Agenda item

Cynnal Cyfarfod Nedern – Trafod cynnal a chadw y Nedern, yn arbennig drwy dir Castell Cil-y-coed.

Cofnodion:

Atebodd James Galsworthy (Cyfoeth Naturiol Cymru) gwestiynau aelodau gyda Ross Price.

 

  • A fedrwch roi diweddariad ar raglen cynnal a chadw Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y Nedern a’i is-afonydd?

 

Mae’r rhaglen cynnal a chadw ar gyfer yr Afon Nedern yn cynnwys torri glaswellt yn flynyddol tua mis Medi-Hydref a symud tyfiant yn y sianel tua mis Rhagfyr-Ionawr. Caiff y gwaith ei wneud gan gontractwyr ac arferid ei wneud bob yn ail flwyddyn ond caiff bellach ei wneud yn flynyddol.

 

  • Beth yn union yw rôl a chyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru pan ddaw i ddiogelu iechyd afon ac atal llygredd?

 

Nid yw’r cyfrifoldeb am iechyd afon ac atal llygredd o fewn cylch gorchwyl y siaradwr o Cyfoeth Naturiol Cymru a dylai cwestiynau o’r fath gael eu cyfeirio at eu tîm ymholiadau, gan mai perchennog y tir sydd yn gyfrifol yn y pen draw am iechyd afon.

 

  • Cyfrifoldeb pwy yw cynnal y tir cyhoeddus lle mae’r Nedern yn rhedeg drwy Fagwyr?

 

Perchennog y tir sy’n gyfrifol am gynnal a chadw cyrsiau d?r. Ar gyfer tir cyhoeddus, byddai’n gyfrifoldeb yr awdurdod perthnasol, tebyg i Gyngor Sir Fynwy.

 

  • A fedrwn drefnu cyfarfod ar wahân i sefydlu cyfrifoldebau am faterion cynnal a chadw a llifogydd y Nedern?

 

Cytunodd James i fynychu cyfarfod ar wahân i drafod y materion hyn ac awgrymwyd y dylai David Penny o’r tîm ardal draeniad mewnol hefyd gymryd rhan .

 

  • Pa mor effeithlon yw’r rhaglen cynnal a chadw gyfredol wrth atal mwy o lifogydd?

 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydnabod effaith sylweddol llifogydd ar fusnesau lleol. Mae’r rhaglen cynnal a chadw bresennol yn cynnwys torri glaswellt a symud tyfiant yn yr afon bob blwyddyn, a chynyddwyd hyn o’i wneud bob yn ail flwyddyn i’w wneud bob blwyddyn. Mae hyn wedi gwella’r effeithlonrwydd wrth atal llifogydd.

 

  • Beth yw risgiau’r lefel bresennol o gynnal a chadw?

 

Mae risgiau y lefel bresennol o gynnal a chadw yn cynnwys posibilrwydd llifogydd os nad yw’r cynnal a chadw yn ddigonol i reoli risgiau llifogydd sylweddol, yn arbennig mewn ardaloedd gyda nifer cyfyngedig o eiddo.

 

  • Pa mor effeithlon yw’r berthynas rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Fynwy ac English Highway wrth reoli risgiau llifogydd?

 

Mae perthynas effeithlon rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Fynwy ac English Highway yn hollbwysig ar gyfer rheoli risg llifogydd, yn arbennig ynghylch asedau fel y glwyd sbwriel. Mae angen cydlynu a chyfathrebu ymysg y cyrff hyn i drin risgiau llifogydd yn effeithiol.

 

  • Pa gyfrifoldeb sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru am gynnal a chadw afonydd ar dir y mae Cyngor Sir Fynwy neu berchnogion tir preifat yn berchen arno?

 

Perchennog y tir sy’n gyfrifol am gynnal a chadw yr afonydd, ond mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru bwerau i ganiatáu i wneud y gwaith lle mae risg sylweddol o lifogydd. Mae hyn yn weithredol ar gyfer tir y mae’r cyngor yn berchen arno a hefyd dir preifat.

 

  • Sut y caiff y Nedern ei rheoli drwy’r Parc Gwledig?

 

Byddai unrhyw waith ym mhrif gwrs d?r yr afon, yn cynnwys y Nedern drwy’r Parc Gwledig, angen caniatâd gweithgaredd risg llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae angen cydlynu gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i benderfynu’r gofynion ar gyfer gwaith o’r fath. Highways England yw perchennog y glwyd sbwriel, a’u cyfrifoldeb nhw yw gwaith unioni.

 

  • Beth yw’r berthynas rhwng iechyd afon a llifogydd, yn arbennig yng nghyswllt gollwng carthffosiaeth?

 

Mae perthynas rhwng iechyd afon a llifogydd oherwydd gall gollwng carthffosiaeth yn ystod llifogydd effeithio ar breswylwyr a hefyd fusnesau. Mae pryderon iechyd a diogelwch yn codi pan mae d?r wedi ei lygru yn effeithio ar yr ardaloedd hyn. Bu cyfarfod safle blaenorol gyda D?r Cymru i drafod systemau carthffosiaeth mewn ardaloedd lleol.

 

  • A yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn monitro llygredd  yn y Nant Fynydd, sy’n cysylltu gyda’r Nedern?

 

Nid oes gan Cyfoeth Naturiol Cymru yr adnoddau i fonitro llygredd yn y Nant Fynydd sy’n cysylltu gyda’r Nedern. Dylid cyfeirio pryderon am lygredd at dîm rheoli amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae D?r Cymru yn gyfrifol am ostwng llygredd o’u hasedau a gall Cyfoeth Naturiol Cymru weithredu yn erbyn sefydliadau sy’n llygru.

 

Rhoddodd Ross Price, Peiriannydd Prosiect Cyngor Sir Fynwy, sylwadau ar gwestiwn yr aelod o safbwynt Cyngor Sir Fynwy:

 

  • Esboniodd fod adroddiad llifogydd Adran 19, a luniwyd ar ôl llifogydd Chwefror 2020, wedi dynodi dulliau llifogydd a’r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt ac wedi gwneud argymhellion ar gyfer gwahanol awdurdodau rheoli risg, yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, National Highways a Chyngor Sir Fynwy. Nododd fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn awr yn gwneud gwaith cynnal a chadw blynyddol, yn cynnwys clirio tyfiant a gafodd ei dorri o’r glannau i atal blociad yn nes lawr yr afon. Mae National Highways wedi gwella eu harferion cynnal a chadw ar gyfer ffos yr M4 a’r sgrin sbwriel, yn cynnwys archwiliadau wythnosol ac archwiliadau yn ystod digwyddiadau tywydd sylweddol. Mae ganddynt hefyd offer codi â llaw os yw’r system hydrolig yn methu.

 

  • Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ffurfioli ei strategaeth cynnal a chadw ar gyfer adran Parc Gwledig y Nedern, sydd yng nghamau olaf ymgynghoriad gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd y strategaeth yn egluro pwy sy’n gwneud beth a phryd. Tanlinellodd Ross bwysigrwydd y berthynas rhwng awdurdodau rheoli risg, gan nodi fod Cyngor Sir Fynwy yn gweithio’n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a National Highways i drin problemau llifogydd. Dywedodd fod tir y Castell a’r parc diwydiannol yn rhan o orlifdir y Nedern ac y disgwylir llifogydd bob blwyddyn. Dim ond un eiddo yn Castle Lodge Crescent gafodd lifogydd uniongyrchol o dd?r yn mynd dros y glannau yn ystod Storm Dennis, tra bod systemau d?r wyneb D?r Cymru yn gorlenwi wedi effeithio ar eiddo eraill.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Cydnabu Aelodau effaith llifogydd sylweddol ar fusnesau ac eiddo, yn arbennig yn ystod Storm Dennis. Tanlinellwyd pwysigrwydd gwaith cynnal a chadw a chydlynu ymysg gwahanol awdurdodau. Soniodd swyddogion am welliannau mewn arferion cynnal a chadw, tebyg i glirio tyfiant yn flynyddol ac archwiliadau rhagweithiol o ffos a sgrin sbwriel yr M4 a chydnabod yr angen am strategaeth cynnal a chadw ffurfiol i egluro cyfrifoldeb a gwella rheoli risg llifogydd. Mae aelodau’n gwerthfawrogi ymdrechion Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Fynwy wrth fynd i'r afael â risgiau llifogydd a chynnal a chadw y Nedern, gan nodi’r angen parhaus i fod yn wyliadwrus a chydweithio.

 

Diolchodd y Cadeirydd ar ran y pwyllgor am bresenoldeb Mr Goldsworthy heddiw. Caiff cwestiynau pellach aelodau eu hanfon at Cyfoeth Naturiol Cymru am ymateb ysgrifenedig ffurfiol – CAM GWEITHREDU.