Agenda item

Diweddariad Polisi - Adolygu Polisi Chwilio Cartref. Craffu'r diwygiadau i'r polisi (adroddiad i ddilyn).

Cofnodion:

Rhoddodd Ian Bakewell a Rebecca Creswell gyflwyniad ar bolisi Chwilio Cartref ac ateb cwestiynau aelodau gyda’r Aelod Cabinet Sara Barch.

 

·        Gofynnodd y Cadeirydd os yw’r amser aros yn Band 1 digartrefedd wedi cynyddu o 11.5 i 12.7 mis ac os yw hyn oherwydd tagfa a achosir gan brinder llety un ystafell wely.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod y cynnydd yn yr amser aros yn bennaf oherwydd y nifer isel o anheddau un ystafell wely sydd ar gael a hefyd mae parodrwydd ymgeiswyr i symud ymlaen hefyd â rhan.

 

·        Gofynnodd y Cadeirydd os y cynigir cefnogaeth ychwanegol i unigolion gydag anabledd dysgu neu anghenion cymorth eraill, os nad yw’r ddogfen polisi symlach yn ddigonol iddynt.

 

Dywedodd swyddogion, er bod y ddogfen yn faith, bod staff Chwilio Cartref ar gael i ateb ymholiadau a chynorthwyo pobl. Er nad oes fersiwn symlach o’r polisi, dywedwyd y gallai hyn gael ei ystyried ar gyfer adolygiadau yn y dyfodol.

 

·        Gofynnodd y Cadeirydd am ddiffiniad gwaith o “flaenoriaeth llesiant” yng nghyd-destun y ddogfen polisi, yn benodol beth mae’n ei olygu drwy wella neu gael effaith niweidiol ar lesiant cymdeithasol. 

 

Dywedodd swyddogion y gall blaenoriaeth llesiant cymdeithasol gynnwys ystod eang o amgylchiadau lle mae sefyllfa bresennol rhywun yn gwaethygu eu iechyd corfforol neu eu iechyd meddwl neu rai eu plant. Caiff ei gefnogi gyda thystiolaeth gan asiantaethau partner ac ni wneir defnydd helaeth ohono ond mae ar gael pan mae ei angen.

 

·        Gofynnodd aelod os yr ymgynghorwyd gyda elusennau’r lluoedd arfog a Cyngor Ar Bopeth am y newidiadau hyn, yn arbennig yn ymwneud â throthwyon ariannol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet nad oedd yr ymgynghoriad yn helaeth oherwydd natur fach yr adolygiad. Fodd bynnag, cafodd y newidiadau eu seilio ar brofiad y tîm a chysylltiadau parhaus gydag asiantaethau. Ychwanegodd swyddogion y disgwylir newidiadau i gyfamod y lluoedd arfog, a gall fod angen mwy o ymgynghori ar hynny yn y dyfodol.

 

·        Holodd aelod am y cymorth sydd ar gael ar gyfer defnyddio Chwilio Cartref, yn arbennig y rhai nad ydynt yn gyfarwydd gyda thechnoleg gwybodaeth, ac os yw cyrff allanol fel Cyngor Ar Bopeth yn derbyn hyfforddiant i helpu pobl.

 

Esboniodd swyddogion fod y prif gymorth yn dod gan Chwilio Cartref ei hun a darparwyr cymorth tai. Mae hefyd gysylltiadau agos gyda Cyngor Ar Bopeth drwy waith cymorth tai a bydd y tîm yn sicrhau y bydd y wybodaeth ganddynt i gynorthwyo. Gweithredu: Ian Bakewell i sicrhau fod asiantaethau partner yn cael hyfforddiant addas ar bolisi Chwilio Cartref.

 

·        Gofynnodd aelod pam fod llawer o bobl sy’n ddigartref ac mewn trafferthion ond nad yw’r system yn eu cyrraedd?

 

Clywodd Aelodau er fod pobl yn y gymuned sy’n dal i gysgu ar y stryd a rhai sy’n methu cael eu lletya am wahanol resymau, gwneir ymdrechion i gadw hyn cyn ised ag sydd modd. Gall fod gwahanol resymau pam nad yw rhai unigolion yn derbyn cymorth, ond mae rhwydweithiau da gyda grwpiau ffydd a hybiau i helpu cyfeirio pobl at yr adnoddau cywir. Ychwanegwyd y gwnânt bob ymdrech i adnabod a chefnogi pobl cyn gynted ag y byddant yn hysbys.

 

·        Gofynnodd aelod sut y caiff anheddau a gaiff eu nodi ar gyfer angen lleol eu rheoli ac os y cânt eu hysbysebu fel angen lleol gyntaf.

 

Dywedodd swyddogion y caiff anheddau dan y polisi dyrannu gwledig ei neilltuo ar gyfer pobl leol a’u hysbysebu drwy wefan Chwilio Cartref. Mae hyrwyddo ychwanegol drwy’r cyfryngau cymdeithasol a’r hwylusydd tai gwledig. Mae’r system gosod seiliedig ar ddewis yn dibynnu ar i bobl fod wedi cofrestru a gwneud cynnig am anheddau.

 

·        Holodd aelod am y polisi ar gyfer datblygiadau fel Koiduko, sydd wedi eu cyfyngu i bobl dros 50 oed, a sut mae hyn yn cyd-fynd â’r Ddeddf Cydraddoldeb.

 

Atebodd swyddogion fod y polisi yn cefnogi pobl h?n ac y caiff anheddau fel Koiduko eu trin yn wahanol i sicrhau defnydd llawn. Nododd fod y polisi yn seiliedig ar gymorth hirdymor ar gyfer pobl h?n yn Sir Fynwy.

 

·        Holodd aelod am Gymdeithas Tai Sir Fynwy (MHA) a rhedeg Capsule fel is-gwmni, Capsule a sut mae hyn yn effeithio ar argaeledd eiddo.

 

Eglurwyd fod gan Gymdeithas Tai Sir Fynwy gwmni hyd braich o’r enw Capsule, sy’n targedu anghenion canolraddol a marchnad, i gynhyrchu incwm ychwanegol ar gyfer y prif sefydliad, sy’n arfer cyffredin ymysg cymdeithasau tai i gefnogi eu hincwm.

 

·        Gofynnodd aelod am lwyddiant y polisi atal ac israddio, yn benodol os yw pobl yn talu a mynd yn ôl i fyny’r ysgol neu os oes atal parhaol. 

 

Esboniodd swyddogion y cynigir cymorth i’r rhai a gafodd eu hisraddio neu eu hatal i helpu unioni pethau, tebyg i gynlluniau ad-dalu ar gyfer ôl-ddyledion rhent ac na fwriedir i’r polisi fod ar gyfer atal parhaol, a gwneir ymdrechion i ailosod pobl ar y gofrestr. Esboniodd yr Aelod Cabinet na fwriedir i’r polisi fod yn gosbol ond i gefnogi ymddygiad tenantiaid ac na ddylai atal parhaol ddigwydd.

 

·        Gofynnodd Aelod os oes gan swyddogion ffigurau i ddangos faint o aelodau o’r gymuned lluoedd arfog y buont yn ymwneud â nhw dros y flwyddyn ddiwethaf, ac a oes unrhyw batrymau i’w gweld mewn rhesymau am ddigartrefedd neu angen tai yn eu mysg. Dywedodd, fel Pencampwr y Lluoedd Arfog, ei fod yn falch i weld y newidiadau a wnaed.

 

Dywedodd swyddogion nad oes ganddynt ffigurau i law ond cydnabuwyd fod y rhesymau am ddigartrefedd ymysg personél y lluoedd arfog yn debygol o ddod o fewn i ffigurau digartrefedd cyffredinol ac y byddai’n ddiddorol edrych am resymau am ddigartrefedd ymysg y gymuned lluoedd arfog.  Gweithredu – Rebecca Creswell i ymchwilio a rhoi unrhyw ddata.

 

·        Gofynnodd yr Aelod am gael gwybodaeth am newidiadau posibl yn y cyfamod lluoedd arfog sy’n mynd drwy Senedd San Steffan.

 

Cydnabu swyddogion y cais a dweud y byddent yn cadw llygad ar y newidiadau posibl a’u heffaith.

 

·        Gofynnwyd beth oedd y gwahaniaethau mwyaf y bydd y diweddariad adolygu yn eu gwneud yn nhermau canlyniadau i’r adran ac os yw wedi symleiddio pethau.

 

Clywodd Aelodau fod y newidiadau o’r adolygiad yn fân ac na fyddant yn effeithio’n sylweddol ar yr adran na’r ymgeiswyr. Caiff y polisi eisoes ei ystyried yn addas i’r diben, ac mae’r adolygiad mawr blaenorol wedi rhoi buddion sylweddol.

 

·        Gofynnwyd am eglurhad ar os yw pobl sengl neu deuluoedd yn treulio llai o amser mewn llety i’r digartref.

 

Cadarnhaodd swyddogion y bydd pobl sengl fel arfer yn aros yn fwy na theuluoedd am lety, gan nodi fod cyllid diweddar wedi galluogi prynu mwy o lety teulu, gan wella’r sefyllfa ar gyfer teuluoedd.

 

·        Mynegodd yr Aelod werthfawrogiad dros gynnwys unigolion sydd â phrofiad o ofal yn y polisi a gofynnodd am sicrwydd y caiff llety pwrpasol ac wedi ei addasu ei ddefnyddio ar gyfer y rhai sydd ei angen.

 

Sicrhawyd Aelodau fod y polisi yn cefnogi unigolion gyda phrofiad o ofal ac y caiff anheddau wedi eu haddasu eu dyrannu i’r rhai sydd eu hangen. Cadarnhawyd nad yw’r ymarfer o dynnu addasiadau o anheddau yn beth cyffredin nawr. Mae’r stoc o anheddau wedi eu haddasu a hygyrch yn cynyddu a gwneir ymdrechion i sicrhau y caff yr anheddau eu defnyddio gan y rhai sydd eu hangen, er fod angen yn dal i fod am fwy.

  

·        Holwyd os y caiff pobl a gafodd eu hatal neu eu hisraddio oherwydd ôl-ddyledion rhent neu a gaiff eu troi allan o annedd rhentu preifat oherwydd ôl-ddyledion sylweddol eu trin yr un fath â rhywun a gafodd eu troi allan heb ddim bai. A yw’r dyletswyddau i’w lletya yr un fath?

 

Dywedodd swyddogion y cânt eu trin yn yr un modd ag aelwydydd digartref eraill fel arfer. Os yw’r ôl-ddyledion oherwydd anallu ariannol dilys, byddent yn cael eu trin fel digartref. Fodd bynnag, os oes ganddynt adnoddau ariannol digonol ac yn dewis peidio talu, efallai y byddid yn canfod eu bod yn fwriadol ddigartref.

 

Crynodeb y Cadeirydd:? 

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb oedd yn bresennol am drafodaeth wybodus a thynnodd sylw at y pwyntiau dilynol i’w cynnwys ar y rhestr weithredu:

·        Cyfamod y Lluoedd Arfog: Rhoddir gwybodaeth bellach i gynghorwyr am Gyfamod y Lluoedd Arfog, manylion pam fod cyn-filwyr yn cyflwyno fel digartref, a phwy yw’r gr?p hwnnw.

·         Asiantaethau partner: Bydd swyddogion yn cysylltu gydag asiantaethau partner i sicrhau fod ganddynt wybodaeth ddigonol i gynorthwyo pobl sy’n defnyddio Home Search.

·        Polisi Dyrannu Gwledig a Capsule: Bydd swyddogion yn rhoi mwy o wybodaeth i gynghorwyr ar y polisi dyrannu gwledig a manylion am Capsule.

·         Cyflwyniad MHA: Byddir yn trefnu cyflwyniad wedi ei ddiweddaru gan Gymdeithas Tai Sir Fynwy (MHA) ar gyfer seminar i bob aelod.

 

Dogfennau ategol: