Cofnodion:
Roedd nifer sylweddol o’r cyhoedd yn bresennol yn y cyfarfod gyda datganiadau llafar wedi eu gwneud a datganiadau ysgrifenedig wedi eu cyflwyno, gan adlewyrchu’r pwyntiau allweddol canlynol:
Dr Geoff Walker ~ Safle HA11 – i’r dwyrain o Burrium Gate)
Ffactorau cadarnhaol am y safle: Mae safle’r datblygiad arfaethedig mewn lleoliad call ar gyrion Brynbuga, yn agos at gyfleusterau ac mae ganddo botensial ar gyfer mynediad rhesymol i’r ffordd, gan ei wneud yn rhesymegol ar gyfer datblygu pellach.
Pryderon am ddraeniad: Mae angen datrys problemau sylweddol gyda draeniad (d?r wyneb a draeniad aflan) cyn y gellir rhoi caniatâd. Mae ansicrwydd am sut y cafodd problemau blaenorol gyda draeniad eu datrys ac mae llethr serth y safle yn cynyddu risg d?r ffo a llifogydd, sydd eisoes wedi effeithio ar breswylwyr.
Mynediad: Mae mynediad i’r safle yn broblem. Ni all y darn byr o Heol Trefynwy gefnogi cyffyrdd ychwanegol ac ystyrir y byddai mynediad drwy Burrium Gate yn annymunol iawn i breswylwyr.
Er mwyn datrys problemau draeniad a mynediad bydd angen gwariant sylweddol, naill ai gan y datblygwr neu’r Cyngor Sir.
Gallai’r datblygiad fynd yn ei flaen os caiff y problemau draeniad a mynediad eu datrys yn llawn; fel arall, mae risg i’r preswylwyr presennol.
Gareth Williams - Lichfields: Barrett Redrow Homes a Simon Taber - Ecology Solutions ~ Safle HA4, Leasbrook, Trefynwy
Mae angen sylweddol am dai fforddiadwy yn Sir Fynwy gyda’r Cyngor wedi dynodi fod angen 148 cartref fforddiadwy newydd bob blwyddyn yn ardal marchnad tai Trefynwy.
Bydd safle Leasbrook yn darparu 270 cartref newydd, yn cynnwys 135 o gartrefi fforddiadwy, gan helpu teuluoedd na fedrai fel arall brynu eu cartref cyntaf.
Leasbrook yw’r unig ddyraniad tai strategol a gynigir yn Nhrefynwy ac mae’n cynrychioli bron hanner dyraniad tai y dref.
Mae’r dyraniad yn ganolog i strategaeth y Cynllun Datblygu Lleol, gan fod Trefynwy yn anheddiad sylfaenol ac mae’n rhaid iddo gyfrannu at ddiwallu anghenion lleol.
Mae cyflenwi cartrefi newydd yn Nhrefynwy yn heriol, gydag angen cydbwysedd rhwng anghenion tai brys ac ystyriaethau eraill.
Cynhaliwyd astudiaethau angenrheidiol yn unol â pholisi cynllunio a safonau proffesiynol, gan ddangos y gellid datblygu Leasbrook pe byddid yn cael mesurau lliniaru priodol.
Mae’r mesurau lliniaru a gynigir yn cynnwys terfyn llinell coeden newydd 25-metr a systemau draeniad trefol cynaliadwy.
Cadarnhaodd y byddai Simon Taber yn cyfarch materion ecoleg.
Jonty Pearce ~ Safle HA4, Leasbrook, Trefynwy
Caiff Cymru ei disgrifio fel un o’r gwledydd sydd wedi dihysbyddu mwyaf o ran natur, yn ôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae dewis amlwg yn wynebu cynghorwyr: dinistrio neu arbed safle amgylcheddol sensitif.
Mae’r Cyngor a’r ymgynghorwyr yn dweud fod gweithgaredd ystlumod yn gyfyngedig, ond fe wnaeth Prosiect Ystlumod Dixton gofnodi’r ystlum pedol mwyaf prin 893 gwaith ym mis Awst yn unig, gyda 26 recordiad ar gyfartaledd bob nos.
Mae’r safle yn gartref i 12 rhywogaeth ystlumod, yn cynrychioli 80% o’r holl rywogaethau ystlumod a ganfyddir yng Nghymru, sy’n hynod ac yn werth ei achub.
Fe wnaeth y Cyngor ymatal arolwg ystlumod 2024, a ddarganfu ddim ond dau rywogaeth a cholli’r ystlumod soprano lleiaf o glwydfan mamolaeth gyfagos.
Nid oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cytuno gyda’r casgliad na fyddai unrhyw effaith niweidiol ar ystlumod.
Ni ddylai’r mater fod yn un o fywyd gwyllt neu dai fforddiadwy, gan y gallai dewis safle gwahanol roi’r ddau.
Mae perygl heriau cyfreithiol pe byddid yn symud ymlaen gyda’r cynllun presennol, yn cynnwys apeliadau ac adolygiad barnwrol.
Mae’r dystiolaeth yn cefnogi diogelu’r safle ac mae’r penderfyniad yn nwylo’r Cynghorwyr.
Rebecca Cunningham ~ Safle HA4, Leasbrook, Trefynwy
Mae’r Cynllun Datblygu Lleol newydd yn un o’r penderfyniadau pwysicaf a wnaiff y Cyngor a dylai Cynghorwyr gadw hynny mewn cof.
Cafodd y Pwyllgor Craffu 15,000 tudalen o ddogfennau i’w hadolygu mewn dim ond saith diwrnod, ac nid yw hynny’n realistig ar gyfer ystyriaeth drwyadl.
Cafwyd dros 4,000 o ymatebion gan 900 o unigolion a sefydliadau, gyda llawer o wrthwynebiadau gan breswylwyr, cyrff statudol a rhanddeiliaid eraill.
Mae Safle HA4 yn wynebu pryderon sylweddol o bob cyfeiriad, eto ymatebodd y Cyngor heb unrhyw newidiadau, nad yw’n ymgynghoriad ystyrlon.
Mae adroddiad ymgynghori y Cyngor yn honni fod HA4 yn hyfyw yn amgylcheddol ond dengys ei dystiolaeth ei hun mai dyma’r opsiwn mwyaf niweidiol yn amgylcheddol ar gyfer Trefynwy o ran bioamrywiaeth, tirwedd, treftadaeth a thir amaethyddol.
Nid yw adroddiadau’r datblygwr yn adlewyrchu gwir fioamrywiaeth y safle ac mae HA4 yn groes i bolisïau a strategaethau y Cyngor ei hun, yn cynnwys y Cynllun Gweithredu Adfer Natur a’r strategaeth Seilwaith Gwyrdd.
Mae’r safle o fewn 500 metr o’r Afon Gwy ac yn agos at Ardal Cadwraeth Arbennig Coedwig Dyffryn Gwy a byddai datblygu yn dileu cynefinoedd blaenoriaeth, gan danseilio amcanion cadwraeth.
Mae’r cynllun yn dibynnu ar addewidion amwys am liniaru, tra dylai seilwaith gwyrdd go iawn gael ei sefydlu o’r cychwyn cyntaf.
Mae anwybyddu ymatebion i’r ymgynghoriad a chamliwio tystiolaeth yn tanseilio craffu a democratiaeth.
Anogodd y Cynghorwyr i roi agendâu gwleidyddol o’r neilltu, gwrando ar breswylwyr a sicrhau y caiff yr holl dystiolaeth, yn cynnwys gwyddor dinasyddion, ei hystyried yn briodol cyn symud ymlaen â’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd.
Ann Langford ~ cyflwyniad ar fideo ~ Trefynwy
Mae Ann yn byw yn Nhrefynwy a mynegodd bryder y gallai stadau tai cyfagos a mwy o draffig gael effaith negyddol ar Drefynwy pe byddai’r cynllun arfaethedig i adeiladu 270 o gartrefi, ynghyd â 110 mwy yn y stad drilio, yn mynd rhagddo.
Dywedodd Ann fod Ystadegau Cymru yn rhagamcanu twf poblogaeth o 5% ar gyfer Sir Fynwy rhwng 2018 i 2033, sy’n gydnaws â thueddiadau’r gorffennol, ond dywedodd fod y cynllun yn cynnig cynnydd o 15% mewn tai, a chredai fod hynny yn ormod. Byddai’r cynllun yn arwain at fwy o lygredd a thraffig, yn arbennig gan y byddai’n debyg y byddai llawer o breswylwyr newydd yn defnyddio’r coridor M4 i fynd i’r gwaith.
Nododd Ann fod tagfeydd traffig yn Nhrefynwy eisoes, yn arbennig wrth gylchfan Dixton, ac awgrymodd y byddai hyn yn gwaethygu gyda datbygiadau newydd.
Soniodd am broblemau posibl gyda mwy o garthffosiaeth yn effeithio ar yr Afon Gwy.
Daeth Ann i ben drwy ddweud nad oes angen y twf arfaethedig a galw am ail-feddwl, gan danlinellu mai twf o 5% sydd ei angen, nid 15%.
Frank Brehany ~ Ansawdd Aer Trefynwy
Cododd Frank, sy’n byw yn Nhrefynwy ac yn actifydd cyfreithiol gyda phrofiad helaeth o adroddiadau rhanddeiliaid ar faterion defnyddwyr a chyfansoddion cemegol, bryderon am ansawdd aer yn safle HA4. Dywedodd na chafodd ei gyflwyniadau a gohebiaeth flaenorol gyda’r cyngor eu trin yn iawn na’u cynnwys yn Adroddiad yr Ymgynghoriad.
Beirniadodd Frank ddibyniaeth y Cyngor ar safonau Rheoli Ansawdd Aer Lleol (LAQM) sydd ond yn monitro nitrogen deuocsid ac nad ydynt yn defnyddio’r egwyddorion dewisol neu rhag ofn a ganiateir.
Dywedodd y cafodd gwrthwynebiadau am ansawdd aer ymateb cyffredinol y byddai effeithiau yn cael eu hasesu ar y cam cais cynllunio, a theimlai fod hynny yn annigonol ac yn oedi mynd i’r afael â’r mater.
Dywedodd y cafodd ei gyflwyniad ar ansawdd daear ei gynnwys yn y diwedd ym mhecyn y cyfarfod ar ôl iddo gwyno, ond eglurodd fod ei sylwadau am ansawdd aer, nid d?r.
Dywedodd fod ymateb y cyngor yn dweud fod dulliau monitro ansawdd aer y tu allan i broses y Cynllun Datblygu Lleol Newydd, ac mae’n ystyried fod hynny yn anghyson gan fod methodoleg yn hanfodol ar gyfer asesiadau’r dyfodol.
Tanlinellodd Frank nad yw monitro un halogydd yn unig yn rhoi darlun cynhwysfawr o ansawdd aer a bod asesiadau’r dyfodol yn annibynadwy os nad oes llinell sylfaen iawn.
Anogodd y Cyngor i fabwysiadu egwyddorion gwyddonol ac ymgysylltu mewn modd ystyrlon gyda phreswylwyr ar ansawdd aer cyn symud ymhellach gyda’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd, gan rybuddio y byddai methiant i wneud hynny yn cael ei gofio fel camsyniad sylfaenol.
Rob Elliott ~ Ansawdd Aer Trefynwy
Mynegodd Rob bryder am gynnydd mewn traffig ffordd o’r datblygiad tai arfaethedig yn HA4/CS-0270, yn arbennig yng nghyffordd Heol Dixton, lle mae eisoes lawer o draffig segur a cherbydau thrwm.
Rhybuddiodd y byddai mwy o dai yn golygu mwy o geir a loriau, gan arwain at fwy o lygredd aer o ronynnau, s?n a dirgryniadau, yn arbennig yn effeithio ar blant yn pasio drwy’r ardal.
Dywedodd Rob nad mwy o dai ar safleoedd tir glas yw’r datrysiad ond poblogaeth polisi cenedlaethol mwy cynaliadwy ar gyfer amgylchedd sefydlog yn y dyfodol.
Gofynnodd i bob cynghorydd gael eu hysbysu am y pryderon hyn.
Barwood Land ~ HA3 – Tir yn Heol Mounton, Cas-gwent)
Mae’r cyflwyniad yn cefnogi dyraniad drafft safle HA3 (Heol Mounton, Cas-gwent) yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd ac mae’n gwerthfawrogi gwaith y Cyngor ar y cynllun.
Pwysleisiwyd y cafodd y safle ei brofi a’i graffu yn helaeth, gyda gofynion polisi clir i sicrhau datblygu cynaliadwy safon uchel.
Byddai’r datblygiad yn cyflenwi 146 o gartrefi newydd (hanner ohonynt yn fforddiadwy), gwesty a chartref gofal arbenigol, gan gefnogi byw annibynnol, creu swyddi a’r economi leol.
Byddai mwy na hanner y safle yn parhau heb ei ddatblygu, gan roi gofod agored helaeth a diogeliad ecolegol hirdymor gyda budd net sylweddol ar gyfer bioamrywiaeth.
Byddai’r cartrefi ac adeiladau newydd yn effeithiol o ran ynni, yn cael eu hadeiladu am oes hir ac wedi’u cynllunio ar gyfer “cymdogaeth 20 munud” gyda mynediad rhwydd i siopau, gwasanaethau ac opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy.
Byddai’r nodweddion yn cynnwys gwefru cerbydau trydan, band eang, hyb symudedd a mesurau i ostwng dibyniaeth ar geir ac ôl-troed carbon.
Mae darparwyr cartrefi gofal a gweithredwyr gwestai wedi dangos llawer o ddiddordeb yn Barwood Lane ac mae’n ymroddedig i weithio gyda’r Cyngor a’r gymuned i gyflawni gweledigaeth y safle ac i gynyddu buddion i’r eithaf.
Richard Liddell ~ HA3 – Tir yn Heol Mounton, Cas-gwent
Mae Richard yn bensaer ac ymgynghorydd cynllunio gyda llawer o brofiad a chysylltiadau lleol, ac yn byw yn ymyl safle Heol Mounton.
Amlinellodd yr hanes cynllunio, gan nodi y dynodwyd safle Heol Mounton yn lletem werdd ers 1981 i atal ehangu trefol a diogelu tir agored o amgylch Cas-gwent.
Cyfeiriodd at lawer o bolisïau cynllunio a chynlluniau strwythur dros y blynyddoedd sy’n cadarnhau’r angen i gadw’r lletem werdd hon, yn cynnwys Cynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy a pholisïau penodol fel LC6.
Soniodd Richard am gais sgrinio gan y Cyngor yn 2024 a ddaeth i’r casgliad y byddai datblygiad yn cael effaith niweidiol sylweddol ar y dirwedd werthfawr, bioamrywiaeth a chysylltiadau diwylliannol.
Disgrifiodd y safle fel rhan allweddol o leoliad gwledig Cas-gwent, sy’n weladwy i’r rhai sy’n mynd i mewn i’r dref ac yn bwysig ar gyfer cadw ei chymeriad fel tref farchnad.
Dywedodd Richard iddo gynnal deiseb leol, a ganfu fod 70% o breswylwyr cyfagos yn gwrthwynebu’r datblygiad (ymwelwyd â 46 cartref a chafwyd 32 ymateb). Awgrymodd fod mwyafrif poblogaeth Cas-gwent yn ei wrthwynebu.
Ei ddadl yw nad oedd angen defnyddio’r safle hwn ar gyfer datblygu pan fo amgennau ar gael a nododd fod swyddogion y Cyngor mor ddiweddar â 2024 yn erbyn datblygu oherwydd effeithiau niweidiol sylweddol.
Daeth i ben drwy ddweud fod y cynnig yn groes i bolisïau cynllunio sefydledig a mwyafrif y farn leol, heb gyfarch pryderon ychwanegol fel traffig a llygredd.
Zoe John – Cymdeithas Tai Sir Fynwy ~ HA1 – Tir i ddwyrain y Fenni
Siaradodd Zoe ar ran Cymdeithas Tai Sir Fynwy a pherchnogion tir am y safle, a ddyrannwyd ar gyfer 500 cartref, gyda 50% tai fforddiadwy, canolfan cymdogaeth defnydd cymysg, safle parcio a theithio a defnyddiau B1.
Mae’r dyraniad yn dilyn dialog fanwl gyda swyddogion a chafodd ei lywio gan adborth i ymgynghoriad.
Bydd y safle yn estyniad trefol gyda chysylltiadau da cynaliadwy ac y gellir ei gyflawni, gan gyfrannu’n sylweddol at anghenion tai Sir Fynwy.
Cadarnhaodd asesiad hyfywedd annibynnol y gellir cyflawni’r safle, gan ystyried seilwaith a chostau adeiladu.
Mae Cymdeithas Tai Sir Fynwy yn ymroddedig i gyflenwi’r safle fel y’i dyrannwyd, gan ddod â buddion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol, yn arbennig wrth fynd i’r afael ag anghenion tai fforddiadwy.
Bydd mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn cefnogi mwy o dai, swyddi a ffyniant economaidd.
Gofynnodd am gefnogaeth a chymeradwyaeth i’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd er mwyn gwireddu ei fuddion i Sir Fynwy.
William Morgan – Pentref Rhaglan ~ cynnig am baneli solar ac ymestyn y parc menter presennol
Mae William a’i deulu yn ffermio’r tir a gynigir ar gyfer paneli solar ac ehangu Parc Menter Rhaglan. Dywedodd na fi unrhyw ymgynghoriad ymlaen llaw cyn derbyn hysbysiad.
Byddai ymestyn y Parc Menter yn anghyfleus ond gallai fod yn hylaw; fodd bynnag, byddai’r prosiect paneli solar yn drychinebus ar gyfer eu busnes llaeth.
Mae eu fferm yn rhoi blaenoriaeth i gynefin bywyd gwyllt, cadw gwrychoedd llydan a thal, a allai ostwng effeithiolrwydd paneli solar oherwydd cysgodi ac ysgyrion.
Byddai gosod paneli solar yn dadwneud blynyddoedd o ffermio adferol, niweidio ansawdd pridd a gwneud pori yn amhosibl yn arbennig liw nos gan y byddent yn colli 80% o’u tir pori nos.
Mae croesi’r ffordd i fynd i’r caeau sydd ar ôl yn anniogel i wartheg, yn arbennig mewn golau gwael, gan gynyddu risg damweiniau.
Byddai colli tir pori yn golygu diwedd eu busnes llaeth, gan arwain at golli o leiaf bedair o swyddi lleol ac effeithiau ehangach ar sectorau eilaidd.
Nododd William anghysondeb, gan y gwrthodwyd caniatâd i ffermwr lleol arall osod paneli solar, tra fod ei fusnes teuluol iau yn wynebu cau os yw’r prosiect yn mynd ymlaen.
Cododd bryderon am gynyddu risg llifogydd o dd?r ffo oherwydd y prosiect solar.
Mae William yn cefnogi ynni glân ond awgrymodd y dylai paneli solar gael eu gosod ar adeiladau neu feysydd parcio, nid tir amaethyddol cynhyrchiol.
Dywedodd fod y prosiect yn groes i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol drwy fygwth bywoliaeth ffermwyr ifanc a diogelwch bwyd lleol.
Anogodd fod y prosiect yn cael ei ailystyried i ganiatáu i’w deulu barhau i gynhyrchu bwyd lleol.
Gareth Barton – Turley ~ yn siarad am nifer o safleoedd
Mae Gareth yn cynrychioli Richborough, hyrwyddwr safle Maes y Sioe, rhan o ddyraniad strategol i’r dwyrain o Gil-y-coed. Pwysleisiodd ei fod yn cydweithio gyda pherchnogion y safle a hyrwyddwyr eraill.
Roedd yn cydnabod y gwaith a’r heriau sylweddol wrth baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol, gan dynnu sylw at natur uchelgeisiol y cynllun, yn cynnwys 50% o dai fforddiadwy a safonau cynaliadwyedd uchel.
Dywedodd y caiff y dyraniad ei gefnogi gan waith technegol ac ymgynghori helaeth, yn cynnwys llifogydd, draeniad, ecoleg, tirlun, trafnidiaeth, treftadaeth a seilwaith.
Esboniodd y caiff y dyraniad ei lywio gan gynllun meistr a pholisi HA2, gyda chyfleoedd yn parhau ar gyfer ymgysylltu a mewnbwn yn ystod dylunio manwl a cheisiadau cynllunio.
Amlinellodd y manteision allweddol: y safle yw’r lleoliad mwyaf addas ar gyfer dyraniad strategol yng Nghil-y-coed/Glannau Hafren, gan ei fod yn rhannol yn dir llwyd, yn cyflenwi cartrefi dim carbon (50% fforddiadwy), ysgol gynradd newydd, cyflogaeth, ardal chwaraeon aml-ddefnydd a chanolfan cymdogaeth.
Soniodd am y gofod agored sylweddol a’r seilwaith gwyrdd, heb unrhyw ddatblygiad yn cael ei adeiladu mewn parthau llifogydd neu i orllewin hen reilffordd y Weinyddiaeth Amddiffyn, diogelu lleoliad y castell a dynodiadau ecolegol.
Siaradodd Gareth am integreiddio gyda gwelliannau teithio llesol a chyfraniadau at wasanaethau bws ar gyfer cysylltedd. Anogodd y pwyllgor i gymeradwyo’r gwaith a chefnogi’r Cynllun Datblygu Lleol wrth iddo symud ymlaen.
Catherine Blyth - Asbri Planning ~ EA1 – Dyraniadau Cyflogaeth (Cyfeirnod Safle. EA1L: Tir yn hen safle’r Weinyddiaeth Amddiffyn, Caerwent; HA9
– Dyraniadau Preswyl – Tir yn hen safle’r Weinyddiaeth Amddiffyn, Caerwent; EA1B – Unedau Dofednod, Heol Rockfield, Trefynwy)
Mae Catherine yn cynrychioli dau hyrwyddwr safle: y dyraniad defnydd cymysg yn hen ganolfan hyfforddiant y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghaerwent (HA9) a’r dyraniad cyflogaeth yn yr hen unedau dofednod, Heol Rockfield, Trefynwy.
O ran hen ganolfan hyfforddiant y Weinyddiaeth Amddiffyn, pwysleisiodd ei fod yn safle tir llwyd sy’n wag a segur, a gynigir ar gyfer 20 o gartrefi fforddiadwy a 20 cartref marchnad agored ynghyd â gweithle swyddfa hyblyg.
Dywedodd y cafodd gwaith arolwg ac asesu helaeth ei gynnal i ddangos y gellir datblygu’r safle mewn ffordd dderbyniol, gyda mwy o waith ar y gweill ar gyfer gwneud cais, yn cynnwys diogelu a chyfoethogi bioamrywiaeth.
Ychwanegodd fod hyrwyddwr y safle yn edrych ymlaen at weithio gyda’r awdurdod i gyflenwi cartrefi a swyddi ar safle tir llwyd mewn lleoliad cynaliadwy.
Ar gyfer yr hen unedau dofednod yn Heol Rockfield, dywedodd ei fod yn ddyraniad cyflogaeth hyfyw ac y gellir ei gyflawni ar dir llwyd mewn lleoliad cynaliadwy, a all ddarparu gofod cyflogaeth ansawdd uchel ac ateb y galw am ofod swyddfa yn Nhrefynwy.
Soniodd Catherine nad oedd unrhyw wrthwynebiadau i ddyraniad yr unedau dofednod a bod yr hyrwyddwr yn edrych ymlaen at ddatblygu’r safle a gweithio gyda’r awdurdod.
Lynne Garnett - Travelling Ahead
Mae Lynne yn cefnogi cynnwys tir yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd ar gyfer safle yn y dyfodol ar gyfer Sipsiwn a Theithwr yn Sir Fynwy.
Soniodd am ddyletswydd gyfreithiol statudol y Cyngor dan y Ddeddf Tai i ddarparu ar gyfer cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, ac na chaiff y ddyletswydd honno ei chyflawni ar hyn o bryd.
Tanlinellodd bwysigrwydd dynodi a neilltuo tir i gyfarch yr angen hwn na chaiff ei ddiwallu.
Michelle Morgan – Cymdeithas Tai Sir Fynwy
Siaradodd Michelle ar ran Cymdeithas Tai Sir Fynwy, y landlord cymdeithasol cofrestredig mwyaf yn Sir Fynwy.
Dywedodd fod dros 3,900 o aelwydydd ar restr aros y Cyngor am dai fforddiadwy, yn cynnwys 203 a gafodd eu derbyn fel digartref.
Soniodd fod gan 52% o ymgeiswyr angen tai cydnabyddedig, yn cynnwys digartrefedd, anghenion meddygol/llesiant a gorlenwi.
Ychwanegodd fod 76% o ymgeiswyr o oedran gwaith, gyda 52% mewn cyflogaeth, gan amlygu problemau gyda fforddiadwyedd yn y sir.
Dynododd fod y galw uchaf am dai fforddiadwy yn y Fenni, gyda Chas-gwent, Cil-y-coed a Threfynwy yn dilyn.
Dywedodd fod 51% o’r ymgeiswyr angen llety un ystafell wely, gyda 70% ohonynt o oedran gwaith.
Cafodd 423 cartref eu dyrannu y llynedd, gyda 51% yn mynd i aelwydydd digartref.
Ar gyfartaledd daw 98 cynnig i law ar gyfer pob un annedd a gaiff ei hysbysebu, gan ddangos galw uchel.
Mae’r amserau aros ar gyfer ymgeiswyr angen uchel yn 12 mis neu fwy, gan amrywio yn ôl math annedd ac ardal.
Soniodd am ddwy astudiaeth achos: un achos lle’r oedd tai cymdeithasol wedi atal teulu rhag chwalu ac achos arall lle mae unigolyn mewn gwaith yn parhau i fethu sicrhau annedd er nifer fawr o gynigion.
Daeth Michelle i ben drwy ddweud fod angen sylweddol am gartrefi newydd fforddiadwy a bod y cynllun datblygu lleol newydd yn anelu cyfarch hynny.