Cofnodion:
Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno gan Jane Rodgers, Alun Thomas, Kristian Williams, Huw Owen a Gareth Walters a atebodd gwestiynau aelodau:
Caiff safleoedd bwyd risg uchel eu categoreiddio yn seiliedig ar natur y bwyd a gynhyrchiant, risg traws-halogi a lefel cydymffurfiaeth. Mae categorïau risg uchel yn cynnwys cynhyrchwyr, siopau cigydd a safleoedd tecawe, gydag amlder archwilio yn amrywio o bob chwe mis i 18 mis yn dibynnu ar lefel y risg.
Mae’r gostyngiad yn nifer ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn rhannol oherwydd achos neilltuol o anodd y flwyddyn flaenorol a ysgogodd lawer o sylw yn y cyfryngau cymdeithasol. Er fod nifer y ceisiadau wedi gostwng, mae’n parhau’n uwch nag mewn blynyddoedd blaenorol.
Nid oes trothwy penodol ar gyfer cyfeirio digwyddiad at ESAG. Mae’r broses yn wirfoddol a chaiff digwyddiadau mwy o ran maint neu risg uwch eu hannog i hysbysu ESAG. Mae’r gr?p yn ymateb yn seiliedig ar y risg ac yn gweithio’n agos gyda’r gwasanaethau tân a heddlu i sicrhau diogelwch.
Caiff swydd wag y pennaeth diogelu’r cyhoedd ei gydnabod, ac mae’r uwch dîm arweinyddiaeth yn ei adolygu, gydag opsiynau posibl yn cael eu hystyried i lenwi’r bwlch.
Mae’r gostyngiad mewn perfformiad oherwydd cynnydd mewn llwyth gwaith a’r angen i roi blaenoriaeth i dasgau neilltuol. Mae ffocws y tîm ar ganlyniadau ac asesu risg i reoli’r llwyth gwaith yn effeithlon.
Er na wnaeth swyddogion gyflawni’n llawn ar lety mewn archwiliadau tecawe y llynedd, mae’n flaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn gyfredol.
Bu cynnydd mewn problemau lles anifeiliaid, yn arbennig anifeiliaid fferm, oherwydd yr argyfwng costau byw. Mae heriau wrth ddelio gyda’r achosion hyn, yn cynnwys yr angen am adnoddau a phwysigrwydd gweithio gyda’r llywodraeth i drin y problemau.
Oes, gellir dadansoddi ffigurau yn ôl afiechydon unigol fel E.Coli, Salmonela a Campylobacter. Caiff pob achos ei ymchwilio’n drwyadl gan gadw hanes yn seiliedig ar gyfnod deor pathogen penodol. Er enghraifft, gall ymchwiliadau Campylobacter edrych yn ôl dros 11 diwrnod i asesu hanes bwyd, cyswllt ag anifeiliaid, nofio mewn afonydd a chyswllt arall. Caiff ymchwiliadau eu cofnodi yng nghronfa ddata Taran, a gaiff ei rhannu ac sy’n caniatáu tagio ffynonellau posibl. Mae hyn yn helpu i ddynodi patrymau ar draws achosion – tebyg i nifer o bobl yn ymweld â’r un lleoliad – gan sbarduno ymchwiliad pellach os amheuir ffynhonnell gyffredin.
Mae mater gorfodaeth sylweddol fêps un-tro yn her a bu Llywodraeth Cymru yn rhagweithiol wrth roi gwybodaeth a chymorth. Mae hefyd heriau yn ymwneud ag osgoi deddfwriaeth a’r angen am adnoddau ychwanegol.
Mae prynu fêps un-tro ar lein yn her sylweddol a gwneir ymdrechion i drin hynny drwy ddulliau rhanbarthol a chydweithio gyda HMRC ac awdurdodau eraill.
Mae’r tîm yn gyson yn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith ymatebol a rhagweithiol, gyda ffocws ar gynyddu deilliannau iechyd cyhoeddus i’r eithaf. Mae’r tîm yn blaenoriaethu yn seiliedig ar asesiad risg a chynlluniau gwasanaeth, gan sicrhau y caiff gwaith rhagweithiol pwysig, fel llety uwchben safleoedd tecawe, ei drin.
Cafodd peth gwaith rhagweithiol, tebyg i lety uwchben safleoedd tecawe, ei ohirio oherwydd gofynion gwaith ymatebol. Mae’r tîm yn ymwybodol o’r risgiau ac yn canolbwyntio ar gyflenwi’r meysydd pwysig hyn yn y flwyddyn gyfredol.
Mae’r tîm yn adolygu ac yn ailgydbwyso blaenoriaethau yn rheolaidd yn seiliedig ar asesiadau risg dyddiol a chynlluniau gwasanaeth, gan sicrhau y caiff gwaith ymatebol a hefyd ragweithiol eu rheoli’n effeithlon.
Caiff staff eu diogelu drwy asesiadau risg a, phan fo angen, gynnwys yr heddlu. Mae ganddynt hefyd fesurau tebyg i anfon dau swyddog ar gyfer cadarnhau a chefnogi mewn ymweliadau cynhennus. Mae ymweliad ar y gweill lle bydd yr heddlu yn gysylltiedig.
Crynodeb y Cadeirydd:
Mae hwn yn waith pwysig iawn i’n preswylwyr ac mae’r pwyllgor yn ddiolchgar iawn amdano – gofynnwn i chi ddiolch i bob aelod o staff os gwelwch yn dda. Diolch i’r swyddogion am yr adroddiad a’u hymatebion heddiw. Cafodd yr adroddiad ei gynnig.
Dogfennau ategol: