Agenda item

Teithio Llesol - I graffu ar agweddau gwahanol ar Deithio Llesol.

Cofnodion:

Cyflwynodd Paul Sullivan yr adroddiad, rhoddodd gyflwyniad ac atebodd gwestiynau aelodau gyda’r Aelod Cabinet Sara Burch a Geraint Roberts:

 

  • Holodd aelod am anhawster sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau fel Pont y Fenni a chynlluniau eraill, o gofio’r gostyngiad o bedwar i un cynllun strategol a’r amserlen ddisgwyliedig ar gyfer cyflenwi .

 

Cydnabu’r swyddog yr her a achoswyd gan y newid mewn meini prawf cyllid, gan danlinellu pwysigrwydd cydweithio ar draws adrannau i sicrhau cyllid o wahanol ffynonellau, yn cynnwys llwybrau diogel a chyllid cymunedol a chynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol. Pwysleisiodd bwysigrwydd cael prosiectau i gam parod am dendr i’w cyflwyno ar gyfer cyfleoedd cyllid, gan sicrhau eu bod yn barod i’w gweithredu pan ddaw cyllid ar gael. Soniodd yr Aelod Cabinet am fuddion posibl cyllid aml-flwyddyn drwy bartneriaethau rhanbarthol CJC, a fedrai roi dull mwy cyson a chynlluniedig at gyflenwi prosiect.

 

  • Holodd aelod am amserlen y data yn dangos gostwng traffig yn Ysgol Gwndy a mynegodd bryderon am gam-drin cau dros dro gan rieni. Nododd fod ysgolion yn gwneud ymdrechion i blismona’r sefyllfa ond tanlinellodd yr angen am orfodaeth mwy effeithiol i fynd i’r afael â’r cam-drin parhaus ar gau dros dro.

 

Esboniodd y swyddog y casglwyd y data cyn ac ar ôl gweithredu strydoedd ysgol, gyda’r data diweddaraf o fis Mai yn dangos gostyngiadau sylweddol mewn traffig. Soniodd y caiff swyddogion gorfodaeth eu hanfon i’r safle i siarad gyda rhieni am barcio sy’n achosi problemau ac annog parcio ymhellach i ffwrdd. Cynhelir arolygon i gasglu adborth a chynllunio’r camau nesaf i ostwng traffig ymhellach o amgylch yr ysgol.

 

  • Mynegodd aelod rwystredigaeth am anhawster cael ymyriadau llai fel cwrb isel a llyfnu palmentydd wedi eu gwneud a gofynnodd am system i adrodd a rhoi blaenoriaeth i’r ceisiadau hyn. Holodd faint o ysgolion sy’n gweithio tuag at gynlluniau teithio llesol ac effeithlonrwydd y cynlluniau hyn. Gofynnodd pa ganran o fyfyrwyr Sir Fynwy sy’n cymryd rhan yn y sesiynau hyn a’r canran o fyfyrwyr sy’n cerdded neu’n seiclo i’r ysgol, a gwybodaeth am y canran o blant sy’n derbyn hyfforddiant seiclo ar ôl Cam 2.

 

Roedd swyddogion yn cydnabod yr angen i flaenoriaethu ac maent wedi ymroi i weithio ar system i adrodd a rhoi blaenoriaeth i enillion cyflym gan ystyried galluedd mewnol a chyfyngiadau cyllid. Dywedwyd fod cynlluniau teithio llesol gan 21 allan o 34 ysgol. Mae’r cynlluniau hyn yn ddogfennau treigl a chânt eu diweddaru yn flynyddol. Nid yw union nifer yr ysgolion sy’n gweithio ar gynlluniau ar hyn o bryd ganddynt ond fe wnaethant ymrwymo i roi’r wybodaeth honno – GWEITHREDU. Esboniodd swyddogion y caiff y sesiynau Pontio Diogelwch Ffordd eu cynnig i bob disgybl blwyddyn chwech ar draws Sir Fynwy, gan fod â ffocws ar lwybrau diogel i ysgolion cyfun. Cynigir hyfforddiant seiclo lefel un i bob ysgol, a chaiff hyfforddiant lefel un a dau ei ddarparu i bedair neu bump ysgol bob blwyddyn, gyda ffocws ar y rhai sy’n agos i ysgolion cyfun sy’n hyrwyddo seiclo. Rhannodd swyddogion ddata o arolwg 2021 yn dangos fod 63% o ddisgyblion ysgol uwchradd a 73% o ddisgyblion ysgol cynradd eisiau gwneud mwy o deithio llesol, gyda llai na 3% yn seiclo i’r ysgol ar hyn o bryd.

 

  • Gofynnodd aelod pa mor hir y dylai ei gymryd yn rhesymol am gais i gael cwrb isel fynd drwy’r broses ddylunio a chael ymateb clir – naill ai gymeradwyo neu wrthod. Mynegwyd rhwystredigaeth am y diffyg presennol o'r wybodaeth ddiweddaraf neu amserlenni ar ôl cyflwyno ceisiadau.

 

Esboniodd y swyddog fod amserlenni yn dibynnu ar flaenoriaethu a chyllid. Daw darlun cliriach i’r amlwg unwaith y caiff y rhaglen bresennol ei hadolygu a’i chategoreiddio (e.e. coch/oren/gwyrdd). Mae rhai dyluniadau cwrb isel ynghlwm â chynlluniau strategol ehangach fel cysylltiadau teithio llesol, sy’n cymhlethu cyflenwi. Mae amrywiadau mewn cyllid a galluedd dylunio mewnol cyfyngedig hefyd yn effeithio ar amserlenni. Fodd bynnag, roedd y swyddog yn cydnabod yr angen i symud yn gyflym ar y gwaith blaenoriaethu i reoli disgwyliadau yn well a gwella’r amser cwblhau ar gyfer ceisiadau blaenoriaeth uchel.

 

  • Gofynnodd aelod os cafodd y dyfarniad £6 miliwn i’r Fenni ei dderbyn neu os oedd yn dal yn gynnig. Mynegodd bryder yr ymddengys fod cynlluniau teithio llesol yn canolbwyntio ar ardaloedd trefol, gan efallai esgeuluso ardaloedd gwledig a lleoliadau penodol fel Cas-gwent. Gofynnodd am y cyllid ar gyfer Hyb Trafnidiaeth Cas-gwent, gan fynegi pryderon am y cyswllt rhwng yr orsaf bysus a’r orsaf reilffordd, a soniodd am beryglon rhai llwybrau, tebyg i’r A48 ger y ganolfan arddio, sy’n eu gwneud yn anaddas ar gyfer seiclo neu gerdded. Holodd am gynnal a chadw a hygyrchedd hawliau tramwy cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig a chododd bryderon am ddadleoli traffig oherwydd ymyriadau o amgylch ysgolion, sydd efallai yn achosi problemau mewn ardaloedd eraill.

 

  • Cadarnhaodd y swyddog y cafodd y dyfarniad o £6 miliwn ar gyfer y Fenni ei dderbyn ac y caiff ei ddefnyddio ar gyfer y prosiectau penodol. Esboniodd yr Aelod Cabinet fod y ffocws ar ardaloedd trefol oherwydd y pwyslais strategol ar werth am arian ac effaith cyllid, gan gydnabod pwysigrwydd ardaloedd gwledig a hawliau tramwy cyhoeddus. Cadarnhaodd swyddogion y cafodd cyllid Hyb Trafnidiaeth Cas-gwent ei ddyrannu y llynedd drwy gyllid craidd i gefnogi blaenoriaethau teithio llesol a gwaith paratoi ar gyfer gwaith paratoi ar gyfer y Gronfa Ffyniant Bro. Er fod y rhaid angen egluro rhai manylion am sut y caiff cyllid ei ddosbarthu ar wahanol elfennau prosiect, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau fod y cyllid yn parhau i fod ar gael o safbwynt Sir Fynwy. – GWEITHREDU: darparu diweddariad ysgrifenedig ar gyfer y pwyllgor. Mae swyddogion yn cydnabod heriau llwybrau peryglus a phwysleisiwyd yr angen i fod yn gydnaws gyda ffocws strategol a chyfyngiadau cyllid. Dywedwyd fod hawliau tramwy cyhoeddus yn cael eu hystyried, gydag ymdrechion i sicrhau eu bod yn hygyrch ac y cânt eu cynnal eu cadw, ond mae’r prif ffocws yn parhau ar lwybrau trefol strategol. Maent yn cydnabod problem dadleoli traffig a soniwyd y cynhelir arolygon ac ymgynghoriadau i ddeall  a mynd i’r afael â’r pryderon hyn – GWEITHREDU: edrych ar ddadleoli traffig ac adrodd yn ôl.

 

Jackie:

 

  • Mynegodd aelod ddiolch am y cynnydd ar y croesiad diogel ar gyfer myfyrwyr yn teithio i Ysgol Gyfun Cil-y-coed a gofyn am ddyddiad pryd y byddai’r gwaith drwy dir y castell yn dechrau. Tanlinellodd bwysigrwydd ardaloedd chwarae wrth hyrwyddo teithio llesol a soniodd am effaith gadarnhaol gwelliannau ym Mharc Cas Troggy. Soniodd am broblemau gyda pharcio yn Heol yr Eglwys a’r angen i gyfathrebu’n well gyda phreswylwyr am leoedd parcio. Gofynnodd yr aelod i’r ymgynghoriad gynnwys preswylwyr Castle Lea a gwnaeth gais i gael gwybodaeth yn gyson am ganlyniadau’r ymgynghoriad. Mynegodd bryder am effaith ar y B4245 o gau Pont Hafren i loriau a diogelwch myfyrwyr yn teithio o Fagwyr a Rogiet i’r ysgol gyfun.

 

Cydnabu y swyddog y broblem hir-sefydlog gyda chroesiad diogel ar gyfer Ysgol Gyfun Cil-y-coed a chadarnhaodd fod y gwaith yn mynd rhagddo, gyda disgwyl y gwaith adeiladu yn Ch3/Ch4. Cytunodd ar bwysigrwydd ardaloedd chwarae a dywedodd fod gwaith yn mynd rhagddo i ymgysylltu gydag aelodau lleol a rhanddeiliaid i sicrhau llwyddiant cynlluniau o’r fath. Mae swyddogion yn cydnabod y problemau parcio yn Heol yr Eglwys ac wedi ymroi i’w trin drwy wella cyfathrebu ac ymgynghori. Cadarnhawyd y byddai’r ymgynghoriad yn cynnwys preswylwyr Castle Lea a chaiff y cynghorydd ei hysbysu yn gyson am y canlyniadau. Cydnabuwyd y pryder am  effeithiau cau’r M4 i loriau ar y B4245 a phwysleisiwyd yr angen i fonitro’r sefyllfa yn agos i sicrhau diogelwch myfyrwyr.

 

  • Holodd aelod am faint a galluedd y tîm gorfodaeth, gan ofyn os oes digon o bersonél i reoli strydoedd a ffyrdd Sir Fynwy yn effeithiol.

 

Dywedodd swyddogion fod y cwestiwn tu allan i gwmpas y drafodaeth ar deithio llesol, ond cydnabuwyd bod y Cabinet yn adnabod yr angen a’r galw am orfodaeth. Bydd ateb ysgrifenedig am faint a galluedd presennol y tîm ar gael maes o law.– GWEITHREDU

 

  • Canmolodd aelod safon uchel peirianneg ar lwybr diogel newydd ger ei gartref yn y Fenni, a gaiff ei ddefnyddio gan lawer o blant o ysgolion cyfagos. Mynegodd bryder am yr angen am fonitro a chynnal a chadw parhaus ar y llwybrau diogel, yn arbennig y planhigiom newydd sydd angen gofal i’w hatal rhag cael eu trechu gan chwyn. Awgrymodd y dylid cau mwy o ffyrdd ger ysgolion i draffig yn ystod oriau ysgol i annog cerdded a gostwng nifer y teithiau car diangen.

 

Cydnabu’r swyddogion bwysigrwydd cynnal y safon uchel o beirianneg a’r angen am gynnal a chadw parhaus i sicrhau fod y llwybrau yn parhau’n addas i’r diben. Cytunwyd fod cynnal a chadw parhaus yn her a thanlinellwyd pwysigrwydd cynnwys rhaglenni cynnal a chadw wrth gynllunio llwybrau newydd. Soniwyd hefyd am rôl seilwaith gwyrdd wrth wneud llwybrau yn ddeniadol a diogel. Trafodwyd pwysigrwydd deall a dylanwadu ar ymddygiad i annog mwy o gerdded i’r ysgol, gan sôn am raglenni fel Strydoedd Byw a Thraciwr Cerdded i gymell teithio llesol ymysg plant.

 

  • Cwestiynodd y Cadeirydd ddyraniad £6 miliwn i’r Fenni a mynegodd bryder am ddiffyg cyllid ar gyfer Cas-gwent ac ardaloedd gwledig. Soniodd am bwysigrwydd trin anghenion ardaloedd gwledig a sicrhau tegwch wrth ddosbarthu cyllid. Mynegodd bryderon am gynnal a chadw hawliau tramwy cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig a’r angen i wella hygyrchedd. Soniodd am broblem dadleoli traffig pan weithredir cynlluniau newydd, gan ddefnyddio enghraifft problemau parcio ysbyty.

 

Esboniodd y swyddogion a’r Aelod Cabinet y cadarnhawyd y £6 miliwn ar gyfer y Fenni a thanlinellwyd pwysigrwydd ffocws ar y saith anheddiad mawr oherwydd y ffocws strategol ar lwybrau hyd at dair milltir. Roeddent yn cydnabod yr angen am degwch mewn cyllid a her trin ardaloedd gwledig o fewn cyfyngiadau cyllid cyfredol. Soniodd y swyddogion am bwysigrwydd cynnal hawliau tramwy cyhoeddus a dweud fod y tîm hawliau tramwy cyhoeddus yn gweithio ar y mynediad lleiaf cyfyngol. Nodwyd hefyd fod cynnal a chadw’r llwybrau hyn yn her a thanlinellu’r angen am barhau dialog gyda rhanddeiliaid lleol. Roeddent yn cydnabod problem dadleoli traffig a dywedwyd fod y tîm yn edrych ar hynny, gan danlinellu pwysigrwydd ymgysylltu ac ymgynghori â’r cyhoedd i drafod y pryderon hyn.

 

  • Soniodd y Cadeirydd am effaith sylweddol cau Pont Ingles/Vauxhall ar gymuned Trefynwy, gan nodi ei fod wedi rhannu’r dref mewn gwirionedd. Nododd hefyd bryderon am Heol Henffordd ac Ysgol Haberdashers, yn arbennig yng nghyswllt myfyrwyr h?n sy’n gyrru i’r ysgol a’r problemau parcio cysylltiedig, gan ofyn os yw’n bosibl i swyddogion drafod y mater gyda’r ysgol – GWEITHREDU: ymgynghori gyda swyddogion eraill ac adrodd yn ôl.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Diolch i’r swyddogion a’r Aelod Cabinet am yr adroddiad a’u hatebion i gwestiynau’r pwyllgor. Anfonir copi o gyflwyniad heddiw at Felicity Branigan – GWEITHREDU

 

 

Dogfennau ategol: