Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Martyn Groucott, gan esbonio mai diben yr ymgynghoriad a’r
adroddiad a gyflwynir i’r pwyllgor oedd ystyried p’un
ai i fabwysiadu’r meini prawf ar gymhwyster pellter statudol
ar gyfer darparu cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol.
Atebodd gwestiynau aelodau gyda Debra
Hill-Howells.
Pwyntiau allweddol a wnaed gan
Aelodau:
- Gofynnodd aelodau am eglurdeb ar y ddau
opsiwn ar gyfer newid y pellter statudol ar gyfer darparu cludiant
am ddim a holi faint o arbedion y byddai’r naill a’r
llall o’r opsiynau hyn yn ei roi. Dywedodd yr aelod nad oedd
yr ymgynghoriad yn cynnig dewisiadau eraill heblaw newid y pellter
statudol ar gyfer y cyhoedd i’w ystyried, er enghraifft,
gynnydd yn y dreth gyngor. Cadarnhaodd
y Cynghorydd Groucutt y byddai cynyddu’r dreth gyngor gan tua
un pwynt canran yn cynhyrchu tua £700,000 y flwyddyn, ond y
byddai angen ystyried hynny fel rhan o broses ehangach y gyllideb
gan fod pwysau eraill ar y gyllideb y byddsi angen eu
hystyried.
- Soniodd aelod nad yw’r adeg o’r
flwyddyn yn neilltuol o dda ar gyfer sicrhau ymatebion gan y
cyhoedd i ymgynghoriadau, gan y byddai llawer o bobl ar wyliau.
Cadarnhawyd fod yr etholiad cyffredinol wedi gohirio dyddiad
dechrau’r ymgyhghoriad, fodd bynnag anfonwyd yr holl e-byst
at ddefnyddwyr presennol cludiant, ysgolion, rhanddeiliaid a
gweithredwyr i’w hysbysu am yr ymgynghoriad. Cadarnhaodd swyddogion y cynhelir sesiynau mewn
hybiau a bod dogfennau ar gael ar-lein yn esbonio diben yr
ymgynghoriad yn ogystal ag arolwg sy’n gwahodd pobl i roi eu
hadborth ar y cynigion.
- Rhannodd aelod bryderon am gynyddu’r
gwasanaeth mewnol a’r goblygiadau staffio. Cadarnhaodd y
swyddog y caiff cost darpariaeth mewnol ei gymharu gyda thendrau
allanol ac mai dim ond os mai dyna’r opsiwn ariannol gorau y
bydd y gwasanaeth mewnol yn ymgymryd â’r
gwasanaeth.
- Gofynnodd aelod sut y byddai’r cyngor
yn monitro effaith amgylcheddol cynyddu cyllidebau cludiant
personol a defnydd ceir ac ymatebodd swyddogion fod gan y cyngor
gynllun ar waith i ostwng carbon a’i fod wedi gwneud
datganiad ar argyfwng hinsawdd, ac y bydd yn asesu ôl-troed
carbon y gwahanol opsiynau cyllid ac yn gweithio gydag ysgolion a
rhieni i hyrwyddo dewisiadau teithio cynaliadwy gan ystyried yr
effaith amgylcheddol fel rhan o’r broses benderfynu, i
liniaru unrhyw effeithiau niweidiol.
- Gofynnodd aelod sut y byddai’r cyngor
yn cefnogi rhieni mewn gwaith a all fod yn wynebu anawsterau
oherwydd y newidiadau a pha fesurau lliniaru y byddid yn eu cynnig.
Atebodd y Cyng Groucutt fod cymorth dewisol eisoes ar gael i helpu
teuluoedd ac y byddid yn rhannu’r manylion hynny.
- Gofynnodd aelodau sut y caiff y llwybrau
cerdded sydd ar gael eu hasesu ar gyfer diogelwch ac addasrwydd a
chlywsant fod proses asesu Diogelwch Ffyrdd PF a gynhelir fel arfer
gan swyddogion Priffyrdd. Lle caiff asesiad ei herio, bydd
swyddogion yn cerdded y llwybr gyda rhieni ac aelodau.
- Holodd aelod pam nad oedd geiriad y polisi
drafft wedi ei gynnwys yn y ddogfen ymgynghori a dywedwyd fod hynny
oherwydd na fu newid ynddo, heblaw am y tri opsiwn a gaiff eu
hystyried a phe bai unrhyw un ohonynt yn cael eu mabwysiadu,
byddai’r meini prawf ar gymhwyster pellter yn cael eu diwygio
yn unol â hynny. Gofynnodd yr aelod am eglurdeb y byddai
geiriad y polisi yn aros yr un fath, heblaw am y tri opsiwn.
Cadarnhaodd swyddogion y byddai geiriad y polisi yn aros yr un fath heblaw am y tri opsiwn, ac y
caiff y diwygiadau a gynigir eu cynnwys yn adroddiad y
Cabinet.
- Holodd y pwyllgor sut y byddai’r
cynigion yn effeitho ar gludiant i ysgolion ffydd. Cadarnhaodd y
swyddogion na fyddai’r cynigion yn newid y meini prawf ar
gyfer cludiant i ysgolion ffydd ond y byddai unrhyw newidiadau
i’r meini prawf ar gymhwyster pellter yn weithredol i bob
dysgwr, yn cynnwys y rhai mewn ysgolion ffydd. Dywedwyd fod y
ddogfen ymgynghori yn cynnwys cwestiwn am effaith y cynigion ar
grefydd a chredo, ac y gall rhieni hefyd roi sylwadau neu
awgrymiadau ar y mater hwn.
- Holodd aelod os y byddai cludiant a
ddarparwyd gan nad oedd llwybr cerdded ar gael yn dod i ben ar
ddiwedd y flwyddyn academaidd a’r ateb a roddwyd oedd na
fyddai, os na chafodd gwaith ei gwblhau
i wneud y llwybr yn ddiogel, tebyg i fan croesi neu newidiadau
i’r terfyn cyflymder.
- Holodd aelod os y byddai cludiant ysgol
neilltuol yn dal i fod ar gael o Goetre i Ysgol y Brenin Harri ar
gyfer y flwyddyn academaidd newydd a chlywodd mai’r bwriad
oedd ailddechrau’r gwasanaeth bws cyhoeddus ar gyfer cludiant
rhwng y cartref a’r ysgol o’r Goetre ar gyfer y
flwyddyn academaidd nesaf, gan y cafodd
llwybr y gwaasanaeth bws ei newid, fel nad oes angen i ddysgwyr
groesi’r A4042.
- Dywedodd aelod ei bod yn bwysig fod y cyngor
yn ceisio gostwng ei ôl-troed carbon drwy ddefnyddio ei
gludiant ei hun yn hytrach na chyflenwad wedi ei
is-gontractio.
- Mynegodd aelodau amheuon os y byddai plant
mewn ardaloedd gwledig yn cerdded 2 filltir mewn tywydd garw a
gofynnodd aelod am eglurdeb ar y broses lle na fu ymgeiswyr yn
llwyddiannus yn eu dewis cyntaf o ysgol, ac wedi cael cludiant i
ysgol arall. Gofynnodd os y byddent yn parhau i dderbyn cludiant am
ddim yn y flwyddyn ddilynol, y rheolau am frodyr a chwiorydd, teulu
estynedig a theuluoedd wedi gwahanu. Cadarnhaodd swyddogion, lle
cafodd dysgwr gludiant am ddim gan eu bod yn mynychu eu hysgol
agosaf a ddyrannwyd gan yr adran Plant a Phobl Ifanc, yna y byddent
yn parhau i dderbyn cludiant am ddim, os nad oedd newidiadau yn eu
hamgylchiadau personol, tebyg i symud t? a byddent yn cael eu
hailasesu. Ni fyddai gan frodyr a chwiorydd hawl i gludiant am ddim
lle mae rhiant wedi gweithredu dewis rhiant.
- Holodd aelod beth fyddai’n cael ei
ystyried pe byddai’r ymateb i’r ymgynghoriad yn
negyddol iawn a dywedodd y credai oherwydd nad yw cwestiwn 1 yn
gofyn os yr effeithir ar y person sy’n ateb, y gallai hynny
sgiwio’r ateb Cadarnhawyd y byddai’r ymateb i’r
arolwg yn ffurfio rhan o adroddiad gan y Cabinet i alluogi Aelodau
i benderfynu p’un ai symud ymlaen ai peidio gyda’r
cyfan neu unrhyw un o’r opsiynau.
- Holodd aelod os y byddir yn rhoi adroddiad
yn ôl i’r Pwyllgor Craffu Pobl ar ganfyddiadau’r
ymgynghoriad cyn penderfyniad y Cabinet a chadarnhawyd fod yr
amserlenni statudol ar gyfer gweithredu yn golygu nad oedd ar yr
amserlen i ddychwelyd i’r pwyllgor craffu cyn penderfyniad y
Cabinet a bod y cyfarfod hwn yn cyfrif fel craffu cyn-penderfyniad
yn ystod y cyfnod ymgynghori.
- Gofynnodd aelodau am gadw ddolen i’r
ymgynghoriad ar dudalen flaen gwefan y Cyngor tan ddiwedd y cyfnod
ymgynghori. Gweithredu: Deb Hill-Howells i ofyn am hyn
drwy’r Tîm Cyfathrebu.
Crynodeb y Cadeirydd:
Gofynnodd y cadeirydd am farn y pwyllgor os
y gellid cefnogi’r polisi ai peidio a ni fynegwyd unrhyw
sylwadau croes i hynny, fodd bynnag mynegodd aelod bryder am sut y
byddai’r data yn deillio o’r ymgynghoriad yn cael ei
ddehongli.