Cofnodion:
Darllenodd y Cynghorydd Strong gyflwyniad ar ran preswylydd yn ymwneud ag Afon Nedern, Eitem 8. Nododd y preswylydd nad oedd problem gyda’r Nedern tan ganol y 1990au pan ddechreuwyd ar y gwaith o adeiladu ail Bont Hafren. Mae’r afon yn rhedeg drwy’r twnnel dan Draffordd yr M4, a gaiff ei ddiogelu gan sgrîn. Mae’r sgrîn yn aml yn tagu gydag ysgyrion, gan achosi llifogydd yn yr afon. Yn y 1980au arferai’r afon gael eu charthu i gael gwared â chwyn a llaid ond nawr dim ond chwyn gaiff eu tynnu, sy’n arwain at broblemau ychwanegol. Mae’r afon yn rhedeg wrth ochr hen safle T? Pill, sy’n awr yn safle busnes ailgylchu concrit. Mae’r busnes yn cadw llawer o agregau ger yr afon, sy’n achosi risg tywallt heb ddull cywir i’w dynnu. Gallai llifogydd yn y gaeaf ar y Nedern achosi mynediad i’r llwybr cerdded o Gastell Cil-y-coed i’r prosiect Cae ?d. Adeiladwyd sianel draeniad newydd i dynnu d?r o’r cynlluniau i adeiladu tai yn yr ardal. Fodd bynnag, gyda lefelau uchel yr afon, mae bellach lifogydd mewn ardaloedd a arferai fod yn sych. Gellid datrys y broblem drwy osod fflap dim-dychwelyd ar ben afon y sianel draeniad. Croesewir y cynnig i adeiladu tua 100 o gartrefi ond mae’n bwysig y bydd hyn ystyried y bydd hyn yn arwain at i fwy o dd?r ddraenio i’r afon. I fynd i’r afael â’r problemau hyn, awgrymodd y preswylwyr ailddylunio neu addasu sgriniau twnnel yr M4 i’w gwneud yn fwy effeithiol, i weithredu system rhybudd cynnar ar gyfer lefelau uchel yn yr afon ac i sefydlu gwell rhaglen cynnal a chadw afon.
Rhoddodd preswylydd gyflwyniad yn amlinellu pryderon am ddiogelu ystlumod, yn ymwneud ag Eitem 9. Codwyd pryderon fod Cyngor Sir Fynwy yn dileu mesurau diogelu allweddol ar gyfer ystlumod, a holwyd am y rhesymau am hynny. Tanlinellwyd pwysigrwydd mesurau diogelu trylwyr ar gyfer datblygiadau ym mharhau cynhaliaeth craidd ystlumod, fel yr argymhellwyd gan ymgynghorwyr amgylcheddol. Pwysleisiwyd yr angen am arolygon penodol ar ystlumod a mesurau lliniaru i ddiogelu poblogaethau ystlumod a beirniadwyd y cyngor am roi geiriad amwys ym mholisi NR1 yn lle gofynion penodol yr arolwg. Rhoddwyd gwybodaeth ar yr ystlum pedol mwyaf, ei ofynion cynefin a’i statws dan fygythiad a thrafodwyd effaith datblygiadau arfaethedig ar gynefinoedd ystlumod, yn arbennig safle Nant Lease ger Cwrt Newton. Awgrymwyd fod y cyngor yn dileu’r lleihau mewn mesurau diogelu ar gyfer ystlumod ac ychwanegu geiriad penodol i sicrhau nad oes unrhyw effeithiau niweidiol ar ystlumod o ddatblygiadau. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd diogelu parthau cynhaliaeth creiddiol ystlumod a sicrhau fod mesurau yn eu lle ar gyfer arolwg llawn a lliniaru.
Rhoddodd Andy Karraen, Rheolwr Tystiolaeth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, sylwadau ar Eitem 9, yn benodol ar safle HA4 yn Nhrefynwy. Mynegwyd pryderon am yr effaith ar y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Cadwraeth Arbennig a phoblogaeth ystlumod pedol mwyaf. Nododd Andy na chaiff y parth cynhaliaeth iau 1 cilometr ei ddefnyddio fel arfer yng Nghymru a chyfeiriodd at ei ddefnydd yng nghanllawiau Ardal Cadwraeth Arbennig Gogledd Gwlad yr Haf a’r Mendips. Tanlinellwyd yr angen fwy o waith arolwg i benderfynu ar yr effaith ar yr ystlumod, gan awgrymu y dylai arolygon gael eu cynnal gan unigolion cymwys ar yr amserau priodol gydag ymdrech ddigonol.