Cafodd cyflwyniad ei roi gan Phil Thomas,
gan gyflwyno’r adroddiad ac ateb cwestiynau aelodau gyda
Craig O’Connor ac Andrew Jones:
- Gofynnodd aelodau am yr amserlen ar gyfer
digideiddio pob microfiche a chofnodion coed. Dywedwyd fod y broses
digideiddio yn bur gymhleth ac yn dibynnu llawer ar gyfyngiadau
cyllideb. Gall y broses gymryd rhai blynyddoedd i’w gorffen
ac nid oes amserlen benodol ar hyn o bryd. Gellid cyflymu’r
broses os gellid sicrhau cyllid drwy symud data’r Gofrestrfa
Tir, ond nid oes gwarant o hyn.
- Holodd aelod am
y ffigurau a’r canrannau’n gysylltiedig â’r
gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio, gan nodi ei botensial fel enillydd
refeniw a dywedwyd iddynt gau 264 cais yn gofyn am gyngor cyn
ymgeisio a derbyn 282 cais newydd yn ystod y cyfnod 2023-2024.
O’r rhai a gafodd gyngor cyn ymgeisio, arweiniodd 35 at
geisiadau cynllunio, gyda 34 yn cael eu cymeradwyo ac un yn cael ei
dynnu’n ôl, gan roi cyfradd llwyddiant o 100%. Roedd y
refeniw o’r gwasanaeth hwn tua £55,000.
- Mynegwyd pryder am y canran isel (4.5%) o
achosion gorfodaeth yn arwain at hysbysiadau a gyflwynwyd, allan o
286 achos. Esboniodd swyddogion mai dim ond am dorri difrifol ar
reolau cynllunio yn y budd cyhoeddus y cymerir gweithredu
gorfodaeth. Caiff llawer o achosion torri rheolau eu datrys drwy
negodi neu geisiadau cynllunio ôl weithredol ac nid yw rhai
achosion angen gweithredu gorfodaeth, oherwydd mân dorri
rheolau neu ddiffyg hwylustod. Yn aml mae negodi anffurfiol yn
datrys torri rhheolau heb yr angen am hysbysiadau ffurfiol, ac aiff
pob penderfyniad drwy broses panel dirprwyedig ar gyfer
craffu.
- Holodd aelod am y targed ar gyfer
penderfyniadau gan aelodau yn erbyn argymhellion swyddogion, gan
nodi fod y targed yn llai na 5% a gofyn sut olwg fyddai ar
“da” yn y cyd-destun hwn. Esboniodd swyddogion y caiff
y targed o lai na 5% ei osod gan Lywodraeth Cymru a bod rhychwant o
5-9% yn cael ei ystyried yn deg. Fe wnaethant bwysleisio y dylai
penderfyniadau swyddogion cynllunio ac aelodau’r pwyllgor fod
yn gydnaws yn gyffredinol, ond gan gydnabod fod y Pwyllgor
Cynllunio yn bodoli i wneud dyfarniadau cytbwys er budd y cyhoedd.
Nodwyd fod y ffigur presennol o 6% yn gysurus o fewn y rhychwant
teg ac yn adlewyrchu’r cydweithio rhwng swyddogion ac
aelodau’r pwyllgor.
- Awgrymodd aelod wella dealltwriaeth y
cyhoedd o sut mae cynllunio yn gweithio, efallai drwy ddatganiad ar
ddechrau pob cyfarfod cynllunio. Cydnabu swyddogion gymhlethdod y
broses cynllunio a’r angen am well cyfathrebu. Fe wnaethant
sôn fod rhagymadrodd yn yr agenda gyda’r egwyddorion a
pholisïau allweddol, ond cytunwyd mynd â’r awgrym
ymaith ac ystyried sut i wneud yr wybodaeth yn fwy cryno a
dealladwy i’r cyhoedd.
- Gofynnwyd cwestiwn am y £800,000 a
gesglir mewn ffioedd a pha mor aml y caiff hyn ei adolygu.
Hysbyswyd aelodau fod Llywodraeth Cymru yn adolygu strwythur
ffioedd a gwasanaethau cynllunio ar hyn o bryd, gyda’r
ymgynghoriad ar agor hyd at 17 Ionawr. Mae’r adolygiad yn
anelu i wneud gwasanaethau cynllunio yn fwy cydnerth ac y gellir
adfer y costau.
- Gwnaed ymholiad am y gyfradd gweithredu isel
(4.5%) o 286 cwyn am orfodaeth ac os yw hyn yn dangos yr angen am
well hyfforddiant ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref. Esboniodd
swyddogion y caiff llawer o achosion gorfodaeth eu datrys drwy
negodi anffurfiol neu geisiadau cynllunio ôl-weithredol ac
mai dim ond torri rheolau yn ddifrifol sy’n arwain at
Hysbysiadau ffurfiol. Tanlinellwyd pwysigrwydd cyfathrebu a
hyfforddiant ar gyfer cynghorau Cymuned a Thref i ddeall y broses
orfodaeth yn well.
- Gofynnwyd cwestiwn am ffynonellau
adroddiadau gorfodaeth ac os yw lefel gyfredol adroddiadau yn
briodol. Dywedodd swyddogion y daw adroddiadau gan gymysgedd o
breswylwyr, cynghorau tref a chynghorwyr sir. Nodwyd fod lefel
bresennol adroddiadau yn hylaw ac yn angenrheidiol i gyfarch
gwahanol faterion o gonsyrn, hyd yn oed os nad yw rhai achosion yn
arwain at weithredu gorfodaeth ffurfiol.
- Holodd aelod am feincnodi, gan nodi
absenoldeb ffigurau cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru ac
awgrymu’r angen am ddull mwy safonedig at gasglu data a
meincnodi ar draws awdurdodau lleol. Cydnabu’r swyddogion y
rhwystredigaeth gyda diffyg data meincnodi ers 2019 ac esboniwyd
fod Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar fframwaith newydd
ar gyfer perfformiad cynllunio. Soniwyd fod y Cyngor wedi parhau i
adolygu ei berfformiad yn flynyddol er diffyg gofyniad statudol a
mynegwyd y gobaith y byddai’r fframwaith newydd yn cyfarch
materion meincnodi. Bydd y Cadeirydd yn ystyried ffordd i wthio am
i fwy o ddata meincnodi fod ar gael i
swyddogion ac aelodau – GWEITHREDU
- Mynegwyd pryderon am y galluedd ar gyfer
gorfodaeth a’r angen am well cyfathrebu gyda Chynghorau
Cymuned a Thref. Cydnabu swyddogion yr angen am well cyfathrebu a
hyfforddiant ar gyfer Cynghorwyr Cymuned a Thref. Tanlinellwyd
pwysigrwydd esbonio’r broses gorfodaeth a’r
cymhlethdodau cyfreithiol sy’n gysylltiedig. Fe wnaethant
hefyd sôn am y cynllun gweithredu i wella’r
perthnasoedd hyn a rhoi hyfforddiant wedi ei
ddiweddaru.
- Awgrymodd aelod osod diwrnod i wahodd
aelodau o’r Cynghorau Cymuned a Thref ar gyfer sesiwn i wella
dealltwriaeth a chyfathrebu. Cafodd yr awgrym ei groesawu a
chytunwyd y gallai trefnu sesiynau o’r ffordd fod yn ffordd
effeithlon i ledaenu gwybodaeth a gwella’r ddealltwriaeth
ymysg Cynghorau Cymuned a Thref am brosesau cynllunio.
- Holwyd os caiff defnyddwyr gwasanaeth eu
hannog i roi adborth ffurfiol neu os mai drwy gwynion gan
gwsmeriaid y caiff adborth ei dderbyn yn bennaf. Er yr arferent fod
â ffurflen adborth cwsmeriaid, dywedodd swyddogion y
daethpwyd â hynny i ben oherwydd cyfradd ymateb isel. Fodd
bynnag, maent yn cael adborth cadarnhaol a hefyd negyddol drwy
gwynion a chanmoliaeth. Soniwyd eu bod yn ystyried ailgyflwyno dull
ar gyfer adborth, efallai drwy anfon holiaduron gyda hysbysiadau
penderfyniad.
Crynodeb y Cadeirydd:
Cydnabu’r Cadeirydd y perfformiad da
mewn sawl maes, yn cynnwys y gyfradd uchel o geisiadau a
benderfynwyd o fewn wyth wythnos (93%), cyfradd cymeradwyaeth uchel
ceisiadau (97%) a llwyddiant y gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio
(cymeradwyaeth o 100% ar gyfer y rhai a ddilynodd y cyngor).
Tanlinellodd bwysigrwydd gwella cyfathrebu a pherthynas gyda
Chynghorau Cymuned a Thref, yn arbennig yng nghyswllt gorfodaeth.
Soniodd hefyd am y bwlch rhwng disgwyliadau’r cyhoedd
a’r broses orfodaeth fel y mae, gan danlinellu’r angen
am well esboniad a thryloywder. Soniodd
y Cadeirydd am yr angen am well dulliau ar gyfer adborth cwsmeriaid
a phwysigrwydd meincnodi o gymharu ag awdurdodau eraill ac
awgrymodd ymchwilio adolygiadau cymheiriaid a rhannu data
perfformiad gydag awdurdodau cyfagos i wella tryloywder a gwerthuso
perfformiad.
Mae’r pwyllgor yn cefnogi’r
cynllun i wella cyfathrebu a rhoi hyfforddiant wedi ei ddiweddaru
ar gyfer Cynghorwyr Cymuned a Thref ac mae’n awgrymu trefnu
sesiynau i wahodd aelodau o’r cynghorau hyn i wella
dealltwriaeth a lledaenu gwybodaeth. Dymunai’r pwyllgor
ddiolch i’r swyddogion am eu hadroddiad a gwaith caled
parhaus y tîm.