Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Angela Sandles a Pennie Walker yr adroddiad. Atebodd Nia Roberts gwestiynau aelodau gyda Pennie Walker:
Yr opsiwn mwyaf dymunol ar hyn o bryd yw ymuno gyda Torfaen ar gyfer gwasanaethau cyfieithu. Mae hyn oherwydd tebygrwydd y mathau o ddogfennau a gaiff eu cyfieithu, a fyddai’n gwneud y broses yn fwy effeithiol a chyson. Mae manylion y cydweithio gyda Torfaen yn dal i gael eu cwblhau er mwyn sicrhau gweithredu llyfn.
Mae adolygiad dim-barn yn archwiliad mewnol sy’n helpu i ddynodi meysydd o gydymffurfiaeth a diffyg cydymffurfiaeth gyda Safonau’r Gymraeg. Nid yw’n archwiliad swyddogol ond mae’n rhoi gwybodaeth werthfawr ar gyfer datblygu cynllun gweithredu i drin meysydd sydd angen eu gwella.
Y nod bob amser yw cydymffurfiaeth 100%, er efallai na fedrir cyflawni hynny bob amser. Mae’r adolygiad dim-barn yn helpu i ddynodi meysydd ar gyfer gwella a chynhelir monitro rheolaidd i ddatrys problemau wrth iddynt godi.
Caiff yr adroddiad ei lywio gan ganllawiau Comisiynydd y Gymraeg, sy’n penderfynu pa Safonau a gynhwysir. Gall swyddogion roi diweddariad ar unrhyw Safonau nad ydynt yn cael sylw yn yr adroddiad.
Fe wnaeth 36 aelod o staff gwblhau’r lefel dechreuwr (Mynediad) a 12 wedi cwblhau’r lefel Sylfaen.
Mae heriau wrth gynnal cysondeb rhwng fersiynau Cymraeg a Saesneg llwyfannau digidol. Mae monitro rheolaidd, hyfforddiant a chyfathrebu gyda’r swyddog gwefan yn help i sicrhau cysondeb a sicrhau aliniad.
Byddai’n anodd canfod person ar lefel uwch sy’n rhugl yn y Gymraeg. Mae dysgu Cymraeg yn ymrwymiad sylweddol ac mae swyddogion yn gweithio ar wella adnoddau i helpu uwch arweinwyr i gynnwys mwy o Gymraeg yn eu gwaith.
Bu laniardau yn effeithlon wrth ddynodi siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, gan ei gwneud yn haws i’w hadnabod a chysylltu gyda nhw. Mae’r nifer sy’n cymryd rhan mewn cyrsiau Cymraeg yn tyfu bob blwyddyn, gan ddangos cynnydd mewn diddordeb ac effaith. Mae ymateb cadarnhaol i awgrymiadau Cymraeg yn y cylchlythyr staff, yn aml yn ysgogi cwestiynau dilynol gan staff. Dengys adborth gan y rhai sy’n cymryd rhan mewn cyrsiau eu bod yn mwynhau’r sesiynau ond eu bod eisiau mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith ac felly mae cynlluniau’r dyfodol yn cynnwys ymchwilio cynlluniau newydd i greu mwy o gyfleoedd i staff ddefnyddio’r Gymraeg. Caiff diwrnodau dathlu’r Gymraeg fel Diwrnod Shwmae eu cydnabod, er gall cynllunio fod yn her oherwydd adnoddau cyfyngedig.
Mae Sir Fynwy yn rhan o’r gr?p swyddogion Cymraeg yn ne ddwyrain Cymru lle maent yn rhannu arfer da. Maent hefyd yn cydweithio ar gynllun gofal cymdeithasol “Mwy na Geiriau” i sicrhau y rhoddir y cynnig gweithredol.
Y prif gost yn gysylltiedig gyda chydymffurfiaeth y Gymraeg yw cyfieithu, sydd yn gyson wedi bod yn uwch na’r gyllideb. Mae’r cyngor yn ymchwilio ymuno â gwasanaeth Torfaen i helpu gostwng y costau hyn. Mae’r costau eraill yn cynnwys cyflogau y swyddogion presennol ond caiff y rhan fwyaf o waith cydymffurfiaeth ei integreiddio i gyfrifoldebau dydd-i-ddydd holl swyddogion y cyngor, felly ni chaiff ei nodi ar wahân. Dyna pam na roddir dadansoddiad cost llawn. Cyfanswm y gost am y llynedd oedd £226,940.95.
Mae deallusrwydd artiffisial yn cyflwyno cyfleoedd i ostwng costau cyfieithu ond ni all gymryd lle pobl yn cyfieithu yn llawn oherwydd yr angen i brawfddarllen i sicrhau cywirdeb. Ar hyn o bryd, caiff cyfieithiu ei allanoli a chodir tâl fesul gair, sy’n cyfyngu’r gallu i integreiddio deallusrwydd artiffisial yn uniongyrchol i’r broses. Fodd bynnag, mae cynghorau eraill fel Torfaen yn defnyddio offer tebyg i systemau cof cyfieithu sy’n adalw cynnwys a gyfieithwyd yn flaenorol, sy’n helpu i ostwng gwaith a chost. Gallai ymchwilio systemau tebyg gynnig arbedion ar gyfer y dyfodol, yn arbennig wrth i’r cyngor geisio aros o fewn y gyllideb.
Crynodeb y Cadeirydd:
Diolch i’r Aelod Cabinet a swyddogion. Cynigiwyd yr adroddiad.
Dogfennau ategol: