Agenda item

Craffu’r Strategaeth Cynllun Busnes iCounty 2016/19

Cofnodion:

Cyd-destun:

 

Derbyn y Strategaeth Cynllun Busnes iCounty ar gyfer 2016/19 ar gyfer craffu Aelodau, ynghyd ag adroddiad ar wasanaeth Digidol a Thechnolegol Cyngor Sir Fynwy  ac fel y mae’n alinio gyda strategaethau iCounty, Pobl a Lleoedd Cyngor Sir Fynwy.

 

 

Materion Allweddol:

 

Mae technoleg yn gwneud camau breision, ac mae angen i wasanaethau digidol ddal i fyny â’r newidiadau er mwyn i’r Cyngor gefnogi cymunedau ac economïau cynaliadwy. Er mwyn gwneud yn si?r bod Cyngor Sir Fynwy’n gwneud y gorau o ddigideiddio, datblygwyd y strategaeth iCounty yn Ebrill  2014 ac fe’i cytunwyd drwy brosesau cymeradwyo pwyllgor y Cyngor yng Ngorffennaf 2014.

 

Dyma ail flwyddyn ei weithredu, ac mae’r cynllun busnes wedi esblygu ac wedi’i goethi drwy ddysgu a phrofiad, ynghyd â chydweithredu gyda phartneriaid a sefydliadau ar draws y DU er mwyn sicrhau bod y strategaeth yn gadarn ac yn gynaliadwy.

 

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyflawni rhai datblygiadau sylweddol ers cymeradwyo iCounty gyntaf, ac mae’r sylfeini wedi’u gosod ar gyfer seilwaith TGCh cynaliadwy, platfformau TGCh y Cyngor, trawsnewid digidol a darpariaeth gwasanaeth digidol.

 

Craffu Aelodau:

 

·         Roedd digwyddiadau codio ar gyfer pobl ifanc yn cael eu rhedeg yn ysgolion Sir Fynwy ac yn llyfrgelloedd Sir Fynwy. Mae angen i Bobl Ifanc Sir Fynwy fod yn ddigidol alluog er mwyn sicrhau bod mwy o godwyr ar gael yn y dyfodol.

 

·         Mae’r Sefydliad Alacrity wedi gosod 12 i 16 o raddedigion drwy’i gynllun  gan ddarparu hyfforddiant iddynt gychwyn eu busnesau eu hunain. Roedd y Cyngor Sir yn gweithio mewn partneriaeth gydag Alacrity, a oedd hefyd yn gweithio gydag ysgolion Sir Fynwy.

 

·         Roedd y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) yn ymweld ag ysgolion gyda’r bwriad o ddatblygu TG a strategaethau digidol. Roedd yr Awdurdod hefyd yn gweithio’n glos gyda’r GCA ynghylch y mater hwn.

 

·         Dywedodd y Prif Swyddog, Menter, fod codio cyfrifiadurol yn fater cenedlaethol a bod y Gyfarwyddiaeth Fenter yn gweithio gydag ysgolion.

 

·         Roedd yr Awdurdod yn ymchwilio ffyrdd o sicrhau Wi-Fi i bob neuadd bentref a phob clwb ieuenctid yn Sir Fynwy drwy gyfrwng cronfa’r  Cynllun Datblygu Gwledig (CDG).

 

·          Dylid ychwanegu eitem i Flaenraglen Waith y Pwyllgor Dethol i dderbyn adroddiad maes o law ynghylch ffyrdd i weithio’n uniongyrchol gydag ysgolion yngl?n â chodio cyfrifiadurol i fyfyrwyr, gan fod y Gyfarwyddiaeth ar hyn o bryd yn gorfod gweithio o gwmpas y cwricwlwm parthed y mater hwn.  

 

·         Roedd cwmpas i sgwrsio ymhellach gyda’r Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc ac ysgolion ynghylch yr angen i greu cyswllt mwy clos gyda’r ffordd yr addysgir Mathemateg, TG, a Pheirianneg. Ar hyn o bryd addysgir y rhain dan y pwnc a elwir STEM. Gellid cynnwys hyn yn yr adroddiad a gyflwynir i’r Pwyllgor Dethol maes o law ynghylch codio cyfrifiadurol a’r bylchau posib yn narpariaeth y pwnc hwn.   

 

·         Rheolir seilwaith y Cyngor yn effeithiol gan y Gwasanaeth Adnoddau Cyfrannol(GAC).

 

·         Mae’r Awdurdod yn Aelod o Bad Lansio Gwe Dyffryn Hafren.

 

·         Mae sawl piler i Strategaeth iCounty.  Mae’n galluogi’r gymuned i gyrchu’r gwasanaeth a gweithio’n haws gyda’r Awdurdod. Y mwyaf y galluogwn staff y Cyngor Sir yn ddigidol fe fydd y gwasanaeth mae’r Sir yn ei ddarparu i’r cyhoedd yn gwella.

 

·         Mae’r Hyb Cymunedol ar gael i’r cyhoedd gyrchu’r Awdurdod yn ddigidol. Gall iCounty helpu busnesau a’r gymuned.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod o’r Pwyllgor lle’r awgrymwyd efallai nad yw’r iCounty yn ddigon ffocysedig a’i fod o bosib yn rhy ddrud, nodwyd bod gwasanaethau’r Cyngor yn cael eu cyfuno gydag awdurdodau eraill a oedd yn arbed tipyn o arian i’r Awdurdod. Ar hyn o bryd mae gan yr Awdurdod 80 o systemau. O ddefnyddio’r dechnoleg newydd sydd ar gael gellid cwtogi’r rhain i dri neu bedwar platfform TG ar wahân. Mae’r Awdurdod wedi buddsoddi yng nghymhwysiad Fy Ngwasanaethau Cyngor ar gost isel. Mae’r systemau newydd yn sythweledol sy’n golygu nad oes angen hyfforddiant ac mae hynny’n arbed arian i’r Awdurdod. Os oes cynhyrchion ar gael ar y farchnad sy’n addas i’r pwrpas, yna bydd yr Awdurdod yn eu defnyddio. Fodd bynnag, os nad oes cynnyrch ar gael yna fe’i hadeiladwn. Manteision hyn yw y gellir gwerthu’r cynhyrchion hyn i awdurdodau eraill.

 

·         Gellid adrodd nôl i gyfarfod y Pwyllgor  Dethol yn y dyfodol yr arbedion effeithlonrwydd a gynhyrchir.

 

·         Mae’r Awdurdod yn gweithio gyda’r GAC a Llywodraeth Cymru i greu arbedion effeithlonrwydd.

 

·         Roedd GAC yn ceisio adeiladu seilwaith y gall yr Awdurdod adeiladu arno mewn modd cost effeithlon.

 

·         Strategaeth Cyngor Sir Fynwy yw iCounty ond mae angen partneriaid technoleg i’w ddatblygu.

 

·         Mae’r Awdurdod yn ceisio adeiladu perthnasau gyda diwydiant gyda’r bwriad o gel cwmnïau i fynd i mewn i ysgolion i siarad â myfyrwyr. Dros y blynyddoedd i ddod bydd datblygu’r cyswllt hwn yn hanfodol.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o’r Pwyllgor Dethol ar adnoddau staff, nodwyd, er bod tîm yr Awdurdod yn fychan, dynodwyd meysydd sydd angen eu hatgyfnerthu ar sail prosiect. Ar hyn o bryd, mae’r tîm yn perfformio’n dda.

 

·         Mae staff wedi gweithio gyda chodwyr i ddatblygu systemau priodol.

 

·         Mae nifer o gyfleoedd ar gael o gwmpas y rhanbarth i weithio gyda diwydiannau technoleg. Byddai gweithio gyda diwydiannau o’r fath yn hwb anferth i’r economi leol.

 

·         Roedd angen mapio a blaenoriaethu newidiadau posib dros y tair i bum mlynedd nesaf.

 

 

Casgliad y Pwyllgor:

 

Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad a’r safbwyntiau a fynegwyd.

 

Penderfynodd y Pwyllgor dderbyn adroddiad pellach ynghylch ffyrdd i weithio’n uniongyrchol gydag ysgolion parthed codio cyfrifiadurol ar gyfer myfyrwyr, gan fod y Gyfarwyddiaeth ar hyn o bryd yn gorfod gweithio o gwmpas y cwricwlwm. Hefyd, nodwyd bod lle i drafodaethau pellach gyda’r Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc ac ysgolion ynghylch yr angen i greu cyswllt mwy clos gyda’r ffordd y mae Mathemateg, TG, a Pheirianneg yn cael eu haddysgu. Addysgir y rhain ar hyn o bryd dan bwnc a elwir STEM.

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: