Cofnodion:
Cyflwynodd Ben Callard, yr Aelod Cabinet yr adroddiad gyda Jonathan Davies ac ateb cwestiynau aelodau gyda Nicola Wellington, Jane Rodgers a Will McLean:
Effaith fach iawn y byddai unrhyw newidiadau mewn cyfraddau llog yn y misoedd nesaf yn ei chael ar y flwyddyn ariannol gyfredol, gan fod y rhan fwyaf o ragolygon eisoes wedi ystyried gostyngiadau tebygol. Y prif gonsyrn yw cost benthyca, sy’n gysylltiedig â chynnyrch gild yn hytrach nag yn uniongyrchol gyda’r gyfradd banc. Mae’r rhan fwyaf o fenthyca’r cyngor ar gyfraddau hirdymor sefydlog felly dim ond cyfran fach sy’n agored i newidiadau tymor byr mewn cyfraddau. Cafodd y dull gweithredu ei gydbwyso i reoli risg, gan beidio bod yn or-ofalus nac agored i risg.
Pa ymyriadau penodol a gymerir gyda’r ysgolion mewn mwyaf o risg sydd mewn diffyg, a phryd y disgwylir y bydd nifer yr ysgolion mewn diffyg yn gostwng?
Mae’r cyngor yn gweithio gydag ysgolion i gyfarch diffygion yn y flwyddyn a hefyd ddiffygion cronnus, gan roi blaenoriaeth i sefydlogi cyllidebau blynyddol cyn gostwng y cyfanswm diffyg. Mae’r pwysau mwyaf yng nghlwstwr y Fenni a’r Gwasanaeth Cyfeirio Disgyblion, gyda chynlluniau adfer yn eu lle a chydweithio yn mynd rhagddo. Gweithredir ar gynnydd mewn cyllid ac arbedion ond bydd newidiadau yn raddol i osgoi effeithiau addysgol negyddol. Ychwanegodd swyddogion y gall diffygion waethygu cyn gwella oherwydd strwythur y flwyddyn academaidd ond caiff cynlluniau adfer eu monitro yn fisol, ac mae buddsoddiad £1 miliwn y llynedd yn help.
Sut mae’r cyngor yn trin diffygion strwythurol o gymharu â gorwariant yn y flwyddyn a beth gaiff ei ystyried y lefel ddiogel isaf o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio ar gyfer cydnerthedd ariannol?
Mae’r cyngor yn anelu i gadw cronfeydd wrth gefn ar gyfer argyfwng ar 5% o’r gyllideb refeniw net, sef yr isafswm lefel ddiogel, ac mae’n gweithio i ailadeiladu cronfeydd wrth gefn a neilltuwyd ar gyfer cydnerthedd tymor canol.
Pa gategori modelu cyllideb yw’r risg uchaf a pha gynlluniau lliniaru sy’n bodoli os yw risgiau’n gwaethygu?
Y risg uchaf mewn modelu cyllideb yw galw am wasanaethau, yn arbennig mewn gofal cymdeithasol, digartrefedd ac anghenion dysgu ychwanegol a fu’n fwy anwadal na risgiau traddodiadol fel tâl neu chwyddiant. Mae’r cyngor yn parhau yn hyblyg yn ei fodelu i addasu i newid mewn tybiaethau.
A ddisgwylir i Grant Trawsnewid Llwybrau Gofal Llywodraeth Cymru ariannu gwasanaethau ychwanegol neu yn syml lanw am ddiffygion i gynnal lefelau gwasanaeth cyfredol, a pha ddisgwyliadau sydd gan weinidogion a gweision sifil ar gyfer ychwanegedd?
Bwriedir i’r grant gefnogi capasiti ar draws y system, gyda phwyslais ar ryddhau o ysbytai, ond mae’n cydnabod fod angen cynnal capasiti system gyfan. Mae’r grant yn cefnogi cynyddu rhyddhau o ysbytai a hefyd anghenion ehangach y system, gyda monitro chwarterol ac adrodd i Lywodraeth Cymru.
Beth yw’r cynllun a’r amserlen ar dystiolaeth gadarn o arbedion o’r rhaglen newid ymarfer gofal cymdeithasol a beth gaiff ei wneud os na fedrir cyflawni’r arbedion llawn?
Mae adolygiadau’n mynd rhagddynt a chaiff arbedion eu gwneud ond ni chafodd arbedion penodol o newid ymarfer eu dynodi ar wahân hyd yma; cânt eu hadlewyrchu yn sefyllfa gyffredinol gofal cymdeithasol oedolion.
Beth yw’r sbardunau “llinell goch” i’r cyngor ymyrryd yn uniongyrchol mewn rheolaeth ariannol ysgol, tu hwnt i gefnogi a monitro cynlluniau adfer ac a oes unrhyw ysgolion yn agos at y trothwyon hyn?
Dim ond os y byddai ysgol yn colli rheolaeth ar gyllideb neu’n methu gweithredu cynlluniau adfer a gytunwyd y byddai ymyriad yn digwydd, gan efallai arwain at rybudd a dileu dirprwyo cyllideb. Mae hyn wedi digwydd unwaith o’r blaen ond nid oes unrhyw ysgolion ar y trothwy hwnnw ar hyn o bryd, er fod monitro agos yn digwydd ar gyfer y Gwasanaeth Cyfeirio Disgyblion ac Ysgol Brenin Harri VIII.
Beth fydd effaith cynlluniau adfer diffygion ysgol yn yr ystafell ddosbarth, beth yw’r problemau oherwydd rheoli neu anghenion na fedrir eu hosgoi fel gwasanaethau cyfeirio disgyblion, a beth am y cynnydd yn anghenion ymddygiad ac emosiynol myfyrwyr h.y. a oes cymorth ataliol, mwy rhagweithiol?
Mae’r Gwasanaeth Cyfeirio Disgyblion yn trin anghenion cynyddol a mwy cymhleth yn dilyn y pandemig, gyda’r tri phrif faes gwasanaeth (Uned Cyfeirio Disgyblion, Addysg Heblaw yn yr Ysgol ac ADY pwrpasol). Mae cymorth llythrennedd emosiynol yn parhau’n bwysig ond mae’n annhebyg y bydd lefel yr angen yn dychwelyd i’r hyn oedd cyn y pandemig. Gall adfer cyllideb weithiau arwain at ostyngiadau staff, ond cyrff llywodraethu sy’n gwneud penderfyniadau. Cytunir fod angen mwy o waith ataliol i fynd i’r afael â gwraidd achosion cyn fod myfyrwyr angen cymorth dwys; cydnabyddir yr her gymdeithasol ehangach.
A yw’r gorwariant ar gludiant teithwyr yn llwyr oherwydd llwybrau anniogel, ac a fedrwch chi egluro meysydd eraill sy’n cyfrannu at y gorwariant?
Mae’r gorwariant yn wir yn bennaf oherwydd dynodi mwy o lwybrau anniogel i’r ysgol ac ailosod cludiant teithwyr fel yr ymrwymwyd yn ystod y broses adolygu.
Yng nghyswllt goleuadau stryd yn bod a’r gyllideb, beth yw rôl technoleg pylu goleuadau – a yw wedi rhoi arbedion ac a gaiff ei ymestyn ar draws y sir? Pam nad yw goleuadau yn cael eu troi bant am ganol nos bellach, o gofio am y cynlluniau awyr dywyll?
Cafodd y polisi troi goleuadau bant ei wrthdroi am resymau diogelwch. Bydd angen rhoi ymateb ysgrifenedig ar dechnoleg pylu goleuadau – GWEITHREDU – darparu ymateb ysgrifenedig.
A yw’r diffyg Yswiriant Gwladol yn eithrio ysgolion?
Mae’r diffyg yn cynnwys ysgolion gyda rhagolwg costau ychwanegol am y flwyddyn a bwlch cyllid a gaiff ei gario ymlaen fel pwysau wrth symud ymlaen.
A yw’n bosibl cael ffigur bras ar gyfer dibyniaeth y cyngor ar grantiau?
Mae’r cyngor yn cyllidebu ar gyfer lefel o grantiau penodol, gan nodi y caiff llawer o grantiau eu pasio’n uniongyrchol i asiantaethau eraill, tebyg i weithredu fel asiant i Lywodraeth Cymru ar gyfer rhai gwasanaethau. – GWEITHREDU: Swyddogion i egluro a rhoi ffigur bras ar gyfer dibyniaeth y Cyngor ar grantiau, yn cynnwys dadansoddiadau o gyllid craidd, cyllid mewn risg a grantiau ddosberthir gan asiantau.
Crynodeb y Cadeirydd:
Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Cabinet a swyddogion am eu gwaith parhaus a’u hymatebion i gwestiynau’r aelodau. Cafodd yr adroddiad ei gynnig.
Dogfennau ategol: