Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Angela Sandles a Pennie Walker ac atebwyd cwestiynau aelodau gyda
Nia Roberts.
- Gofynnodd aelodau beth oedd prif
lwyddiannau’r Cyngor wrth hyrwyddo’r Gymraeg yn ystod
2023-24, a chlywsant fod derbyn gwobr
Cyflogwr y Flwyddyn, rhaglen estynedig o gyrsiau Cymraeg ar gyfer
staff ac aelodau a mwy o siaradwyr Cymraeg yn y ganolfan cyswllt, a
defnydd cyfeiriadau e-bost dwyieithog a chynghorion Cymraeg yn y
cylchlythyr staff yn llwyddiannau allweddol a fedrai arddangos
ymroddiad y Cyngor.
- Bu trafodaeth ar y prif heriau a risgiau
i’r Cyngor wrth gydymffurfio gyda Safonau’r Gymraeg, yn
cynnwys yr oedi wrth gaffael system teleffoneg newydd, yr angen i
adolygu’r broses gyfieithu, yr angen i fonitro sgiliau
Cymraeg a hyfforddiant staff a’r angen i ymateb i unrhyw
gwynion gan y cyhoedd neu Gomisiynydd y Gymraeg.
- Gofynnodd aelodau sut mae’r Cyngor yn
bwriadu gwella’r ddarpariaeth Gymraeg a’r perfformiad
yn y dyfodol, a rhoddodd swyddogion restr o awgrymiadau fydd yn
ffurfio rhan o gynllun gweithredu yn y
dyfodol.
- Roedd yr ymholiadau’n cynnwys faint o
aelodau staff oedd wedi cofrestru ar gyfer cyrsiau Cymraeg yn ystod
2023-2024 ac os oedd y nifer yn uwch nag mewn blynyddoedd
blaenorol, oherwydd yr hyblygrwydd ac opsiynau ychwanegol i ddysgu
Cymraeg.
- Gofynnwyd cwestiynau am gyrsiau, yr oriau
angenrheidiol, gwahanol lefelau gallu, y cyfraddau defnydd a
cwblhau, y nifer o staff yn symud ymlaen rhwng lefel mynediad a
chanolradd i lefel uwch, a sut yr ymgysylltir ac y rhoddir
cymhelliant i staff ddilyn y cyrsiau. Awgrymwyd y gallai rhai
astudiaethau achos ddangos yn well beth yw’r gwerth
ychwanegol i rôl unigolyn.
- Holodd y Cadeirydd, o gofio nad yw 83% o
breswylwyr Sir Fynwy yn siarad Cymraeg, os yw’r un safonau yn
weithredol i’r Cyngor fel awdurdod lle mae 75% o breswylwyr
yn rhugl yn y Gymraeg, a chadarnhawyd mai dyna’r
sefyllfa.
- Yn nhermau cyhoeddiadau cyhoeddus, a ddylem
sicrhau fod ein polisi yn cynnwys yr angen am gyhoeddiad Cymraeg ar
gyfer achlysuron penodol.
- Trafodwyd recriwtio staff. Oherwydd bod
angen i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y ganolfan gyswllt,
dywedodd aelodau y gall fod angen recriwtio o rannau eraill o Gymru
ac ystyried deiliaid swyddi a fyddai’n bennaf yn seiliedig yn
eu cartrefi. Gofynnwyd os y gallai gofyniad ‘siaradwr
Cymraeg’ atal ymgeiswyr
di-Gymraeg a chytunwyd y dylid trafod hyn gyda Gwasanaethau Pobl i
ganfod os oes unrhyw ddata ar hynny (Gweithredu: Nia Roberts a
Pennie Walker).
- Gofynnodd aelod o ran gofal cymdeithasol yn
wasanaeth rheng-flaen, os oes gan y Cyngor yr alluedd i ddarparu
gofal yn y Gymraeg os gofynnir am hynny.
- Gofynnodd aelod arall os bydd y Cyngor yn
ceisio darparu cyfieithu ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd y
Cyngor.
- Codwyd mater arwyddion dwyieithog. Dywedodd
aelod pa mor anodd y gall fod i bobl sy’n darllen arwyddion
ffordd tra’n gyrru, yn arbennig os oes gan unigolyn
ddyslecsia ac awgrymodd y gallai arwyddion ffordd yn y dyfodol
gynnwys llinell lorweddol rhwng y geiriad Saesneg a’r geiriad
Cymraeg i gynorthwyo gyrwyr. (Gweithredu: Nia Roberts a Pennie
Walker i ddilyn lan ac ystyried yng nghyswllt Cynllun Cydraddoldeb
Strategol y Cyngor).
Cafodd yr holl gwestiynau eu hateb gan
swyddogion ac Aelodau Cabinet a roedd y Pwyllgor yn fodlon
gyda’r adroddiad, gan ddod i’r casgliad
canlynol:
Crynodeb y Cadeirydd:
Diolch i’r Aelod Cabinet am fynychu ac
ateb cwestiynau aelodau a diolch i’r swyddogion am yr
adroddiad, gan nodi eich bod eich dwy yn newydd i’ch swyddi.
Mae’r Pwyllgor yn fodlon gyda’r cynnydd a chafodd yr
adroddiad ei gynnig, gyda rhai camau gweithredu i gael eu cyfarch
yn dilyn y cyfarfod.