Cofnodion:
Fe wnaethom ystyried adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd ar gyfer ei gymeradwyo gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad a’r geiriad diwygiedig ar gyfer amod 3 a’r rheswm dros amod 10, a nodir mewn gohebiaeth hwyr.
https://www.youtube.com/live/5Yfq1B8CkVE?si=Dho9AkWYKde9Rjsv&t=126
Wrth nodi manylion y cais a’r sylwadau a gafwyd, cynigiodd y Cynghorydd Sir Jayne McKenna ac eiliodd y Cynghorydd Sir Ann Webb fod cais DM/2023/01198 yn cael ei gymeradwyo gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad a’r geiriad diwygiedig i amod 3 a’r rheswm dros amod 10, a nodir mewn gohebiaeth hwyr fel sy’n dilyn:
3. Caiff yr holl wastraff soled a gynhyrchir gan y datblygiad a gymeradwyir drwy hyn ei allforio i safle treuliwr anaerobig gyda thrwydded briodol a’rholl dd?r brwnt i waith trwyddedig trin d?r gwastraff. Ni chaiff unrhyw wastraff soled na d?r gwastraff, wedi ei drin neu heb ei drin, ei daenu yn uniongyrchol ar unrhyw dir. Bydd gweithredwr y datblygiad a gymeradwyir drwy hyn yn cadw cofnodion yn dangos derbyn yr holl ddeunydd a allforir gan y safle porwr anaerobig a bydd ar gael i’r Awdurdod Cynllunio Lleol pan wneir cais. Bydd y datblygiad yn cydymffurfio bob amser gyda’r Cynllun Gwrtaith a D?r Brwnt a gyflwynwyd gan Ian Pick Associated Cyf dyddiedig Mehefin 2023. Os oes unrhyw elfennau o’r Cynllun Gwrtaith a D?r Brwnt yn newid yn y dyfodol, yn arbennig gyrchfan dderbyniol ar gyfer unrhyw wastraff soled neu dd?r, mae’n rhaid cyflwyno cynllun newydd ar gyfer rheoli gwrtaith a d?r brwnt i’r awdurdod cynllunio lleol a bydd gweithredu yn siedau 5 a 6, a gymeradwyir drwy hyn, yn dod i ben nes caiff y cynllun rheoli newydd ei gymeradwyo mewn ysgrifen gan yr awdurdod cynllunio lleol.
Rheswm: Sicrhau y gwaredir yn gywir â’r gwastraff o’r fferm yn awr a hefyd yn y dyfodol er mwyn osgoi llygru’r amgylchedd.
Cafodd y rheswm dros amod 10 ei adael allan o’r adroddiad (Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu) a chaiff felly ei roi yma:
Rheswm: Diogelu cynefinoedd a rhywogaethau a warchodir dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Cofnodwyd y pleidleisiau canlynol pan roddwyd y mater i’r bleidlais:
O blaid cymeradwyo - 12
Yn erbyn cymeradwyo - 0
Ymatal - 2
Derbyniwyd y cynnig.
Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2023/01198 gyda’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad a’r geiriad diwygiedig i amod 3 a’r rheswm dros amod 10, a nodir mewn gohebiaeth hwyr, fel sy’n dilyn:
3. Caiff yr holl wastraff soled a gynhyrchir gan y datblygiad a gymeradwyir drwy hyn ei allforio i safle treuliwr anaerobig gyda thrwydded briodol a’r holl dd?r brwnt i waith trwyddedig trin d?r gwastraff. Ni chaiff unrhyw wastraff soled na d?r gwastraff, wedi ei drin neu heb ei drin, ei daenu yn uniongyrchol ar unrhyw dir. Bydd gweithredwr y datblygiad a gymeradwyir drwy hyn yn cadw cofnodion yn dangos derbyn yr holl ddeunydd a allforir gan y safle porwr anaerobig a bydd ar gael i’r Awdurdod Cynllunio Lleol pan wneir cais. Bydd y datblygiad yn cydymffurfio bob amser gyda’r Cynllun Gwrtaith a D?r Brwnt a gyflwynwyd gan Ian Pick Associated Cyf dyddiedig Mehefin 2023. Os oes unrhyw elfennau o’r Cynllun Gwrtaith a D?r Brwntyn newid yn y dyfodol, yn arbennig gyrchfan dderbyniol ar gyfer unrhyw wastraff soled neu dd?r, mae’n rhaid cyflwyno cynllun newydd ar gyfer rheoli gwrtaith a d?r brwnt i’r awdurdod cynllunio lleol a bydd gweithredu yn siedau 5 a 6, a gymeradwyir drwy hyn, yn dod i ben nes caiff y cynllun rheoli newydd ei gymeradwyo mewn ysgrifen gan yr awdurdod cynllunio lleol.
Rheswm: Sicrhau y gwaredir yn gywir â’r gwastraff o’r fferm yn awr a hefyd yn y dyfodol er mwyn osgoi llygru’r amgylchedd.
Cafodd y rheswm dros amod 10 ei adael allan o’r adroddiad (Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu) a chaiff felly ei roi yma:
Rheswm: Diogelu cynefinoedd a rhywogaethau a warchodir dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Dogfennau ategol: