Agenda item

Gwerthuso Rheoliadau Ystlumod a Chynefinoedd – Trafod Gwerthusiadau Rheoliadau Cynefinoedd ystlumod pedol a chysylltiedig, yn arbennig yng nghyswllt cynigion am dai newydd.

Cofnodion:

Rhoddodd Craig O’Connor sylwadau cyflwyno, pan danlinellwyd ymroddiad Cyngor Sir Fynwy i’r argyfwng hinsawdd a natur a sicrhau fod cynigion datblygu yn gynaliadwy a chytbwys. Eglurodd nad yw Cyngor Sir Fynwy yn dileu mesurau diogelu ar gyfer ystlumod a’i fod yn anelu i ddiogelu a chyfoethogi buddiannau ecolegol a bywyd gwyllt. Esboniodd Craig mai nod dull y cyngor o eirio polisi yw osgoi bod yn rhy rhagnodol, gan roi hyblygrwydd i ofyn am arolygon ystlumod ac asesiadau ecolegol ar gyfer pob math o ddatblygiad ac ardal, nid dim ond o fewn parthau cynhaliaeth creiddiol.  Sicrhaodd aelodau y cynhelir proses ymgynghori fanwl ar y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn cynnwys mynd i’r afael â phryderon a godwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru am fethodoleg asesu rheoliadau cynefinoedd. Soniodd Craig y caiff y cynllun ei adolygu gan arolygydd cynllunio annibynnol fydd yn archwilio’r asesiad rheoliadau cynefin a gwneud penderfyniad gwybodus os yw’r datblygiad yn dderbyniol ai peidio.

 

Rhoddodd Kate Stinchcombe gyflwyniad yn amlinellu ymatebion Cyngor Sir Fynwy i’r pryderon a godwyd. Cafodd cwestiynau aelodau eu hateb gan Craig O’Connor a Kate Stinchcombe:

 

  • Gofynnodd aelod i Andy Karran o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent os ydynt yn credu fod y diogeliad ar gyfer ystlumod pedol wedi ei leihau.

 

Dywedodd Mr Karran ne chredai y bu unrhyw leihau yn y mesurau diogelu ar gyfer ystlumod pedol. Esboniodd y gwnaed y newidiadau mewn geiriad i sicrhau y caiff yr effeithiau ar ystlumod ei asesu ym mhob rhan o Sir Fynwy mewn gwahanol amgylchiadau. Mynegodd bryderon am arwyddocâd yr ardal ddatblygu arfaethedig o fewn y parth cynhaliaeth creiddiol, gan nodi y gall ardaloedd sy’n agos at fan clwydo mamolaeth fod yn fwy gwerthfawr. Tanlinellodd yr angen i edrych os yw’r ardal ddatblygu arfaethedig yn dal i fod yn arwyddocaol er mai canran fach o’r ardal cynhaliaeth yw hi.

 

  • Mynegodd aelod bryder fod tynnu manylion penodol am barthau cynhaliaeth creiddiol ar gyfer ystlumod pedol mwy ac ystlumod pedol llai gan sôn yn benodol am safle yn Drenewydd Gellifarch. Gofynnwyd os y cynhelir arolygon ar gyfer safleoedd eraill yn y parthau hyn.

 

Eglurwyd fod safle Redlands yn Drenewydd Gellifarch o fewn parth dau cilometr o safle gaeafgwsg, sydd angen gwahanol ystyriaethau arolwg i safleoedd mamolaeth. Esboniwyd mai gwerth ecolegol isel sydd gan safle Redlands, gyda gwrychoedd a gaiff eu rheoli’n agos, a soniodd am bwysigrwydd asesiad achos-wrth-achos. Tanlinellwyd yr angen am hyblygrwydd yng ngofynion yr arolwg i fynd i’r afael ag amodau penodol i’r safle. Sicrhawyd aelodau y caiff mannau clwydo gaeafgwsg eu hystyried yn yr atodiad i’r asesiad rheoliadau cynefinoedd.

 

·         Dywedodd yr aelod fod tynnu manylion penodol am arolygon ystlumod a lliniaru’r polisi yn ei wanhau. Awgrymwyd y dylai polisïau lleol atgyfnerthu polisïau cenedlaethol i danlinellu pwysigrwydd lleol

 

Esboniwyd fod yn rhaid i’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd fod yn gydnaws ag arweiniad Llywodraeth Cymru, sy’n golygu fod angen osgoi dyblygu polisïau cenedlaethol. Maent yn cydnabod yr her ond pwysleisiwyd fod y Cynllun hwn y rhan o fframwaith polisi cynllunio ehangach, yn cynnwys polisïau cenedlaethol a rhanbarthol. Rhoddwyd sicrwydd y caiff pob ymateb i’r ymgynghoriad eu hadolygu ac y gellir gwneud gwelliannau i gryfhau polisïau lle mae angen.

 

  • Nododd wanhau cyffredinol yng ngeiriad a mesurau diogelwch yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd arfaethedig o’i gymharu â’r cynllun datblygu lleol cyfredol, gan awgrymu fod blaenoriaethau diogelu yn drech na mesurau diogelu.

 

Dywedodd y swyddog fod faint o wybodaeth a gasglwyd ar gyfer safle Trefynwy yw’r lefel uchaf o wybodaeth a welodd erioed ar gyfer safle datblygu, sy’n briodol oherwydd ei agosatrwydd at yr Ardal Cadwraeth Arbennig. Dywedwyd mai nod y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yw gwella polisïau tu hwnt i’r Cynllun Datblygu Lleol presennol a fabwysiadwyd, gan gynnwys safonau newydd ar gyfer gofynion sero net ac ynni adnewyddadwy, a fydd yn rhoi’r dulliau i’r pwyllgor cynllunio  orfodi safonau uwch ar gynigion datblygu. Os aiff amser sylweddol cyn y symudir ymlaen â’r datblygiad, byddai angen diweddaru arolygon.

 

  • Gofynnodd aelod am eglurhad ar pwy oedd yn ymwneud â chymeradwyo’r broses ar gyfer yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a sut yr oedd gwahanol safbwyntiau o fewn y tîm ecoleg yn cael eu hystyried yn y canlyniad terfynol.

 

Esboniwyd fod Cyngor Sir Fynwy wedi rhoi contract i Aecom i gynnal yr Asesiad Rheoliadau Cynefinodd. Roedd y broses yn cynnwys trafodaethau rhwng Aecom a thîm mewnol ecoleg y cyngor. Teimlai’r cyngor fod geiriad polisi Aecom yn rhy rhagnodol a bod angen hyblygrwydd i  ofyn am arolygon ecolegol y tu allan i’r parth tair cilometr. Cafodd yr Asesiad ei gymeradwyo gan swyddogion a chaiff ei adolygu gan arolygydd cynllunio annibynnol pan gaiff ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

  • A yw’r mesurau a gymerir yn ddigonol i ddiogelu ystlumod ac a oes angen mwy o waith arolwg? Mae pryderon am effaith adeiladu tai ar gynefinoedd ystlumod, yn cynnwys s?n, golau a tharfu.

 

Er y bydd gan unrhyw ddatblygiad beth effaith, esboniodd y swyddog mai’r nod yw rheoli a lliniaru’r effeithiau hyn. Mae lefel bresennol gwybodaeth ar gyfer safle Trefynwy yn helaeth ac mae’n cynnwys mesurau fel coridorau tywyll i leihau llygredd golau. Nodwyd fod egwyddor datblygu wedi ei selio ar yr wybodaeth orau sydd ar gael ac y byddid angen mwy o arolygon pe byddai llawer o amser yn mynd heibio cyn i’r datblygiad ddechrau. Nod y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yw cydbwyso anghenion tai gyda mesurau diogelu ecolegol, gan sicrhau datblygu cynaliadwy. Soniwyd fod y cynllun yn cynnwys arolygon ecolegol sylweddol ar gyfer pob safle a bod y  broses yn cynnwys asesiad ac adolygiad trwyadl gan arolygydd cynllunio annibynnol. Soniwyd am bwysigrwydd darparu tai a chyfleoedd economaidd tra’n cynnal buddiannau ecolegol.

 

  • Gofynnodd yr aelod ymhellach os na fyddai unrhyw niwed i ystlumod o adeiladu.

 

Dywedodd y swyddogion y bydd yn niweidiol, ond mai’r ystyriaeth allweddol yw os yw’r niwed hwnnw yn andwyol. Esboniwyd fod y mesurau arfaethedig, megis y polisi awyr dywyll a phlannu clustog coetir, yn anelu lliniaru’r effaith ar ystlumod. Diben yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yw gwneud penderfyniad gwybodus yn seiliedig ar dystiolaeth. Pwysleisiwyd fod yr asesiad yn awgrymu na fydd y datblygiad yn cael effaith niweidiol sylweddol ar gadwraeth y rhywogaeth ac y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru a’r arolygydd cynllunio yn adolygu hyn.

 

  • Gofynnodd aelod os cynhaliwyd astudiaeth ar faint effeithiau negyddol ar ddatblygiad dynol tu hwnt i ffiniau datblygu, yn cynnwys s?n, sbwriel a niwed a achosir gan anifeiliaid anwes. Gofynnwyd beth fedrir ei wneud ar gam y Cynllun Datblygu Lleol Newydd i liniaru’r risgiau hyn, yn arbennig ar gyfer safleoedd sensitif.

 

Esboniodd y swyddog fod llawer o astudiaethau yn dangos effeithiau datblygu, yn cynnwys s?n, sbwriel a hela gan anifeiliaid anwes. Soniwyd fod y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn cynnwys mesurau fel seilwaith gwyrdd, gerddi glaw gyda phlannu bioamrywiaeth a phlannu drain i ddiogelu rhywogaethau fel pathewod rhag cathod. Tanlinellwyd bwysigrwydd cael cydbwysedd rhwng anghenion datblygu â diogelu ecolegol a rheoli effeithiau hirdymor drwy ddylunio a mesurau polisi.

 

  • Mynegodd aelod sicrwydd gyda’r mesurau lliniaru a gynigiwyd gan swyddogion i ddiogelu cynefinoedd ystlumod tra’n cydbwyso’r angen am ddatblygiad tai. Tanlinellwyd bwysigrwydd darparu tai ar gyfer pobl yn Sir Fynwy, gan nodi’r heriau sy’n wynebu’r rhai mewn llety dros dro neu sy’n ddigartref. Cydnabuwyd anhawster rhagweld union effaith datblygiad ond teimlai’n ddigon hyderus yn y mesurau a amlinellwyd i leihau niwed posibl. Tanlinellwyd prinder safleoedd tir llwyd yn Sir Fynwy sy’n golygu fod angen datblygu safleoedd tir glas, a phwysleisiwyd yr angen i sicrhau cydbwysedd rhwng cadwraeth anghenion tai.

 

  • Gofynnodd aelod os y bydd y pum dyraniad cynllun lleol a ddynodwyd ar gyfer safleoedd ystlumod yn yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gael i’r cyhoedd. Gofynnwyd am fwy o wybodaeth ar yr arolygon a gynhaliwyd ar gyfer y safleoedd hyn, gan y rhoddwyd gwybodaeth fanwl ar gyfer safle Trefynwy ond dim ar gyfer y pedwar safle arall.

 

Esboniodd y swyddog nad oes data olrhain radio ar gyfer y safleoedd ymgeisiol eraill a bod lefel yr wybodaeth yn wahanol. Dywedwyd y bydd yr atodiad gan Aecom yn rhoi asesiad ansoddol a meintiol o bob safle o fewn y parthau cynhaliaeth creiddiol ond nad oes unrhyw fapiau cysylltiedig ar gael. Nodwyd y defnyddir arolygon y gorffennol ar gyfer asesiadau safle ac y gofynnwyd am arolygon gweithgaredd ystlumod ar gyfer safle Redlands i lywio datblygiad. Os cyflwynir cais cynllunio, ychwanegwyd y gofynnir am ddiweddaru arolygon ecoleg i sicrhau fod symudiadau ecolegol a thurio yn dylanwadu ar ddyluniad y safle. Tanlinellodd swyddogion fod y broses yn un strategol ar y cam hwn ond y bydd angen arolygon manwl gyda threigl blynyddoedd.

 

  • Tanlinellodd aelodau y caiff pwysigrwydd darparu llety ar gyfer rhai mewn angen ei ddeall yn dda ond mae’r un mor bwysig cael proses drylwyr cyn y caiff unrhyw beth ei adeiladu gan y bydd yn rhy hwyr erbyn hynny. Mae angen i aelodau sicrhau fod yr hyn a gyflwynir yn galluogi’r safleoedd cywir i symud ymlaen.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am fod yn bresennol a’u cyfraniadau, gan danlinellu pwysigrwydd sgyrsiau a chwestiynau sy’n herio. Cydnabuwyd fod teimladau cryf am yr angen am dai a diogelu cynefinoedd. Rhoddodd y Cadeirydd grynodeb o’r trafodaethau am effaith datblygu ar gynefinoedd ystlumod, yn cynnwys pryderon am leihau mesurau i ddiogelu ystlumod, yr angen am arolygon mwy manwl ac effaith datblygiad dynol ar gynefinoedd ystlumod. Nodwyd pwysigrwydd sicrhau datblygu cynaliadwy a’r angen am asesiadau trwyadl.

 

 

Dogfennau ategol: