Cofnodion:
Cyd-destun:
Derbyniasomadroddiad gan y Pennaeth Gweithgareddau er mwyn i Aelodau graffu’r adborth sy’n codi o’r ymarfer ymgynghori statudol mewn perthynas â’r gorchymyn parcio ceir arfaethedig newydd ar gyfer meysydd parcio cyhoeddus CSF a gwneud sylwadau fel y gwêl aelodau’n gymwys.
MaterionAllweddol:
Yn 2014 craffodd Pwyllgor Dethol yr Economi a Datblygiad gynigion i gyflwyno newidiadau niferus i weithdrefn parcio ceir CSF.
Yndilyn aeth cynigion craffu i’r Cabinet i’w gymeradwyo ym Medi 2014.
Cymeradwywydamrywiol argymhellion (meysydd parcio ceir newydd, cynnydd mewn taliadau) gan gynnwys drafftio gorchymyn maes parcio ceir newydd.
Cyhoeddwyd y gorchymyn parcio ceir arfaethedig ac mae e ar hyn o bryd mewn cyfnod ymgynghori statudol, y broses ymgynghori ffurfiol yn cau ar 22ain Ebrill 2016. Dangosodd yr adborth o’r ymarfer ymgynghori rai themâu amlwg:
Pryder bod hyn yn cael gwared â’r unig barcio rhad ac am ddim yn Y
Fenni (ar wahân i ddydd Mawrth) yn arwain at y rheiny sy’n
defnyddio’r maes parcio’n symud i barcio ar y stryd i osgoi taliadau
parcio.
· Codi tâl am barcio ym maes parcio’r orsaf, Cas-gwent: pryder y gallai hyn atal teithwyr rhag defnyddio’r trên ac ysgogi gyrwyr i barcio ar y stryd i osgoi taliadau parcio.
CraffuAelodau:
Nododd y Cadeirydd y derbynnid adroddiad cynnydd ar ddyddiad yn y dyfodol. Rhoddid i ni nawr gyfle i bori dros yr ymatebion o’r ymgynghori. Ar sail yr ymatebion a dderbyniwyd heddiw, dylai aelodau benderfynu a ydynt am wneud sylwadau pellach cyn i’r gorchymyn drafft gael ei gyflwyno i’r Cabinet.
Mynegoddyr Aelodau bryder ynghylch y mater o godi tâl ar ddeiliaid Bathodynnau glas am barcio ceir, yn enwedig gan mai un o flaenoriaethau’r Cyngor yw amddiffyn pobl fregus. Yn ardal Y Fenni roedd pryderon oddi wrth yr heddlu y gallai hyn arwain at barcio ar linellau melyn, gan wneud sefyllfa sydd eisoes yn rhwystredig yn fwy anodd fyth. Argymhellwyd bod y Cabinet yn ystyried y gwerthoedd a’r cyfraniadau, ac yn ailystyried yn ddwys yr angen i godi tâl ar ddeiliaid bathodynnau glas.
Egluroddyr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cymunedol fod y mater wedi creu penbleth, ac wedi’r cyfarfod blaenorol 2014, roedd y Pwyllgor wedi cytuno i’r argymhelliad ar yr amod bod sylwadau’r Pwyllgor yn cael eu cynnwys yn adroddiad y Cabinet. Ers y cyfarfod craffu blaenorol roedd Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno meini prawf newydd ar gyfer deiliaid bathodynnau glas, gan dynhau’r amodau parthed pwy allai dderbyn bathodyn. Mae ffigurau blwyddyn gyflawn yn dangos bod 20-25% o geisiadau i adnewyddu’n cael eu gwrthod. Clywsom fod gan y Cabinet amheuon difrifol ynghylch cyflwyno’r taliadau a byddent yn edrych ar y mater yn ddifrifol unwaith eto cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol.
Nodwyd ,drwy gyfrwng ymatebion i’r ymgynghoriad, fod pryder ynghylch lleoliad peiriannau talu. Cwestiynwyd, os oedd angen i bobl symud i wahanol feysydd parcio, a byddai’n rhaid iddynt dalu bob tro. Mewn ymateb pwysleisiodd y Pennaeth Gweithrediadau’r pwyntiau canlynol:
Roeddpryderon ynghylch cymwysterau pobl oedd yn asesu a oedd ymgeiswyr yn cwrdd â’rmeini prawf am fathodynnau glas.
CododdAelod bryder ynghylch yr elfen economaidd gan nad yw pob deiliad bathodyn glas yn brin o arian a chwestiynodd sut gallem ddod i’r pwynt lle'r oedd y system yn deg i bawb.
CeisioddAelod eglurhad ar y meini prawf ar gyfer derbyn bathodyn glas. Eglurodd yr Aelod Cabinet fod cael derbyniad yn awtomatig yn ymwneud ag unrhyw berson ar raddfa uwch Lwfans Byw i’r Anabl, cynllun y Lluoedd Arfog neu gynllun Lluoedd Wrth Gefn y Fyddin o ganlyniad i ymddeol ar sail feddygol, diffyg golwg difrifol ac atodiad symudedd pensiynwyr rhyfel. Roedd cymhwyster yn ôl disgresiwn yn ymwneud â phlant dan dair oed, anabledd yn y ddwy fraich, nam gwybyddol difrifol ac anabledd cerdded.
MynegoddAelod nad oedd yn cefnogi’r argymhelliad and ei bod yn croesawu craffu manylach ar fater bathodynnau glas.
RoeddAelodau’n eiddgar i fynegi’u pryder ynghylch pobl fregus yn Sir Fynwy.
Pwysleisioddyr Aelod Cabinet fod pryder ynghylch maes parcio’r orsaf yng Nghas-gwent. Gwnaed cynnig gan y swyddfa docynnau yr ymchwilid iddo ymhellach.
Argymhellion:
Argymhelloddyr adroddiad fod Aelodau’n nodi cynnwys gorchymyn drafft y maes parcio a’r adborth yn codi o’r broses ymgynghori.
Hefyd, bod Aelodau’n edrych ar gasgliad y pwyllgor craffu blaenorol ac yn cadarnhau a ydynt yn dymuno gwneud sylwadau pellach o ganlyniad i’r broses ymgynghori statudol.
Casgliad y Pwyllgor:
Casglodd y Cadeirydd fod Aelodau wedi gwneud digon o sylwadau, ac y bu’r ffocws o gwmpas y bathodynnau glas, gan gynnwys straen y broses ymgeisio, fforddiadwyedd a gorfodaeth.
Ynnhermau’r effaith ehangach byddai’r Pwyllgor yn croesawu adroddiad ar gynnydd i sicrhau bod gan Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf.
Ymchwilid i ddewisiadau ynghylch Heol yr Orsaf, Cas-gwent i ysgogi defnyddwyr trenau
Dogfennau ategol: