ariannol heriol yn gosod penderfyniadau anodd i Gynghorau ynghylch y modd i ddarparu ar gyfer ein cymunedau wasanaethau o ansawdd sy’n hygyrch yn lleol ac mae wedi cynhyrchu cyfarwyddyd i grafwyr llywodraeth leol i’w cynorthwyo wrth ystyried penderfyniadau allweddol a pholisïau sy’n effeithio ar bobl h?n. Mae’r cyfarwyddyd yn argymell yr angen i ystyried yn ofalus oblygiadau penderfyniadau er mwyn amddiffyn pobl fwyaf bregus cymdeithas.
Mae’r cyfarwyddyd yn darparu amlinelliad defnyddiol i grafwyr yn y modd y gellir cymhwyso egwyddorion ‘Asesiadau Effaith Cydraddoldebau a Hawliau Dynol’ i benderfyniadau a pholisïau sy’n effeithio ar bobl h?n, o ystyried y boblogaeth gynyddol sy’n heneiddio.
Gallai Aelodau Craffu ddymuno ystyried fel y gallant blannu egwyddorion o’r fath i mewn i’w dull o graffu; o bosib drwy ddatblygu strategaeth gwestiynu i’w chymhwyso i graffu testunau perthnasol, neu drwy ystyried cadernid ‘Asesiadau Effaith Cydraddoldebau a Hawliau Dynol’ ynghyd â dilysrwydd tystiolaeth mewn asesiadau o’r fath i gefnogi gwneud-penderfyniadau.
Craffu Aelodau:
Tynnodd y Cadeirydd sylw at y cyfle, nid yn unig i ymateb, ond y potensial i hybu ac annog, ac awgrymodd y dylai Aelodau oedi a meddwl a yw’r cwestiynau a osodwyd yn gwneud synnwyr, ac a oedd yr asesiadau a wnaed yn ateb y diben.
Tra gallai’r cyfarwyddyd gymryd yn ganiataol bod gan bob awdurdod Gydgysylltydd Strategaeth Pobl H?n, nid dyma’r sefyllfa o angenrheidrwydd. Mynegodd yr Aelodau bryder, heb Gydgysylltydd penodol, gallai fod llai o gyfle i sicrhau bod ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi ar y modd y mae polisïau a phenderfyniadau’n effeithio ar bobl h?n. Cynghorodd y Cadeirydd bod angen i’r broses graffu, felly, sicrhau ei bod yn hyrwyddo hawliau pobl h?n wrth graffu penderfyniadau a pholisïau.
Eglurodd y Rheolwr Craffu y byddai cyfarfod o’r Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf ac Oedolion yn mynd i’r afael â thrafodaethau â phartneriaid. Awgrymwyd rhoi yn y dyddiadur gyfarfod yn y dyfodol i ystyried rôl y gwahanol bartneriaethau ac fel cânt eu cydgysylltu.
Y casgliad cyffredinol oedd bod angen i asesiadau fod yn fwy cadarn a bod angen eu craffu’n well. Yng nghyd-destun asesiadau, awgrymodd y swyddog Polisi dros Gydraddoldeb, wrth ystyried penderfyniadau, gallai crafwyr ddymuno ystyried pwy mae’r penderfyniad yn eu heffeithio a’r dystiolaeth sy’n cefnogi a oes goblygiadau cadarnhaol neu negyddol i bobl h?n. Gallai Aelodau ystyried ar ba gyfnod yr ymgynghorwyd â gwahanol grwpiau a defnyddwyr gwasanaeth. Gallai fod cwestiynau mwy manwl yn ogystal ynghylch nodau’r cynnig. Byddai hyn yn gymorth i gyflawni craffu mwy deallus. Byddai’r Rheolwr Craffu yn edrych ar greu templed a dod ag ef i gyfarfod yn y dyfodol.
Awgrymodd y Rheolwr Craffu y gallai’r Pwyllgor mewn rhai achosion, ystyried craffu ôl-weithredol i weld a oedd y goblygiadau a ragwelwyd ar rai grwpiau wedi digwydd mewn gwirionedd ac fel y gellid lleihau’r rhain. Cynghorodd y Swyddog Polisi dros Gydraddoldeb, wedi delio ag Asesiadau Effaith ar Ansawdd Cydraddoldeb, roedd yr asesiadau wedi bod yn llwyddiannus o ganlyniad i ddiffyg gwybodaeth. Tra roedd swyddogion wedi tueddu i lenwi’r ffurflenni ar y funud olaf, fe’u hanogwyd i feddwl am y cwestiynau ar gychwyn y broses ac o ganlyniad roedd asesiadau’n gwella. Daliodd diffyg data y gellid rhagweld goblygiadau o edrych arnynt yn broblem ac nid oedd yn gwella mor gyflym ag y dylai.
Codwyd cwestiwn ynghylch y modd y cymhwyswyd yr AEACau i oblygiadau anstatudol, yn arbennig, os trosglwyddwyd gwasanaethau i Gynghorau Tref a Chymuned. Cytunodd y Swyddog Polisi Cydraddoldeb y dylai gwasanaethau statudol ac anstatudol ddal i ddilyn yr un broses AEAC ac y dylid trafod y goblygiadau cyn y penderfyniad i drosglwyddo gwasanaethau.
Cwestiynodd y Cadeirydd achosion lle cymerwyd penderfyniad i gynnig gwasanaeth i Gyngor Tref neu Gymuned sydd wedyn yn gwrthod y trosglwyddiad gwasanaeth, proses yr AEAC~ Cytunwyd y dylid trafod hyn gyda’r Pennaeth Cyfreithiol.
Argymhellion:
Argymhellodd yr adroddiad fod y Pwyllgor:
i. Yn dod i gasgliad ffurfiol i’w gynnwys yn ymateb y Cyngor i’r Comisiynydd Pobl H?n;
ii. Yn ystyried fel y gall blannu’r egwyddorion ym mhob papur cyfarwyddyd i mewn i arfer craffu; naill ai drwy graffu’r ‘Asesiadau Effaith ar Ansawdd Cydraddoldeb’, neu drwy linellau cwestiynu a/neu weithgarwch craffu arall.
Casgliad y Pwyllgor:
Casglodd y Cadeirydd fod angen i unrhyw graffu ar benderfyniadau a pholisïau gael cyd-destun a bod templedau’r AEAC yn gymorth i ddarparu’r cyd-destun hwnnw. Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau o sawl pwynt allweddol a godwyd yn y drafodaeth y mae’r Aelodau wedi cytuno ffordd ymlaen ar ei chyfer:
- Gallai craffu ôl-weithredol o benderfyniadau allweddol ddigwydd os oedd gan y Pwyllgor bryder ynghylch goblygiadau ar gyfer grwpiau penodol ar bwynt gwneud penderfyniad /polisi’n cael ei fabwysiadu
- Mae angen rhestr Ymgynghori sengl ar gyfer Sir Fynwy a byddai gofyn i’r Tîm-Cyfathrebu gynghori ar hyn
- Mae angen i’r Gwasanaethau Cyfreithiol egluro’r broses ar gyfer AEACau pan drosglwyddir gwasanaethau i sefydliadau eraill
- Gwahoddid y Comisiynydd Personau H?n i fynychu cyfarfod o’r Pwyllgor a darparu hyfforddiant ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau
- Gwahoddid y Tîm Polisi a Phartneriaethau i bwyllgor i drafod partneriaethau mewn Gwasanaethau Oedolion a rhwydwaith y gefnogaeth ar gyfer pobl h?n.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am drafodaeth ddefnyddiol a chynhyrchiol ar faes pwysig o waith i’r pwyllgor.
Dogfennau ategol: