Agenda item

Cais am Drwydded Safle Newydd - Only Foods & Sauces.

Cofnodion:

Ystyriwyd cais am drwydded safle newydd dan Ddeddf Trwyddedu 2003 ar gyfer Only Foods and Sauces Limited, Stad Ddiwydiannol Bulwark, Bulwark, Cas-gwent, NP16 5QZ.

 

Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd a chydymaith, tri phreswylydd lleol a’r Cynghorydd Sir Sue Riley, aelod ward yr ardal. Cyflwynodd Aelodau’r Is-bwyllgor, y swyddogion oedd yn bresennol ac esboniodd y protocol ar gyfer y cyfarfod.

 

https://youtu.be/hQZEvYfuc8M?si=FjaQFJ0v6AwYRRUF

 

Dywedodd pawb oedd yn bresennol iddynt weld yr adroddiad a threfn y pwyllgor. Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei bod yn hapus symud ymlaen heb gynrychiolaeth gyfreithiol.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Trwyddedu. Cafodd materion a manylion allweddol y cais (isod) eu darllen yn uchel i’r Is-bwyllgor a chyfeiriwyd at yr amcanion trwyddedu. Cadarnhaodd yr ymgeisydd mewn ysgrifen i’r Awdurdod Trwyddedu eu bod yn derbyn sylwadau gan Heddlu Gwent ac Iechyd yr Amgylchedd.

 

Darpariaeth Ffilmiau: Dyddiau Gwener - Sul – 09:00 i 23:00 (awyr agored)

Darpariaeth Cerddoriaeth Fyw: Dyddiau Gwener - Sul – 09:00 i 23:00 (awyr agored)

Darpariaeth Cerddoriaeth wedi’i Recordio – Dyddiau Llun - Iau - 09:00-14:00 a dyddiau Gwener - Sul – 09:00-23:00 (awyr agored)

Cyflenwi Alcohol: Dyddiau Gwener – Sul - 12:00-23:00 (ar y safle)

Oriau Agor (amserau arferol): Dyddiau Llun – Iau – 09:00-14:00 a dyddiau Gwener - Sul – 09:00-23:00

 

Cyflwynwyd gwrthwynebiadau gan breswylydd lleol oedd yn bresennol ac a gefnogwyd gan ddau berthynas. Cyflwynodd y Cynghorydd Sir Sue Riley ddau wrthwynebiad arall.

 

Prif bryder y gwrthwynebwyr oedd s?n a chyfeiriwyd at ddigwyddiad mewn g?yl banc lle dywedwyd y gellid cerddoriaeth o gryn bellter, gan darfu ar breswylwyr. Adleisiodd y Cynghorydd Sue Riley bryderon nifer o breswylwyr am ormod o gerddoriaeth awyr agored, yn arbennig o gymharu gyda safleoedd eraill sy’n cyfyngu cerddoriaeth i fod dan do ar ôl 9pm.

 

Roedd pryderon am niferoedd mawr o bobl yn tarfu, problemau traffig, sbwriel ac unigolion meddw er na nodwyd unrhyw ddigwyddiadau cyfredol. Mynegwyd pryderon hefyd am agosatrwydd at **glwb gymnasteg”

gyda phlant yn bresennol.

 

Pwysleisiodd y pwyllgor fod yn rhaid i wrthwynebiadau ymwneud â **phedair amcan trwyddedu:

1.     Atal troseddu ac anrhefn

2.     Diogelwch y cyhoedd

3.     Atal niwsans cyhoeddus

4.     Amddiffyn plant rhag niwed

 

 

 

Yn dilyn cwestiynau gadawodd Aelodau’r Is-bwyllgor Trwyddedu a Gamblo a Chyfreithiwr Cyngor Sir Fynwy y cyfarfod i ystyried.

 

Ar ôl ailddechrau, dywedodd y Cadeirydd fod yr Is-bwyllgor wedi ystyried yr achos yn llawn ac wedi rhoi ystyriaeth lawn i’r gwrthwynebiadau a wnaed wyneb yn wyneb ac mewn ysgrifen. Dywedodd y Cadeirydd y cyfeiriad at euogfarnau troseddol ei ddiystyru. Ar ôl ystyriaeth lawn, dyfarnwyd y drwydded gyda rhai amodau fel yr argymhellwyd gan:

 

Heddlu Gwent

 

• Cyflenwi alcohol i ddod i ben am 22:30 dyddiau Gwener – Sul i roi 30 munud o amser yfed lan

• Hyfforddiant ychwanegol ar gyfer staff yn gweithio yn y safle

• Gweithredu teledu cylch cyfyng mewn rhannau trwyddedig o’r safle

• Llyfr cofnodi digwyddiadau/gwrthodiadau

• Monitro’r safle ymhellach ac arddangos hysbysiadau yn y safle

• Gweithredu Cynllun Her 25

 

Iechyd yr Amgylchedd

 

• Gweithredu cynllun rheoli s?n

• Gosod dyfais cyfyngu s?n

 

Yn ystod y gwrandawiad, cyfeiriwyd at gyfamod ar y tir yn cyfyngu gwerthu alcohol. Cadarnhaodd y cyfreithiwr nad yw hyn yn cyfyngu pwerau awdurdod trwyddedu Cyngor Sir Fynwy i gyhoeddi trwydded safle.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: