Agenda item

Diweddariad Gwaharddiadau Ysgolion - Craffu ar y ffigurau diweddaraf a pherfformiad y Cyngor. Adroddiad i ddilyn.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dr Morwenna Wagstaff ac atebodd gwestiynau aelodau gyda Hugo Hutchison, Kelly Waythe a Rachael Roach-Rooke:

 

Pam y bu cymaint o gynnydd yn nifer y gwaharddiadau a’r dyddiau a gollwyd, a sut mae hyn yn cymharu â Chymru, y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang? Faint sydd yn ddisgyblion a gafodd eu gwahardd fwy nag unwaith a beth sy’n digwydd i’r disgyblion hynny?

 

Caiff y cynnydd ei briodoli i ymddygiad mwy heriol yn dilyn y pandemig, gyda thueddiadau cenedlaethol yn dangos cynnydd tebyg. Caiff y disgyblion a gaiff eu gwahardd fwy nag unwaith eu holrhain, ac mae’r rhan fwyaf o waharddiadau yn rhai tymor byr. Mae pob gwaharddiad yn benderfyniad unigryw ac nid yw’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn cael eu gwahardd fwy nag unwaith. Mae cefnogaeth yn cynnwys cyfarfodydd adferol a chynlluniau aml-asiantaeth i atal ail-ddigwydd.

 

Sut y caiff gwaharddiadau parhaol eu diddymu, beth yw’r broses a beth sy’n digwydd i’r plant hynny?

 

Caiff gwaharddiadau parhaol eu diddymu drwy gydweithio rhwng yr ysgol, yr awdurdod lleol a’r teulu, yn aml drwy greu pecyn cymorth, symudiadau wedi’u rheoli i ysgolion eraill neu ymyriad drwy’r gwasanaeth cyfeirio disgyblion. Seilir y broses ar gytundeb a chymorth wedi ei deilwra ar gyfer y plentyn.

 

A oes cyfle am gefnogaeth fwy rhagweithiol i helpu pobl ifanc i feithrin cydnerthedd ac atal gwaharddiadau, tu hwnt i ddulliau gyda ffocws ar staff?

 

Cydnabu’r cyfarfod bwysigrwydd strategaethau rhagweithiol ac ataliol gyda dysgu proffesiynol parhaus ar gyfer staff ac ymwreiddio arferion ystyriol o drawma. Mae pwyslais ar feithrin capasiti mewn ysgolion a chefnogaeth aml-asiantaeth, gydag effeithiau cadarnhaol yn dechrau dangos, yn arbennig mewn lleoliadau cynradd.

 

Beth sy’n digwydd i ddisgyblion yn ystod ac ar ôl gwaharddiad; yn benodol, pa gefnogaeth a roddir i atal gwaharddiadau mwy nag unwaith ac a ellid gwneud mwy i gynorthwyo ysgolion yn y maes hwn?

 

Mae’r broses yn cynnwys cyfathrebu gyda theuluoedd, cyfarfodydd adferol ac ymgyfraniad aml-asiantaeth i gefnogi ailintegreiddio a gostwng ailadrodd gwaharddiadau. Dylid tanlinellu nad yw'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn aildroseddu a chaiff gwaharddiadau mewnol hefyd eu defnyddio fel mesur ataliol.

 

Beth yw arwyddocâd nifer y gwaharddiadau (gan nodi y caiff 5% o ddisgyblion eu gwahardd, gyda chyfartaledd o tua pedwar eithriad fesul disgybl a gaiff ei eithrio) ac a yw’r trywydd cyfredol yn gynaliadwy? A oes angen mwy o weithredu/gweithredu gwahanol?

 

Mae gwahardd yn digwydd pan nad oes dewis arall, ond mae weithiau angen hynny ar gyfer diogelwch; mae’r niferoedd wedi codi oherwydd newidiadau mewn cymdeithas ond mae data diweddar yn awgrymu efallai y gall fod gwastatau. Mae data tymor yr hydref yn dangos gostyngiad mewn gwaharddiadau ac mae gwaharddiadau cynradd yn aml wedi crynhoi ymysg gr?p bach o ddisgyblion gydag anghenion cymhleth.

 

A allwch egluro’r broses a’r rhesymeg dros ddiddymu gwaharddiadau parhaol a beth sy’n disgwyl i ddisgyblion yn yr achosion hyn?

 

Mae diddymu gwaharddiadau parhaol yn golygu cydweithio rhwng yr awdurdod lleol, ysgol a’r teulu i ddatblygu pecynnau cymorth amgen tebyg i symudiadau wedi’u rheoli neu ymyriadau gwasanaeth cyfeirio disgyblion, gan anelu am ailintegreiddio a thryloywder mewn adroddiadau. Gall penaethiaid ysgolion sôn am enghreifftiau o symudiadau wedi’u rheoli llwyddiannus ac yn dangos pwysigrwydd ymddiriedaeth a dialog rhwng ysgolion a’r awdurdod lleol.

 

A oes cymorth neu becynnau penodol i helpu disgyblion a gafodd eu gwahardd rhag dychwelyd gyda dull gweithredu gwahanol ac a fedrir gwneud mwy i gefnogi ysgolion gyda hyn?

 

Caiff cymorth ei deilwra i ddisgyblion unigol yn aml yn cynnwys cydweithio gyda’r awdurdod lleol i gael mynediad i gyllid ac adnoddau ychwanegol. Mae enghreifftiau lle mae pecynnau pwrpasol wedi arwain at ymyriadau sylweddol mewn gwaharddiadau ar gyfer disgyblion penodol. Mae’r rhwydwaith cynhwysiant a chydweithio aml-asiantaeth yn allweddol i roi cymorth effeithlon.

 

Pa ymyriadau penodol sy’n gweithio orau i ostwng gwaharddiadau rhag ailddigwydd a cholli dyddiau (e.e. uned cyfeirio disgyblion, ymyriad cynnar, symudiadau wedi’u rheoli, hyfforddiant ystyriol o drawma, rhwydwaith cynhwysiant)?

 

Mae ymyriadau effeithlon yn cynnwys cydweithio aml-asiantaeth, symudiadau wedi’u rheoli, hyfforddiant ystyriol o drawma a’r rhwydwaith cynhwysiant sy’n galluogi rhannu adnoddau a chymorth proffesiynol. Nid oes unrhyw un ymyriad yn effeithlon bob amser; mae llwyddiant yn dibynnu ar amgylchiadau unigol. Sonnir am symudiadau wedi’u rheoli, hyfforddiant ystyriol o drawma a’r rhwydwaith cynhwysiant fel bod yn werthfawr, gyda chydweithio aml-asiantaeth a phecynnau cymorth pwrpasol yn aml yn arwain at ddeilliannau cadarnhaol.

 

Pa uwchgyfeirio ffurfiol sy’n digwydd lle mae arferion gwahardd yn gwahaniaethu rhwng ysgolion a sut y caiff gwaharddiadau anghymesur mewn rhai ysgolion ei drin?

 

Mae’r awdurdod lleol yn monitro data gwaharddiadau ac yn herio ysgolion sydd â nifer uchel neu gynyddol o waharddiadau. Mae uwchgyfeirio ffurfiol yn cynnwys cyfarfodydd gyda phenaethiaid ysgol, uwch arweinwyr a llywodraethwyr ac ymchwilio strategaethau dysgu a chymorth proffesiynol. Disgwylir amrywiad rhwng ysgolion oherwydd gwahanol amgylchiadau a byddai penaethiaid ysgolion hefyd yn rhybuddio rhag barnu ysgolion yn llwyr ar nifer gwaharddiadau.

 

Pa mor gynnar mae strategaethau atal yn dechrau mewn ysgolion cynradd a sut y caiff problemau eu dynodi cyn iddynt gynyddu?

 

Mae atal mewn ysgolion cynradd yn cynnwys monitro cynnar ar batrymau gwahardd, darparu pecynnau cymorth a chyfarfodydd ailintegreiddio aml-asiantaeth. Pwysleisir dysgu proffesiynol a meithrin capasiti ar gyfer staff i drin ymddygiad heriol cyn iddo waethygu a sefydlwyd y tîm mewn ymateb i alw cynyddol am gymorth cynnar.

 

Sut mae mynd i’r afael ag ymddieithrio cynyddol gan rieni ac amlder ffonau clyfar ymysg plant ifanc?

 

Mae ysgolion yn gweithio i feithrin perthynas gyda rhieni drwy gyfathrebu uniongyrchol, rhannu disgwyliadau a chymorth cymunedol. Mae ysgolion Sir Fynwy wedi mabwysiadu polisi yn cynghori rhieni i beidio rhoi ffonau clyfar i blant tan Flwyddyn 10, gydag adborth cadarnhaol gan deuluoedd. Mae ysgolion yn anelu i osod disgwyliadau clir ar gyfer cyfrifoldeb rhieni ac yn cyfeirio at wasanaethau cymorth. – GWEITHREDU: darparu adroddiad i aelodau ar ddefnydd ffonau clyfar ymysg disgyblion.

 

Beth am hyfforddiant ymwybodol o drawma?

 

Mae ysgolion a’r awdurdod lleol yn defnyddio dull gweithredu ystyriol o drawma at waharddiadau, gan gydnabod y gall y broses wahardd ei hun achosi gofid i ddisgyblion a theuluoedd. Mae staff a gafodd eu hyfforddi mewn ymarfer ymwybodol o drawma yn canolbwyntio ar ymateb yn sensitif i ddigwyddiadau, rhoi lle canolog i lais y plentyn a rhoi cynlluniau dilynol clir ar waith gyda rhieni ac mewn ysgolion cynradd a’r awdurdod lleol. Mae ysgolion yn anelu i ostwng pryder drwy wella cyfathrebu, gan sicrhau fod plant yn aros mewn cysylltiad â dysgu ac yn cynnig gwiriadau llesiant yn ystod gwaharddiadau. Yn gyffredinol, mae’r dull gweithredu yn anelu i leihau trawma ychwanegol a chefnogi disgyblion i ddychwelyd yn gadarnhaol, gan ostwng y tebygrwydd o waharddiadau rhag ailddigwydd.

 

Pam nad yw’r adroddiad yn cynnwys dadansoddiad o’r rhesymau dros waharddiad ac a all adroddiadau’r dyfodol gynnwys mwy o fanylion ar fathau o droseddau ac ymgyfraniad rhieni?

 

Cydnabuwyd y gwall a chytunwyd y dylai adroddiadau’r dyfodol gynnwys mwy o fanylion am y rhesymau dros waharddiad ac ymgyfraniad rhieni.

 

Beth sy’n digwydd i blentyn yn ystod cyfnod gwahardd arferol, yn cynnwys goruchwyliaeth, cefnogaeth a diogelu?

 

Eu rhieni sy’n gyfrifol am blant a gafodd eu gwahardd yn ystod y cyfnod gwahardd; anfonir gwaith i’r cartref ac mae’r awdurdod lleol yn cadw cyfathrebu ar gyfer ailintegreiddio a chefnogaeth. Mae ysgolion yn sicrhau y caiff rhieni eu hysbysu ar y ffôn cyn llythyrau ffurfiol ac ni wneir gwaharddiadau os oes pryderon am ddiogelu am i’r plentyn fod gartref. Defnyddir gwaharddiadau mewnol neu drefniadau eraill os oes angen.

 

Beth yw effaith toriadau mewn cyllidebau ysgolion ar waharddiadau, yn benodol a yw gostyngiadau mewn staff cymorth wedi arwain at fwy o waharddiadau, yn arbennig mewn ysgolion cynradd?

 

Cydnabyddir fod pwysau ar gyllidebau a llai o staff cymorth yn debyg o effeithio ar y gallu i gadw trefn ar ymddygiad heriol, gan ei gwneud yn anos i roi cymorth ataliol a pherthynol, er nad chafodd unrhyw gydberthynas uniongyrchol ei meintioli. Mae ysgolion Sir Fynwy yn addasu mewn modd creadigol, gan ddefnyddio dysgu proffesiynol a defnydd hyblyg o staff a chafodd cyllid newydd ei ailgyfeirio at ysgolion uwchradd ar gyfer cymorth wedi ei dargedu at ddisgyblion mewn risg.

 

A yw’r cwricwlwm newydd yng Nghymru yn ddigon hyblyg i ddiwallu anghenion disgyblion sydd mewn risg o ymddieithriad a gwahardd neu a yw’n gosod anhyblygrwydd newydd tebyg i’r hen gwricwlwm cenedlaethol?

 

Mae’r cwricwlwm newydd yn cynnig cyfleoedd i deilwra dysgu i ddiddordebau a galluoedd unigol ond bydd angen buddsoddiad ac amser i’w weithredu’n llwyddiannus. Mae’r cwricwlwm yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ysgolion ddylunio llwybrau amrywiol, yn cynnwys opsiynau academaidd a galwedigaethol, a all ailgysylltu myfyrwyr a chefnogi cynhwysiant, cyn belled â bod ysgolion yn gwneud y penderfyniadau cywir. – GWEITHREDU: gwahodd penaethiaid ysgolion maes o law i drafod effaith y cwricwlwm newydd.

 

Beth yw pwysigrwydd codio cyson ar gyfer rhesymau gwahardd ar draws ysgolion, sut mae penaethiaid ysgolion yn sicrhau cywirdeb a sut mae llywodraethwyr yn craffu gwaharddiadau a dyddiau a gollir?

 

Caiff rhesymau dros wahardd eu codio a’u cyfathrebu’n glir gyda chyrff llywodraethu yn craffu’n rheolaidd ar ddata ar waharddiadau, tueddiadau a mesurau cefnogi drwy bwyllgorau llesiant a thrafodaethau proffesiynol gyda’r awdurdod lleol.

 

A oes pwysau ar gapasiti swyddogion yr awdurdod lleol oherwydd y galw cynyddol am dasgau cefnogi ac a gafodd achos busnes ei wneud ar gyfer adnoddau ychwanegol?

 

Mae capasiti swyddogion yn wir dan bwysau a chyflwynwyd cais yn y gyllideb ar gyfer cynyddu capasiti, gyda systemau cadarn yn eu lle ar gyfer monitro gwaharddiadau a symudiadau wedi’u rheoli.

 

Sut y caiff symudiadau wedi’u rheoli rhwng awdurdodau lleol eu monitro i sicrhau ailintegreiddio llwyddiannus a’r effaith leiaf ar yr ysgol y mae’r disgyblion a waharddwyd yn symud iddynt?

 

Caiff symudiadau wedi’u rheoli eu monitro drwy baneli cynhwysiant a chyfarfodydd adolygu a gall symud ar draws ffiniau sir fod yn heriol ond caiff cynnydd ei wneud ar y cyd ag awdurdodau eraill.

 

Yn ogystal â chraffu effaith y cwricwlwm newydd, a fedrwn hefyd graffu sut y caiff myfyrwyr o Gymru sy’n dymuno mynd i brifysgol yn Lloegr eu rheoli? – GWEITHREDU (BLAENGYNLLUN GWAITH)

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Diolchodd y Cadeirydd i swyddogion ac yn arbennig benaethiaid ysgolion am fynychu heddiw a mynegodd ddiolch yr aelodau i’r timau am eu gwaith caled. Yn ychwanegol, soniodd y Cadeirydd am bwysigrwydd adroddiad diweddaraf Estyn ar waharddiadau o ysgolion ac ymchwil ar iechyd ysgolion, gan nodi ei fod yn adroddiad cryf sy’n adlewyrchiad cadarnhaol o waith y cyngor ac y dylai preswylwyr ei gydnabod a’i ddathlu. Llongyfarchodd dîm addysg y cyngor gan nodi hefyd fod gwaith yn dal i fod i’w wneud i wella deiliannau o gymharu â siroedd eraill.

 

Dogfennau ategol: