Cyflwynodd Jane Rodgers a Ben Anderson yr
adroddiad sydd yn werthusiad perfformiad gan Arolygiaeth Gofal
Cymru o’r gwasanaethau plant, sy’n amlygu’r
cryfderau a’r meysydd gwella a ddynodwyd gan adroddiad yr
arolwg. Dywedodd Ben Anderson, Arolygiaeth Gofal Cymru, fod yr
arolwg yn gyffredinol gadarnhaol a bod tystiolaeth o ddatblygiad
parhaus ar y gwasanaeth ers mis Chwefror. Dywedodd mai’r
ffocws yn y dyfodol fyddai ar ymarfer ac ansawdd i sicrhau
cydymffurfiaeth gyda dyletswyddau statudol ac i gasglu llais plant.
Atebwyd cwestiynau yn fanwl gan Diane Corrister, ynghyd â
Jane Rodgers a Ben Anderson.
Pwyntiau allweddol a wnaed gan
Aelodau:
- Gofynnodd aelodau sut mae arweinwyr
y cael mwy o drosolwg o ansawdd
asesiadau a chynlluniau a nodwyd y caiff hyfforddiant, sicrwydd
ansawdd a chymorth gweithredu eu darparu ar gyfer
staff.
- Gofynnodd aelod am esboniad o’r model
ymarfer newydd a’r Tîm Asesu Help Cynnar,
- Gofynnwyd am eglurdeb am ba welliannau a
wneir i ddod ag arfer i fod yn unol â gweithdrefnau diogelu
yng Nghymru.
- Gofynnodd aelod arall am eglurdeb ar
gydymffurfiaeth gyda gwaith papur ar gyfer cynadleddau amddiffyn
plant a faint o eiriolaeth a gynigir i rieni cyn cynhadledd
achos.
- Holodd y pwyllgor am y prif gryfderau a
meysydd gwella a ddynodwyd yn adroddiad yr arolwg, gan nodi fod yr
adroddiad wedi cydnabod fod y canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd
ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, y cymorth cynnig teuluol ac
ysbryd ac arweinyddiaeth o fewn y gwasanaeth yn gryfderau.
Cydnabuwyd bod y meysydd i’w gwella yn cynnwys ymateb i a
delio gydag effaith galw ar draws y gwasanaeth a gwneud yn si?r fod
y gweithlu yn cyfateb gyda’r lefelau galw hynny.
- Gofynnodd aelodau am esboniad am sut
mae’r tîm yn trin mater gofal a chapasiti gweithlu yn y
gwasanaeth, er mwyn cadw staff a gostwng dibyniaeth ar weithwyr
asiantaeth.
- Ceisiodd aelodau sicrhau y caiff llais plant
ei gasglu mewn ffordd gyson ac ystyrlon ac yn dibynnu ar oedran y
plentyn ac y caiff hynny wedyn ei ddangos mewn asesiadau a
chynlluniau gofal.
- Cyfeiriodd aelod at baragraff 4.8 yr
adroddiad sy’n awgrymu ymagwedd ofalus at reoli risg, gan
gwestiynu os y gall fod gwrthddweud oherwydd bod ein nifer o blant
sy’n derbyn gofal yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol.
Eglurodd y swyddogion fod hyn i raddau oherwydd effaith galw ar y
drws blaen, a bod angen i ymarfer seiliedig ar gryfderau fod yn fwy
cyson ar draws pob maes o’r gwasanaeth.
- Gofynnodd aelodau am eglurdeb ar
ganlyniadau’r gwasanaeth llwyfan ar gyfer iechyd emosiynol
pobl ifanc.
- Holodd aelod arall am y cynnydd mewn
atgyfeiriadau a hefyd atgyfeiriadau amhriodol a sut y gellid
gostwng hyn, gan nodi y cynhelir dadansoddiad data ac archwilio
arnynt ar hyn o bryd i ddeall y ffynonellau a’r rhesymau dros
yr atgyfeiriadau. Gofynnodd aelodau am i adroddiad ar hyn ddod yn
ôl atynt ar yr adeg priodol, gyda swyddogion yn cadarnhau y
dylai hyn fod ar gael ar ôl mis Medi.
Gweithredu: Jane Rodgers a
Diane Corrister.
- Dywedodd aelod fod y ddogfen trothwy yn
cynorthwyo i drin yr cynnydd mewn ffigurau, a gofynnodd os
yw’r tîm yn ymwneud gydag asiantaethau partner mewn
ffordd a all ddeall a rhannu eu persbectif.
- Holodd aelodau sut mae’r atgyfeiriadau
gan addysg ac iechyd yn cymharu gydag awdurdodau eraill yng Ngwent
a beth fedrai fod yn fylchau posibl yn strwythurau cymorth yr
asiantaethau hyn.
- Gofynnodd aelod am fwy o eglurdeb ar sut
mae’r un pwynt mynediad yn gweithredu yn ymarferol ac os y
gellid atgynhyrchu hyn mewn meysydd eraill.
- Cwestiynodd y pwyllgor amseroldeb yr
ymweliadau amddiffyn plant a chynadleddau achos a amlinellir ym
mharagraff 1.4 a gofynnodd os y sicrhawyd y gwelliant a ddymunir o
ran sicrhau y cynhelir cynadleddau ar sail gynharach ac
amserol.
- Gofynnodd aelodau am eglurdeb am rôl
yr hyfforddydd a sut y byddai eu heffaith yn cael ei
fesur.
- Eglurwyd y rhesymau am y gwahaniaeth yn
nifer yr atgyfeiriadau a sut y caiff hynny ei reoli.
- Gofynnodd y pwyllgor os yw’r
gwasanaeth wedi symleiddio eu prosesau i ddod yn fwy
effeithlon.
- Gofynnodd aelod i swyddogion pa mor hyderus
ydynt nad oes achosion heb fod ar radar Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dywedodd swyddogion y byddai’n naïf meddwl y byddai pob
achos ar radar gwasanaethau cymdeithasol, ond eu bod yn hyderus bod
y Cyngor yn gwneud mwy o or-ymyrryd na than-ymyrryd. Ychwanegodd
swyddogion fod gan y Cyngor strwythurau da ar ddiogelu a
hyfforddiant ar draws y sefydliad, ond na fedrent byth fod yn 100%
hyderus y gallai achosion ddigwydd.
- Mae paragraff 2.10 yr adroddiad yn dweud fod
‘y rhan fwyaf o staff’ yn cael eu cefnogi. Gofynnwyd i
Arolygiaeth Gofal Cymru am fwy o eglurdeb am hyn, beth yw’r
rhesymau pam nad yw nifer fach o staff heb gael eu cynnwys ac os
ydynt yn credu y cafodd arferion gwaith ers Covid
effaith.
- Soniodd y pwyllgor ar ddefnydd acronymau ac
y byddai rhestr termau yn ddefnyddiol, yn arbennig ar gyfer
adroddiadau sydd yn y parth cyhoeddus.
Gwnaeth yr Aelod Cabinet rai sylwadau cloi a
roedd y pwyllgor yn fodlon gyda’r atebion i’r
cwestiynau a ofynnwyd.
Crynodeb y Cadeirydd:
Llongyfarchodd y pwyllgor y gwasanaeth ar yr
arolwg cadarnhaol a’r sylwadau am arweinyddiaeth ac adborth
gan blant a gofalwyr maeth. Cytunai’r cadeirydd fod y
pwyllgor wedi cynnal craffu manwl ar yr adroddiad ynghyd ag
aelodau’r Pwyllgor Craffu Perfformiad a Throsolwg ac roedd yn
fodlon gyda chanlyniad yr arolwg.