Agenda item

Gwaharddiadau Ysgol

Craffu ar y ffigurau diweddaraf a pherfformiad y Cyngor. 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Martyn Groucott a Morwenna Wagstaff. Atebodd Dr Wagstaff gwestiynau’r aelodau gyda Keeva McDermott:

 

  • Gofynnodd y Cadeirydd am eglurdeb rhwng y nifer o plant a waharddwyd yn 5.2 a 5.3 yr adroddiad. Eglurwyd fod y tabl yn yr adroddiad at achosion o waharddiadau cyfnod penodol a all amrywio o hanner diwrnod i gyfnod hirach. Mae’r rhif 520 yn cynrychioli’r dysgwyr unigryw a brofodd waharddiadau, tra bod yr 1810 achos yn cynnwys gwahardd mwy nag unwaith ar gyfer rhai dysgwyr. Felly, cafodd rhai plant eu gwahardd sawl tro, gan arwain at y nifer uwch o achosion.
  • Gofynnodd aelod am ba mor hir y medrir priodoli problemau i’r pandemig ac os y bydd y problem yn parhau am genhedlaeth.  Pwysleisiodd Dr Wagstaff y pryder a’r straen a achosodd y pandemig ac esboniodd fod ei effaith ar blant yn amrywio yn dibynnu ar eu hoedran a’r ffactorau diogelu yn eu bywydau. Fe wnaeth y pandemig ymyrryd ar gamau datblygu allweddol, gan effeithio ar sgiliau cymdeithasol, rheoleiddio emosiynol ac ymddygiad.  Er mai’r gobaith yw y bydd ei effaith yn dirwyn i ben, gall rhai plant yn arbennig y rhai mwyaf bregus brofi effeithiau hirdymor
  • Gofynnwyd os y gallai’r nifer o blant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim sy’n absennol ar hyn o bryd ar unrhyw ddiwrnod penodol (1 mewn 4) waethygu. Nododd Dr Wagstaff fod llawer o blant a gafodd eu haddysgu gartref yn ystod y pandemig yn awr yn ei chael yn heriol i ddychwelyd i amgylchedd prysur a swnllyd ysgol a bod yn well gan rai plant, yn arbennig y rhai gyda anghenion cymhleth neu rwystrau i ddysgu, arddull dysgu ar-lein ac yn ei chael yn anodd cynefino ag ysgol draddodiadol. Bu cynnydd yn nifer y plant sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol oherwydd iechyd meddwl ac anghenion emosiynol, yn arbennig bryder am ddychwelyd i’r ysgol. Y gobaith yw galluogi’r plant hyn i symud ymlaen i opsiynau cadarnhaol ar ôl  ysgol a’u hatal rhag dod yn NEET (heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant).
  • Gofynnodd aelod os y byddai’n bosibl cael dadansoddiad manwl o waharddiadau yn ôl ysgol, yn cynnwys y straeon tu ôl iddynt, efallai mewn sesiwn gaeedig. Er y caiff dadansoddiad manwl o waharddiadau yn ôl ysgol eu craffu drwy wahanol wiriadau rhwystrau a gwrthbwysau, yn cynnwys cyfarfodydd Pwyllgor Disgyblaeth Disgyblion ac apeliadau annibynnol, esboniwyd y gallai rhannu gwybodaeth mor fanwl yn gyhoeddus achosi perygl y gellid adnabod unigolion. Fodd bynnag, efallai y gallai fod yn bosibl rhoi’r wybodaeth hon mewn sesiwn gaeedig ar gyfer dibenion craffu. Awgrymodd y Cadeirydd fod aelodau’n cysylltu’n uniongyrchol gyda’r tîm am fater o gonsyrn neilltuol.
  • Gofynnwyd am eglurder am y cysylltiad rhwng penodiad y swyddog Data Plant a Phobl Ifanc a gwaharddiadau. Eglurwyd fod penodi’r Swyddog Data wedi gwella casglu a defnyddio data am waharddiadau, gan wneud y broses gofnodi yn fwy cadarn ac yn symlach. Aeth llawer o waith i mewn i sut i reoli ailintegreiddio yn ddiogel, gan ddefnyddio asesiadau risg ymddygiad dysgwyr.
  • Gofynnwyd am fwy o fanylion am reoli disgyblion sy’n dychwelyd i addysg brif ffrwd o’r Uned Cyfeirio Disgyblion, yn arbennig o gofio am y gostyngiadau mewn staff ysgol. Esboniwyd fod proses asesu a rheoli risg gynhwysfawr yn ei lle. Mae hyn yn cynnwys cydweithio aml-asiantaeth i sicrhau y cafodd y risg ei ostwng yn ddigonol cyn ailintegreiddio. Mae’r broses yn cynnwys dychwelyd mewn camau, cynyddu cymorth mewn cyfnodau risg uchel a monitro parhaus i sicrhau diogelwch a llesiant.
  • Gofynnodd data os oes data ar gael cyn 2021 a data cenedlaethol i gymharu. Esboniodd y swyddog fod Llywodraeth Cymru yn darparu data cenedlaethol ar gyfer cymharu ond fel arfer mae flwyddyn ac ychydig ar ôl iddo ddigwydd. Mae’r awdurdod lleol hefyd yn edrych ar gymariaethau gyda phartneriaid consortia, ond ni chafwyd caniatâd partneriaid eraill i rannu’r data hwn. Felly nid yw’r data cenedlaethol diweddaraf ar gael hyd yma ar gyfer y cyfnod dan sylw.
  • Gofynnwyd os yw’n bosibl cyfrif cost hirdymor gwaharddiad ac felly gyfrif yr arbedion a wneir drwy ymyriad. Atebodd swyddogion fod data tueddiadau tair blynedd Llywodraeth Cymru yn dal yn anghyflawn am y cyfnod dan sylw felly mae’n anodd rhoi dadansoddiad cynhwysfawr. Mae dadansoddi data gwaharddiadau nid yn unig yn cynnwys edrych ar nifer gwaharddiadau ond hefyd yn ystyried cosbau mewnol nad ydynt efallai yn cael eu cofnodi yn yr un ffordd ond sy’n dal i effeithio ar addysg y plentyn.  Nid yw data NEET ar gael yn rhwydd a byddai’n anodd ei gadarnhau. Fodd bynnag, gwneir ymdrechion i ystyried gwahanol lwybrau a chynigion cymysg i atal gwaharddiadau a chefnogi ailintegreiddio, er fod heriau gydag adnoddau, tebyg i lai o gymorth ar gyfer profiad gwaith.
  • Gofynnodd aelod os oes proffil dros gyfnod yn edrych ar faterion oedd yn bodoli hyd yn oed cyn y pandemig, tebyg i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, heriau niwro-ddatblygiadol ac yn y blaen. Esboniodd Dr Wagstaff fod y dadansoddiad data yn awr yn fwy cadarn a bod yr awdurdod lleol yn monitro a bod ganddo broffil cryf o ddysgwyr bregus, yn cynnwys y rhai gyda rhwystrau i ddysgu, anghenion dysgu ychwanegol, cysylltiad gyda gofal cymdeithasol a’r rhai sy’n byw mewn tlodi. Dengys y dadansoddiad fod y grwpiau hyn yn fwy tebygol o gael eu gwahardd, ac mae ffocws ar sicrhau fod ysgolion yn gwneud addasiadau rhesymol i gefnogi’r dysgwyr hyn.
  • Gofynnwyd ymhellach am ymarferoldeb y galluedd ychwanegol i gefnogi disgyblion, teuluoedd ac ysgolion o gofio am y diffyg sylweddol ar gyfer yr Uned Cyfeirio Disgyblion. Atebodd Dr Wagstaff y bu galluedd yr Uned yn bryder, gyda’r boblogaeth yn yr unedau yn dyblu. Mae’r awdurdod lleol yn ymateb drwy gynyddu galluedd a symud i ganolfannau newydd i roi gwell darpariaeth. Y nod yw cynnig ymyriadau ataliol i osgoi gwaharddiadau parhaol a rheoli ailintegreiddio yn ddiogel.
  • Gofynnwyd am eglurdeb am gynnig yr awdurdod ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol. Mae’r cynnig hwn yn eang a chymhleth, yn cynnwys yr Uned Cyfeirio Disgyblion, darpariaeth feddygol ar gyfer plant sy’n rhy dost i fynychu’r ysgol a dysgu gr?p bach. Mae’r ddarpariaeth yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn amrywio yn seiliedig ar anghenion y plentyn, gyda’r nod bob amser i ailintegreiddio’r plentyn yn ôl i’r ysgol.
  • Gofynnwyd os yw’r gweithdrefnau sicrwydd ansawdd ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol yn cyrraedd y trylwyrdeb a nodir yn adroddiad Estyn. Esboniodd Dr Wagstaff fod yr awdurdod lleol wedi datblygu prosesau sicrwydd ansawdd mwy cadarn ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol, yn cynnwys swyddog comisiynu a chylch adolygu wedi ei strwythuro. Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau fod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion dysgwyr ac yn cydymffurfio gyda gofynion y Ddeddf ADY.
  • Gofynnodd aelod faint o alluedd sydd o fewn yr ysgolion i blant gael eu gwahardd o’r ystafell ddosbarth ond dal i gael eu cadw yn yr ysgol, gan gael eu haddysgu yn yr ysgol yn hytrach na chael eu gwahardd a’u hanfon gartref. Esboniodd y swyddogion fod gan ysgolion wahanol ymyriadau a darpariaethau ar gyfer plant a gaiff eu gwahardd o’r ystafell ddosbarth ond yn dal i fod o fewn yr ysgol. Mae yn cynnwys cynorthwywyr cymorth llythrennedd emosiynol, cymorth mewnol a chymorth arall wedi ei dargedu i gyfarch anghenion penodol. Mae’r dull yn amrywio yn ôl ysgol ac mae disgwyliad fod ysgolion yn gwneud addasiadau rhesymol i gefnogi’r dysgwyr hyn.
  • Gofynnodd aelod sut mae’r awdurdod yn sicrhau lles staff sy’n delio gydag ymddygiad sy’n tarfu ac yn achosi risg a gofid gan blant bregus. Esboniodd y swyddogion fod lles staff yn ffocws sylweddol, gyda gwahanol brosiectau a chynlluniau peilot yn eu lle i gefnogi eu lles, yn cynnwys cynlluniau peilot goruchwylio. Caiff iechyd a diogelwch staff eu hystyried mewn asesiadau risg a chynlluniau ailintegreiddio ar gyfer myfyrwyr. Mae’r awdurdod lleol yn cydnabod yr effaith ar staff a gwaith i sicrhau eu diogelwch a’u llesiant drwy brosesau cynhwysfawr a dulliau cefnogaeth.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Mynegodd aelodau ddiolch am y Seminar Aelodau ddefnyddiol a gynhaliwyd ar y pwnc hwn yn ddiweddar a diolchwyd i staff ym mhob ysgol am eu gwaith. Nododd y Cadeirydd fod y setiau sgiliau mae staff eu hangen nawr yn ehangach ac yn fwy cymhleth nag yn flaenorol, a chydnabod y penderfyniadau anodd y mae angen i Benaethiaid eu gwneud am waharddiadau. Dymunai atgoffa pob rhiant mai’r ysgol yw’r lle gorau i'w plentyn fod, yn arbennig o gofio am y gydberthynas uchel rhwng problemau cymhleth mewn bywyd a diffyg presenoldeb. Cafodd yr adroddiad a’r argymhellion eu cynnig.

 

Dogfennau ategol: