Cofnodion:
Rhoi trosolwg o'r cyllid ar gyfer priffyrdd, cyfrifoldebau'r Cyngor, Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) ac eraill. Trafodaeth ar faterion a godwyd gan Aelodau mewn perthynas â'r M48, yr A466 a'r ddwy Bont Hafren.
Rhoddodd Carl Touhig gyflwyniad ac ateb cwestiynau aelodau gyda Deb Hill-Howells:
Cwestiynau allweddol a godwyd gan Aelodau:
· Sut y penderfynir ar gyfrifoldeb SWTRA am ffyrdd a pham nad yw rhai ffyrdd A yn gyfrifoldeb iddynt?
Mae dyraniad cefnffyrdd yn gymhleth ac ymddengys ei fod yn gysylltiedig â’r system traffyrdd. Er enghraifft, mae’r A48 o draeth I i lawr drwy Gas-gwent yn ffordd SWTRA, ond nid felly yr A4810. Nid yw’r union feini prawf ar gyfer y dyraniad yn hollol glir.
· Pan mae SWTRA yn gwneud toriadau diogelwch, a ddylent hefyd fod yn casglu sbwriel? Mae’n aml yn edrych yn waeth ar ôl y toriadau.
Yn ddelfrydol dylai SWTRA gasglu sbwriel cyn torri gwair, ond nid yw hyn yn digwydd bob amser. Mae Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 yn dweud mai awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am glirio sbwriel ar gefnffyrdd, sy’n gwneud y mater yn fwy cymhleth.
· Beth yw ein gweithlu llafur uniongyrchol mewn priffyrdd?
Mae gan yr ochr cynnal a chadw tua 30 o weithwyr, gyda 24 o weithwyr wedi rhannu’n gyfartal rhwng y gogledd a’r de. Mae tua 10-12 o bobl yn y swyddfa gefn ac mae tua 40 arall yn gwneud gwahanol swyddi o fewn priffyrdd.
· Beth yw’r gwariant blynyddol ar gontractwyr mewn priffyrdd?
Mae’r gwariant ar gontractwyr allanol ar gyfer
cynnal a chadw yn gymharol isel ond caiff prosiectau mawr fel rhoi
wyneb newydd ar y Bont Wen, sy’n costio tua hanner miliwn, eu
gwneud yn allanol. Mae’r cyfanswm gwariant tua £3-4
miliwn, gyda chyllideb SWTRA ychydig yn fwy na £5
miliwn.
· A yw’r gweithdy priffyrdd sydd ar y gweill yn agored i bob aelod?
Ydi, bydd y seminar ar briffyrdd ar gyfer aelodau yn agored i bob aelod. Bydd yn rhoi sylw i system BRAG a’r matrics ar gyfer blaenoriaethau gwaith ffordd.
· A fedrwn godi mater deddfwriaeth ar gyfer sbwriel gyda SWTRA a Llywodraeth Cymru?
Ydi, mae’n bosibl codi’r mater. Ar hyn o bryd nid oes gan Gymru ddeddfwriaeth i erlyn gyrwyr am daflu sbwriel. Mae hyn yn bryder parhaus a gwneir ymdrechion i wthio am ddeddfwriaeth o’r fath.
· Beth fyddai effaith israddio’r M4 i liniaru traffig drwy Magwyr a Chas-gwent pan fydd pont yr M48 ar gau?
Esboniodd Deb fod y potensial ar ffordd gyswllt newydd ar yr M48 yn rhan o argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru. Byddai dad-ddosbarthu yr M48 ac adeiladu cyffordd newydd yn gostwng costau yn sylweddol ac yn gwella llif traffig. Fodd bynnag, i ddechrau gwrthwynebodd swyddogion Llywodraeth Cymru y syniad o ddad-ddosbarthu oherwydd goblygiadau gwyro. Mae Cyngor Sir Fynwy yn parhau i hyrwyddo’r cynllun ac mae wedi ei gynnwys yn yr ymgynghoriad ar y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol. Caiff cefnogaeth y cyhoedd ar gyfer yr ymgynghoriad ei annog i helpu hybu’r prosiect.
· Pam fod SWTRA yn cau Cyffordd Thornwell ac yna’n cyfeirio traffig yn ôl ar y bont i lon sengl, gan achosi pryderon ar gyfer preswylwyr lleol?
Mae SWTRA yn cau Cyffordd Thornwell ac yn cyfeirio traffig yn ôl ar y bont i un lôn i reoli llif traffig a sicrhau diogelwch. Mae’r dull yn helpu i arafu traffig ac atal tagfeydd ar y bont drwy gyfuno cerbydau i un lôn cyn iddynt gyrraedd y bont. Fodd bynnag, gall y dull hwn achosi problemau sylweddol ar gyfer preswylwyr lleol, yn arbennig yng nghylchfan Thornwell. Soniodd Carl y byddai’n trafod hyn gyda SWTRA i ymchwilio datrysiadau eraill ar gyfer rheol traffig a fedrai liniaru’r effaith ar breswylwyr lleol.
· Pryd y caiff rhwystrau diogelwch newydd eu gosod yn lle’r rhai a fu’n broblem am dros flwyddyn?
Dim yn y flwyddyn ariannol yma. Mae ganddynt amserlen ond byddwn yn ceisio cael ateb yn ôl ganddynt.
· Beth yw barn y Cyngor am grwpiau gwirfoddol yn casglu sbwriel ar ffyrdd?
Mae’r Cyngor yn ddiolchgar iawn i grwpiau gwirfoddol casglu sbwriel. Maent yn cynghori’r grwpiau hyn i gasglu sbwriel ar ffyrdd arafach ac osgoi cefnffyrdd oherwydd pryderon am ddiogelwch. Mae’r Cyngor yn darparu dillad hi-vis ac weithiau reoli traffig ar gyfer casglu sbwriel ar raddfa fwy.
· Beth yw’r broses ar gyfer trwsio tyllau yn y ffyrdd, a sut y cânt eu blaenoriaethu?
Pan wneir adroddiad am dwll yn y ffordd, mae’r tîm i ddechrau yn defnyddio tarmac oer am ateb cyflym i sicrhau diogelwch. Ar gyfer gwaith trwsio mwy gwydn, defnyddir tarmac poeth ond mae angen mwy o drefnu ar gyfer hyn a gall olygu cau ffyrdd. Mae’r blaenoriaethu yn ystyried defnydd ffyrdd, diogelwch a ffactorau eraill.
· A oes amserlen gyfreithiol am drwsio tyllau yn y ffordd unwaith y rhoddir hysbysiad amdanynt?
Oes, mae gofyniad cyfreithiol i drin tyllau yn y ffyrdd fewn amserlen neilltuol unwaith yr hysbyswyd i sicrhau diogelwch ffordd.
· A fedrwch roi esboniad o Gynllun Benthyca Llywodraeth Leol (LGBI)?
Mae’r LGBI yn galluogi awdurdodau lleol i fenthyca arian, gyda Llywodraeth Cymru yn darparu’r cyllid i ad-dalu’r benthyciad dros 20 mlynedd. Mae’r cynllun yn helpu i ariannu cynnal a chadw ffyrdd a phrosiectau gwella.
· Pwy sy’n gyfrifol am drwsio pontydd dros gefnffyrdd, tebyg i’r rhai dros yr A449, sydd mewn cyflwr gwael?
Gall cyfrifoldeb am y pontydd hyn fod yn gymhleth. Yn gyffredinol, os oes pont yn mynd dan neu dros gefnffordd, ystyrir mai SWTRA sy’n gyfrifol amdani. Fodd bynnag, mae cytundebau a darluniadau sy’n manylu cyfrifoldebau cynnal a chadw.
· Sut mae perfformiad Cyngor Sir Fynwy mewn cynnal a chadw ffyrdd yn cymharu gydag awdurdodau lleol?
Mae cyflwr ffyrdd Sir Fynwy yn debyg i awdurdodau lleol eraill. Nid yw cyflwr cyffredinol y rhwydwaith ffyrdd ar draws y Deyrnas Unedig, yn neilltuol yng Nghymru, yn wych ond nid yw Sir Fynwy yn waeth nag eraill.
· Sut mae SWTRA yn monitro ac yn rheoli llif traffig o amgylch Trefynwy gyda’i system gwrthlif bresennol a gwaith ffordd arall?
Mae SWTRA yn weithredol wrth reoli llif traffig ac mae wedi gwella ei berthynas gydag awdurdodau lleol i reoli effaith gwaith ffyrdd ar gymunedau lleol yn well. Mae ganddynt fesurau yn eu lle, tebyg i gerbydau tynnu, i fedru trafod problemau yn gyflym tebyg i gerbydau yn torri lawr.
· Pam y cafodd coed eu cwympo yn agos at y gyffordd a’r twnnel a pham na chafodd aelodau lleol eu hysbysu?
Cafodd y coed eu cwympo oherwydd eu bod wedi pydru a bod angen eu symud. Mae SWTRA wedi cydnabod y diffyg cyfathrebu ac wedi cytuno i wella ymgynghoriad a phlannu coed eraill yn lle’r rhai a gafodd eu cwympo.
· Beth yw statws gwaith trwsio ar Heol Staunton a’r Ffordd Gyswllt?
Mae angen gwaith sylweddol ar Heol Staunton, ac amcangyfrifir y bydd o gost rhwng £15-18 miliwn. Mae gwaith dylunio yn mynd rhagddo. Mae’r Ffordd Gyswllt hefyd ar y rhaglen atgyweirio, ond ni chafwyd amserlenni penodol.
· A all Cyngor Sir Fynwy weithio gyda Chyngor Dosbarth Coedwig y Ddena i drin effaith traffig trwm o’r chwarel ar Heol Staunton?
Mae’r Cyngor yn cydnabod effaith traffig trwm o’r chwarel ac yn agored i weithio gyda Chyngor Dosbarth Coedwig y Ddena i fynd i’r afael â’r materion hyn.
· A oes dull o roi adborth i aelodau lleol er mwyn osgoi cam-ddealltwriaeth, yn arbennig yng nghyswllt y coed ceirios?
Soniodd Carl eu bod wedi cael cyfarfodydd cyson gydag aelodau Trefynwy yn ystod y gwaith yn y dref ac wedi defnyddio sianel Teams i roi gwybodaeth i bawb. Roedd yn cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu i osgoi camddealltwriaeth a dywedodd eu bod yn ceisio rheoli s?n a lefelau cyfathrebu yn effeithlon.
Eitemau Gweithredu:
Dogfennau ategol: