Rhoi’r diweddariad monitro ariannol diweddaraf.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Callard a Jonathon Davies yr adroddiad ac ateb cwestiynau aelodau.
Pwyntiau allweddol gan Aelodau:
· Gofynnwyd os yw dibyniaeth y Cyngor ar grantiau yn nodweddiadol, o gymharu ag awdurdodau lleol eraill, ac os gallai’r pwyllgor wybod y nifer o staff a gaiff eu cyllido gan grant (Gweithredu).
· Mynegwyd pryder am effaith toriadau yn y gyllideb a swyddi gwag ar y staff presennol, yn arbennig mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Holodd aelodau os caiff y pwysau ychwanegol ar staff yn deillio o gynnydd mewn llwyth gwaith ei fonitro ac os yw’r Cyngor yn rhoi cefnogaeth ddigonol i staff.
· Gofynnodd aelodau sut ydym yn sicrhau, wrth i swyddi gwag ddigwydd, bod y bobl gywir yn y lle cywir, a sut ydym yn sicrhau fod prosesau yn ddarbodus ac effeithiol.
· Ymchwiliwyd i ba lefel yr ymgysylltir gyda staff ysgol a’u cefnogi gyda’u cyllidebau diffyg, a gofynnodd aelodau os caiff canlyniadau arolygon staff eu rhannu gyda chydweithwyr yn y cyngor fel y gellid hysbysu’r Pwyllgor yn y dyfodol. Gofynnwyd ymhellach pa negeseuon cefnogaeth a gaiff eu rhoi i benaethiaid ysgol am drywydd gwariant ysgol yn y dyfodol.
· Nododd y Cadeirydd o ymateb y Prif Swyddog fod Covid yn parhau yn broblem sylweddol yn ein hysgolion ac ymysg absenoldeb athrawon a staff ehangach.
· Holodd aelodau am effaith ar staff y gostyngiad o £1.5m mewn iechyd a gofal cymdeithasoli, gyda pha effaith ar ddarpariaeth gwasanaeth, a sut y caiff hyn ei reoli.
· Gofynnwyd am eglurdeb os yw’r diffyg o £2m yn y targed arbedion cyllideb yn ychwanegol at y gorwariant o £4m mewn gwasanaethau craidd o ddiwedd y llynedd. Nodwyd fod y £2m yn rhan o’r £4m.
· Gofynnwyd os yw gwasanaethau craidd yn parhau i orwario ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon fel yn y rhagolwg, p’un ai a fydd hynny’n ychwanegu at y diffyg o £35m a ragwelwyd ym mis Gorffennaf, a sut y bydd rhagolwg gwariant yn cael ei drin gan mai’r cyfarwyddyd clir yn yr adroddiad hwn ac adroddiadau cynharach yw fod yn rhaid i’r Cyngor beidio defnyddio cronfeydd wrth gefn, ac na all y Cyngor fenthyca i dalu am unrhyw ddiffyg refeniw. Pe byddai’r sefyllfa honno yn codi, cadarnhawyd y byddai’n rhaid i’r Cyngor ddefnyddio ei gronfeydd wrth gefn, er bod y ffocws ar reoli’r diffyg cyfredol yn y fllwyddyn drwy weithredu wedi’i dargedu i adfer y gyllideb.
· Yng nghyswllt arloesedd, gofynnwyd am eglurdeb am i ba raddau y mae’r rhai sy’n darparu’r gwasanaethau yn cael mewnbwn ar ble gellir gwneud arbedion.
· Gofynnodd aelodau am eglurdeb am effaith swyddi gwag, a rhoddwyd y 3 swydd wag yn y tîm Datgarboneiddio fel enghraifft.
· Ar fater y Dreth Gyngor, gofynnodd aelodau am fwy o fanylion am y dystiolaeth fod premiwm yn dechrau dod ag anheddau yn ôl i ddefnydd (Gweithredu).
· Nododd y Cadeirydd y gostyngiad rhagorol o £820k mewn costau ynni.
· Gofynnwyd pa mor realistig yw’r disgwyliad o wrthdroi’r tueddiad cyfredol am orwariant mewn gofal cymdeithasol.
· Gofynnodd aelodau os caiff digon o adnoddau eu buddsoddi i adeiladu cydnerthedd ac atal chwalfa teuluoedd, ac os yw grantiau yn effeithio ar y maes hwn.
· Gofynnwyd am eglurdeb am arbedion yng nghyswllt polisi Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol.
· Gofynnwyd os ydym yn gwneud y defnydd gorau o’n staff gydag ymgynghoriadau, ac os y gallai tîm mewnol wneud mwy o’r gwaith sylfaenol cyn defnyddio tîm arbenigol.
· Gofynnodd aelodau sut mae’r gorwariant mewn cludiant teithwyr yn cael ei drin a pham y bu gostyngiad mewn incwm ar gyfer y fferm solar.
· Gofynnwyd am ateb i’r cwestiwn a ofynnir gan lawer o breswylwyr pam yr ymddengys fod gan yr awdurdod broblemau ariannol tra bod y Dreth Gyngor yn rhedeg rhwng 3-4 gwaith cyfradd chwyddiant.
Crynodeb y Cadeirydd:
Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Cabinet a swyddogion am y drafodaeth sylweddol a gynhaliwyd a chynigiodd yr adroddiad.
Dogfennau ategol: