Agenda item

I adolygu y Polisi Rhaniadau Tai

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Derbyniasom adroddiad oddi wrth Reolwr y Sector Tai Preifat er mwyn i Aelodau ystyried y gwelliant arfaethedig i’r polisi dyrannu cyffredin rhwng y Cyngor a Sir Fynwy, Cymdeithasau Tai Melin a Siartr.

 

Materion Allweddol:

 

Er nad oedd bellach yn berchen unrhyw stoc dai, mae’r Cyngor yn dal i gadw cyfrifoldeb statudol ar gyfer dynodi’n strategol yr angen am dai ac arwain ar yr holl gamau gweithredu lleol i ymateb yn effeithiol i’r angen hwn. Parthed hyn, mae’r Gofrestr Dai (Sir Fynwy) yn dal yn gyfrifoldeb  cyfreithiol y Cyngor.

 

Craffu Aelodau:

 

Gwnaeth Aelod sylw bod gwaith amaethyddol fynychaf yn cael ei wneud gan beiriannau, ac roedd mwy o reswm y byddai ffermwyr llaeth angen tai yn nes i’r fferm, a allai fod yn rheswm am lai o angen heddiw i ailgartrefu gweithwyr amaethyddol.

 

Cwestiynwyd, am fod y polisi wedi cael ei gymeradwyo gan y cymdeithasau tai lleol perthnasol, a oedd unrhyw fewnbwn ychwanegol yn angenrheidiol. Cynghorodd y Cadeirydd ein bod yn derbyn yr adroddiad at ddibenion cynghorol.

 

Nodwyd bod aelodau’r Pwyllgor dan anfantais am nad oeddent wedi derbyn yr atodiadau gyda’r agenda. Cytunodd y Pwyllgor, lle’r oedd gwybodaeth ychwanegol yn angenrheidiol, gadawyd hyn i’r Cadeirydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gan Aelod, clywsom yng nghyd-destun ffoaduriaid o Syria y gofynnwyd i Gyngor Sir Fynwy glustnodi eiddo i deulu y disgwylid iddo gyrraedd ym Mehefin neu yng Ngorffennaf. Mae CSF wedi cytuno i gartrefu 20 teulu dros 20 mlynedd.

 

Holodd Aelod fel y gellid mynd i’r afael â rhenti uchel yn y sector preifat. Eglurodd y swyddogion, yn y newidiadau arfaethedig i’r polisi dyrannu, lle’r oedd pobl yn gweithio ond yn ymdrechu i gael dau ben llinyn ynghyd, roedd yn bosib hawlio taliad tai dewisol, a symud i fand 3, angen canolig o ran tai. Ychwanegodd y Rheolwr Tai ac Adfywio mai rhan o gyfrifoldeb y tîm Tai Sector Preifat newydd fyddai cyrraedd sefyllfa i allu dynodi tai preifat ar gyfer ymgeiswyr ar y rhestr aros ynghyd ag ymgeiswyr digartref.

 

Clywsom y byddai sesiwn galw heibio ar Fai 10fed 2016 lle gwahoddid landlordiaid i fynychu er mwyn cwrdd â’r tîm a derbyn gwybodaeth ynghylch gofynion trwyddedu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch eiddo gaiff eu gosod yn breifat clywsom ei bod yn anodd dweud a fu cynnydd neu ostyngiad ond roedd y farchnad rhenti’n ymddangos fel petaent yn parhau i godi, a brofodd yn sialens i’r tîm. Roedd brwydr barhaus i ddynodi eiddo, ac nid oedd digon i gefnogi’n dyletswyddau.

 

Eglurodd y swyddogion y cymhellwyd landlordiaid a oedd yn gosod tai’n breifat i ddefnyddio’n gwasanaethau yn hytrach nag asiantiaid lleol drwy gynnig ystod eang o wasanaethau atodol, megis staff unigol profiadol, nifer o gronfeydd cyllido a chymorth tai. Roedd swyddogion yn eiddgar i ddatblygu gwasanaethau newydd yn ôl yr angen.

 

Gyda chyflwyno trwyddedu gallai fod cyfle i Gyngor Sir Fynwy gyflwyno cyrsiau, ond nid oedd hyn wedi’i drafod hyd yn hyn. Darparwyd cyrsiau ar hyn o bryd drwy Rent Smart Wales ynghyd â darparwyr eraill.

 

Mynegodd Aelod y dylai’r Cabinet sicrhau bod yr holl Aelodau’n ymwybodol o’r newidiadau mewn polisi ac awgrymodd y byddai seminar yn ddefnyddiol.

 

Tynnodd Aelod sylw at y ffaith bod gweithgor wedi bodoli yn y gorffennol yn edrych am dai gwag yn y Sir, a holodd a oedd datblygiad pellach yn y maes hwn. Eglurodd y swyddogion fod y gwaith tai gwag yn parhau, ond bod anawsterau o gwmpas niferoedd y staff. Gweithiai’r swyddogion yn agos gyda chydweithwyr y Dreth Gyngor i ddynodi eiddo o’r fath, a chysylltid â hwy drwy gyfrwng ymgyrch bostio ddwywaith y flwyddyn. Yng nghyd-destun ysgogiadau i berchnogion tai gwag gallai CSF gynnig cyfleuster benthyca, ond nid oedd y cyfleuster hwn wedi profi’n boblogaidd.

 

Argymhellion:

 

Argymhellodd yr adroddiad fod y Pwyllgor Dethol Oedolion yn ystyried y cynigion a amlinellwyd yn yr adroddiad i addasu’r polisi a gwneud argymhellion i Gabinet y Cyngor fel y byddai’n briodol.

 

 

Casgliad y Pwyllgor:

 

Casglodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor Dethol oedolion o blaid argymell y polisi i’r Cabinet ond yn argymell bod y Cabinet yn cynnal Seminar Aelodau er mwyn lledu’r wybodaeth.

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: