Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Ben Callard ac atebodd gwestiynau aelodau gyda Peter Davies, James
Vale a Richard Jones.
- Holodd Aelod sut mae’r strategaeth
ddigidol yn alinio gyda’r strategaeth ariannol a
strategaethau galluogi eraill. Yr esboniad a roddwyd oedd bod y
strategaeth ddigidol yn cefnogi’r strategaeth ariannol drwy
alluogi defnydd mwy effeithiol ac effeithlon o adnoddau, data a
thechnoleg a drwy greu cyfleoedd newydd ar gyfer cynhyrchu incwm a
thrawsnewid gwasanaethau. Dywedwyd ei bod hefyd yn alinio gyda
strategaethau galluogi eraill drwy roi’r offer, sgiliau a
diwylliant i sicrhau deilliannau gwell i’r sefydliad ac
i’r gymuned.
- Gofynnwyd cwestiynau hefyd am sut
mae’r strategaeth ddigidol yn cyfarch y bwlch digidol ac yn
sicrhau cynhwysiant digidol i’r holl breswylwyr a staff.
Gofynnwyd cwestiwn pellach am ba anawsterau a ragwelir mewn annog y
gweithlu i groesawu technolegau newydd a phrosesau a gaiff eu gyrru
gan ddata. Ystyriwyd bod hyfforddiant a datblygu datrysiadau
digidol rhwydd eu defnyddio a hygyrch yn allweddol i gyflawni
hyn.
- Bu trafodaeth am sut y bydd y strategaeth
ddigidol yn mesur a gwerthuso ei heffaith a’i llwyddiant, yn
ogystal â defnyddio data i lywio cynllunio a chyflenwi
gwasanaeth.
- Gofynnodd aelodau sut mae’r
strategaeth yn cefnogi cydweithio ac integreiddio gwasanaeth gydag
awdurdodau lleol eraill a phartneriaid, yn arbennig o ran i ba
raddau yr ydym yn cydweithio gydag Awdurdodau Lleol eraill, er mwyn
sicrhau fod gennym seilwaith ddigidol gyffredin pe byddem yn
ystyried gwasanaethau wedi eu hintegreiddio yn y
dyfodol.
- Gofynnwyd cwestiynau hefyd am sut
mae’r strategaeth ddigidol yn meithrin diwylliant data a
llythrennedd data ymysg staff, partneriaid a
phreswylwyr.
- Gofynnwyd cwestiwn arall am sut y bydd y
strategaeth yn sicrhau dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar
ddefnyddwyr, gan roi ystyriaeth i anghenion a disgwyliadau
preswylwyr.
- Awgrymodd aelod bod angen gofal wrth wneud
tybiaethau am p’un ai yw pobl h?n yn medru defnyddio
llwyfannau digidol a chyfryngau cymdeithasol ac yn gwneud
hynny.
- Gofynnodd aelod hefyd os yw’r Asesiad
Effaith Integredig yn cynnwys ynysigrwydd oherwydd y cynnydd yn y
defnydd o dechnoleg.
- Cyfeiriwyd at y cyflwyniad o’r
Strategaeth Ariannol yn yr eitem agenda flaenorol a drafododd
ddefnydd cynyddol o ddeallusrwydd artiffisial a dadansoddeg data,
gofynnodd aelod os byddai’r Cyngor yn buddsoddi yn y setiau
sgiliau hynny ac os oes ganddo’r gallu ariannol i wneud hynny
ac os y byddai cwmpas ar gyfer benthyca ychwanegol os oes
angen.
- Soniodd aelod arall nad yw preswylwyr yn
credu fod ap Fy Sir Fynwy yn rhwydd ei ddefnyddio. Hefyd, os
yw’r ap yn cynnwys data gwarchodedig preswylydd, a ydym yn
defnyddio’r data yma i gysylltu â nhw am ymgynghoriadau
ar newid gwasanaeth, gan fod preswylwyr yn aml yn gofyn sut maent i
fod i wybod am ymgynghoriadau sydd ar y gweill, os nad ydynt yn
rhagweithol wrth geisio’r wybodaeth. Mae hyn yn ymddangos fel
cyfle a gollir i ymgynghori gyda phreswylwyr.
- Gofynnwyd cwestiwn am sut i sicrhau fod y
data a ddefnyddir gan swyddogion yn gyfredol.
Atebodd yr Aelod Cabinet a swyddogion yr
holl gwestiynau a chynigiodd y Pwyllgor yr adroddiad a’i
argymhellion, gan lunio’r casgliadau canlynol.
Crynodeb y
Cadeirydd:
Diolch i swyddogion a’r Aelod Cabinet
am ddod â’r Strategaeth Ddigidol i’r Pwyllgor
oedd yn cefnogi ei gyfeiriad a hoffai dynnu sylw at y pwyntiau
canlynol:
- Mae’n glir o’r adroddiad fod hyn
yn fwy na dim ond y Cyngor yn casglu data ond hefyd am ei gwneud yn
haws i breswylwyr gael mynediad i’n gwasanaethau. Os daw
dulliau mynediad digidol yn rhwyddach, rhagwelwn y gall y galw
amdanynt gynyddu, felly mae angen modelu hyn i sicrhau ein bod wedi
rhoi ystyriaeth i gynnydd mewn galw a
bod adnoddau digonol yn yr hybiau cymunedol i gyflawni
hyn.
- Fel cynghorwyr, mae gennym rôl
i’w chwarae wrth bontio’r bwlch rhwng y Cyngor a
phreswylwyr a gall hyn gynnwys esboniad a chymorth ond mae
cyfeiriad at ymgysylltu cwsmeriaid yn ein trafodaethau a mae
hynny’n galonogol.
- Mae aelodau hefyd wedi dweud y
byddai’n fuddiol iddynt gael mwy o hyfforddiant ar lwyfannau
digidol, ar ôl bod yn eu swyddi ers peth amser, felly caiff y
cais ei drosglwyddo am fwy o hyfforddiant i aelodau ar lwyfannau
digidol i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. (Gweithredu:
Tîm Craffu)