Agenda item

Cynigion Cyllideb Refeniw a Chyfalaf – Craffu Cynigion Drafft Gyllideb Refeniw a Chyfalaf 2025/26

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad a’r cyflwyniad gan yr Aelod Cabinet Ben Callard ac atebodd gwestiynau aelodau gyda Deb Hill-Howells, Jonathan Davies a’r Aelod Cabinet Sara Burch.

 

  • Gan ystyried fod y cyngor yn gweithredu arbedion gwasanaeth, a fedrid rhoi rhai tuag at gadw Together Works yng Nghil-y-coed ar agor? Fe wnaeth yr Aelod Cabinet gydnabod gwerth Together Works a’i gyllid drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, sydd tu allan i reolaeth uniongyrchol y cyngor. Er yr arbedion gwasanaeth, esboniodd fod y cyngor yn dal i wynebu bwlch cyllideb o £3 miliwn, gan ei gwneud yn anodd dyrannu cyllid ychwanegol i Together Works. Fodd bynnag, mae’r cyngor yn ymchwilio opsiynau cyllid grant i gefnogi Together Works. 

 

  • Mae’r cynigion am Hen Orsaf Tyndyrn yn siomedig iawn – bydd llawer o breswylwyr yn bryderus y gall gael ei werthu. Eglurodd yr Aelod Cabinet nad oes cynnig ar hyn o bryd i gau Hen Orsaf Tyndyrn. Pwysleisiodd y bwriad i ymchwilio gwahanol opsiynau stiwardiaeth, yn cynnwys y posibilrwydd y gallai’r safle fod yn fwy llwyddiannus dan reolaeth y sector preifat. Tanlinellodd bwysigrwydd cydbwyso rôl yr awdurdod lleol a’r sector preifat wrth weithredu atyniadau twristiaeth yn Sir Fynwy.

 

  • Mae’r colledion o £50k ar y Fferm Solar yn bryder. A fedrir esbonio’r toriad grid? Esboniodd yr Aelod Cabinet fod toriadau grid yn digwydd pan mae gan y National Grid ormod o ynni ac angen cydbwyso mewnbwn ac allbwn i gadw amledd. Gall hyn arwain at i’r fferm solar gael ei throi bant, gan arwain at golledion.

 

  • Pa gyfran o ffyrdd a gaiff eu categoreiddio fel rhai du a choch? Faint a gaiff eu hystyried ar gyfer cynnal a chadw? A yw’r un categori yn bodoli ar gyfer palmentydd? Cafodd cyllid ar gyfer rhoi wyneb newydd ar Bont Gwy ei ddyrannu a chaiff dyddiad y gwaith ei gadarnhau yn y dyfodol agos. – GWEITHREDU – rhoi manylion ffyrdd du a choch.

 

  • A gafodd unrhyw gyllid ei ddyrannu ar gyfer trwsio Pont Gwy a Heol Staunton? Ni chafodd cyllid ei ddyrannu ar gyfer Heol Staunton yng nghyllideb eleni na’r flwyddyn nesaf; mae’n dibynnu ar gais ffyrdd cydnerth i Lywodraeth Cymru, a disgwylir cael y canlyniad erbyn diwedd mis Mawrth.

 

  • A gafodd unrhyw ran o’r buddsoddiad hawl tramwy cyhoeddus ei ddyrannu i Lwybr Dyffryn Gwy sydd wedi dymchwel yn Wyesham neu welliant i’r rhan yn Redbrook? Os na, pa ardaloedd y bwriedir eu targedu gyda’r cyllid hwnnw? Mae’r sefyllfa yn ymwneud â’r hawl tramwy cyhoeddus yn gymhleth, gan gynnwys problemau gyda pherchnogaeth tir a chyfrifoldeb. Rhoddir ymateb ysgrifenedig gyda gwybodaeth fwy manwl - GWEITHREDU

 

  • Beth yw’r rhesymeg a’r amserlen ar gyfer yr adolygiad o barcio ceir? Bydd yr adolygiad o barcio ceir yn edrych yn eang ar barcio ceir yn y sir, yn cynnwys systemau talu. Caiff yr arian a godir o barcio ceir ei neilltuo ar gyfer priffyrdd, ond nid yw’r incwm yn ddigon i dalu am yr holl gostau cynnal a chadw.

 

  • A fedrwch gadarnhau na fydd yr arbedion o £110k yn golygu fod angen cau neu ostwng oriau unrhyw lyfrgell? A fyddwn yn cael adolygiad o unrhyw sgil-effeithiau gostwng oriau agor ar wasanaethau eraill? Eglurodd yr Aelod Cabinet nad oes unrhyw gynigion i symud neu leihau unrhyw hyb. Mae addasu’r oriau i ymateb i’r galw a sicrhau gwasanaeth teg.

 

  • Beth yw oriau agor cyfredol hybiau cymunedol a beth a gynigir i fod yr oriau agor yn dilyn y newid hwn? Sut fedrwch chi sicrhau cysondeb ac argaeledd ym mhob rhan o’r sir? Mae’r oriau agor cyfredol yn amrywio fesul hyb, o 35 awr yn y Fenni i 43 awr yng Nghil-y-coed. Mae’r newidiadau a gynigir yn cynnwys o bosibl cau am un diwrnod ym mhob un o’r prif pedwar hyb, ond nid ar yr un diwrnod ar gyfer pob hyb.

 

  • Mae hybiau cymunedol yn gweithredu fel mannau gwybodaeth a chyngor ond hefyd fannau twym. Y nod yw sicrhau fod hyb ar agor rywle yn y sir bob amser, gyda staff ar gael i ateb y ffôn a chynorthwyo preswylwyr. Nid yw newidiadau i oriau hyb o reidrwydd yn effeithio ar oriau llyfrgell, gan fod rhai hybiau wedi cysylltu â llyfrgelloedd a rhai ddim. Mae 24 man twym ar draws y sir, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, a bydd y cyngor yn parhau i ddarparu’r gwasanaethau gwerthfawr yma. Mae addasu oriau hyb yn fesur a gymerwyd oherwydd cyfyngiadau ariannol, a phe byddai’r sefyllfa ariannol yn caniatáu hynny, byddai hyn yn un o’r cynigion y byddai’n well gan y Cyngor beidio ei weithredu.

 

  • A fedrech yn benodol roi’r oriau agor cyfredol a’r newidiadau a gynigir i hybiau cymunedol? GWEITHREDU – rhoi ymateb ysgrifenedig.

 

  • A fedrwch esbonio beth yw’r sefyllfa interim yng nghyswllt cael gwared â swydd Pennaeth Diogelu’r Cyhoedd a beth yw’r rhagolygon hirdymor? Mae trefniadau interim yn eu lle ar hyn o bryd, yn cwmpasu cyfrifoldebau pennaeth diogelu’r cyhoedd drwy drefniadau camu lan. Mae’r cyngor yn cydnabod pwysigrwydd swydd pennaeth diogelu’r cyhoedd ac yn ymroddedig i gynnal adolygiad trwyadl dros y misoedd nesaf i benderfynu ar y trefniadau hirdymor priodol. Mae’r trefniadau interim yn gweithio’n dda ac yn ddigonol ar hyn o bryd, ond mae’r cyngor yn cydnabod yr angen i gael y datrysiad hirdymor yn gywir.  – GWEITHREDU – rhoi ymateb ysgrifenedig.

 

  • Ni ddisgwylir i Lywodraeth Cymru lenwi’r bwlch o £2.68m yn y gyllideb. Sut ydych chi’n disgwyl i unrhw ddiffyg gael ei lenwi? Tanlinellodd yr Aelod Cabinet fod y broses o osod y gyllideb yn hylif, gyda llawer o rannau’n symud rhwng y cynigon drafft a’r gyllideb derfynol, yn cynnwys newidiadau i’r galw am wasanaethau a dyfarniadau grant. Gobeithir y byddai Llywodraeth Cymru yn pontio peth o’r bwlch cyllido, ond nid y cyfan. Tanlinellodd yr Aelod Cabinet bwysigrwydd cefnogi twf Sir Fynwy i gynyddu incwm gan Lywodraeth Cymru a dywedodd fod y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn ffactor allweddol. Roedd yn cydnabod fod cyllid gwasanaethau cyhoeddus yn dal yn annigonol a thanlinellodd yr eiriolaeth barhaus am fwy o gymorth ariannol ar gyfer Sir Fynwy.

 

  • Sut y caiff yr arbedion a gynigir yn gysylltiedig â digartrefedd eu cyflawni o gofio am y galw cyfredol am lety? Esboniodd y Cynghorydd Burch fod dull “pawb i mewn” Llywodraeth Cymru yn dilyn y pandemig wedi arwain at gostau uchel ar gyfer llety gwely a brecwast, yn cynnwys gwasanaeth diogelwch 24/7 mewn rhai achosion. Mae tua 34 o bobl mewn llety gwely a brecwast ar hyn o bryd, gyda llawer o bobl eraill mewn llety dros dro, sy’n gyffredinol yn rhatach ac yn cynnig gwella amodau byw. Bydd ailwampio Severn View yn rhoi llety dros dro gyda chymorth cofleidiol, yn cynnwys cydweithio gydag eglwysi lleol a’r trydydd sector i helpu unigolion i symud i dai fforddiadwy parhaol. Mae’r gwaith ataliol gan y tîm opsiynau tai a’r cynnydd mewn tai fforddiadwy yn helpu i ostwng y nifer o bobl mewn llety gwely a brecwast a’r costau cysylltiedig.

 

  • Parthed y cynnig i dorri £40k o wasanaethau clybiau ieuenctid, sut fydd model gweithredu mwy cynaliadwy yn edrych yn ymarferol i'r rhai sy'n cael budd o'r gwasanaethau hyn yn ein cymunedau gwledig? Mae'r gwasanaeth ieuenctid gwledig cyfredol yn gweithredu yn ne Sir Fynwy ond nid yn y gogledd. Y cynnig yw dileu'r ddarpariaeth wledig ac ailfuddsoddi arian mewn gwasanaethau ieuenctid yn y dref, gan alinio’r ddarpariaeth gyda’r hyn sydd ar gael yn y gogledd. Mae hyn yn golygu y bydd darpariaeth gwasanaeth ieuenctid yn canoli ar Gil-y-coed a Chas-gwent yn y de, yn debyg i’r ddarpariaeth bresennol yn y Fenni a Threfynwy yn y gogledd.

 

  • A fedrir cadarnhau na fydd unrhyw newidiadau i amlder gweithrediadau ysgubo ffyrdd? Gallwn, ni chynigir unrhyw newidiadau fel rhan o’r gyllideb hon.

 

  • A fydd yr awydd i sicrhau £150k o incwm newydd o wasanaethau hamdden yn trosi i gynnydd mawr mewn ffioedd i gael mynediad i’r gwasanaethau hynny? Nid yw’r cynnig i sicrhau £150k mewn incwm newydd o gwasanaethau hamdden yn golygu cynyddu ffioedd ar gyfer y rhai sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn. Yn lle hynny, mae’n canolbwyntio ar gynyddu’r defnydd o wasanaethau hamdden i sicrhau mwy o incwm. Mae’r buddsoddiadau diweddar mewn gwasanaethau hamdden a’r cynnydd yn nifer aelodau canolfannau hamdden yn tanlinellu eu gwerth fel asedau cymunedol.

 

  • Beth yw ffynhonnell yr arbedion o £366k yn y gyllideb gofal cymdeithasol? Daw’r arbedion hyn yn bennaf o gynyddu ffioedd dibreswyl, yn seiliedig ar asesiadau ariannol yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Caiff y cyfraddau eu codi, ond mae prawf modd arnynt gyda chap uchafswm wythnosol o £100. Mae’r gwasanaeth yn wynebu pwysau o’r cynnydd mewn Yswiriant Gwladol, y cyflog byw gwirioneddol a chwyddiant. Er bod cyfradd pennawd chwyddiant yn isel, mae rhai meysydd yn dal i brofi cynnydd sylweddol mewn costau. Mae’r cynnydd mewn ffioedd yn adlewyrchu’r pwysau cost disgwyliedig yma, ond mae cymorth ar gael ar gyfer y rhai sydd angen hynny drwy asesiadau ariannol prawf modd.

 

  • Os oes cap o £100 yr wythnos, pa ystod cynnydd y gellir eu defnyddio mewn gwirionedd? Bydd y gyfradd fesul awr ar gyfer gofal yn codi o £20 i £24 ar gyfer gofal dibreswyl.

 

  • Ble mae’r gwasanaethau ieuenctid y sonnir eu bod yn y de?  – GWEITHREDU – rhoi ymateb ysgrifenedig.

 

  • Mae’r cynnydd o 7.8% mewn treth gyngor yn fater o gonsyrn. A yw’n gywir y bydd eiddo Band D yn talu £400 arall y flwyddyn? Y cynnydd a gynigir ar gyfer eiddo Band D yw £131.56 y flwyddyn, dim £400, ac mae ei angen i gynnal darpariaeth gwasanaeth.

 

  • Beth yw’r esboniad dros dorri yswiriant seiberddiogelwch? Mae’r penderfyniad i dorri yswiriant seiberddiogelwch yn seiliedig ar ei werth gwael am arian. Mae mesurau seiberddiogelwch y cyngor yn gadarn a dim ond am gost glanhau ar ôl toriad, ac nid ei atal, y mae’r yswiriant yn ei dalu. Mae protocolau seiberddiogelwch y cyngor yn gadarn ac ystyriwyd fod y risg o golled a difrod yn hylaw heb yr yswiriant. Ymhellach, mae’r farchnad ar gyfer yswiriant seiberddiogelwch yn anaeddfed a bu gwelliant sylweddol ym mesurau diogelwch mewnol y cyngor. Mae gan y cyngor gyllideb am hunan-yswiriant a chronfa wrth gefn ar gyfer rheoli risg ar gyfer risgiau ariannol posibl.  

 

  • A ydym yn gwneud cymaint ag a gredwn gyda ffyrdd neu a ydym yn edrych ar wneud mwy ar Briffyrdd? Mae ôl-groniad sylweddol mewn cynnal a chadw ffyrdd a seilwaith, ar tua £80 miliwn; felly er y bydd y buddsoddiad ychwanegol o £2.3 miliwn o gymorth yn ddefnyddiol, nid yw’n ddigon i fynd i’r afael â’r holl ôl-groniad. Mae’r cyngor yn ymwybodol o gyflwr gwael y ffyrdd ac mae’n gwneud yr hyn a all o fewn y cyfyngiadau ariannol, ac mae hefyd wedi derbyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi benthyca ar gyfer gwelliannau priffordd. Caiff ffyrdd a lonydd penodol eu hystyried yn seiliedig ar eu blaenoriaeth ac asesiad risg.

 

  • A yw’n gywir nad yw amserau canolfannau hamdden yn newid? Ydi, mae hynny yn gywir.

 

  • A oes posibilrwydd ailalinio’r farchnad o’r maes parcio gwaelod yn Stryd Blestium i Sgwâr Agincourt? Gallai’r newid hwn o bosibl roi mwy o fannau parcio a chynyddu refeniw.

 

  • Yng nghyswllt hybiau, a fedrem gael dyfais cyfrif ar y ddau ddrws? A fedrwch gadarnhau nad yw’r llyfrgell yn yr Hyb yn Nhrefynwy yn cael ei ostwng a sut y byddai’r symud posibl i’r Neuadd Sirol yn digwydd? Cydnabyddir yr angen ar gyfer casglu data cywir ar ddefnydd hybiau ac mae darn o waith yn mynd rhagddo i sicrhau mesuriad cyson ar draws pob hyb. Cadarnhawyd pwysigrwydd gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth parthed oriau agor yr hybiau a sicrhau nad yw unrhyw newidiadau yn creu galw ychwanegol ar wasanaethau eraill. Caiff y syniad am ddyfais cyfrif ei drosglwyddo i’r Aelod Cabinet Sandles.

 

  • A yw’n gywir y byddai hen ystafell y llyfrgell, dan y cynnig loteri, yn cael ei defnyddio i archifo a dangos eitemau o’r amgueddfeydd, tebyg i lyfrau, papurau a mapiau? Mae’r cynigion ar gyfer y Neuadd Sirol yn eithaf cyffrous a chawsant eu datblygu mewn partneriaeth gyda phobl Trefynwy a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Y nod yw gwneud y Neuadd Sirol yn amgueddfa fodern ac yn ganolbwynt treftadaeth a diwylliant, a fedrai gynyddu nifer yr ymwelwyr. Fel rhan o’r datblygiad, ystyriwyd os y byddai lleoli’r gwasanaeth lyfrgell yn yr un adeilad yn rhoi profiad gwell i bob defnyddiwr, tebyg i roi mynediad i ymwelwyr i’r amgueddfa a’r llyfrgell ar ddydd Sul. Er y bu ymateb cryf i’r syniad, nid oes unrhyw gynnig cadarn hyd yma. Mae’r cynigion presennol ar gyfer y Neuadd Sirol yn dal i esblygu a bydd y cynnig yn datblygu’r syniadau hyn ymhellach. Mae casgliadau’r amgueddfa yn cynnwys llawer o ddogfennau, llyfrgell hanes lleol a chasgliad Nelson. Mae’r cynigion presennol yn cynnwys ystafell ddarllen, gofodau addysg ac ardaloedd ar gyfer grwpiau ymchwil ac addysgol.

 

  • Mae diffyg parcio yn union wrth ymyl y Neuadd Sirol yn bryder. Mae’r banc bwyd a gwasanaethau hyb eraill, tebyg i gymorth i fenywod mewn argyfwng, yn manteisio o’r lleoliad presennol a gall pobl gael mynediad i wahanol wasanaethu wneud hynny heb dynnu sylw atynt eu hunain gan ymddangos eu bod yn ymweld â’r llyfrgell, sy’n rhoi preifatrwydd iddynt. Mae’n bwysig ein bod yn deall pwy sy’n defnyddio’r hybiau ac ar gyfer pa ddibenion. Pwysleisir y dylai’r penderfyniadau am oriau agor yr hybiau fod yn seiliedig ar dystiolaeth i sicrhau nad yw unrhyw ostyngiad yn rhoi galw ychwanegol ar wasanaethau eraill, tebyg i’r gwasanaeth digartrefedd. Mae manteision ac anfanteision am y cynigion am y Neuadd Sirol; mae rhai pobl yn credu y byddai symud yn ôl i ganol y dref yn fanteisiol, ond bu adborth cryf yr wythnos hon yn tynnu sylw am anfanteision y cynnig.

 

  • A ydych wedi cynnal adolygiad i resymoli’r grwpiau ehangach a gefnogwn e.e. Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, i ddeall sut y caiff cyfraniadau i bartneriaethau o’r fath eu gwneud a sut y gellir sicrhau’r gwerth mwyaf o’r gwaith partneriaeth yma? Caiff y gwahanol bartneriaethau, tebyg i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, eu hariannu’n ganolog ac mae’r awdurdodau lleol, yn cynnwys Cyngor Sir Fynwy, yn cymryd rhan weithgar. Mae darn mwy o waith yn Lloegr a all effeithio ar y Porth Gorllewinol, yn arbennig gyda chyfuno rhai awdurdodau. Fodd bynnag, nid yw’r gyllideb bresennol yn effeithio ar y ffordd o weithio gyda a chyllido Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan y caiff ei ariannu’n ganolog ac nid yw’n dod ar draws desg yr Aelod Cabinet.

 

  • A oes risg o dorri Safonau’r Gymraeg wrth ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ar gyfer cyfieithu? Bwriedir i ddefnydd deallusrwydd artiffisial gyda chyfieithu i’r Gymraeg gryfhau gallu’r cynngor. Cynhelir dilysiad ansawdd i sicrhau cywirdeb a byddai croeso i ‘r Comisiynydd Iaith adolygu’r cynigion pe byddai’n dewis gwneud hynny. Mewn gwirionedd, dylai groesawu’r datblygiad gan y gall defnyddio technoleg fel hyn fod yn allweddol i sicrhau gwerth da ar gyfer preswylwyr.

 

  • A oes gennym grantiau neilltuol ar gyfer tyllau mewn ffyrdd? Mae drafft setliad Llywodraeth Cymru yn cynnwys buddsoddiad ychwanegol ar gyfer priffyrdd a strwythurau gan alluogi’r cyngor i ddyrannu £1.4 miliwn ychwanegol ar gyfer y gwaith yma. Tanlinellwyd pwysigrwydd dull gweithredu wedi ei strwythuro i fynd i'r afael â thyllau mewn ffyrdd a materion seilwaith cysylltiedig.

 

  • A gynhelir adolygiad y flwyddyn nesaf i asesu effeithiau ariannol a chymdeithasol y newidiadau posibl mewn oriau hybiau, yn arbennig ar adrannau eraill Cyngor Sir Fynwy tebyg i ddigartrefedd a gofal cymdeithasol, ac i sicrhau nad yw’r cau yn effeithio’n ormodol ar oedolion bregus? Y bwriad yw cynllunio y bydd newidiadau yn oriau agor yr hybiau yn cael yr effaith leiaf bosibl, yn arbennig mewn lleoliadau lle mae mwyaf o angen gwasanaethau. Caiff y sefyllfa ei monitro’n barhaus a chydnabyddir, pe byddai mwy o gyllid ar gael, efallai na fyddai angen y newidiadau hyn. Caiff yr hybiau eu hystyried fel ‘drws blaen’ y gymuned, ac mae ymrwymiad cryf i sicrhau eu bod yn rhoi gwerth da a gwasanaeth effeithlon i breswylwyr.

 

  • A fedrwch egluro strwythur ffi Grassroots – ai £10 neu £12.50 yw’r taliad blynyddol? Roedd sôn am bedwar rhandaliad o £12.50 yn gamgymeriad yn y ddogfen. Y cynnig presennol yw ffi blynyddol o £10 ar gyfer aelodaeth Grassroots.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Diolch i Aelodau’r Cabinet a swyddogion, ac i’r Cynghorydd Strong am drefnu i aelodau’r cyhoedd fynychu. Rydym wedi trafod nifer o agweddau o’r gyllideb heddiw, yn cynnwys effaith adolygiadau meysydd parcio, gan nodi fod arian o’r meysydd parcio yn mynd i’r adan priffyrdd; arbedion a chynnydd prisiau gofal cymdeithasol; y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol; Hen Orsaf Tyndyrn, gan fynegi pryderon a gaiff eu rhannu gan eraill; ailalinio oriau agor clybiau a chanolfannau ieuenctid, yn arbennig mewn cymunedau gwledig, a’r arbedion o’r newidiadau hyn; ysgubo ffyrdd, prisiau canolfannau hamdden, partneriaethau a chydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg; cwestiynau am yr hybiau, disgwyliadau teithio preswylwyr, diogelu trafnidiaeth gyhoeddus a diffyg cyllid gan Lywodraeth Cymru; T? Severn View a gostyngiadau mewn cost digartrefedd. Yn olaf, fe wnaethom hefyd holi am briffyrdd, cynnydd treth gyngor a materion yn gysylltiedig â’r hybiau a’r Neuadd Sirol.

 

 

Dogfennau ategol: