Agenda item

Rhaglen Band Eang ac Ymelwa ar TGCh Busnes Cyflym Iawn - gwahoddwyd British Telecom i drafod cynnydd y rhaglen (atodir cyflwyniadau)

Cofnodion:

Diweddariad ar Gyflymu Cymru

 

Croesawyd ymwelwyr o Gyflymu Cymru BT, a oedd yn bresennol yn y cyfarfod i drafod y cynnydd yn y rhaglen.

 

Pwysleisiodd Pennaeth Pobl a Datblygiad Masnachol ein bod ar gyfnod pwysig cyflwyno Cyflymu Cymru, gydag oddeutu 15 mis yn weddill o’r contract. Roedd isadeiledd sylweddol pellach i’w osod yn ei le, ac roedd swyddogion yn gweithio’n glos gyda Llywodraeth Cymru, BT a darparwyr eraill i sicrhau cysylltedd.

 

Yn dilyn cyflwyniad gan Reolwr Rhaglen Cyflymu Cymru gwahoddwyd yr Aelodau i wneud sylwadau a thrafod.

 

Nododd y Cadeirydd fod y cyflwyniad yn ddilyniant i’w groesawu o Eitem iSirol a drafodwyd mewn cyfarfod blaenorol, a chydnabu’r pwysigrwydd, er mwyn gwireddu’n dyheadau dan ein strategaeth ddigidol, fod angen i’r isadeiledd fod yn ei le. Gofynnodd y Cadeirydd wedyn, pwy oedd wedi penderfynu ar y meysydd ymyrraeth cyflwyno’r rhaglen, a mynegodd, fel porth i Gymru, y byddai Sir Fynwy wedi hoffi bod ymhellach i fyny yn y cynllun. 

 

Mewn ymateb clywsom fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob awdurdod lleol gyflwyno adborth ar flaenoriaethau, ac o ganlyniad i’r amser ymateb, roedd Sir Fynwy’n ardal lle bu’r gwaith yn hwyrach yn cychwyn. Roedd ystyriaeth hefyd i’r modd yr adeiladwyd yr isadeiledd.. Byddai Sir Fynwy’n ardal lle byddai gwaith yn cychwyn yn hwyrach. Byddai nifer y bobl yn elwa o Gysylltiad Ffeibr i’r Adeilad (FTTP) hefyd wedi golygu y byddai Sir Fynwy yn uwch i fyny’r rhaglen. 

 

Cododd aelod gwestiwn ynghylch y diffyg mynediad i fand llydan. Eglurwyd na ddylai fod unrhyw reswm am ddiffyg mynediad, a byddai cynghorwyr BT yn mynd i’r afael ag unrhyw broblemau technegol.  Roedd camdybiaeth y byddai pobl yn cael cynnydd awtomatig mewn cyflymder. Nid dyna oedd y sefyllfa, gan y byddai angen i archeb gael ei gosod gyda’r darparwr.

 

Mynegodd Aelod bod y cynnydd yn bodloni, ac ychwanegodd fel pwynt o ddiddordeb, fod Y Fenni yn cychwyn ar Brosiect Amaeth Trefol, prosiect Ewropeaidd gyda’r nod o gynhyrchu cynaliadwyedd  a mentergarwch yn y diwydiant amaethyddol yn nhref Y Fenni. Pwysleisiwyd bod argaeledd band llydan yn elfen hanfodol o’r prosiect. Gofynnwyd am sicrwydd, parthed y palmentydd a ddiweddarwyd yn y canol tref, y byddai’r gwaith wedi’i gydgysylltu gydag adran Gweithgareddau CSF. Mewn ymateb, rhoddwyd sicrwydd i’r Aelodau y byddai BT yn cysylltu â’r awdurdod lleol cyn gwneud gwaith ar yr isadeiledd, gan arwain at gyfnodau cynllunio estynedig, a dyna paham y gallai prosiectau fod wedi’u hoedi.

 

Awgrymodd y Cadeirydd, er mwyn gwella cyfathrebu, byddai’n fuddiol i Gynghorwyr dderbyn gohebiaeth ynghylch diweddariadau yn eu wardiau. Cynghorodd y Pennaeth Gweithgareddau ein bod, fel awdurdod priffyrdd, yn cyhoeddi rhestr wythnosol o waith o fewn priffyrdd, a byddai’n sicrhau y dosberthid y rhestr hon i’r Aelodau.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet dros Fenter siom parthed y sylw a wnaed yn awgrymu nad oedd CSF wedi ymddangos â diddordeb mewn manteisio ar y cyflwyno. Hysbyswyd ni bod CSF wedi bod ar flaen y gad o’r cychwyn i sicrhau bod Sir Fynwy ar flaen y rhaglen. Roedd yr Aelod Cabinet wedi cyfarfod â Chyfarwyddwr BT Cymru ar y pryd ar o leiaf ddau achlysur i drafod y safle ar y cyflwyniad. Byddai’r Aelod Cabinet yn edrych i mewn i’r camddealltwriaeth ynghylch y camwybodaeth bod diffyg brwdfrydedd gan Sir Fynwy. Eglurodd Mr Jones o BT y gallai fod wedi cam-eirio’i sylw ac eglurodd fod Sir Fynwy erioed wedi bod ar flaen y gad adeiladu ond pan ddeuai i adnabod meysydd blaenoriaethu o bersbectif Llywodraeth Cymru, roedd meysydd o gwmpas parth twf y dylid eu blaenoriaethu gyntaf.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cymunedol, dros y 5 mlynedd nesaf gyda chymryd EE drosodd, byddai darparwr Quadplay, sy’n golygu y bydd y rhyngrwyd, y ffôn  band llydan a symudol yn dod at ei gilydd mewn un pecyn. Pan ddaw i frwdfrydedd dros Sir Fynwy, byddem eisiau Quadplay i bawb, a 5G, gan nad ydym yn fodlon â 4G. Gallai Sir Fynwy fod yn enghraifft wledig o’r modd y gall 5G drawsnewid, a byddai’n eiddgar i fod yn rhan o raglen beilot.

 

Cododd Aelod bryderon ynghylch hen geblau’n cyfyngu ar gysylltiadau. Mewn ymateb, clywsom fod  BT yn adeiladu’r isadeiledd ond eu bod yn ymwybodol o broblemau ar gysylltiad copr, y tynnwyd sylw ato fel problem yn ymwneud â gwasanaeth.

 

Tynnodd Aelod sylw at Lanbadog fel ardal â derbyniad gwael iawn. Gofynnwyd i ni ddarparu manylion penodol y gellid mynd i’r afael â hwy. 

 

Pwysleisiodd aelod, gyda thwf y diwydiant technoleg yng Nghas-gwent, roedd angen eiddgar am y gwasanaethau gorau posib er mwyn datblygu diwydiannau. Gofynnwyd i hyn gael ei gydnabod o’r pwys mwyaf.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y mast newydd yn Parkwall, clywsom fod hwn yn rhan o gynllun peilot Rhyngrwyd AB  i ddarparu band llydan i’r ardaloedd mwyaf pellgyrhaeddol. Y nod oedd  cyrraedd y rhan fwyaf o’r 1500 o aelwydydd a nodwyd.   

 

Eglurodd Susan Ward y byddai unrhyw un a wnâi gais amdano yn derbyn cylch lythyr yn darparu gwybodaeth ar gynnydd. Hefyd gellid gwneud cais i dderbyn hysbysiad cyn gynted ag y byddai ffeibr ar gael. Awgrymodd y cadeirydd y dylid sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael i wneud yn si?r bod aelodau’r cyhoedd yn ymwybodol o’r broses gofrestru hon. Byddai cyllid o du Llywodraeth Cymru’n fuddiol.

 

Cynghorodd y Pennaeth Pobl a Datblygu Masnachol y byddai pob gwybodaeth yn cael ei gwthio drwy’r cyfryngau cymdeithasol, a  byddai’n sicrhau y byddai unrhyw e-gipluniau’n cael eu cylchynu i bob Aelod.

 

Mewn ymateb i gais am eglurhad clywsom, gan fod yr adeiladu’n ddyledus i’w gwblhau erbyn Mehefin 2017, estyniad o 12 mis o ganlyniad i ychwanegu 50,000 o eiddo, gyda chwmpas o 95%.  Disgwylid i Sir Fynwy fod dros 90%.

 

 

Ymelwa ar Raglen Fusnes TGCh Cyflym Iawn 

 

Derbyniasom gyflwyniad gan Mr. L. Gripton, Rheolwr Partneriaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau er mwyn darparu ar gyfer y Pwyllgor wybodaeth ar y rhaglen bum mlynedd a ariennir yn gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru a Chyflymu Cymru i Fusnesau gyda’r bwriad o weithio gyda Mentrau Bach i Ganolig er mwyn helpu i dyfu’u busnes.

 

Yn dilyn y cyflwyniad gwahoddwyd yr Aelodau i drafod a gwneud sylwadau, ac yn ystod yr amser hwnnw nodwyd y pwyntiau canlynol. 

Mynegodd Aelod fel y byddai pobl mewn ardaloedd amaethyddol yn elwa’n fawr o’r cynllun hwn. Croesawyd Aelodau i gysylltu â  Mr. Gripton â manylion pellach grwpiau a digwyddiadau yn ardal Sir Fynwy.

 

Cynghorwyd ni bod cyflwyniad amaeth0trefol i’w gynnal y prynhawn hwnnw a byddai’n fuddiol i Mr. Gripton ei fynychu. Byddai hyn yn mynd i’r afael â rhwydweithio gyda 10 tref ar draws Ewrop.

 

O gymharu ag awdurdodau eraill, hysbyswyd ni bod Sir Fynwy yn gyson â gweddill Cymru, ac roedd y brwdfrydedd a welwyd gan swyddogion yn galonogol iawn ac yn rhagori ar awdurdodau eraill. Parthed manteisio ar y cyflwyniad, roedd Sir Fynwy ar 25% o’r gwasanaethau a gynigiwyd.

 

Cododd Aelod bryder y gallai Cil-y-coed fod mewn perygl o golli cyfleoedd ac estynnodd wahoddiad i Bwyllgor Ardal nesaf Glannau Hafren, a byddai’n annog perchnogion busnes i fynychu hefyd.

 

Byddai’r Pennaeth Pobl a Datblygu Masnachol yn edrych i mewn i’r modd y gellid cryfhau’r ymwybyddiaeth ar draws Cynghorwyr.

 

Gwahoddodd Aelod  Mr. Gripton i gyfarfod nesaf Pwyllgor

Ardal Sir Fynwy Ganolog.

 

Diolchodd y Cadeirydd gydweithwyr BT am eu presenoldeb a chroesawodd y cyfle i ymgysylltu, yr allwedd i gyfathrebu parhaus gyda phreswylwyr a busnesau. Byddai cyfathrebu’n parhau parthed ymholiadau preswylwyr a busnesau.

 

Casglodd y Cadeirydd y buasai’r drafodaeth gyda BT yn ddefnyddiol iawn yn egluro’r graddfeydd amser a’r broses ar gyfer y cyflwyno ar draws Sir Fynwy a fyddai’n cynorthwyo Aelodau i gynghori’u cymunedau ar gynnydd. Cynghorodd fod Aelodau’n derbyn nifer o geisiadau am wybodaeth ar gwblhau tebygol y cyflwyno a bod angen ymgysylltu cliriach gyda’r cyhoedd ar raddfeydd amser disgwyliedig. Pwysleisiodd y Cadeirydd yr angen i wella cyfathrebu ar gynnydd gwaith o fewn eu wardiau ac atgoffodd Aelodau fod y Cyngor yn cyhoeddi rhestr wythnosol o waith o fewn priffyrdd. Gofynnodd bod y rhestr hon yn cael ei dosbarthu i Aelodau bob wythnos.

 

Atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor, tra mae’r cyflwyno’n mynd rhagddo’n gadarn, deil cyfran sylweddol o’r isadeiledd i’w osod yn ei le a bod hwn yn anghenraid hanfodol i’r Cyngor os yw i wireddu’i ddyheadau yn nhermau ei strategaeth ddigidol.  Pwysleisiodd fod band llydan yn ofyniad sylfaenol ar gyfer prosiectau allweddol megis Prosiect Amaeth -Trefol Y Fenni ac y bydd llwyddiant prosiectau o’r fath yn dibynnu ar argaeledd isadeiledd band llydan.

 

Cefnogodd aelodau’r Pwyllgor awgrym Aelod y Cabinet fod cyfle gwirioneddol i Sir Fynwy ddod yn enghraifft o’r modd y gall 5G drawsnewid ardal wledig gan gynnig eu cefnogaeth i’r Aelod Cabinet ddatblygu’r syniad o Sir Fynwy’n bod yn rhan o’r rhaglen beilot.