Cofnodion:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Kate Thompson ac atebodd gwestiynau aelodau gyda Matthew Gatehouse:
A yw’r gyfradd uchel o ddyddiau gwaith a gollir oherwydd salwch yng Nghyngor Sir Fynwy (dros ddwywaith y cyfartaledd cenedlaethol) yn dueddiad a welir mewn awdurdodau eraill a beth yn fwy sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r ffigur hwn?
Mae’n anodd cael data i gymharu ond dywedodd Caerffili yn ddiweddar fod ganddynt ffigur uchel tebyg. Mae’r cyngor yn parhau i geisio cael data ar gyfer Cymru gyfan.
A yw cyfraddau salwch uchel yn effeithio mwy ar unrhyw gyfarwyddiaethau neilltuol e.e. gofal cymdeithasol?
Mae Gofal Cymdeithasol ymysg y cyfarwyddiaethau yr effeithir mwyaf arnynt a chynhaliwyd cyfarfodydd yn ddiweddar gyda rheolwyr ac Adnoddau Dynol i ddadansoddi data a datblygu cynlluniau gweithredu i ostwng absenoldeb salwch.
Pryd y caiff y dangosfwrdd iechyd a diogelwch ei rannu ac a yw’r data yn cynnwys preswylwyr sy’n defnyddio cyfleusterau’r cyngor yn ogystal â staff?
Mae’r dangosfwrdd yn cael ei ddatblygu a dylai fod yn barod erbyn diwedd y flwyddyn ar ôl ymgynghori. Mae’r data yn cynnwys staff, contractwyr a chwsmeriaid sy’n defnyddio cyfleusterau, ond dim ond digwyddiadau lle gwnaeth y gweithgaredd gwaith neu safle gyfrannu gaiff eu dosbarthu fel bod yn gysylltiedig â gwaith. Caiff pob digwyddiad eu cofnodi ond dim ond rhai cysylltiedig â gwaith gaiff eu hadrodd yn y ffigurau.
A fedrwch esbonio’r defnydd o’r term “salwch seicolegol” o gymharu â “iechyd meddwl” a beth sy’n cael ei wneud am iechyd meddwl, yn cynnwys cyrsiau rheoli straen a chysylltu straen gyda llwyth gwaith a thoriadau yn y gyllideb?
“Salwch seicolegol” yw’r dosbarthiad Adnoddau Dynol ac mae’n cynnwys ystod o gyflyrau (gorbryder, straen, iselder ac yn y blaen) gyda dadansoddiadau mwy manwl ar gael. Cafodd hyfforddiant llesiant Connect 5 ei ymestyn, mewn gofal cymdeithasol i ddechrau, gyda chynlluniau i’w ehangu ar draws y cyngor. Disgwylir i reolwyr gynnal asesiadau risg straen fydd yn helpu i ddynodi a thrin ffactorau straen cysylltiedig, yn cynnwys llwyth gwaith.
Beth sy’n cael ei wneud am achos gwraidd y cynnydd mewn trais yn erbyn athrawon gan ddisgyblion, ac a yw’r cyngor yn mynd i’r afael ag ymddygiad a rheoleiddio emosiynol mewn pobl ifanc?
Mae ffocws y swyddog ar gefnogi staff yr effeithir arnynt a sicrhau data dibynadwy. Mae tîm cyfarwyddiaeth Cymru yn trin materion cysylltiedig â phlant, yn cynnwys asesiadau a chymorth arbenigol. Mae’r swyddog yn cwrdd yn rheolaidd gyda chydweithwyr diogelu a’r gyfarwyddiaeth i gydlynu cefnogaeth ar gyfer staff a hefyd ddisgyblion.
Beth sy’n enghraifft o ddigwyddiad heb fod yn gysylltiedig â gwaith? A fedrwn bwysleisio pwysigrwydd cysylltu rheoli straen gyda chynllunio gwaith?
Er enghraifft, ni fyddai plentyn yn baglu dros garrai ei esgidiau yn y maes chwarae yn ddigwyddiad cysylltiedig â gwaith os nad oedd ffactor gweithle (fel twll yn y ffordd) wedi cyfrannu. Byddai asesiadau risg straen yn helpu i ddynodi materion cynllunio gwaith.
A yw “salwch seicolegol” yn gategori rhy eang ac a ddylid gwahanu straen cysylltiedig â gweithle oddi wrth gyflyrau gyda diagnosis meddygol? Sut all y cyngor gefnogi unigolion yn well a gwella adroddiadau i wahaniaethu rhwng yr achosion hyn?
Caiff pob achos ei drin yn unigol ac mae categorïau adrodd newydd nawr yn gwahanu straen gweithle oddi wrth ffactorau personol, gyda data dechreuol yn dangos fod tua 20% o straen yn gysylltiedig â gweithle, 10% yn gymysg a 70% oherwydd ffactorau y tu allan i waith – GWEITHREDU: swyddogion i gysylltu gyda’r aelod tu allan i’r cyfarfod i ymchwilio gwell dynodi a chefnogaeth.
Crynodeb y Cadeirydd:
Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am yr adroddiad a’u hymatebion. Cafodd yr adroddiad ei gynnig.
Dogfennau ategol: