Rhoddodd Cheryl Haskell gyflwyniad ar y
cynllun Bathodyn Glas ac atebodd gwestiynau aelodau gyda Ian
Saunders:
- Diolch i Cheryl a’r tîm am eu
gwaith – mae’r adborth gan breswylwyr yn gadarnhaol
iawn. Yn ôl arweiniad Llywodraeth Cymru, ni ddylai gymryd mwy
na 12 wythnos i asesu cais. A yw hynny’n dal yn wir? Beth
sy’n tueddu i fod y prif broblemau sy’n oedi adnewyddu
trwydded i’r rhai sy’n gwneud cais? A ydych wedi medru
addasu’r broses i wella’r cyfnod cwblhau ar gyfer
cymeradwyo neu benderfyniad mewn rhyw ffordd?
Esboniodd Cheryl mai’r nod yw prosesu ceisiadau
cyn gynted ag sydd modd, ond y gall rhai ceisiadau – yn
arbennig rhai dewisol – gymryd ychydig yn fwy oherwydd yr
angen am dystiolaeth ychwanegol. Mae’r tîm yn fach,
gyda dim ond un gweinyddydd Bathodynnau Glas, ond cafodd tri o bobl
eraill eu hyfforddi i gynorthwyo. Gall y broses gael ei hoedi os yn
aros am dystiolaeth neu asesiad annibynnol.
- Sylwais fod gan wefannau awdurdodau
llywodraeth leol wahanol brosesau gwneud cais. Mae rhai yn gwneud
cais yn lleol tra bo eraill yn gwneud cais yn uniongyrchol i
gynllun cenedlaethol y llywodraeth. Pa un yw’r
gorau?
Soniodd Cheryl fod Sir Fynwy yn defnyddio’r
gwasanaeth digidol ar-lein fel yr opsiwn diofyn, sydd yn gyflymach
oherwydd ei bod yn osgoi mewnbwn â llaw. Esboniodd y cafodd y
ffurflen ei hysgrifennu gan yr Adran Trafnidiaeth yn Lloegr ac y
gofynnir cwestiynau ychwanegol i ateb meini prawf Llywodraeth
Cymru.
- Pa mor gyflym all person ddisgwyl derbyn
Bathodyn Glas ar ôl i ffurflen SR1 gael ei llenwi ar gyfer
rhywun gyda diagnosis terfynol?
Os oes ganddynt ffurflen SR1, dywedodd Cheryl y
gellir rhoi’r cais ar lwybr carlam a’i brosesu yn
syth.
- Beth ydyn ni’n ei wneud i gyfarch y
gred fod y cynllun Bathodyn Glas yn cael ei gamddefnyddio a sut y
gall pobl roi adroddiad os amheuir camdriniaeth?
Esboniodd Cheryl eu bod yn gweithio yn agos gyda
gorfodaeth parcio i atal camddefnydd. Gellir ei hysbysu os amheuir
fod bathodynnau’n cael eu camddefnyddio a chânt eu trin
yn ofalus ac yn gyfrinachol. Maent hefyd yn dibynnu ar dechnolegau
sydd wedi ymwreiddio mewn bathodynnau i helpu gorfodwyr parcio i
adnabod bathodynnau ffug.
- Gofynnodd Caroline Roberts, Cynrychiolydd
Hosbis Dewi Sant, pam fod Sir Fynwy angen y ffurflen SR1 ei hun ar
gyfer llwybr carlam y ceisiadau am Fathodyn Glas, tra bo cynghorau
eraill yn derbyn datganiad nyrs y cafodd ffurflen SR1 ei
llenwi.
- Gofynnodd aelod os oes cysondeb yn y broses
gais am Fathodyn Glas rhwng Sir Fynwy ac awdurdodau lleol eraill yn
ardal Gwent?
Esboniodd Cheryl fod Sir Fynwy yn dilyn
Canllawiau’r Cynllun Bathodyn Glas yng Nghymru, sydd angen y
ffurflen SR1 i gefnogi’r cais. Cydnabu’r consyrn a
dywedodd y byddai’n ystyried ar yr arfer hwn, yn ymgynghori
gyda chydweithwyr a hefyd Lywodraeth Cymru i ofyn iddynt egluro ac
efallai ddiwygio’r gweithdrefnau i sicrhau dull gweithredu
cyson.
- Os caiff rhywun ddiagnosis o salwch terfynol
ond y disgwylir iddynt fyw am fwy na blwyddyn, a ddylent wneud cais
am Fathodyn Glas llwybr carlam i ddechrau ac yna gais dewisol am y
cyfnod dilynol?
Os yw disgwyliad oes person yn debyg o fod am fwy na
blwyddyn, dywedodd Cheryl y dylent wneud cais dan y rheolau dewisol
o’r dechrau. Yn y ffordd honno byddent yn cael bathodyn am
dair blynedd, gan ddileu pryder ailwneud cais ar ôl un
flwyddyn.
- Gofynnodd aelod sut y caiff ei weithredu,
gan roi enghraifft o neuadd y sir
a’r ffaith y gall rhywun fod angen mynediad dros dro i leoedd
i’r anabl.
Cadarnhawyd y dylid trafod hyn yn y Pwyllgor
Gwasanaethau Democrataidd.
- Esboniodd Darren Williams, Cynrychiolydd
Cyngor Ar Boeth, nad yw cleientiaid weithiau’n deall meini
prawf cyn gwneud cais felly caiff llawer o geisiadau aflwyddiannus
eu cyflwyno.
- A oes gennym unrhyw ddata ar gam-drin posibl
o’r cynllun? Beth yw’r prif resymau am gam-drin y
cynllun, a yw’n achos o bobl yn cael bathodynnau na ddylent
eu cael neu achos o fathodynnau sydd wedi darfod?
Gweithredu: Cheryl i wirio os oes unrhyw ddata am Sir
Fynwy.
- Cyfeiriwyd at hyd yr amser cyn dyfarnu
bathodyn glas, a chlywodd aelodau y cyflwynwyd deiseb i’r
Senedd am ddiagnoses gydol oes a bathodynnau a ddyfarnwyd am
oes.
Gweithredu: Mae’r Pwyllgor
yn gofyn i’r Aelod Cabinet wneud ymholiadau pellach am
ganlyniad y ddeiseb i’r Senedd.
Crynodeb y Cadeirydd:
- Cadarnhaodd yr Is-gadeirydd y byddai’r
Pwyllgor yn gofyn i’r Aelod Cabinet gysylltu â
Llywodraeth Cymru am y ffurflen lwfans gweini a’r angen
i’w symleiddio.
- Gofynnodd i Cheryl wneud ymholiadau pellach
gyda chydweithwyr ar draws Gwent a Llywodraeth Cymru am y ffurflen
SR1.
- Byddai’r Pwyllgor hefyd yn gofyn
i’r Aelod Cabinet drafod y problemau parcio yn Neuadd y Sir
a’r pwynt a godwyd am anableddau dros dro posibl mewn
cyfarfod o Gwasanaethau Democrataidd yn y dyfodol.