Agenda item

Hunan-asesiad

Craffu'r hunanasesiad a nodi meysydd i'w harchwilio ymhellach.

Cofnodion:

Cyflwynodd Richard Jones a Hannah Carter yr adroddiad ac ateb cwestiynau aelodau gyda Peter Davies a Will Mclean.. 

 

Pwyntiau allweddol gan Aelodau: 

 

  • Gofynnodd Aelodau am fwy o fanylion ar y strategaethau penodol a weithredir i fynd i’r afael â phwysau ariannol a sut y bydd y strategaeth ariannol tymor canolig yn sicrhau sefydlogrwydd ariannol hirdymor heb or-ddibyniaeth ar gronfeydd wrth gefn.
  • Gofynnodd Aelodau sut mae’r cyngor yn bwriadu cyflawni ei dargedau sero net, a pha gamau a gymerir i sicrhau y buddsoddiad cyhoeddus angenrheidiol i gefnogi’r cynlluniau amgylcheddol.
  • Gofynnwyd i swyddogion pa fesurau a gaiff eu rhoi ar waith i wella presenoldeb mewn ysgolion a chefnogi dysgwyr bregus a sut mae’r cyngor yn mynd i’r afael ag anghenion ymadawyr gofal i atal digartrefedd.
  • Yng nghyswllt newidiadau a wnaed, holodd Aelodau os oes gymaint o ymgynghori ag sydd modd gyda defnyddwyr a rhanddeiliaid er mwyn mabwysiadu’r newidiadau a gweithredu syniadau newydd yn y ffordd orau.
  • Gofynnwyd am fanylion pellach am y gostyngiad mewn defnydd trenau.
  • Gofynnwyd am fwy o wybodaeth ar y cynnydd yn nifer yr achosion o drais a gwaharddiadau ysgol. Gofynnodd y Pwyllgor am gadarnhad fod y cyngor yn gwneud popeth posibl i sicrhau fod ysgolion yn cofnodi digwyddiadau o ymosodiad rhywiol yn gywir ac yn datblygu strategaethau i’w trin.
  • Gofynnodd Aelodau am wybodaeth bellach am i’r cyngor fod â’r gwariant refeniw gros isaf y pen yng Nghymru yn 22/23.
  • Nodwyd y byddai’n ddefnyddiol cael data cymharu pellach wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldeb heblaw incwm e.e. anghydraddoldeb oedran.
  • Cafodd staff ac aelodau eu hannog i gwblhau’r hyfforddiant Llythrennedd Carbon.
  • Gofynnwyd am eglurhad am rai o graffiau’r adroddiad a nodwyd y byddai data ar deithiau bws a theithio llesol eraill yn ddefnyddiol yn ogystal â cheir a rheilffyrdd.
  • Gofynnodd Aelodau os oes gan adroddiadau gan reoleiddwyr, tebyg i adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru, ddylanwad ar y sgorau cyffredinol a roddwyd ac os yr ystyriwyd gweithio gyda swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.
  • Nododd y Cadeirydd fod adnabod meysydd sydd angen eu gwella, a’r datrysiadau sydd eu hangen, yn hybu hygrededd hunanasesiad ac y gellid cynnwys hwn mewn adroddiadau gwasanaeth.
  • Holodd Aelodau pa mor aml ac i ba raddau y defnyddir gwybodaeth perfformiad yn ein gwasanaethau i hybu gwella perfformiad.
  • Yng nghyswllt trawsnewid gwasanaethau i ateb heriau’r gyllideb, dywedodd y pwyllgor ei bod yn anodd dod o hyd i dystiolaeth o adolygiad perfformiad neu asesiad o drawsnewidiadau a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf, a gofynnwyd pam, gan nodi pwysigrwydd cadw golwg agos ar unrhyw newidiadau sylweddol. 

 

Ymatebodd y Swyddogion oedd yn bresennol i’r holl gwestiynau a godwyd a roedd y Pwyllgor yn fodlon gyda’r ymatebion a gafwyd.

 

Crynodeb y Cadeirydd: 

 

Croesawodd y Cadeirydd yr adroddiad a diolchodd i’r swyddogion am y manylion ac am fod wedi cynnwys cymariaethau Cymru-gyfan, er y nododd y gellid gwneud mwy eto yn y cyswllt hwnnw er mwyn rhoi darlun llawnach o berfformiad. Roedd hefyd yn falch y cafodd mwy o adborth defnyddwyr gwasanaeth, fel y gofynnwyd amdano yn flaeorol. Cynigiwyd yr adroddiad. 

 

CAMAU GWEITHREDU: 

 

Awgrymodd Aelodau wneud newidiadau i gamgymeriadau tebyg i dargedau sydd ar goll a phethau eraill a adawyd allan. Anfonir rhestr o’r rhain at swyddogion yn ogystal â newid byrfoddau i Saesneg fwy ffurfiol.

 

Y prif feysydd ar gyfer craffu pellach a ddynodwyd gan aelodau oedd sefydlogrwydd ariannol hirdymor, digartrefedd ac ymadawyr gofal, sefydlogrwydd amgylcheddol a monitro newid a thrawsnewid yng ngwasanaethau cyngor. Nodwyd fod y cyntaf mewn llaw gydag eitemau eisoes ar raglen waith y pwyllgor a chaiff yr ail sylw gan y Pwyllgor Pobl ar 17 Gorffennaf. Mae/Caiff y trydydd maes sylw gan y Pwyllgor Lle, a bydd swyddogion craffu yn symud ymlaen â’r pedwerydd maes.

 

Dogfennau ategol: