Cofnodion:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Ben Callard, yr Aelod Cabinet gyda Jonathan Davies, ac atebodd gwestiynau aelodau gyda Nicola Wellington, Will McLean a Jane Rodgers:
Cafodd yr holl gynlluniau adfer gofynnol eu cyflwyno erbyn hanner tymor mis Hydref, eu hadolygu’n fewnol a’u monitro’n fisol. Ni chaiff cynlluniau eu hailysgrifennu os collir targedau; gofynnir i ysgolion addasu blynyddoedd y dyfodol i ateb ymrwymiadau.
Beth yw’r amserlen nodweddiadol ar gyfer cynlluniau adfer ac a yw ysgolion gyda diffygion uchel yn wynebu heriau ariannol strwythurol?
Caiff cynlluniau adfer eu teilwra ar gyfer pob ysgol, gan anelu am ddisgyblaeth ariannol gadarn a chynaliadwy heb newidiadau sy’n tarfu. Rhoddir cymorth i alluogi adferiad graddol gan leihau’r effaith ar ddisgyblion.
Sut y gellir sicrhau’r cyngor bod arbedion newid arfer gofal cymdeithasol oedolion yn cael effaith a faint o becynnau gofal a gafodd eu gostwng drwy’r broses adolygu?
Mae’r rhaglen newid ymarfer yn gymhleth, gyda ffocws ar ymateb i gynnydd mewn galw a defnyddio adnoddau’n effeithlon. Caiff arbedion eu hadlewyrchu yn y llinell waelod ond mae’n anodd ynysu ffigurau penodol oherwydd anghenion deinamig a newidiadau mewn cyflenwi gofal. Caiff adolygiadau eu cynnal a bydd dyraniad mwy manwl ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Faint mae’r broses adolygu yn edrych yn holistig ar sefyllfa pob unigolyn?
Mae’r ymagwedd yn wir yn holistig, gan ystyried deilliannau llesiant, cymorth i ofalwyr, cysylltiadau cymunedol a thechnoleg gynorthwyol, nid dim ond gofal ffurfiol.
Beth yw’r blaenamcan o leoliadau preswyl erbyn diwedd y flwyddyn a’r flwyddyn nesaf, o gofio’r cynydd mewn dementia a gofal cymhleth?
Mae’r cyngor yn rhagweld tri lleoliad newydd bob mis yn seiliedig ar dueddiadau diweddar ond mae’n anodd rhagweld hyn a gall pwysau gaeaf effeithio arno. Mae’r cynnydd yn gysylltiedig â phoblogaeth sy’n heneiddio ac anghenion cynyddol gymhleth.
Pa gyfran o gostau cyfreithiol cynyddol mewn gwasanaethau plant y gellid eu hosgoi a pha fodelau cymorth cyfreithiol eraill a gafodd eu hystyried?
Rhoddodd y cyngor gynnig ar gomisiynu cymorth cyfreithiol allanol ond fe gynyddodd y costau. Defnyddir eiriolaeth mewnol lle’n bosibl a bwriedir cynnal dadansoddiad pellach i ddynodi cyfleoedd arbed costau. Caiff rhai costau eu gorfodi gan y llysoedd ac ni fedrir eu rheoli’n llwyr.
Beth yw’r rhaniad rhwng cyllid Llywodraeth Cymru a’r dreth gyngor ar gyfer y sir? Sut mae hyn yn cymharu gyda chyfartaledd Cymru ac a fedrai’r Cynllun Datblygu Lleol a thai fforddiadwy effeithio ar y gymhareb hon?
Mae’r rhaniad cyfartalog yng Nghymru tua 70% cyllid Llywodraeth Cymru a 30% treth gyngor, ond mae Sir Fynwy yn dibynnu mwy ar y dreth gyngor. Mae gwahanol ffactorau yn effeithio ar y gymhareb, yn cynnwys gostyngiadau, eithriadau a bandiau datblygu. Gallai’r Cynllun Datblygu Lleol a thai fforddiadwy ddylanwadu ar dybiaethau’r dyfodol ond mae’n faes cymhleth a caiff ei fodelu’n ddarbodus.
Sut fydd yr Aelod Cabinet yn sicrhau fod cynlluniau arbedion a thrawsnewid dros yr ychydig flynyddoedd nesaf yn wirioneddol realistig a chyraeddadwy, o gofio mai dim ond 80% o’r arbedion a gynlluniwyd a gafodd eu sicrhau y flwyddyn ddiwethaf a bod llawer o wasanaethau eisoes ar isafswm statudol. Pa feini prawf gaiff eu defnyddio i benderfynu os yw arbediad trawsnewidiol yn ddigon cadarn i gael ei gynnwys yn y gyllideb ac a fydd craffu yn cael cyfle i brofi’r tybiaethau hyn?
Roedd yr Aelod Cabinet yn cydnabod yr her, gan nodi y bu targedau arbedion yn anodd, ond mae’r cyngor wedi sicrhau cyfradd uwch (tua 92%) hyd yma eleni. Caiff cynigion am arbedion eu craffu drwy’r broses ymgynghori ar y gyllideb, yn cynnwys pwyllgorau craffu, fydd yn parhau i gael cyfle i herio cadernid cynigion ac os ydynt yn gyraeddadwy ai peidio.
Beth yw strategaeth y cyngor ar gyfer gostwng dibyniaeth ar dderbyniadau a benthyca cyfalaf, o gofio y rhagwelir y bydd derbyniadau cyfalaf yn disgyn yn sydyn, a sut fydd y cyngor yn cynnal buddsoddiad mewn asedau hanfodol heb ganiatáu iddynt waethygu?
Mae’r cyngor yn gostwng defnydd derbyniadau cyfalaf i gefnogi’r gyllideb refeniw, gan anelu am sero erbyn 2028/29. Mae’r gronfa derbyniadau yn lleihau a dim ond drwy’r Cynllun Datbygu Lleol newydd y caiff ei ail-lenwi. Rhoddir blaenoriaeth i fuddsoddiad cyfalaf yn seiliedig ar risg a fforddiadwyedd, gydag asesiadau technegol yn llywio penderfyniadau. Bydd angen benthyca ar gyfer buddsoddiadau uwchben cyllid craidd, ac mae’r cyngor yn asesu’r effaith hirdymor a blaenoriaethu anghenion.
Crynodeb y Cadeirydd:
Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Cabinet a swyddogion am yr adroddiad a’u hymatebion i gwestiynau aelodau, gyda’r aelodau yn croesawu ymdrechion i gyfenwi gwasanaethau mwy effeithiol gyda ffocws ar y cwsmer. Cafodd yr adroddiad ei gynnig.
Dogfennau ategol: