Cofnodion:
Cyd-destun:
Derbyn diweddariad ar gynnydd y Gwasanaeth Adnoddau Cyfrannol (GAC) at ddibenion craffu.
Materion Allweddol:
Ers diweddariad diwethaf GAC mae’r GAC wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth dderbyn partneriaid newydd i mewn i’r sefydliad. Uchelgais GAC erioed fu ehangu’r ddarpariaeth gwasanaeth i bartneriaid eraill y Sector Cyhoeddus. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (CBSBG) wedi cwblhau ac wedi cytuno achos busnes drwy’i awdurdodaeth a’i brosesau pwyllgor ei hun, a’r holl bartneriaid presennol i wahodd CBSBG i ymuno â’r GAC.
Canolbwyntir Strategaeth GAC (2016 – 2020) ar atgyfnerthu galw partneriaid lluosog ac ymdrin â chyflenwi datrysiadau TGCh. Gellir graddio strategaeth GAC i gefnogi amcanion sector cyhoeddus Llywodraeth Cymru.
Mae’r GAC yn gweithredu gyda 5 nod strategol i:
1) Gyflenwi gwasanaethau TGCh effeithiol o uned gyfunol sengl.
2) Ddarparu sylfaen gadarn y gall sefydliadau partner weithredu arni er mwyn gwella cyflenwi gwasanaethau.
3) Sicrhau y ffocysir y buddsoddiad mewn TGCh ar gyflenwi blaenoriaethau corfforaethol sefydliadau partner.
4) Ddatblygu gweithlu galluog, proffesiynol a all gwrdd â’r heriau o fewn TGCh dros y blynyddoedd i ddod.
5) Ddarparu platfform cydweithredol ar gyfer sefydliadau’r sector cyhoeddus i rannu capasiti a gallu digidol drwy blatfformau cyfrannol.
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent angen i ddatblygu a gweithredu model cynaliadwy i wella gwasanaeth ar gyfer ei ddarpariaeth TGCh sy’n:
· Cefnogi amcanion Llywodraeth Cymru am gydweithredu.
· Mynd i’r afael â'r materion ariannol sy’n effeithio ar yr Awdurdod.
· Ymateb i anghenion cyflenwi cynyddol yr Awdurdod a materion a ddynodwyd yn flaenorol.
· Profi’r gwasanaeth yn y dyfodol.
Mae Bwrdd Cyhoeddus GAC wedi cytuno bod derbyn partner newydd yn unol â’i nodau strategol i dyfu’r busnes. Gydag ychwanegu partneriaid newydd mae’r GAC yn gallu cyflawni arbedion maint pellach a gwireddu arbedion drwy rannu’n gyfartal gostau strategol a chostau rheolwyr gwasanaeth.
Mae’r heriau a brofwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cynnig cyfle i’r GAC i amlygu’i allu, yn cael ei ategu gan ei weledigaeth strategol, i sylweddoli’i botensial am gydweithredu sector cyhoeddus yn unol â dyheadau Llywodraeth Cymru.
Bydd derbyn y cynnig hwn yn cynhyrchu refeniw ychwanegol o £163,665 i mewn i’r GAC i’w fuddsoddi mewn gwella gwasanaeth a fydd yn cynhyrchu arbedion effeithlonrwydd ar gyfer y partneriaid sy’n bodoli eisoes.
Mae’r GAC nawr mewn trafodaethau gydag awdurdodau eraill yng Ngwent Fwyaf i ehangu’r cwmni ymhellach yn unol â’i amcanion ac yn unol â Strategaeth 2016/20 GAC.
Craffu Aelodau:
· Rhoddid sicrwydd y byddai cofnodion cyfarfod Bwrdd Cyhoeddus GAC ar gael i’r Pwyllgor Dethol ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.
· Mae Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PCBESC) yn rhwydwaith Cymru gyfan sy’n cysylltu sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru i Rwydwaith Ardal Eang (RhAE) Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh). Mae hwn yn wasanaeth da iawn sy’n atal data awdurdodau lleol rhag cael eu dwyn.
· Mae’r Awdurdod yn gweithio gyda’r GAC i sicrhau bod y cyfryngau priodol ar gael i ganiatáu i swyddogion y Cyngor Sir gyflawni’u dyletswyddau’n effeithlon. Er enghraifft, mae gan yr Awdurdod swyddogion a ddaeth yn bencampwyr digidol ac maent ar gael ar draws yr awdurdod i gefnogi cydweithwyr ac Aelodau gyda’u materion ym maes TG.
· Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod o’r Pwyllgor Dethol ynghylch y GAC yn dod dan nawdd Llywodraeth Cymru, nodwyd bod cyngor cyfreithiol yn cael ei geisio ynghylch y mater hwn. Croesewid diweddariad ar gynnydd maes o law.
Casgliad y Pwyllgor:
Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad ac ystyried briff gwylio drwy gyfrwng cofnodion Cyfarfod Bwrdd Cyhoeddus y GAC yn gysylltiedig â chynnydd yn cael ei wneud parthed y GAC.
Penderfynodd y Pwyllgor dderbyn yr adroddiad a nodi’i gynnwys.
Dogfennau ategol: