Rhoesom ystyriaeth i’r adroddiad ar y cais a argymhellwyd
i’w gymeradwyo, yn amodol ar yr 20 amod, fel yr amlinellwyd
hwy yn yr adroddiad.
Amlinellodd y Cynghorydd V. Long, yn cynrychioli Cyngor
Cymuned Llanfihangel Troddi, a oedd yn
mynychu’r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau
canlynol:
- Yng
Nghynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy dynodir Comin Llanfihangel
Troddi fel cefn gwlad agored gyda rhagdybiaeth yn erbyn
datblygu.
- Yng
ngolwg Pobl leol, mae Ysgubor Monahawk wedi bod yn ddadleuol gan ei
bod wedi’i dylunio i edrych fel t?. Mae’r cynlluniau
gwreiddiol, y rhoddwyd caniatâd iddynt yn 2005, yn nodi maint yr ysgubor yn 47 o fetrau
sgwâr. Mae’r cais cyfredol yn datgan bod y
dimensiynau’n 149.76 o fetrau sgwâr, fwy na thair
gwaith yn fwy na’r un y rhodiwyd caniatâd cynllunio
iddi. Roedd yr Adran Gynllunio wedi dweud bod hyn yn amherthnasol
gan fod yr ysgubor wedi bod yn sefyll
am fwy na phedair blynedd.
- Nid oes llwybr
troed i gerddwyr yn Heol y Comin ac mae braidd yn ddigon llydan i
ddau gar basio. Mae cyfyngiad cyflymder cenedlaethol o 60 milltir
yr awr ar yr heol.
- Dengys arolwg traffig nad yw Heol y Comin yn heol dawel. Mewn
gwirionedd, mae'n heol brysur, yn enwedig ar oriau
brig.
- Mae’r Cyngor
Cymuned yn aml wedi mynegi pryder parthed diogelwch Heol y Comin ac
roedd tipyn o syndod nad oedd y Swyddog Trafnidiaeth wedi gwneud
unrhyw sylwadau yn gysylltiedig â’r cais hwn.
- Bydd athrawon
eraill a staff yn teithio ar hyd yr heol hon gan ychwanegu at y
perygl posib.
- Mae datblygiadau i
fod yn gynaliadwy gyda’r rhagdybiaeth o beidio â defnyddio ceir.
- Mae’n rhaid
i fynediad i’r briffordd gwrdd â
safonau’r Awdurdod Priffyrdd. Mae’n rhaid i unrhyw
draffig ychwanegol gaiff ei greu gan y datblygiad gael ei
ymgorffori i mewn i’r rhwydwaith ffyrdd sydd eisoes yn bodoli
heb effaith andwyol ar ddiogelwch y ffordd.
- Yng
nghyfarfod Ionawr 2016 gyda’r Priority Group, mynegodd nifer
o breswylwyr eu hofnau ynghylch diogelwch y ffordd yn y lleoliad
hwn.
- Er i’r Adran
Briffyrdd ofyn am ledaenu’r llain welediad i fynedfa
lôn yr annedd, fe fydd tro dall yn dal
i’r gogledd. .
- Nid
yw pobl leol yn ymwybodol o’r fynedfa glwydog sydd wedi cael
ei defnyddio am nifer o flynyddoedd oherwydd y llinellau
gweld.
- Dan
Bolisi Cynllunio H4, ni chaniateir addasu adeiladau sy’n
addas ar gyfer busnes oni bai bod yr ymgeisydd wedi gwneud pob
ymgais resymol i ddod o hyd i eiddo busnes arall. A yw’r
datblygwr wedi bodloni’r gofyniad hwn?
- Arfaethir y bydd
50 o lefydd ar gael yn Ysgol Gyfun Trefynwy ar gyfer plant ag
anawsterau dysgu. A brofwyd yr angen am yr ysgol arfaethedig hon yn
Sir Fynwy?
- Nid yw’r
cais yn darparu gofod agored i’r plant ymarfer.
- Nid yw’r
cais yn gynaliadwy.
Amlinellodd Mr J. Wmber, asiant yr ymgeisydd, a oedd yn mynychu’r cyfarfod ar wahoddiad y
Cadeirydd, y pwyntiau canlynol:
- Bydd y datblygiad
arfaethedig yn darparu ar gyfer gofod addysgol arbenigol ychwanegol
gan ddarparu pedair ystafell ddosbarth.
- Bydd y plant yn
mynychu’r ysgol ag anawsterau dysgu a byddant fwy na thebyg
yn preswylio mewn cartrefi gofal yn yr ardal leol.
- Byddai’n
rhaid i’r ysgol gael ei chofrestru gydag Estyn a chwrdd
â gofynion rheoleiddiol llym.
- Bydd yr ysgol yn darparu ar gyfer pobl ifanc ag anawsterau
dysgu. Mae galw cynyddol am lefydd.
- Mae Gwasanaethau
Addysgol Cymru yn eiddgar i’r llefydd hyn gael eu
darparu.
- Caiff rhai plant hi’n haws cael eu haddysgu mewn lleoliad
llai ac mae awdurdodau comisiynu o blaid lleoliadau
llai.
- Parthed prysurdeb
cerbydau, mae graddfa fechan yr ysgol arfaethedig o ran ei natur yn
golygu na fydd symudiadau cerbydau yn sylweddol.
- Nid
oes gan yr Awdurdod Priffyrdd unrhyw wrthwynebiad i’r defnydd
arfaethedig.
- Mae gan Priory
Group brofiad helaeth o ddarparu ysgolion o’r math hwn.
- Mae’r cynnig
yn unol â Chynllun Datblygu Lleol Sir
Benfro.
Wedi
ystyried adroddiad y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd
ystyriodd rhai Aelodau y dylid gwrthod y cais gan fod gwell
cyfleusterau ar gael o fewn y Sir. Ac y byddai cymeradwyo’r
cais fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad yn arwain at symudiadau
traffig ychwanegol ar Heol y Comin. Os
cymeradwyir y cais, dylai’r dramwyfa gael ei gwneud o
laswellt ac nid o raean.
Nodwyd nad oedd
Swyddog Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy wedi
cyflwyno unrhyw wrthwynebiad i’r cais.
Mynegodd Aelodau
eraill eu cefnogaeth i’r cais a
chynigiwyd gan y Cynghorydd Sir D.J. Evans ac eiliwyd gan y
Cynghorydd Sir R.J. Higginson bod cais DC/2015/01322 yn cael ei
gymeradwyo, yn amodol; ar yr 20 amod, fel yr amlinellwyd yn yr
adroddiad.
Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau
canlynol:
O
blaid cymeradwyo’r cais
-
4
Yn
erbyn cymeradwyo’r cais
-
8
Atal
pleidlais
-
1
Ni
chariwyd y cynnig
Roeddem, felly, o
blaid gwrthod cynnig DC/2015/01322 am y rhesymau canlynol:
- Traffig / effaith
ar ddiogelwch y briffordd a diogelwch cerddwyr.
- Niwed i amwynder o
s?n cynyddol ac ymyrraeth yn gysylltiedig
â’r cais.
Ailgyflwynir y cais
i Gyfarfod Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol gyda rhesymau priodol ar
gyfer ei wrthod.