Cofnodion:
Esboniwyd y sefyllfa gyfreithiol, yna cafodd yr adroddiad a sleidiau PowerPoint eu cyflwyno gan y Rheolwr Mynediad Cefn Gwlad a’r Swyddog Cynorthwyol Hawliau Tramwy i nodi manylion yr achos.
Esboniwyd y cafodd yr adroddiad ei baratoi i weithredu o fewn yr ymagwedd o fod yn deg, diduedd a gweithredu egwyddorion cyfiawnder naturiol. Mae’n nodi’r cefndir llawn, deddfwriaeth, polisi, amcanion a thystiolaeth arall yng nghyswllt cais i wneud orchymyn dan Adran 119 Deddf Priffyrdd 1980 ar gyfer Llwybr Troed Cyhoeddus 1 Brynbuga. Ei ddiben yw cynorthwyo Aelodau’r Pwyllgor Ymgynghori Tacsis a Hawliau Tramwy Rheoleiddiol i benderfynu os dylid gwneud gorchymyn i ddargyfeirio rhan o Lwybr Troed 1 Brynbuga a hysbysu pawb arall sydd â diddordeb.
Gweithredu p?er nid dyletswydd mae’r Awdurdod wrth benderfynu p’un ai i wneud gorchymyn. Os oes gwrthwynebiad i benderfyniadau, gellir profi hynny mewn ymchwiliad, gwrandawiad neu drwy sylwadau ysgrifenedig gan Arolygydd a benodir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n rhaid i benderfyniadau fod â chyfiawnhad rhwydd dan feini prawf y Deddfau Perthnasol.
Roedd angen i’r Pwyllgor ystyried y profion cyfreithiol a phenderfynu p’un a ddylai’r awdurdod wneud gorchymyn i ddargyfeirio Llwybr Troed 1 Brynbuga; mae gwneud y gorchymyn yn galluogi’r ymgynghoriad cyhoeddus i ddechrau.
Dim ond os yw’n ddiwrthwynebiad y gall y Cyngor gadarnhau’r gorchymyn. Mae’r pwyllgor yn gweithredu mewn swyddogaeth lled-farnwrol wrth wneud y penderfyniad. Dim ond yr amcanion a’r profion statudol y dylai penderfyniadau eu hystyried a chanlyniad yr ymgynghoriad a gynhaliwyd. Dylai’r penderfyniad fod yn seiliedig ar dystiolaeth ac atgoffwyd y Pwyllgor y dylai fod yn fodlon fod y cais yn ateb ei brawf statudol.
Mae gwneud gorchymyn yn broses dau gam ar gyfer gorchymyn dargyfeirio dan y Ddeddf Priffyrdd. Mae profion cyfreithiol ar wahân i’w bodloni ar gyfer gwneud gorchymyn ac wedyn ar gyfer ei gadarnhau. Unwaith y gwnaed gorchymyn, cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus arno a chaiff ei hysbysebu, a gall y cyhoedd wneud gwrthwynebiadau a rhoi sylwadau. Os caiff unrhyw wrthwynebiadau neu sylwadau eu gwneud i orchymyn ac os na chânt eu tynnu yn ôl, ni all y Cyngor ei hun gadarnhau’r gorchymyn. Os yw’n dal i ddymuno iddo gael ei gadarnhau, gall ei atgyfeirio i’r Arolygiaeth Cynllunio neu Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) i’w gadarnhau. Dim ond os yw’n fodlon y cafodd y prawf ar gyfer cadarnhau ei gyflawni y gall yr arolygydd gadarnhau’r gorchymyn.
Dan y Deddf Priffyrdd dylid cynnal prawf dau ran i alluogi’r awdurdod i wneud gorchymyn. Mae’n rhaid i’r llwybr newydd ymuno priffordd gyda phriffordd ac mae’n rhaid iddo fod yn sylweddol yr un mor gyfleus i’r cyhoedd. Mae gan orchymyn dargyfeirio yr effaith o ddiddymu hen lwybr a chreu llwybr newydd yr un pryd. Gall yr Awdurdod Priffyrdd wedyn greu llwybr a ddiddymwyd dan adran 119 os yw er budd naill ai berchennog y tir neu er budd y cyhoedd.
Mae’n rhaid cyflawni gwahanol brofion dan y Ddeddf i ganiatáu cadarnhau gorchymyn. Yn bennaf, y rhain yw fod yn rhaid i’r llwybr newydd beidio bod yn sylweddol llai cyfleus. Mae hyn ychydig yn wahanol i’r prawf gwneuthur, ac yn ymwneud â’r effaith y byddai’r dargyfeirio yn ei gael ar fwynhad y cyhoedd o’r llwybr. Dylid hefyd ystyried yr effaith ar unrhyw dir y mae’r hawliau tramwy presennol a’r llwybr troed arfaethedig yn ei wasanaethu. Yn olaf, dylai’r pwyllgor ystyried darpariaethau sylweddol unrhyw gynllun gwella hawliau tramwy a gyhoeddwyd gan yr awdurdod.
(Gadawodd y Cynghorydd Sir Jane Lucas y cyfarfod am 14.17)
Gwahoddwyd Aelodau i ofyn cwestiynau yn dilyn y cyflwyniad.
Gofynnodd Aelod, gan nodi fod diogelwch ymwelwyr, cerddwyr a’r rhai heb fod yn gyfarwydd gyda gêm criced yn hollbwysig, os y byddai cynulleidfa yn dal i fedru edrych ar gemau criced yn ôl yr arfer pe byddai’r llwybr troed yn cael ei ddargyfeirio. Rhoddwyd sicrwydd iddo y byddent.
Mewn ymateb i gwestiwn, hysbyswyd yr Aelod na fyddai’r Pwyllgor yn ystyried cais am lwybr beiciau pwmp ar hyn o bryd.
Gofynnodd Aelod os y gallai fod yn angenrheidiol i’r ymgeisydd farcio’r llwybr cerddwyr yn glir ar draws y maes parcio neu ei gynghori i wneud hynny, fel nad yw cerbydau yn ei rwystro ac y gall cerddwyr a defnyddwyr cadeiriau olwyn symud yn ddiogel. Pe byddai’r gorchymyn llwybr yn llwyddiannus, dywedwyd y dylai’r llwybr gael ei farcio i roi arwydd clir i bobl na fyddai efallai yn gwybod fod llwybr newydd yno ac i geisio sicrhau nad yw’n cael ei rwystro. Mae hefyd yn drosedd rhwystro’r briffordd, felly mae pwerau y gellid eu defnyddio i atal hynny oed pe byddai rhywun yn rhwystro hawl tramwy cyhoeddus yn fwriadol, hyd yn oed os yw’n rhwystr dros dro ac nid un parhaol.
Gofynnodd y Cynghorydd Alistair Neill pam fod y proses wedi cymryd bron dair blynedd i gyrraedd y cam hwn ac os y gallai’r Cyngor edrych ar ffyrdd i drin materion tebyg yn gyflymach yn y dyfodol. Mewn ymateb, nodwyd y cafodd y cais ei oedi oherwydd anawsterau mewn cael ymatebion amserol a chyflawn gan y gwrthwynebydd dechreuol yn dilyn yr ymgynghoriad cyntaf ym mis Medi 2023. Roedd angen cryn dipyn o amser i geisio eglurhad o’r gwrthwynebiad, cyfleu hyn i’r ymgeisydd ac aros ystyriaeth ffurfiol y Clwb Athletau drwy ei brosesau pwyllgor. Dechreuodd ymgynghoriad pellach cyn-gorchymyn yn gynnar yn 2025 oedd hefyd angen ymatebion gan gyrff statudol a grwpiau defnyddwyr, a bu’n rhaid cwrso nifer ohonynt i gael ymatebion. Dywedodd swyddogion, dan ddeddfwriaeth hawliau tramwy, bod unrhyw wrthwynebiad na chafodd ei ddatrys yn atal achos rhag symud ymlaen a bod ymgysylltu cyfyngedig gan y gwrthwynebwr fel canlyniad yn ymestyn y broses. Cadarnhawyd ysywaeth fod oedi o’r fath yn gynhenid yn y fframwaith statudol ac nad yw hynny o fewn disgresiwn y Cyngor i’w gwtogi.
Wrth grynhoi, gwnaeth y Cadeirydd y sylwadau canlynol:
Pan roddwyd y mater i bleidlais, penderfynodd y Pwyllgor yn unfrydol:
Bod y Pwyllgor Ymgynghori Trwyddedu a Hawliau Tramwy Rheoleiddiol yn awdurdodi gwneud gorchymyn dargyfeirio ar gyfer Llwybr Troed 1 Brynbuga dan Adran 119 Deddf Priffyrdd 1980 fel y nodir yn yr adroddiad, ac i gadarnhau’r gorchymyn os na cheir unrhyw wrthwynebiad.
Dogfennau ategol: