Agenda item

Deintyddiaeth: Sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Cofnodion:

Rhoddodd Lloyd Hambridge (BIPAB) ddiweddariad i’r pwyllgor ar ddeintyddiaeth, gyda ffocws neilltuol ar y canlynol:

 

  • Trosolwg Trefniadaeth: Rhoddodd Lloyd gyflwyniad ar Addysg a Gwella Iechyd Cymru, gan danlinellu eu rôl yn datblygu gweithlu’r dyfodol ar gyfer y sector iechyd.
  • Cynllun Strategol y Gweithlu Deintyddol: Trafododd y gwaith ar y cyd i greu Cynllun Strategol y Gweithlu Deintyddol, oedd yn cynnwys byrddau iechyd, deintyddion a rhanddeiliaid eraill. Mae’r polisi hwn yn gydnaws gyda chyfeiriad polisi y llywodraeth ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
  • Meysydd Ffocws: Esboniodd fod prif ffocws y cynllun ar wasanaethau deintyddol cyffredinol ond hefyd yn rhoi sylw i’r gweithlu deintyddol ehangach, yn cynnwys gwasanaethau deintyddol cymunedol.
  • Datrysiadau Cynaliadwy: Soniodd Lloyd am y nod o ddarparu datrysiadau cynaliadwy ar gyfer y gweithlu deintyddol yng Nghymru, gwneud telerau ac amodau’r GIG yn ddeniadol i ddeintyddion a datblygu rhwydweithiau cymunedol ar ddeintyddiaeth.
  • Academi Gofal Sylfaenol: Soniodd hefyd am rôl yr Academi Gofal Sylfaenol mewn datblygu a chynnal y gweithlu, yn cynnwys timau deintyddol.

 

Wedyn atebodd Lloyd ynghyd â Rachel Prangley (BIPAB) gwestiynau Aelodau.

 

 Cwestiynau allweddol a godwyd gan Aelodau: 

 

  • Gofynnwyd am ddiweddariad ar ddeintyddiaeth ar gyfer plant a’r rhai ar incwm isel ac os oedd yr amserau aros yn gwella.

 

Rhoddodd Lloyd ystadegau manwl ar nifer y plant yr oedd gwasanaethau deintyddol wedi eu gweld, gan sôn y cafodd 77,000 o blant eu gweld ers mis Ebrill 2024, gyda chyfanswm o 94,000 yn y flwyddyn flaenorol. Trafododd hefyd y rhaglen Cynllun Gwên, sy’n cynnwys gweithgareddau glanhau dannedd a farnais fflworid mewn ysgolion, gyda ffocws ar ardaloedd amddifadus. Caiff gwasanaethau penodol hefyd eu darparu ar gyfer grwpiau bregus, yn cynnwys plant mewn ysgolion arbennig, oedolion gydag anableddau dysgu a’r rhai y mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio arnynt.

 

  • Gofynnwyd am ddiweddariad ar iechyd y boblogaeth ar draws y wlad.

 

Esboniodd Lloyd y caiff asesiad o anghenion y boblogaeth ei gynnal i gefnogi darpariaeth gwasanaeth, yn cynnwys gwasanaethau deintyddol. Cynigiodd rannu gwybodaeth fwy manwl a dolenni i’r data perthnasol.

 

  • Oherwydd y cynnydd yn y boblogaeth, gyda’r rhan fwyaf o ddeintyddion newydd gymhwyso yn fenywod, ac yn rhagweld y bydd rhai yn gadael am absenoldeb mamolaeth ac yn dychwelyd i weithio’n rhan-amser, pa gamau penodol a gymerir i fynd i’r afael â’r gostyngiad yn y gweithlu i sicrhau cadw swydd hirdymor a bodlonrwydd swydd ar gyfer deintyddion?

 

Dywedodd Lloyd fod Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ar y cyd gyda byrddau iechyd, deintyddion a rhanddeiliaid eraill wedi datblygu Cynllun Strategol y Gweithlu Deintyddol. Nod y cynllun yw darparu datrysiadau cynaliadwy ar gyfer dyfodol y gweithlu deintyddol yng Nghymru, gyda ffocws ar wasanaethau deintyddol cyffredinol a’r gweithlu deintyddol yn ehangach, yn cynnwys gwasanaethau deintyddol cymunedol. Dywedodd bod ymdrechion i wneud telerau ac amodau’r GIG yn ddeniadol i ddeintyddion, gan ystyried y gystadleuaeth o ddeintyddiaeth breifat ac y caiff rhwydweithiau deintyddol cymunedol i gefnogi ymarferwyr. Dywedodd hefyd fod yr Academi Gofal Sylfaenol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gweithio i ddatblygu a chynnal y gweithlu deintyddol, gan drin anghenion timau deintyddol.

 

 

 

  • Yn nhermau’r ganolfan iechyd newydd yn Osbaston, a ydych yn ystyried rhoi gwasanaeth deintyddol yno?

 

Dywedodd Lloyd nad oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gynnwys cyfleusterau deintyddol yn y ganolfan feddygol newydd oherwydd cyfyngiadau ar le a’r ddarpariaeth ddeintyddol bresennol yn yr ardal. Fodd bynnag, caiff cyfleoedd ar gyfer gwasanaethau ychwanegol yn y dyfodol eu hystyried wrth i’r ddatblygiad fynd yn ei flaen.

 

  • Fe wnaethoch sôn fod gan Sir Fynwy 9 cqwontract deintyddol yn awr ond mae’r cofnodion blaenorol yn sôn am 10 – ydyn ni wedi colli contract?

 

Eglurodd Lloyd fod 12 contract Gwasanaeth Deintyddol Cyffredinol GIG yn wreiddiol mewn 11 safle. Oherwydd ymddiswyddo o gontractau, mae nifer y gontractau yn awr yn 9, a ddarperir mewn 9 safle. Cafodd y gwasanaethau ar gyfer y cleifion yr effeithiwyd arnynt eu hailgomisiynu gyda darparwyr presennol.

 

  • Yng nghyswllt y cynllun i drin plant ar ddyddiau Sadwrn, fydd yn osgoi mynd â phlant allan o’r ysgol ac o fudd i rieni, a fedrwch ddweud wrthym beth sy’n digwydd gan fod deintydd lleol wedi mynegi rhwystredigaeth gyda gorfod ailnegodi eu contract i weithredu’r cynllun hwn.

 

Dywedodd Lloyd y byddai angen mwy o fanylion i drin y mater contract penodol yma, gan ei fod yn dibynnu o ai ofynnir am gapasiti ychwanegol neu os yw’r ddarpariaeth yn cael ei symud o ran arall o’r wythnos.

 

  • A fu unrhyw gydlynu rhwng y Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yng nghyswllt y Cynllun Datblygu Lleol Newydd o ran y cynnydd posibl yn nifer cleifion oherwydd tai ychwanegol?

 

Cadarnhaodd Lloyd nad oedd Cyngor Sir Fynwy wedi cysylltu â’r bwrdd iechyd yng nghyswllt y cynllun datblygu lleol. Fodd bynnag, roedd y bwrdd iechyd wedi rhoi ymateb i’r ymgynghoriad, gan danlinellu’r angen i drin anghydraddoldeb iechyd, effaith yr argyfwng hinsawdd a phwysigrwydd cytundebau Adran 16 ar gyfer ariannu safleoedd a gwasanaethau.

 

  • Os yw datblygiadau tai y dyfodol i ddarparu 50% o dai fforddiadwy, a fedrai hyn awgrymu y gall preswylwyr fod yn fwy bregus ac a ydych yn rhagweld cynnydd mewn galw fel canlyniad i hynny?

 

Fe wnaeth Lloyd gydnabod fod lefelau uwch o amddifadedd fel arfer yn golygu mwy o alw am ofal GIG. Esboniodd fod y bwrdd iechyd yn defnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru i asesu anghenion iechyd y boblogaeth ac i gynllunio gwasanaethau yn unol â hynny. Byddant yn parhau i fonitro effaith y polisi o 50% tai fforddiadwy a sicrhau fod y gwasanaethau yn ateb cyfanswm galw’r boblogaeth. Caiff sylwadau eu rhoi i Lywodraeth Cymru i sicrhau cyllid digonol i gefnogi’r boblogaeth gynyddol a sicrhau bod y gweithlu angenrheidiol ar gael i ddarparu’r gwasanaethau hyn. 

 

  • Yn nhermau’r cynllun glanhau dannedd, fe wnaethoch ddweud fod 10 allan o 12 ysgol wedi derbyn. A oes rheswm pam na wnaeth 2 ysgol dderbyn? Pa hyfforddiant mae staff yn ei gael ar hyn? O gofio am y pwysau ar gyllid ysgol, ydych chi’n rhagweld unrhyw ostyngiad yn y cynllun?

 

Esboniodd Lloyd mai’r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol sy’n cyflenwi’r holl offer a nwyddau ar gyfer y cynllun glanhau dannedd, felly ni ddylai fod unrhyw faich ariannol ar ysgolion. Mae’r galw uchel oherwydd partneriaeth effeithlon gydag athrawon a darparu’r adnoddau angenrheidiol. Nid oes unrhyw ysgol wedi awgrymu y byddai pwysau ariannol yn cyfyngu eu gallu i gymryd rhan yn y rhaglen.  Mae’r rhesymau pam nad yw rhai safleoedd yn cymryd rhan yn aml yn gysylltiedig i’r broses caniatâd gyda staff a rhieni.

 

  • Gofynnodd aelod am ddiweddariad ar effaith cau’r contract deintyddol yng Nghlinig Travon Way, Trefynwy, a effeithiodd ar 59 o bobl.

 

Esboniodd Lloyd fod gan Glinig Travon Way yn Nhrefynwy ddau gontract GIG, ond oherwydd heriau annisgwyl gyda’r gweithlu, terfynwyd y contract ychwanegol gan gadw’r un gwreiddiol. Cafodd y cleifion yr effeithiwyd arnynt eu trosglwyddo i Seven Dental yng Nghas-gwent ac nid yw’r cleifion hyn wedi sôn am unrhyw bryderon sylweddol.

 

  • Gwnaed ymholiadau am ddull y bwrdd iechyd o gynllunio olyniaeth ar gyfer deintyddiaeth GIG, yn arbennig o gofio am gau meddygfa Gilwern ac os oes unrhyw gynlluniau i liniaru ymddeoliadau posibl yn y dyfodol.

 

Soniodd Lloyd fod y bwrdd iechyd yn gweithio ar gynllunio olyniaeth drwy eu hacademi gofal sylfaenol, sy’n cynnwys datblygu map gwres i ddynodi ardaloedd risg uchel yn seiliedig ar oedran y gweithlu a ffactorau eraill. Er nad yw gadael contractau diweddar yn gysylltiedig ag ymddeoliad, maent yn cynllunio ar gyfer anghenion y gweithlu yn y dyfodol a sicrhau fod gwasanaethau’n ateb galw’r boblogaeth gynyddol.

 

  • Mynegwyd pryderon fod rhan ddwyreiniol y bwrdd iechyd yn teimlo wedi ei hesgeuluso, gan sôn am yr angen i deithio ymhell am frechiadau COVID. Gofynnodd am sicrwydd fod ffocws ar sicrhau na chaiff rhan ddwyreiniol i sir ei hesgeuluso yn nhermau gwasanaethau deintyddol.

 

Ymddiheurodd Lloyd os oes unrhyw dybiaeth o esgeulustod ac esboniodd y caiff gwasanaethau eu cyfateb gyda galw, yn aml yn rhoi blaenoriaeth i ardaloedd gyda lefelau uwch o angen am amddifadedd. Rhoddodd sicrwydd fod y Rhwydwaith Gofal Cymdogaeth wrthi’n gweithio i ddarparu gwasanaethau teg ar draws Sir Fynwy a bydd yn edrych ar ddosbarthiad y gwasanaeth brechu i sicrhau ei fod yn fwy hygyrch.

 

  • Sut ydych chi yn cael adborth gan y gymuned i wella gwasanaethau?

 

Cadarnhaodd Lloyd ei fod yn derbyn adroddiad misol o bob sesiwn ymgysylltu ar draws y bwrdd iechyd, yn cynnwys adborth lefel uchel ar wahanol wasanaethau’r GIG. Er fod y rhan fwyaf o adborth yn ymwneud â meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol, caiff pryderon am ddeintyddiaeth hefyd eu trafod. Soniodd fod y rhaglen diwygio contract yn anelu i symud o ddull safonol i un seiliedig ar anghenion, gan sicrhau y caiff y cleifion cywir eu gweld ar yr amlder cywir. Caiff y newid hwn ei gyfathrebu drwy ddigwyddiadau ymgysylltu a strategaeth gyfathrebu ehangach.

 

  • Gofynnwyd cwestiynau am y darpariaethau ar gyfer cyfnod mamolaeth i sicrhau llanw digonol mewn deintyddfeydd.

 

Cadarnhaodd Lloyd fod gan ddeintyddion fynediad i delerau ac amodau’r GIG ar gyfer cyfnodau mamolaeth, sy’n fuddiant nad yw ar gael fel arfer mewn deintyddfeydd preifat.

 

  • Gofynnwyd am eglurhad os oedd safon diwydiant ar gyfer deintyddiaeth, tebyg i safon arfer meddygon teulu o un meddyg teulu llawn-amser fesul 2,000 o gleifion.

 

Er nad oes meincnod a gytunwyd yn genedlaethol ar gyfer sesiynau clinigol fesul poblogaeth cleifion, esboniodd Lloyd fod meincnodau lleol yn sicrhau fod gan ddeintyddfeydd y gweithlu i gyflawni eu contractau. Dywedodd Lloyd mai’r meincnod lleol yw un sesiwn glinigol ar gyfer pob 200 o gleifion o fewn mis. Mae hyn yn golygu y byddai practis gyda 2000 o gleifion yn disgwyl darparu 10 sesiwn glinigol fesul mis. Pwysleisiodd mai meincnod lleol yw hwn ac nid safon cenedlaethol.

 

  • Gofynnodd aelodau sut y byddai’r bwrdd iechyd yn trin bylchau posibl mewn cyllid ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu a deintyddion oherwydd y flaenoriaeth a roddir i 50% o dai fforddiadwy yn y cynllun datblygu lleol newydd.

 

Dywedodd Lloyd bod y bwrdd iechyd yn dibynnu ar gytundebau Adran 106 ar gyfer cyllid yn gysylltiedig â datblygiadau tai newydd. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ddarpariaeth gwasanaethau ddod o gyllid sefydlog a ddyrannwyd i’r bwrdd iechyd, a gaiff ei addasu yn seiliedig ar faint poblogaeth.

 

  • Mynegwyd pryder am egwyddor gofal i bawb y GIG a gofynnodd os y dylai pob plentyn ysgol fod â hawl i raglenni atal, yn hytrach na dim ond targedu ardaloedd incwm isel ac amddifadus.

 

Dywedodd Lloyd fod y rhaglen Cynllun Gwên yn un genedlaethol sy’n canolbwyntio ar ardaloedd o amddifadedd mwyaf oherwydd adnoddau cyfyngedig. Yn ddelfrydol, pe byddai mwy o gyllid ar gael, gellid ehangu’r rhaglen i bob plentyn ysgol.

 

  • A yw farnais fflworid yn newid y gêm, a pha mor hir mae’n para cyn bod angen ei roi eto?

 

Dywedodd Lloyd y rhoddir farnais fflworid ddwywaith y flwyddyn, gan bara am chwe mis ar y tro.

 

  • A ydym yn monitro effaith colli gwasanaethau deintyddol Gilwern ar yr unigolion yr effeithir arnyn?

 

Cadarnhaodd Lloyd fod effaith colli gwasanaethau deintyddol yng Ngilwern yn cael ei fonitro, sy’n cynnwys cleifion sy’n symud at ddarparwyr newydd a chasglu adborth cymunedol drwy sesiynau ymgysylltu.

 

  • A oes gennym wybodaeth ar ganran y boblogaeth nad ydynt yn derbyn unrhyw ofal deintyddol a’r dadansoddiad demograffig? A oes gennym wybodaeth am y rhai sy’n derbyn gofal deintyddol preifat?

 

Atebodd Lloyd nad oes unrhyw ddata ar hyn o bryd ar ganran y boblogaeth heb fod yn cael gofal deintyddol na demograffeg unigolion o’r fath. Mae’r porth mynediad deintyddol arfaethedig yn anelu i roi’r wybodaeth hon. Nid yw gwybodaeth ar ofal deintyddol preifat ar gael oherwydd nad yw’n ofynnol i wasanaethau preifat rannu data gyda’r GIG.

 

  • O gofio am y cysylltiad rhwng hylendid gwael y geg a chlefydau cronig, beth yn fwy y medrid ei wneud i chwyldroi gofal iechyd deintyddol?

 

Cytunodd Lloyd ar yr angen am chwyldro mewn gofal iechyd deintyddol, gan ddweud fod y symud tuag at ddull seiliedig ar anghenion yn y rhaglen ddiwygio contractau yn gam yn y cyfeiriad cywir. Croesawodd fwy o gydweithio gydag awdurdodau lleol i hybu cynlluniau hylendid deintyddol, yn cynnwys rhaglenni ysgol ac ymgysylltu â’r gymuned.

 

  • A oes unrhyw botensial ar gyfer cydweithio gyda chynghorwyr i hyrwyddo gofal deintyddol?

 

Croesawodd Lloyd y syniad o gynghorwyr yn helpu i ddosbarthu gwybodaeth am ofal deintyddol i’r gymuned.

 

  • Mynegwyd pryderon am y boblogaeth gynyddol yn Magwyr a’r gwasanaethau gofal deintyddol GIG annigonol sydd ar gael. Soniodd yr aelod am yr heriau sy’n wynebu preswylwyr, yn arbennig yr henoed, oherwydd trafnidiaeth gyhoeddus wael pan ofynnir iddynt deithio i Gas-gwent am wasanaethau deintyddol. Holodd yr aelod am ddatrysiadau posibl, yn cynnwys posibilrwydd agor deintyddfa GIG newydd yng Nghanolfan Iechyd Cil-y-coed i roi gwell gwasanaeth i’r gymuned leol.

 

 

 

  • Mynegwyd pryderon hefyd am y ffocws ar ddarparu gwasanaethau deintyddol mewn ardaloedd lle mae pobl leiaf tebygol i fforddio gofal preifat, gan holi os yw'r ymagwedd yma yn tanseilio egwyddor y GIG o wasanaeth cyfartal. Holodd yr aelod os yw hyn o bosibl yn creu gwasanaeth dwy-haen, lle mae’r rhai sy’n medru fforddio derbyn gofal preifat yn cael triniaeth gyflymach neu well.

 

Tanlinellodd Lloyd y nod i ddarparu gwasanaethau GIG i’r boblogaeth gyfan, gyda ffocws ar yr ardaloedd gyda’r angen mwyaf i sicrhau hygyrchedd a gofal amserol. Eglurodd fod lleoliad gwasanaethau yn seiliedig ar alw’r boblogaeth a lefelau amddifadedd, ac nid ar y gallu i fforddio gofal preifat. Roedd yn cydnabod yr heriau a achosir gan adnoddau cyfyngedig a strwythur cyfredol deintyddiaeth y GIG, sy’n cynnwys rhai taliadau gan gleifion. Nododd Lloyd fod y materion hyn yn ehangach na’r bwrdd iechyd ac yn cynnwys polisïau Llywodraeth Cymru a gweithredu contractau. Soniodd hefyd am y diwygiadau sy’n mynd rhagddynt i gontract deintyddol y GIG sy’n anelu i ateb anghenion y boblogaeth yn well a symud ymaith o fodel rheoleiddio 2006, fel y byddai cleifion yn cael eu cyfeirio at y gwasanaethau priodol, hyd yn oed os nad ydynt ar gael yn lleol.

 

  • Beth yw’r prif bryderon/heriau?

 

Soniodd Lloyd am y prif heriau wrth ddarparu gwasanaethau deintyddol, sy’n cynnwys ateb galw’r boblogaeth gydag adnoddau cyfyngedig tebyg i’r gweithlu, cyllid a chyfleusterau addas. Tanlinellodd bwysigrwydd symud tuag at ddarpariaeth seiliedig ar anghenion a bod â ffocws ar ofal ataliol i ostwng yr angen am driniaeth yn yr hirdymor.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Diolchodd y Cadeirydd i Lloyd a Rachel am eu hamynedd ac am ateb y cwestiynau yn gynhwysfawr. Dywedodd y cafodd y Pwyllgor sicrwydd am y canlynol:

  • Cynllun Strategol ar y Gweithlu Deintyddol: Mae cynllun parhaus gyda strategaeth olyniaeth i wneud gweithio yng Nghymru yn fwy deniadol i ddeintyddion.
  • Porth Mynediad Deintyddol: Caiff y porth ei lansio ar 12 Chwefror gyda’r nod o wella mynediad i wasanaethau deintyddol.
  • Plant Bregus a Phlant sy’n Derbyn Gofal: Caiff rhaglen “Cynllun Gwên” ei hymestyn mewn ardaloedd o amddifadedd ac angen, gan sicrhau na chaiff plant bregus eu hanghofio.
  • Rhaglen Gwenan Biff: Mae’r rhaglen hon yn gweithio mewn cartrefi gofal i ofalu am yr henoed a’r bregus, gan ddarparu gofal deintyddol a hyfforddi staff.

 

Mynegodd y Cadeirydd sicrwydd, er yr heriau, fod y cynlluniau a’r rhaglenni sy’n mynd rhagddynt yn dangos fod deintyddiaeth yn symud ymlaen mewn modd cadarnhaol a’i fod mewn dwylo diogel.