Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Ben Callard ac atebodd gwestiynau aelodau gyda Peter Davies,
Jonathan Davies a Will Mclean.
Pwyntiau allweddol gan Aelodau:
- Gofynnodd aelodau pa fesurau penodol
sy’n cael eu hystyried i fynd i’r afael â’r
risgiau ariannol parhaus mewn gwahanol feysydd tebyg i Ofal
Cymdeithasol Oedolion a pha gamau a gymerir i sicrhau y caiff
gorwariant ei drin yn brydlon.
- Gofynnwyd cwestiynau pa fesurau sy’n
cael eu cymryd ar hyn o bryd i wella effeithiolrwydd a gostwg
gorwariant mewn meysydd allweddol, ac os yw cynlluniau wrth gefn yn
cael eu datblygu i drin costau annisgwyl.
- Holodd aelodau os yr ymgysylltir â
staff a defnyddwyr gwasanaeth i ddynodi arbedion posibl, ac os oes
cynlluniau yn eu lle i ailddyrannu gwasanaethau o feysydd lle mae
tanwariant i rai lle mae gorwariant.
- Gofynnodd aelodau os yw swyddi gwag yn rhoi
pwysau ar y staff presennol, ac os oes problemau o’r herwydd
gyda llesiant neu gyda chadw staff. Ymhellach, gofynnwyd os cafodd
swyddi gwag effaith ar ddarparu gwasanaethau i
breswylwyr.
- Gofynnwyd am fanylion pellach am reoli tasgau mewn gwasanaethau a’r lle
gorau i ffitio adnoddau.
- Yng nghyswllt
prinder staff, gofynnwyd os oes unrhyw feysydd gwasanaeth yn
cyrraedd pwynt critigol yn eu gallu i ddarparu gwasanaethau rheng
flaen.
- Holodd Aelodau hefyd am y disgwyliad
presennol ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gyda 70% o’i
dargedau arbedion wedi eu cyrraedd ac os oes angen mwy o
ailddylunio gwasanaeth. Mynegodd aelodau bryder am i ba raddau y
caiff y gorwariant mewn gofal cymdeithasol ei drin.
- Gofynnodd y Pwyllgor os gallai gael
diweddariad ar sefyllfa’r 13 ysgol sydd mewn diffyg, lleoedd
gwag ac os yw cwmnïau sy’n gwneud gwaith cynnal a chadw
yn cael eu monitro i sicrhau gwerth am arian.
- Gofynnwyd cwestiynau os yw partneriaid
iechyd yn cyflawni eu cyfrifoldebau yn effeithlon yn nhermau gofal
iechyd parhaus a beth fwy y gellid ei wneud i sicrhau fod uchelgais
a gaiff ei rannu ar gyfer y gwasanaethau a ddarparant.
- Gofynnwyd os yw costau gofal yn dal i fod yn
uchel oherwydd oedi mewn talu neu achosion gwirioneddol o galedi, a
pha fesurau gaiff eu rhoi ar waith i gynyddu y nifer sy’n
defnyddio atyniadau tebyg i Theatr y Borough.
- Gofynnodd aelodau os oedd diweddariad ar
unedau a osodir ym Mharc Hamdden Casnewydd a Castle
Gate.
- Gofynnodd aelodau i ba raddau yr ydym yn
ddibynnol ar grantiau tymor byr a lefel ansicrwydd sy’n
gysylltiedig â nhw.
- Gofynnwyd am eglurder am lefel y newid
sylweddol sydd ei angen, fel yr adroddwyd yn y Strategaeth Ariannol
Tymor Canolig a beth gaiff ei wneud i ddod â chostau dan
reolaeth.
- Gofynnodd aelodau sut mae’r tanwariant
mewn cynlluniau strategol yn gwrthbwyso’r gorwariant o
£4m.
- Mynegwyd pryder y bydd y rhan fwyaf
(£12.2m) o’r diffyg a ragwelir yng nghyfnod 24-29 yn
digwydd y flwyddyn nesaf.
- Gofynnwyd am fwy o fanylion am y rhesymau am
lithro mewn prosiectau seilwaith allweddol.
Roedd y Pwyllgor yn fodlon gyda’r
ymatebion a roddwyd gan yr Aelod Cabinet a’r swyddogion oedd
yn bresennol.
Crynodeb y Cadeirydd:
Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod
Cabinet a’r swyddogion am yr adroddiad. Mae’r pwyllgor
yn cydnabod yr heriau sy’n wynebu’r cyngor ac yn deall
na fydd datrysiad ar unwaith. Cynigiwyd yr adroddiad.