Diolchodd y
Cadeirydd i aelodau’r cyhoedd am eu cyfraniadau ac esboniodd
y byddai’r Pwyllgor yn awr yn dechrau ar ddadl ffurfiol am y
galw mewn. Gofynnodd i’r Rheolwr Craffu roi esboniad byr
o’r broses galw mewn fyddai’n cael ei dilyn yn y
cyfarfod, yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor. Dywedodd y
Rheolwr Craffu y bwriedid i’r cyfarfod drafod penderfyniad a
wnaed ond na ddaeth i rym yn ymwneud â gosod hen lyfrgell y
Fenni. Rhoddwyd esboniad i bawb oedd yn bresennol am y broses galw
mewn a threfn siarad.
Mae adroddiad
penderfyniad y Cabinet yn rhoi cyd-destun llawn y materion
allweddol yn gysylltiedig â’r penderfyniad a gymerwyd
ar 21 Mai 2025, sydd ar gael drwyAgenda ar gyfer y Cabinet ar ddydd Mercher 21 Mai
2025, 4.30pm – Cyngor Modern. Ar gyfer cyd-destun
serch hynny, y penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 21 Mai 2025
oedd derbyn yr argymhellion canlynol:
Bod y Cabinet yn
cytuno ar y canlynol:
- Dyfarnu tendr y
brydles i Gymdeithas Gymunedol Fwslimaidd Sir Fynwy (MMCA).
- (ii) Dirprwyo
awdurdod i’r Prif Swyddog Adnoddau i negodi’r brydles
yn unol â’r dyfarniad tendr.?
Gofynnodd y
Cadeirydd i’r aelodau oedd wedi galw’r penderfyniad i
mewn i gyflwyno eu rhesymau dros wneud hynny, fel a nodir yn y
Ffurflen Gais am Alw Mewn:???
- Diffyg Craffu
Cywir/Proses Briodol ac Ymgynghori â’r
Gymuned:
- Cafodd y
penderfyniad hwn ei gymryd heb gael ei gyflwyno i’r
Pwyllgor(au) Craffu priodol cyn ei gymeradwyo gan y Gabinet. O
gofio am sensitifrwydd, maint a hyd y brydles, mae hyn yn fethiant
sylweddol o oruchwyliaeth ddemocrataidd.
- Dylai
penderfyniadau diddordeb cyhoeddus o’r maint hwn fynd drwy
graffu llawn i sicrhau ymgynghori â’r gymuned a
thryloywder.
- Mae angen
ymgysylltu democrataidd â’r gymuned oherwydd diffyg
craffu cyhoeddus oherwydd nad oedd angen caniatâd cynllunio
felly nad yw preswylwyr/busnesau/sefydliadau ffydd a’r
cyhoedd yn gyffredinol yn cael y cyfle arferol i roi sylwadau ar
faterion megis tagfeydd traffig, parcio, s?n a chyfyngiadau ar
oriau gweithredu.
- Cafodd y Cyngor
a’r Blaengynllun ei ddiwygio ar 21 Hydref 2024 ar Ddyfodol
Llyfrgell y Fenni ar gyfer adroddiad i’r Cabinet ar 6
Tachwedd 2024. Nid oedd ar agenda’r Pwyllgor Lle ar 21 Hydref
2024, a roedd y cyfarfod nesaf ar 7 Tachwedd 2024 ar ôl yr
Adroddiad i’r Cabinet ar 6 Tachwedd 2024 .
- Mae’r
adroddiad i’r Cabinet ar 6 Tachwedd 2024 yn rhoi manylion yr
effaith gadarnhaol na chafodd ei adlewyrchu yn y gwahoddiad i
dendro gyda’r cynnig i gynnig y safle ar gyfer defnydd
cymunedol neu fasnachol i gynyddu’r cyfleoedd agored sydd ar
gael ac sydd o ddiddordeb i bobl o bob oedran a gallu.
- Yn ychwanegol, ni
chafodd yr eitem ei chadw ar flaengynllunydd y Cyngor a’r
blaengynllunydd am y cyfnod a ddylai ac nid oedd hyd yn oed wedi ei
gynnwys yn agenda’r Pwyllgor Lle ar 22 Mai pan gafodd
adroddiadau eraill y Cabinet ar 21 Mai eu cynnwys.
- Mae’r
Gwahoddiad i Dendro yn tanlinellu’r statws cynllunio
gyda’i ddosbarth defnydd D1 cyfredol (fel llyfrgell) ond nid
yw’n rhoi manylion llawn yr opsiynau masnachol ar newid
defnydd yn cynnwys defnydd manwerthu a chyfanwerthu, er y cyfamod
ar y tir yn caniatáu defnydd o’r fath.
- Amseriad
Dadleuol a Chyfnod Cyfyngedig ar y Farchnad:
- Dim ond am bedair
wythnos ym mis Rhagfyr 2024 y cafodd yr eiddo ei farchnata, yn
ystod cyfnod sy’n adnabyddus am lai o ymgysylltu cyhoeddus a
busnes oherwydd tymor yr ?yl.
- Gall y ffenestr
gyfyngedig fod wedi llesteirio cysylltiad teg â’r
farchnad, gan efallai effeithio ar led ac ansawdd
cyflwyniadau.
- Pryderon am
Werth Gorau a Cynaliadwyedd Ariannol:
- Mae prydles o 30
mlynedd am £500 y mis (£6,000 y flwyddyn) ar adeilad
hanesyddol amlwg mewn lleoliad canolog yn codi pryderon difrifol am
Werth Gorau dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1999, sy’n rhoi
dyletswydd ar awdurdodau lleol i “wneud trefniadau i sicrhau
gwelliant parhaus yn y ffordd y caiff ei swyddogaethau eu
gweithredu, gan roi ystyriaeth i gyfuniad o ddarbodusrwydd,
effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd.”
- Er fod tendr wedi
cynnig yr un ffigur rhent, mae’n aneglur os yw hyn yn dangos
gwir werth y farchnad. Ni fu unrhyw brisiad annibynnol ac mae
ymroddiad 30-mlynedd heb ddiwydrwydd dyladwy o’r fath yn
gyn-amserol.
- Diffyg ansicrwydd
am yr angen am adeilad cyngor dros gyfnod mor hir.
Amlinellodd yr
Aelodau Galw Mewn eu rhesymau dros alw’r penderfyniad i mewn
(megis uchod) a gwnaed y pwyntiau ychwanegol canlynol:
Y Cynghorydd
Howarth
- Tanlinellodd y
Cynghorydd Howarth bwysigrwydd trylowyder a phroses gywir ym
mhenderfyniadau’r Cyngor. Nododd na chafodd y llyfrgell ei
gynnwys yn y cynllunydd am gyfarfodydd craffu y Cyngor, oedd yn
atal aelodau rhag trafod ei drosglwyddo i rheoli asedau.
- Dywedodd y Cynghorydd Howarth y
gwnaed y penderfyniad i drosglwyddo’r llyfrgell i rheoli
asedau heb roi cyfle i aelodau’r Cyngor graffu arno a’i drafod. Awgrymodd y cafodd
penderfyniadau blaenorol eu tynnu o’r cynllunydd, a chredai
fod hynny yn tanseilio tryloywder ac atebolrwydd.
- Galwodd y
Cynghorydd Howarth am newidiadau yng nghyfansoddiad y Cyngor i
sicrhau fod penderfyniadau yn parhau ar y cynllunydd ac y cynhelir
craffu cywir arnynt.
- Mynegodd bryder
fod y diffyg ymgynghori a thryloywder wedi siomi pobl Sir Fynwy
a’r Fenni
Y Cynghorydd
Buckler
- Tanlinellodd y
Cynghorydd Rachel Buckler bwysigrwydd hanesyddol a diwylliannol
Llyfrgell Carnegie i dref y Fenni.
- Soniodd am ddiffyg
ymgynghori a chyswllt gyda’r gymuned parthed y penderfyniad i
newid y llyfrgell yn fosg.
- Rhannodd y
Cynghorydd Buckler adborth gan breswylwyr oedd yn teimlo wedi eu
datgysylltu, wedi eu hanwybyddu ac yn poeni am broblemau parcio
a’r diffyg gwybodaeth a roddwyd iddynt.
- Beirniadodd y
broses gwneud penderfyniadau, gan nodi y cafodd preswylwyr eu
hysbysu gyntaf drwy’r papur lleol neu Facebook, a chredai fod
hynny’n annerbyniol.
- Holodd y
Cynghorydd Buckler os yw’n briodol dyfarnu tystysgrif
cyfreithlondeb ar gyfer yr adeilad heb graffu priodol a mewnbwn gan
y gymuned.
- Cododd bryderon am
hyfywedd ariannol a diwydrwydd daladwy y penderfyniad, yn cynnwys
diffyg manylion ar grantiau a chyllid.
- Galwodd y
Cynghorydd Buckler am safonau uwch o dryloywder a chraffu ym
mhenderfyniadau’r Cyngor, gan adlewyrchu disgwyliadau
preswylwyr Sir Fynwy.
Y Cynghorydd Louise
Brown
- Tanlinellodd y
Cynghorydd Brown bwysigrwydd craffu, proses briodol ac ymgynghori
â’r gymuned ym mhenderfyniadau’r Cyngor.
- Soniodd am ddiffyg
craffu cyhoeddus oherwydd nad oedd y penderfyniad angen caniatad
cynllunio, oedd yn atal preswylwyr a busnesau rhag rhoi sylwadau ar
faterion fel traffig, parcio, s?n a chyfyngiadau ar faterion fel
traffig, parcio a s?n a chyfyngiadau ar oriau gweithredu.
- Awgrymodd y
Cynghorydd Brown fod afreoleidd-dra gweithdrefnol, tebyg i nad oedd
gwaredu â’r llyfrgell wedi ei restru ar flaengynllunydd
y Cyngor ar gyfer y cyfarfod craffu, ac ystyriai fod hynny yn torri
rheolau gweithdrefnol.
- Awgrymodd mai
marchnata cyfyngedig fu ar yr eiddo, gan nodi iddo gael ei
farchnata am lai na phedair wythnos mewn cyfnod o lai o ymgysylltu
oherwydd tymor yr ?yl.
- Cwestiynodd y
Cynghorydd Brown agweddau ariannol y penderfyniad, gan ddadlau fod
y rhent o £6,000 y flwyddyn yn sylweddol is na’r rhent
marchnad rhesymol ym mhapurau cyllideb y Cyngor ei hun oedd yn
amcangyfrif rhwng £20,000 a £25,000 y flwyddyn. Galwodd
am brisiad annibynnol o’r eiddo ac awgrymodd y dylai’r
Cyngor ddefnyddio asiant arbenigol i hwyluso gosod yr adeilad, fel
yr amlinellir yn strategaeth rheoli asedau y Cyngor.
- Soniodd y
Cynghorydd Brown hefyd fod polisi Rheoli Asedau y Cyngor ar
warediadau’n ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol cael yr
ystyriaeth orau.
- Dywedodd y
Cynghorydd Brown mai dim ond dosbarth defnydd D1 oedd y gwahoddiad
i dendro yn ei gynnwys ac ar gyfer defnyddiau eraill i ddim ond
cysylltu â stadau eto mae adroddiad y Cabinet ar waredu yn
sôn am ddefnydd cymunedol a hefyd ddefnydd masnachol.
- Tanlinellodd y
Cynghorydd Brown yr angen am ymgynghori â’r gymuned cyn
llunio’r brydles, yn hytrach na wedyn, i sicrhau tryloywder a
mewnbwn gan y cyhoedd.
Gwaddodd y
Cadeirydd yr Aelod Cabinet, y Cynghorydd Callard i ymateb yn
ffurfiol. Wrth wneud hynny, gwnaeth y Cynghorydd Callard y pwyntiau
allweddol canlynol:
- Esboniodd y
Cynghorydd Callard y daethpwyd â’r penderfyniad i
ddyfarnu’r brydles i’r Cabinet i’w wneud yn fwy
amlwg, er y gallai swyddogion fod ei wneud dan bwerau wedi eu
dirprwyo. Nododd fod y Cyngor wedi cytuno i lawer o brydlesau heb
graffu neu alw mewn cyn dyfarnu, gan awgrymu fod y broses hon yn
gyson ag arferion y gorffennol.
- Tanlinellodd y
Cynghorydd Callard y cafodd yr adeilad ei ddatgan yn adeilad dros
ben ac na chafodd y penderfyniad ei alw mewn bryd hynny. Roedd y
broses dendro yn dryloyw a dewiswyd y cynnig gyda’r
sgôr uchaf. Dywedodd y byddai bod angen craffu ar gyfer pob
prydles yn anymarferol a gwrthgynhyrchiol, gan efallai oedi defnydd
asedau y Cyngor.
- Trafododd y
Cynghorydd Callard bryderon am barcio, gan gydnabod y broblem, ond
gan ddweud fod lleoliad yr adeilad yn addas ar gyfer y defnydd
arfaethedig, gyda meysydd parcio cyfagos ar gael. Dywedodd bod MMCA
yn gwybod am yr angen i liniaru effeithiau parcio ac yn bwriadu
cysylltu â’r gymuned ar ôl llofnodi’r
brydles.
- Amddiffynnodd y
Cynghorydd Callard y cyfnod marchnata, gan ddweud fod nifer y
tendrau a gafwyd yn dangos y bu cyswllt digonol â’r
farchnad. Dadleuodd yn erbyn yr angen am brisiad annibynnol neu
asiantau allanol, gan sôn am alluedd mewnol y Cyngor
a’r cyfyngiadau ariannol. Mynegodd y Cynghorydd Callard hyder
yn ymrwymiad MMCA i’r gymuned a’u gallu i gynnal a
chadw yr adeilad.
Estynnodd y
Cadeirydd wahoddiad i Nick Keyse, Rheolwr Datblygu Stadau a
Chynaliadwyedd i roi sylwadau ychwanegol:
- Eglurodd Nick fod
cytundebau prydles hir yn arferol ar gyfer asedau cymunedol, gan eu
bod yn rhoi sicrwydd am sicrhau cyllid grant gan sefydliadau tebyg
i’r Loteri Genedlaethol a Chwaraeon Cymru. Esboniodd fod
cyllidwyr grant angen prydlesau hirdymor i sicrhau y caiff
buddsoddiadau eu diogelu ac nad ydynt yn destun newidiadau mewn
defnydd.
- Ychwanegodd Nick
fod telerau terfynol y brydles, yn cynnwys agweddau fel cymalau
torri ac adolygiadau rhent, yn dal i gael eu negodi a’u
dirprwyo i swyddogion. Nododd y gallai’r cymal torri
danseilio’r sicrwydd sydd ei angen ar gyfer cyllid grant, gan
awgrymu efallai na fyddai cymalau o’r fath yn cael eu cynnwys
yn nhelerau y brydles derfynol.
Pwyntiau allweddol
a godwyd gan Aelodau’r Pwyllgor ac Aelodau oedd yn
ymweld:?
Gwahoddodd y
Cadeirydd gwestiynau i ddechrau gan Aelodau’r Pwyllgor ac yna
gan Aelodau eraill oedd yn bresennol, a gafodd eu hateb gan y
Cynghorydd Callard a Nick Keyse.
- Tanlinellodd y
Cynghorydd Davies bwysigrwydd sicrhau fod y cytundeb prydles yn
gydnaws gyda dyletswydd cyllidol y Cyngor i weithredu er budd
ariannol gorau trethdalwyr. Cyfeiriodd at papur rheoli asedau o fis
Chwefror 2023 oedd yn dweud fod Llyfrgell Carnegie yn flaenoriaeth
ar gyfer cyfleoedd masnachol, gan amcangyfrif fod ei werth rhent yn
£25,000 i £30,000 y flwyddyn ar werth gwerthu posibl o
dros £300,000. Roedd yn cwestiynu os oedd y cytundeb prydles
a gynigir yn gydnaws â’r nod o gynyddu i'r eithaf
botensial masnachol yr eiddo. Holodd os oedd tendr arall y barnwyd
ei fod yn fwy hyfyw yn fasnachol na’r un llwyddiannus.
Gofynnodd hefyd am nifer y prydlesau a wnaeth gyflawni cyfraddau
marchnad ymysg y 37 prydles yr ymrwymodd y Cyngor iddynt ers
2022.
Cydnabu’r
Cynghorydd Callard nad oedd y tendr yn cyflawni’r gwerth
masnachol a amcangyfrifwyd i ddechrau, ond tanlinellodd bwysigrwydd
cefnogi asedau cymunedol, hyd yn oed os yw hynny’n golygu
hepgor peth incwm. Cadarnhaodd mai’r tendr llwyddiannus oedd
yr un mwyaf cystadleuol yn ariannol ymysg y tendrau ar y rhestr
fer. Nid oedd gan y Cynghorydd Callard ddata penodol ar faint
o’r 37 prydles oedd wedi cyflawni cyfraddau marchnad ond
awgrymodd y gellid adolygu’r wybodaeth hon mewn cyfarfod
o’r pwyllgor craffu perfformiad a throsolwg.
- Mynegodd y
Cynghorydd Groucutt falchder yn ymroddiad y Cyngor i wneud Sir
Fynwy a’r Fenni yn gymuned nodded, gan amlygu integreiddio
pobl o ardaloedd lle mae gwrthdaro yn gadarnhaol i’r gymuned
leol. Tanlinellodd y byddai gan y fosg arfaethedig nifer o
ddibenion, yn cynnwys bod yn ganolfan addysgol, cymdeithasol,
economaidd a hamdden, nid dim ond yn fan gweddi. Nododd dwf
sylweddol y boblogaeth Fwslimaidd yn Sir Fynwy a’u rôl
bwysig yn y gymuned, yn arbennig yn y Fenni gyda’i ysbyty
mawr. Soniodd am ddefnydd anaddas yr adeilad yn y gorffennol fel
uned cyfeirio disgyblion a dadleuodd yn erbyn gadael yr adeilad yn
wag i ddirwyo. Cefnogai’r syniad o’r gymuned Fwslimaidd
yn defnyddio’r adeilad, gan ei weld yn gyfraniad cadarnhaol
i’r dref.
- Ailadroddodd y
Cynghorydd Brown ei phryder am gyfnod marchnata cyfyngedig o lai na
phedair wythnos yn ystod tymor yr ?yl ac y gallai hynny fod wedi
effeithio ar ehangder ac ansawdd cynigion. Cwestiynodd hyfywedd
ariannol y brydles, gan nodi gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrif o
rent marchnad ac union swm y brydles. Ailddatganodd ei barn fod
angen prisiad annibynnol a chyfnod o ymgynghori â’r
gymuned cyn cwblhau’r brydles. Dywedodd nad oedd y gwahoddiad
i dendro yn rhoi manylion yr ystod o ddefnyddiau posibl ar gyfer yr
eiddo, ac y medrai hynny fod wedi effeithio ar yr ystyriaeth orau a
gafwyd.
Cydnabu’r
Cynghorydd Callard heriau ymgynghori wrth ymrwymo i brydlesau a
thanlinellodd yr angen i gymryd camau gyda rhesymau da drostynt o
fudd i’r gymuned. Soniodd y cynigiwyd yr adeilad ar brydles
atgyweirio lawn, sy’n fuddsoddiad sylweddol ac efallai na
fyddai hynny’n ddeniadol i bob busnes. Dywedodd y Cynghorydd
Callard y byddai defnydd a gynigir ar gyfer yr adeilad fel canolfan
gymunedol a mosg yn dod â phobl i ganol y dref, gan fod o
fudd i fusnesau lleol heb gystadlu gyda nhw. Pwysleisiodd fod y
broses dendr yn deg a thryloyw ac mai’r tendr llwyddiannus
oedd yr un mwyaf cystadleuol yn ariannol ymysg y tendrau ar y
rhestr fer. Awgrymodd y Cynghorydd Callard fod sefyllfa ariannol y
Cyngor yn golygu fod angen defnyddio adnoddau mewnol ar gyfer
prisiadau a marchnata yn hytrach na llogi ymgynghorwyr allanol.
- Ailadroddodd y
Cynghorydd Howarth ei bryderon am ddiffyg tryloywder a chraffu
cywir yn y broses benderfynu. Holodd am y broses ymgynghori, gan
ofyn os cafodd Cyngor Tref y Fenni neu ymgyngoreion eraill eu
cynnwys cyn cyfarfod y Cabinet. Mynegodd yr aelod rwystredigaeth
gydag amseriad penderfyniadau, gan nodi y cynhaliwyd y cyfarfod
o’r pwyllgor craffu drannoeth y cyfarfod Cabinet, ac nad oedd
hynny'n galluogi adolygu cywir.
Esboniodd y
Cynghorydd Callard bod dirprwyo pwerau ar gyfer dyfarnu prydlesau
fel arfer yn syrthio ar swyddogion, ond aethpwyd â’r
penderfyniad i'r Cabinet i roi mwy o amlygrwydd iddo oherwydd
pwysigrwydd yr adeilad. Soniodd na chafodd y penderfyniad i ddatgan
yr eiddo yn adeilad dros ben ei alw mewn, gan awgrymu y dylid bod
wedi codi pryderon ar y cam hwnnw. Dywedodd y Cynghorydd Callard y
byddai’n wrthgynhyrchiol dod â phob penderfyniad am
brydlesau i’r pwyllgor craffu ac y byddai hynny yn llesteirio
gallu’r Cyngor i weithredu’n effeithlon fel landlord.
Roedd yn cydnabod y problemau gyda pharcio ond tanlinellodd fod
meysydd parcio cyfagos i’r adeilad a bod MMCA yn gwybod am yr
angen i liniaru’r effaith ar y gymuned leol. Eglurodd y
Cynghorydd Callard y byddai’r ymgynghoriad gyda’r
gymuned yn digwydd ar ôl llofnodi’r brydles, gan ei fod
yn rhoi sicrwydd i’r gr?p i gynnal gwaith maes. Cadarnhaodd y
caiff yr ymgyngoreion ar gyfer adroddiad y Cabinet eu rhestru ar
waelod yr adroddiad ac iddo ffonio Prif Swyddog Cyngor Tref y Fenni
er cwrteisi pan gyhoeddwyd y papurau.
- Cwestiynodd y
Cynghorydd Dymock gyfnod y brydles ac ar ba bwynt y cytunwyd ar
brydles 30-mlynedd. Mynegodd bryderon am y diffyg ymgynghori a
thryloywder, gan awgrymu fod hon yn broblem gyson sydd angen ei
thrin. Gofynnodd yr aelod pa gamau a gymerwyd i asesu os y
byddai’r cyfnod marchnata cyfyngedig yn arwain at
gynrychiolaeth deg o brydlesau posibl. Holodd pam na chafodd yr
eiddo ei gadw’n gyson ar Flaengynllunydd y Cyngor. Gofynnodd
yr aelod am eglurhad ar sut mae’r Cyngor yn bwriadu sicrhau
tryloywder ac ymgysylltu parhaus yn dilyn y
penderfyniad.
Esboniodd y Cynghorydd
Callard y cafodd y penderfyniad i ddatgan yr eiddo yn adeilad dros
ben ei wneud yn y Cabinet a dywedodd eto y gellid bod wedi gwneud
penderfyniad i alw mewn ar y cam hwnnw. Esboniodd fod cyfod prydles
30-mlynedd yn rhan o gyflwyniad y tendr ac nid yn rhywbeth a gafodd
ei gynnig i dechrau gan Gyngor Sir Fynwy. Soniodd fod cyfnod
prydles hir yn galluogi tenantiaid i gyrchu cyllid grant,
sy’n hanfodol ar gyfer cynnal a chadw a buddsoddi yn yr
adeilad. Tanlinellodd y Cynghorydd Callard fod y cytundebau prydles
yn cynnwys dulliau i adolygu rhai agweddau, sicrhau gwerth am arian
a chydymffurfiaeth gyda’r telerau. Dywedodd y caiff llawer o
adeiladau treftadaeth y sir eu cynnal drwy gyllid grant, a bod
prydlesau hir yn helpu i sicrhau hynny. Pwysleisiodd nad yw’r
Cyngor yn y busnes o gadw adeiladau yn wag a bydd yn gwaredu ar
asedau pan fo’n ddoeth gwneud hynny. Cydnabu hefyd heriau
ymgynghori wrth ymrwymo i brydlesau a chwestiynodd ymarferoldeb
gweithredol dod â phob penderfyniad prydles i bwyllgor
craffu. Awgrymodd y gallai craffu yn dilyn y penderfyniad fod yn
fwy addas ond tanlinellodd yr angen am gamau gweithredu gyda
rhesymau da drostynt sydd o fudd i’r gymuned. Dywedodd y
Cynghorydd Callard eto y cafodd yr adeilad ei gynnig ar brydles
atgyweirio lawn, sy’n fuddsoddiad sylweddol ac efallai nad
fyddai hynny yn ddeniadol i bob busnes.
- Cwestiynodd y
Cynghorydd Buckler os oedd y broses ymgynghori yn ddigonol, gan
ddweud nad oedd llawer o bobl yn gwybod am y penderfyniad ac yn
teimlo nad oedd yn dderbyniol ymgynghori ar ôl y
penderfyniad. Tanlinellodd bwysigrwydd Llyfrgell Carnegie i’r
gymuned a chwestiynodd pam na ofynnwyd i breswylwyr y Fenni am eu
dewisiadau ar gyfer defnydd yr adeilad. Ategodd yr aelod y gwnaed y
galw mewn oherwydd nad oedd y broses yn cynnwys digon o ymgysylltu
â’r gymuned.
Cydnabu’r
Cynghorydd Callard yr her o sicrhau fod pawb yn gwybod am
benderfyniadau’r Cyngor, gan nodi fod llawer o bobl yn brysur
gyda’u bywydau ac efallai nad ydynt yn dilyn
gweithgareddau’r Cyngor yn agos. Amddiffynnodd y penderfyniad
i esgyn y mater i’r Cabinet, gan ddadlau fod hynny’n
gam i roi mwy o sylw i’r penderfyniad. Esboniodd y Cynghorydd
Callard ei bod yn anodd canfod defnydd ar gyfer yr adeilad
fyddai’n plesio pawb a thanlinellodd gyfrifoldeb aelodau
etholedig i wneud penderfyniadau er budd gorau’r gymuned.
Awgrymodd na fyddai mynd â’r mater i’r Cyngor
llawn wedi newid y canlyniad ac ailfynegodd ei hyder yn y broses a
ddilynwyd.
Gwahoddodd y
Cadeirydd y Cynghorydd Laura Wright, yr Aelod ward lleol, i wneud
datganiad:
Y Cynghorydd
Wright
Datganodd y
Cynghorydd Wright ei chefnogaeth i’r penderfyniad i osod hen
adeilad y llyfrgell ar brydles i MMCA, gan nodi iddi bleidleisio o
blaid y brydles yn ei chyfarfod cyntaf o’r Cabinet.
Tanlinellodd bwysigrwydd craffu a gwneud penderfyniadau tryloyw,
ond amddiffynnodd y gweithdrefnau sefydledig a ddilynwyd wrth
ddyfarnu’r brydles. Dywedodd y Cynghorydd Wright mai cynnig
MMCA gafodd y sgôr uchaf yn y matrics gwerthuso, oedd yn
asesu galw, hyfywedd, addasrwydd defnydd a statws ariannol. Roedd
yn cydnabod pryderon preswylwyr a busnesau am ddiffyg ymgynghori
ond dywedodd fod MMCA wedi ymrwymo i ymgysylltu â’r
gymuned cyn defnyddio’r adeilad. Cyfeiriodd y Cynghorydd
Wright at bryderon am barcio, s?n a llygredd golau, gan ddweud y
byddai cynrychiolwyr MMCA yn barod i gwrdd gyda phreswylwyr i
drafod y materion hyn. Dywedodd eto y cafodd y brydles ei dyfarnu
yn seiliedig ar broses gystadleuol a bod y cynnig a ddewiswyd yn
diwallu dyletswyddau’r Cyngor ar optimeiddio ariannol a lles
y gymuned. Daeth y Cynghorydd Wright i ben drwy annog
aelodau’r pwyllgor i gefnogi’r penderfyniad, gan
bwysleisio’r gwerth cymdeithasol a’r cynhwysiant y
byddai’r brydles yn eu rhoi i’r gymuned.
Eithrio’r
Wasg a’r Cyhoedd
?
Gofynnodd y
Cadeirydd i’r Rheolwr Craffu
esbonio’r seiliau dros symud i sesiwn gaeedig, pe
byddai’r Pwyllgor yn dymuno hynny. Esboniodd y Rheolwr Craffu
y broses i’r cyhoedd a’r rhai oedd yn bresennol, gan
sôn am Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, sy’n
caniatáu eithrio’r cyhoedd am drafodaeth o wybodaeth a
eithriwyd, cyn belled â bod swyddog wedi gwneud asesiad fod y
budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na budd y cyhoedd
mewn datgelu’r wybodaeth.
Gofynnodd y
Cadeirydd i awdur yr adroddiad asesu’r budd cyhoeddus ac i
gynghori’r pwyllgor am y sail dros yr eithrio. Esboniodd y
byddai wedyn yn gofyn i’r pwyllgor dderbyn penderfyniad y
swyddog ?a phleidleisio arno cyn symud i sesiwn wedi ei
heithrio.
Dywedodd y Swyddog
Priodol fod y sail dros eithrio wedi eu seilio ar baragraff 14 y
Ddeddf Llywodraeth Leol sy’n cyfeirio at wybodaeth yn ymwneud
â materion ariannol neu fusnes unrhyw berson neilltuol yn
cynnwys yr awdurdod sy’n dal yr wybodaeth honno. Cadarnhaodd
fod yr asesiad hwn yn cefnogi symud i sesiwn gaeedig i drafod
gwybodaeth ariannol neu fusnes sensitif.
Pleidleisiodd y
pwyllgor i symud i sesiwn gaeedig drwy bleidlais o 5-4. Cafwyd
egwyl fer tra gofynnwyd i’r wasg a’r cyhoedd i adael y
cyfarfod. Gadawodd y Cynghorwyr Wright a Garratt y
cyfarfod.
Rhan 2 y Cyfarfod
(Cyhoeddus) ~ Canlyniad ffurfiol y craffu
Croesawodd y
Cadeirydd y cyhoedd yn ôl i’r cyfarfod. Diolchwyd
i’r Aelod Cabinet a’r swyddogion. Ar ran y Pwyllgor
mynegodd y Cadeirydd eu gwerthfawrogiad i aelodau’r cyhoedd
am eu cyfraniadau a’u hamser yn mynychu.
Dywedodd y
Cadeirydd fod gan y Pwyllgor dri dewis ar gael iddynt,
sef:?
- Derbyn y
penderfyniad.
- Cyfeirio’r
penderfyniad i’r Aelod Cabinet i’w ail-ystyried (gyda
rhesymau)?
- Cyfeirio’r
penderfyniad i’r Cyngor llawn.
?
Pleidleisiodd y
Pwyllgor ar yr opsiynau uchod. Yn dilyn y bleidlais, cytunodd y
Pwyllgor i gyfeirio’r penderfyniad yn ôl i’r
Aelod Cabinet i’w ail-ystyried, am y rhesymau
canlynol:
Gofynnir i’r
Aelod Cabinet i gynnal proses ail-dendro gyda’r amodau
canlynol:
- Prisiad
Annibynnol: Dylid cynnal prisiad annibynnol o incwm
rhent.
- Amserlen
Tendr: Dylid cytuno ar amserlen resymol a gyfer y broses
dendr.
- Arolwg
o’r Adeilad: Dylid cynnal arolwg annibynnol o’r
adeilad i ganfod cyflwr yr adeilad a chostau gwaith
angenrheidiol.
- Cydymffurfiaeth
Cynnal a Chadw: Sicrhau y caiff yr adeilad ei gynnal a chadw i
gydymffurfio gyda’i bwysigrwydd, gan alluogi darpar gynigwyr
i feddu ar yr holl ffeithiau fel y gallant wneud cynnig yn unol
â hynny.
- Ymgynghori
â’r Gymuned: Mae’n hanfodol ymgynghori
â’r gymuned, gan gynnwys preswylwyr lleol a busnesau
mewn penderfyniadau yn ymwneud ag adeilad Llyfrgell Carnegie.
- Pwysigrwydd
Hanesyddol: Rhoddir ystyriaeth briodol i
bwysigrwydd hanesyddol a chofebol yr adeilad i’r Fenni
a’i phobl ac y dylid ailystyried y posibilrwydd o
werthu’r adeilad a’i gynnwys yn y broses ymgynghori
gyda phobl y Fenni
Cofnodwyd y
pleidleisiau fel a ganlyn:
- Pleidleisiodd
pedwar Aelod i dderbyn penderfyniad yr Aelod Cabinet.
- Pleidleisiodd
pedwar Aelod i gyfeirio’r mater i’r Aelod Cabinet gyda
rhesymau.
- Pleidleisiodd un
Aelod i gyfeirio at y Cyngor Llawn.
Gweithredodd y
Cadeirydd yr hawl i bleidlais fwrw wrth gyfeirio’r mater yn
ôl i’r Aelod Cabinet (Opsiwn 2).