Rhoesom ystyriaeth i’r adroddiad ar y cais a argymhellwyd
i’w gymeradwyo, yn amodol ar y tri amod, fel yr amlinellwyd
hwy yn yr adroddiad..
Amlinellodd y Cynghorydd V. Long, yn cynrychioli Cyngor Cymuned
Llanfihangel Troddi, a oedd yn mynychu’r cyfarfod ar
wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau canlynol:
- Mae angen i bobl
ifanc agored i niwed gael eu hedrych ar eu holau yn unol
â’u hanghenion unigol.
- Y
pwynt yw a yw’n briodol cael y math hwn o fusnes yn
gweithredu yn Hazeldene, Comin Llanfihangel Troddi.
- Yn y datganiad
hygyrchedd gyda’r cais cynllunio dywed nad oes gan Gyngor Sir
Fynwy unrhyw bolisïau’n ymwneud ag
addasu tai preifat i mewn i gartrefi gofal bychain, sy’n
anffodus yn gysylltiedig â’r cais
hwn.
- Hyd yn oed gyda
diffyg canllawiau cynllunio, nid yw’r lleoliad yn gweddu i
gartref gofal preswyl.
- Ni fyddai
Hazeldene ar gael i blant lleol ond i blant agored i niwed
o’r tu allan i’r ardal.
- Yn
absenoldeb canllawiau yn y Cynllun Datblygu Lleol, mae’r
Cyngor Cymuned wedi edrych ar ardaloedd eraill sydd â
phrofiad mewn cartrefi categori C, h.y. dylai cartrefi gofal
preswyl gael eu lleoli yn agos i fan lle mae cyfleusterau preswyl
megis siopau, cyfleusterau gofal iechyd a thrafnidiaeth
gyhoeddus. Nid oes gan Gomin
Llanfihangel Troddi y cyfleusterau hyn.
- Mae’r Adran
Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystyried na fyddai’r datblygiad
hwn yn darparu deilliannau da ar gyfer pobl ifanc.
- Roedd preswylwyr
lleol wedi mynegi pryder ynghylch y math o broblemau a allai fod
gan y plant a’r effeithiau andwyol posib ar yr ardal.
- Yn Hazeldene mae
20 eiddo gyferbyn â’r datblygiad
arfaethedig sydd mewn cyferbyniad â’r cais sy’n honni nad oes ond ychydig
gymdogion.
- Mae’r eiddo mewn dwy ran benodol, sef, y t? a’r
garej flaenorol. Byddai rhai pobl ifanc yn cysgu yn y garej fyddai
wedi’i haddasu tra cysgai'r lleill yn y t?. Dim ond dau aelod
staff fyddai ar ddyletswydd yn ystod y nos, un ym mhob rhan
o’r eiddo. Nid ymddangosai hyn fel trefniant cartref teulu
normal, nac yn drefniant priodol i gwrdd ag amddiffyniad y plant
bregus hyn.
- Nid yw Hazeldene
yn eiddo addas ar gyfer cartref gofal preswyl.
- Mae Priory Group
yn chwilio am gyfle busnes.
Amlinellodd Mr. J.
Imber, asiant yr ymgeisydd, a oedd yn
mynychu’r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau
canlynol:
- Mae’r cais
yn ceisio newid defnydd i gartref gofal preswyl bychan gyda
mwyafrif o chwe pherson ifanc yn byw yno ar yr un adeg. Dim
gwahanol i gartref teulu mawr.
- Argymhellir amod
gan y Swyddogion Cynllunio yn cyfyngu defnydd y safle’n unig
ar gyfer y defnydd y gwneir cais amdano.
- Ni fydd y defnydd
angen cyflenwadau masnachol na cherbydau mawr.
- Cofrestrir y
cartref gan Gyngor Gofal Cymru a bydd yn ofynnol iddo gwrdd
â gofynion rheoleiddiol llym.
- Caiff yr eiddo ei
staffio bob amser gan gynnwys dau aelod staff ar ddyletswydd dros
nos.
- Pobl ifanc ag awtistiaeth ac anawsterau dysgu eraill fydd y
preswylwyr. Ni fydd unrhyw fygythiad i bobl sy;’n byw yn yr
ardal leol.
- Nid cartref i
droseddwyr ifanc fydd hwn.
- Bydd gan y
preswylwyr raglen addysg strwythurol ac fe fyddant yn aml i ffwrdd
o’r cartref yn cael eu haddysgu neu’n ymgymryd
â gweithgareddau hamdden.
- Cynhelir
ymweliadau teuluol yn aml i ffwrdd o’r safle a byddant
wedi’u trefnu ymlaen llaw.
- Mae’r cynnig
yn unol â’r Cynllun Datblygu
Lleol ac fe’i cefnogir gan Swyddogion Cynllunio.
- Mae Priory Group
yn deall pryderon preswylwyr lleol ac mae wedi ceisio
tawelu’u hofnau.
- Roedd sylwadau gan
y cymydog agosaf wedi awgrymu eu bod yn ddifater ynghylch y
cais.
- Nid yw’r
profiad o safleoedd tebyg yn yr ardal yn ennyn pryderon megis y
rhai a fynegwyd.
Amlinellodd yr Aelod lleol dros Lanfihangel Troddi, a oedd yn
mynychu’r cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, y pwyntiau
canlynol:
:
- Siaradai fel yr
Aelod lleol ac fel yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau
Cymdeithasol, â chyfrifoldeb dros
oedolion ynghyd â phlant.
- Amheuon dwys
ynghylch y defnydd o’r eiddo hwn ac at y diben hwn.
- Mae asesiad o
angen yn benodol iawn gan ei fod yn canolbwyntio ar anghenion
unigolyn a’r deilliannau maent yn eu dymuno yw her fwyaf yr
Awdurdod.
- Nod yr awdurdod yw
darparu gofal ar gyfer pobl ifanc Sir Fynyw mor debyg i awyrgylch
teuluol â phosib.
- Mae awdurdodau
eraill yn gosod llawer o blant y tu hwnt i’w ffiniau i
ymsefydlu mewn gofal preifat yn Sir Fynwy. Yn y rhan fwyaf o
achosion ni chawn ein hysbysu o’r plant ifanc hyn pan
gyrhaeddant ac yn aml ni ddown yn ymwybodol ohonynt tan i
absenoldebau ddigwydd o’u lle preswyl. Mynegwyd pryderon ynghylch diogelwch y bobl
ifanc petaent yn dihengyd o’r cartref a mynd ar hyd yr heol
brysur, gyflym, sef Heol y Comin.
- Cyfleusterau prin
sydd ar gael yma yn y lleoliad hwn ac mae’n gwbl anaddas fel
lleoliad ar gyfer cartref gofal preswyl.
Wedi
ystyried adroddiad y cais a’r safbwyntiau a
fynegwyd, mynegodd yr Aelodau bryder
nad oedd ond ychydig wybodaeth ynghylch canllawiau cynllunio i
wneud penderfyniad gwybodus parthed y
cais. Cynghorodd y Pennaeth Cynllunio’r Aelodau y
dylai’u penderfyniad fod yn seiliedig ar
bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol y cyfeiriwyd atynt yn
yr adroddiad ac ar ystyriaethau cynllunio pwysig, sy’n
cynnwys amwynderau cymdogion a diogelwch y ffordd.
Mynegodd rhai Aelodau’u hamheuon ynghylch y cais ac
roeddent yn cydymdeimlo â’r safbwyntiau a fynegwyd gan
yr Aelod lleol, gan fod y cynnig yn agos at anheddau yno eisoes.
Hefyd, mynegwyd pryder ynghylch y trefniadau trafnidiaeth a’r
effaith a allai hyn ei gael ar y pentref. Roedd y Gwasanaethau
Cymdeithasol wedi datgan nad oeddent yn cefnogi’r cais yn y
lleoliad hwn. Ni fyddai gan y preswylwyr amwynderau
digonol.
Fodd bynnag,
ystyriodd Aelodau eraill, tra oeddent yn cydymdeimlo â’r safbwyntiau a fynegwyd, y byddai’n
anodd gwrthod y cais ar sail cynllunio.
Cynigiwyd, felly, gan y Cynghorydd Sir R. Hayward ac eiliwyd gan
y Cynghorydd Sir B. Strong ein bod o blaid gwrthod cais
DC/2015/01303 am y rhesymau a fynegwyd yn gynt.
Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau
canlynol:
O
blaid gwrthod y cais
-
5
Yn
erbyn gwrthod y cais
-
8
Atal
pleidlais
-
0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynasom fod cais DC/2015/01303 yn
cael ei gymeradwyo yn amodol ar y tri amod, fel yr amlinellwyd yn
yr adroddiad a bod nifer y bobl ifanc yr edrychir ar eu
holau’n cael ei ychwanegu at amod 3.