Agenda item

DC/2015/ 01528 - CODIAD O ANNEDD AR WAHÂN; PRIF HEOL GLEN USK, GWNDY.

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i’r adroddiad ar y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo, yn amodol ar y naw amod, fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad.

 

Amlinellodd Mr. Beswick, yn gwrthwynebu’r cais ac yn mynychu’r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau canlynol:

 

 

  • Mae e wedi byw yn Rhif 8 Gerddi’r Rheithordy ers 1984.

 

  • Bydd yr annedd arfaethedig yn creu effaith andwyol ar amwynder preswyl anheddau cyfagos.

 

  • Mae Cyngor Cymuned Magwyr gyda Gwndy wedi argymell gwrthod y cais. 

 

  • Mae ôl troed yr annedd arfaethedig yn gorwedd yn agos iawn i’r ffin gyda Rhif 8 Gerddi’r Rheithordy.

 

  • Bydd yr annedd arfaethedig yn creu presenoldeb tra-awdurdodol / gormesol. Gallai plannu coed helpu i liniaru rhai o’r materion.

 

  • Byddai teils to ysgafnach yn hytrach na’r teils to du fod yn fwy derbyniol fel byddai’r annedd arfaethedig yn fwy cydnaws â’r anheddau o gwmpas.

 

  • Roedd angen lleihau gogwydd y to.

 

  • Mae pryderon ynghylch diogelwch y ffordd. Mae’r B4245 yn heol brysur iawn lle mae cerbydau’n aml yn anwybyddu’r cyfyngiad cyflymder.

 

  • Gofynnodd y gwrthwynebydd i’r Pwyllgor Cynllunio ystyried gwrthod y cais neu gyfyngu ar y datblygiad i roi ystyriaeth i bryderon y preswylwyr lleol sy’n byw gerllaw.

 

Amlinellodd Mr D. Prosser, asiant yr ymgeisydd,  a oedd yn mynychu’r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau canlynol:

 

  • Mae’r cais wedi’i ddiwygio lle mae uchder yr annedd arfaethedig wedi’i ostwng ac mae mas yr annedd arfaethedig wedi’i leihau.

 

  • Mae’r elfen un llawr yn fwy na dau fetr o’r clawdd yn agos i Rif 8 Gerddi’r Rheithordy. Yr elfen dau lawr hyd yn oed ymhellach i ffwrdd o Rif 8 Gerddi’r Rheithordy.

 

  • Bydd yr annedd arfaethedig yn creu llai o effaith gweledol o ganlyniad i’r cais diwygiedig.

 

  • Ni fydd y datblygiad arfaethedig yn dra-awdurdodol nac yn ormesol.

 

  • Mae adroddiad y Swyddog Cynllunio’n mynd i’r afael â’r materion a godwyd drwy gyfrwng y gwrthwynebiadau i’r cais. Mae asesiad y Swyddog Cynllunio wedi bod yn drwyadl ac ar gyfartaledd, ni chyfrifir yr effaith yn un sylweddol.

 

  • Sefydlwyd cynnig cymdogol.

 

Amlinellodd Aelod y ward gyfagos ac Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio’r pwyntiau canlynol:

 

·         Mae’r mater o amwynder gweledol yn fwy sylweddol nag a honnwyd yn asesiad y Swyddog Cynllunio.

 

·         Mae gan breswylwyr lleol yr hawl i amwynder preswyl. Fodd bynnag, mae’r cais hwn yn niweidiol i amwynder preswyl gan fod y cais yn rhedeg ar hyd llinell ffens Rhif 8 Gerddi’r Rheithordy..

 

·         Dylid gohirio trafod y cais i ganiatáu i Swyddogion Cynllunio ail-drafod gyda’r ymgeisydd gyda’r bwriad o adleoli’r annedd arfaethedig o fewn y llain tir.

 

Cytunodd Aelodau eraill gydag Aelod y ward gyfagos a bu trafodaeth hefyd ynghylch lliw'r rendrad, y llechi to ac a ddylid ail-ymgynghori gyda chymdogion petai cynlluniau diwygiedig yn cael eu derbyn.

 

Wedi derbyn yr adroddiad a’r safbwyntiau a fynegwyd,  cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir M. Powell bod cais DC/2015/01528 yn cael ei ohirio i’w ddiwygio ac os adolygir ef dylid rhoi caniatâd drwy gyfrwng y Panel Dirprwyaeth gyda’r bwriad o ymchwilio’r posibilrwydd o symud yr annedd arfaethedig tuag at Fairfield Court a symud nôl tuag at linell y rheilffordd; nodi lliw y rendrad; newid y llechi to i rai mwy cyffredin yn yr ardal ac ail-ymgynghori gyda chymdogion petai cynlluniau diwygiedig yn cael eu derbyn. 

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid gohirio’r cais               -           13

Yn erbyn gohirio’r cais                       -            0

Atal pleidlais                                     -  0

 

Cariwyd y cynnig.

 

 

Penderfynasom fod cais DC/2015/01528 yn cael ei ohirio i’w ddiwygio ac os adolygir ef dylid rhoi caniatâd drwy gyfrwng y Panel Dirprwyaeth gyda’r bwriad o ymchwilio’r posibilrwydd o symud yr annedd arfaethedig tuag at Fairfield Court a symud nôl tuag at linell y rheilffordd; nodi lliw y rendrad; newid y llechi to i rai mwy cyffredin yn yr ardal ac ail-ymgynghori gyda chymdogion petai cynlluniau diwygiedig yn cael eu derbyn. 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: