Cofnodion:
Fe wnaethom ystyried cais i amrywio y drwydded mangre dan Ddeddf Trwyddedu 2003 o Mr Hiw Evans i Mr Edward Evans ar gyfer y canlynol:
|
Trwydded Gyfredol |
Trwydded Arfaethedig |
|
|
Cerddoriaeth Fyw*, Cerddoriaeth wedi ei Recordio** Dyddiau Iau:12.00-00.00, Dyddiau Gwener: 00.00-02.00 a 12.00-00.00, Dyddiau Sadwrn: 00.00-06.00 a 11.00-00.00, Dyddiau Sul: 00.00-06.00 a 11.00-20.00
Ar Benwythnosau Gwyliau Banc: Amserau Dyddiau Sul 00.00-06.00 a 11.00-00.00, Amserau Dyddiau Llun 00.00-06.00 a 11.00-20.00. Nos Calan : 16.00 - 06.00. *Nid oes angen trwydded ar gyfer cerddoriaeth fyw o fewn y fangre sydd â thrwydded cyn belled â’i bod yn digwydd rhwng 08.00-23.00 o’r gloch ac nad yw’r gynulleidfa yn fwy na 500 o bobl. **Nid oes angen trwydded ar gyfer cerddoriaeth fyw o fewn y fangre sydd â thrwydded cyn belled â’i bod yn digwydd rhwng 08.00-23.00 o’r gloch ac nad yw’r gynulleidfa yn fwy na 500 o bobl.
Lluniaeth Hwyrnos Dyddiau Iau: 23.00-00.00, Dyddiau Gwener: 00.00-02.00 a 23.00-00.00, Dyddiau Sadwrn: 00.00-05.00 a 23.00-00.00, Dyddiau Sul:00.00-05.00 Ar Benwythnosau Gwyliau Banc : Amserau Dyddiau Sul 23.00-05.00, Amserau Dyddiau Llun 23.00-05.00 Nos Calan : 23.00 - 05.00
Cyflenwi Alcohol Dyddiau Llun-Iau: 12.00-22.00, Dyddiau Gwener: 00.00-02.00 a 11.00-00.00 Dyddiau Sadwrn: 00.00-06.00 a 11.00-00.00, Dyddiau Sul: 00.00-06.00 a 10.00 - 23.00 Ar Benwythnosau Gwyliau Banc: Amserau Dyddiau Sul 00.00-06.00 a 11.00-00.00, Amserau Dyddiau Llun 00.00-06.00 a 11.00-20.00, Nos Calan: 16.00 - 06.00
|
Cerddoriaeth Fyw, Cerddoriaeth wedi’i Recordio (tu mewn a’r tu allan) Dyddiau Llun - Mercher:10:00–24:00 o’r gloch, Dyddiau Iau 10.00-04:00 o’r gloch Dyddiau Gwener a Sadwrn: 10:00–06:00 o’r gloch, dyddiau Sul: 10:00–04:00 o’r gloch, Gwyliau Banc a Nos Calan: 10:00 –06:00 o’r gloch. Ni fydd cerddoriaeth fyw yn digwydd y tu allan ar ôl 23:00 o’r gloch. Byddai angen penderfynu lefelau sain yn ôl gwiriadau clywededd mewn eiddo cyfagos.
Lluniaeth Hwyrnos Dyddiau Llun – Mercher: 23:00-24.00 o’r gloch, Dyddiau Iau 23:00-04:00 o’r gloch, Dyddiau Gwener a Sadwrn: 23:00–05:00 o’r gloch, Nos Calan a Dydd Calan – 23:00 – 05:00 o'r gloch
Oriau alcohol (i’w yfed ar y safle neu i ffwrdd o’r safle) Dyddiau Llun - Mercher:10:00–23.30 o'r gloch, Dyddiau Iau: 10:00-03:30 o’r gloch, Dyddiau Gwener a Sadwrn: 10:00–05:30 o’r gloch, Dyddiau Sul: 10:00– 03:30 o’r gloch, Gwyliau Banc a Nos Calan: 10:00– 05:30 o’r gloch Oriau agor: 00:00– 00:00 o’r gloch |
|
https://www.youtube.com/live/e38_Twtb3Hw?si=6y3eRtWQRrrgWiR_&t=256
Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeiswyr i’r cyfarfod a chyflwynodd aelodau’r Is-bwyllgor a’r Swyddogion oedd yn bresennol ac esboniodd y protocol ar gyfer y cyfarfod.
Cadarnhaodd yr ymgeiswyr iddynt dderbyn yr adroddiad a threfn y gwrandawiad a chydnabod y byddent yn symud ymlaen heb gynrychiolaeth gyfreithiol.
Cafodd y materion a’r manylion allweddol eu darllen yn uchel i’r Is-bwyllgor.
Roedd y gwrthwynebwyr wedi rhoi tystiolaeth ysgrifenedig ond nid oeddent yn bresennol yn y cyfarfod.
Cafodd yr ymgeiswyr gyfle wedyn i annerch yr Is-bwyllgor i gyflwyno unrhyw esboniadau perthnasol. Yn dilyn hyn, gofynnodd Aelodau’r Is-bwyllgor gwestiynau i’r ymgeiswyr a dilynodd trafodaeth. Cafodd yr ymgeiswyr wedyn gyfle i grynhoi.
Yn dilyn y cwestiynau, gadawodd aelodau’r Is-bwyllgor a Chyfreithiwr Cyngor Sir Fynwy y cyfarfod i ystyried a thrafod y canfyddiadau.
Ar ôl ail-ddechrau, dywedodd y Cyfreithiwr fod yr Is-bwyllgor wedi penderfynu yn unfrydol i gymeradwyo’r cais.
Rhoddodd yr Is-bwyllgor y rhesymau canlynol am y penderfyniad i gymeradwyo’r cais:
1. Mae’r ymgeiswyr wedi cytuno i gydymffurfio â’r holl amodau a nodir gan amodau’r Heddlu.
2. Mae’r ymgeiswyr wedi cydnabod y problemau/materion o gonsyrn a godwyd gan yr ymgeiswyr ac mae’r Is-bwyllgor yn fodlon gyda’r camau a gymerwyd gan yr ymgeisydd i optwng lefelau s?n (e.e. gweithredu mesurau atal s?n).
3. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i’r gwrthwynebiadau trwyddedu a gynhwysir yn Neddf Trwyddedu 2003. Nid oedd gan yr Is-bwyllgor unrhyw bryderon sylweddol yng nghyswllt y pedair amcan trwyddedu.
4. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i gyffordd y briffordd i fynd mewn/allan o’r fangre ac ystyriodd ddiogelwch y cyhoedd, sy’n un o’r Amcanion Trwyddedu dan Ddeddf Trwyddedu 2003. Gwnaeth yr Is-bwyllgor yr argymhellion canlynol i liniaru’r risg:
- Mae gwrych yr ymgeisydd sy’n agos at y gyffordd i gael ei gynnal i roi gwelededd da i ddefnyddwyr ffordd a cherddwyr.
- Bod yr ymgeiswyr yn rhoi hysbysiad ar eu gwefan am y gyffordd i fynd i mewn ac allan o’u mangre a bod angen gofal wrth fynd i mewn a gadael y fangre a mynd ar y briffordd.
- Hysbysiad i fod yn amlwg yn yr eiddo am y gyffordd a bod angen gofal wrth fynd i mewn a gadael yr eiddo a mynd ar y briffordd.
Dogfennau ategol: