Craffu ffigurau STEAM Sir Fynwy (cyfaint a gwerth twristiaeth).
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Angela Sandles yr adroddiad. Cafwyd cyflwyniad gan Nicola Edwards ac atebodd gwestiynau'r aelodau gyda'r Cynghorydd Sandles.
Pwyntiau allweddol gan aelodau:
· Holodd aelod am y setiau data yn yr adroddiad STEAM, yn benodol sut mae ymwelwyr yn cyrraedd, sut maent yn teithio ar ôl cyrraedd, ac a oes unrhyw fuddsoddiad o ran hybu trafnidiaeth gyhoeddus i dwristiaid. Eglurodd y swyddog fod mwyafrif yr ymwelwyr yn cyrraedd mewn car ac yn teithio o gwmpas mewn car hefyd. Soniodd fod ymdrechion yn cael eu gwneud i hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus a bod gwaith yn cael ei wneud gyda gweithredwyr trafnidiaeth i annog defnydd, er, mae hyn yn anodd mewn cyrchfan wledig fel Sir Fynwy.
· Gofynnwyd ymhellach a oedd unrhyw arian cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi'n uniongyrchol mewn hyrwyddo twristiaeth ac a oes cydberthynas rhwng buddsoddiadau o'r fath ac effeithiau cadarnhaol ar y data. Ymatebodd y swyddog er bod y tîm yn cofnodi ac yn adrodd ar fetrigau marchnata, mae ymchwil manwl ar ymwelwyr yn ddrud, ac nid oes ganddynt y gyllideb ar hyn o bryd ar gyfer arolygon ymwelwyr ar raddfa fawr. Soniodd y byddai'r Cynllun Rheoli Cyrchfan newydd yn mynd i'r afael â'r materion hyn ac yn darparu mewnwelediad manylach.
· Gofynnodd aelod am y gydberthynas rhwng ystadegau'r farchnad lafur a’r adroddiad STEAM. Eglurodd y swyddog nad oedd ystadegau'r farchnad lafur yn rhan o'r adroddiad. Eglurodd bod yr adroddiad STEAM yn canolbwyntio ar y nifer o swyddi a gefnogir gan dwristiaeth, a bod hyn wedi’i ddosbarthu ar draws amrywiol sectorau cyflogaeth, ac yn cynnwys unigolion cyflogedig a hunangyflogedig. Soniodd fod y ffigur o 15% yn cynrychioli cyfanswm cyflogaeth yn Sir Fynwy a gefnogir gan dwristiaeth.
· Gofynnodd aelod am gyfraddau defnydd o lety gwesty o’i gymharu â llety hunanarlwyo, a holodd am y gefnogaeth i’r farchnad hunanarlwyo breifat, gan ystyried ffactorau megis treth twristiaeth, trethi busnes, a’r angen i lety gwyliau gael nifer penodol o ddyddiau ble mae rhywun yn aros ynddynt. Eglurodd y swyddog fod llety di-wasanaeth a hunanarlwyo yn gyrru twf effaith economaidd yn Sir Fynwy. Nododd fod y proffil llety yn gwyro o blaid llety heb wasanaeth, sydd wedi gwella'n well ar ôl y pandemig. Tynnodd sylw at yr heriau a wynebir gan ddarparwyr hunanarlwyo, megis y trothwy defnydd 182 diwrnod ar gyfer ardrethi busnes, sy’n uwch nag yn Lloegr, a soniodd y gallai’r ardoll ymwelwyr fod yn gyfle os caiff y refeniw a gynhyrchir ei ail-fuddsoddi i wella profiad yr ymwelydd.
· Cwestiynodd yr aelod hefyd yr angen am fwy o lety gwesty yn erbyn gwella opsiynau hunanarlwyo. Pwysleisiodd y swyddog bwysigrwydd cael ystod dda o wahanol fathau o lety er mwyn denu ymwelwyr amrywiol, gan gynnwys y rhai sy'n dewis cyrchfannau ar sail gwestai penodol.
· Gofynnodd aelod sut mae Sir Fynwy yn mynd i’r afael â’r heriau ar dwristiaeth sy’n codi yn sgil tywydd eithafol a sut i ddenu pobl yn ôl. Ymatebodd y swyddog bod cyrchfannau ag atyniadau tywydd gwlyb wedi bod yn fwy gwydn, gan amlygu pwysigrwydd cael profiadau cymhellol nad ydynt yn cael eu heffeithio gan dywydd eithafol. Soniodd bod gan Sir Fynwy eisoes rai atyniadau fel cestyll a neuaddau sy'n darparu ar gyfer yr angen hwn.
· Holodd yr aelod hefyd am ymgorffori adborth ymwelwyr yn y cynllun rheoli cyrchfan newydd ac unrhyw feysydd a nodwyd ar gyfer gwella trwy sesiynau ymgysylltu â rhanddeiliaid. Nododd y swyddog bod materion cyffredin a godwyd yn cynnwys parcio ceir, toiledau cyhoeddus, a chludiant cyhoeddus, sy'n effeithio ar ansawdd bywyd trigolion a phrofiad ymwelwyr. Cadarnhaodd y byddai'r mewnwelediadau hyn yn cael eu hymgorffori yn y Cynllun Rheoli Cyrchfan newydd.
· Gofynnodd aelod am fewnwelediadau ansoddol a gasglwyd gan ymwelwyr ee beth maent yn ei werthfawrogi am brofiad Sir Fynwy, eu disgwyliadau, a meysydd i'w gwella. Ymatebodd y swyddog bod gan y tîm lawer o ddata craff ar yr hyn y mae ymwelwyr yn ei feddwl am Sir Fynwy, gan gynnwys eu cymhellion, gweithgareddau, a chanfyddiadau o ran cryfderau'r ardal. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chyflwyno fel rhan o'r Cynllun Rheoli Cyrchfan newydd.
· O ran cyfyngiadau cyllidebol, gofynnodd yr aelod a oes cyfleoedd ariannu posibl y tu hwnt i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys mentrau twristiaeth trawsffiniol, y gallai Sir Fynwy eu negodi. Eglurodd y swyddog bod cyllid ar gyfer marchnata cyrchfannau wedi bod yn lleihau, ac maent yn dibynnu ar bartneriaethau gyda Croeso Cymru, Llywodraeth Cymru, a phartneriaid yn y sector preifat ar gyfer gweithgareddau hyrwyddo. Nododd bod cyfleoedd ar gyfer cyllid gan Lywodraeth y DU yn gyfyngedig oherwydd y canfyddiad ynghylch gweithgarwch dadleoli.
· Holodd aelod am y data ar welyau, yn benodol os yw'n cynnwys meysydd gwersylla ac “airs” (mannau parcio pwrpasol ar gyfer cartrefi modur) o fewn y data llety di-wasanaeth. Cadarnhaodd y swyddog bod y data ar welyau heb wasanaeth yn cynnwys carafannau a gwersylla, yn ogystal â glampio. Eglurodd hefyd nad oes gan Sir Fynwy unrhyw “airs” ar hyn o bryd.
· Gofynnodd aelod am y dadansoddiad o effaith Airbnb ac unedau hunanarlwyo ar dwristiaeth a chyflogaeth. Eglurwyd mai llety â gwasanaeth, megis gwestai, yw'r math mwyaf gwerthfawr o lety gan ei fod yn cynnal mwy o swyddi ac yn darparu'r gwerth uchaf o ran twristiaeth. Fodd bynnag, mae gan Sir Fynwy fwy o lety heb wasanaeth, gan gynnwys hunanarlwyo ac Airbnb, sydd wedi bod yn sbarduno twf economaidd ar ôl y pandemig.
· Gofynnodd yr aelod sut y gellid defnyddio gwefan Cyngor Sir Fynwy i hyrwyddo mwy o ddigwyddiadau yn y sir. Dywedodd y swyddog bod gan wefan Cyngor Sir Fynwy galendr o ddigwyddiadau y gall trefnwyr gweithgareddau ychwanegu gwybodaeth ato am ddim, gan hyrwyddo digwyddiadau ar draws y sir.
· Gofynnodd aelod am effaith tagfeydd traffig ar brofiad ymwelwyr, ee o amgylch Cas-gwent, a oes potensial ar gyfer cyfleusterau parcio a theithio yn Sir Fynwy, ac a oes unrhyw gyswllt gyda chwmnïau bysiau a threfnwyr teithiau i drefnu teithiau i'r sir. Eglurodd y swyddog bod rhai lleoliadau sy’n cynnal digwyddiadau mwy, megis Cae Ras Cas-gwent, yn trefnu cynlluniau parcio a theithio ar gyfer digwyddiadau mawr. Fodd bynnag, byddai trefnu cynlluniau o'r fath ar gyfer niferoedd llai yn anodd ac yn gostus. Soniodd hefyd bod gweithgarwch y fasnach deithio, gan gynnwys annog cwmnïau bysiau a gweithredwyr teithiau i ddod i Sir Fynwy, yn cael ei wneud ar y cyd fel rhan o ymgyrch farchnata ranbarthol yn Ne-ddwyrain Cymru. Mae hyn yn cynnwys mynychu sioeau masnach a gweithio gyda gweithredwyr i gynnwys profiadau Sir Fynwy yn eu teithlenni.
· Gofynnodd y Cadeirydd a oedd arenillion a pris o ran ymwelwyr yn cael ei gyfrifo y pen y dydd, neu'n cynnwys arhosiad dros nos. Eglurodd y swyddog bod yr adroddiad yn ymdrin â dau fetrig gwahanol: effaith economaidd fesul ymwelydd (arenillion ymweliad) ac effaith economaidd fesul diwrnod ymwelydd. Yr effaith economaidd gyfartalog fesul ymwelydd yw £144, sy'n amrywio'n sylweddol rhwng ymwelwyr dydd ac ymwelwyr sy'n aros. Mae ymwelwyr dydd yn cyfrannu rhwng £42 a £279, tra bod ymwelwyr sy'n aros yn cyfrannu £439, sy'n cynnwys eu costau llety dros nos. Yr effaith economaidd gyfartalog fesul diwrnod ymwelydd yw £93.43.
· Gofynnodd y Cadeirydd beth y gellir ei wneud, neu beth a argymhellir, i ymdrin â’r wasgfa ar elw hunanarlwyo o’r gyfradd llenwi 182 diwrnod. Cytunodd y swyddog fod yna risg, ac nad yw maint y risg yn hysbys, ond o'r adborth rheolaidd a dderbynnir gan weithredwyr llety hunanarlwyo, yr hyn sy’n achosi’r anhawster mwyaf iddynt yw’r trothwy defnydd o 182 diwrnod.
· Gofynnodd y Cadeirydd am y berthynas rhwng yr adroddiad hwn a'r CDLl Newydd. Eglurodd yr Aelod Cabinet bod trafodaethau gyda'r Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd a swyddogion wedi tynnu sylw at y ffaith bod gweithredwyr twristiaeth yn agored i wahanol ddulliau o ran gweithredu. Mae'r tîm yn barod i gydweithio ac annog y gweithredwyr hyn i ddod i'r sir. Mae ganddynt nifer o ddolenni ar eu gwefannau, megis MonLife a Visit Monmouthshire, sy'n darparu digon o gyfleoedd ar gyfer twristiaeth. Pwysleisiodd fod lle yn y CDLl Newydd i ddatblygiadau cadarnhaol at ddibenion twristiaeth a chydweithio gyda gweithredwyr wrth symud ymlaen.
· Cynigiodd y Cynghorydd Brown bod y pwyllgor yn rhoi argymhelliad i Lywodraeth Cymru y dylid adolygu’r trothwy deiliadaeth 182 diwrnod – CAM GWEITHREDU
Crynodeb y Cadeirydd:
Diolch i’r Aelod Cabinet a’r swyddogion. Codwyd nifer o bwyntiau gan y pwyllgor gan gynnwys cwestiynau am gynyddu llety hunanarlwyo preifat ac effaith trethi, tagfeydd traffig, a chynlluniau parcio a theithio; hyrwyddo Sir Fynwy a mynegi diddordeb mewn clywed adroddiadau ar effaith gwahanol fathau o lety; ymholiadau am sut mae ymwelwyr yn cyrraedd ac yn teithio o fewn yr ardal, a gwerth llety hunanarlwyo; trafod yr hyn sy'n gyrru ymwelwyr a'u disgwyliadau, a gofyn am gyllid trawsffiniol posibl; pwysleisio pwysigrwydd twristiaeth i Sir Fynwy a'r angen i sicrhau bod twristiaid yn dychwelyd, gan grybwyll y Cynllun Corfforaethol a'r Cynllun Rheoli Cyrchfan sydd ar y gorwel; a chafwyd trafodaeth ar yr Arenillion Ymwelwyr o’r dreth gyngor ac elw, yn ogystal â goblygiadau’r rheol deiliadaeth 182 diwrnod ar gyfer llety hunanarlwyo, a’r CDLl Newydd.
Cytunodd y pwyllgor i ddrafftio llythyr at Lywodraeth Cymru, gyda chymorth swyddogion, er mwyn mynd i’r afael â’r heriau sy’n codi yn sgil y trothwy deiliadaeth 182 diwrnod ar gyfer llety hunanarlwyo a’i effaith ar economi twristiaeth Sir Fynwy. Mae angen i'r ddeddfwriaeth fod yn ei lle er mwyn i lety hunanarlwyo gael ei reoleiddio'n briodol.
Dogfennau ategol: