Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Ben Callard yr
adroddiad ac ateb cwestiynau aelodau gyda Peter Davies a Jonathan
Davies.
- Holwyd am y gwahaniaeth rhwng y strategaeth
ariannol tymor canolig a’r cynllun ariannol tymor canolig. Yr
esboniad a roddwyd oedd bod y strategaeth yn nodi’r
weledigaeth ariannol, cyd-destun a fframwaith hirdymor ar gyfer y
Cyngor, tra bod y cynllun yn ddogfen fwy manwl a gaiff ei diweddaru
sy’n sail i’r broses o osod y gyllideb
flynyddol.
- Awgrymodd un Aelod y teimlwyd fod gan yr
adroddiad arlliw gwleidyddol, yn deillio o beth o’r iaith
a’r derminoleg a ddefnyddiwyd ac os oedd hynny yn fuddiol i
ddogfen gan y Cyngor. Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet fod hon yn
ddogfen wleidyddol a bod yr enghreifftiau a roddwyd gan yr aelod o
awgrymiadau gwleidyddol posibl yn ddatganiadau ffeithiol gywir, er
enghraifft, y cyfeiriad at ostyngiadau mewn cyllid i lywodraeth
leol dros y 14 mlynedd ddiwethaf.
- Gofynnwyd cwestiwn beth oedd y prif heriau a
risgiau i gyllid y Cyngor yn y pum mlynedd nesaf. Cafodd y rhain eu
crynhoi ac roeddent yn cynnwys ansicrwydd cyllid Llywodraeth Cymru,
effaith COVID-19 a Brexit, y cynnydd mewn galw a chost gwasanaethau
gofal cymdeithasol a digartrefedd, yr angen i fuddsoddi mewn
galluoedd digidol a data a chyflenwi rhaglenni arbedion a
thrawsnewid. Gofynnodd y Cadeirydd pam nad oedd yr adroddiad yn
sôn am brif achos yr heriau ariannol i’r Cyngor sef mai
Cyngor Sir Fynwy sy’n derbyn y setliad ariannol isaf gan
Lywodraeth Cymru.
- Gofynnodd aelod sut y byddai’r Cyngor
yn cyfarch y diffyg a ragwelir yn y gyllideb o £34.7 miliwn
dros y tymor canolig. Atebodd yr Aelod Cabinet a swyddogion y
byddai’r Cyngor yn datblygu rhaglen o newid a gwella fydd
â ffocws ar bedwar maes allweddol: rheoli galw, ailddylunio
gwasanaeth, cynhyrchu incwm, ac effeithiolrwydd a chynhyrchiant.
Seilir y rhaglen ar y strategaeth ariannol a’r cynllun
ariannol tymor canolig a bydd yn cynnwys ymgynghoriad ac ymgysylltu
gyda rhanddeiliaid. Gofynnodd y Cadeirydd sut y gallai preswylwyr
fod yn hyderus y byddai rhaglen y dyfodol yn sicrhau arbedion yn
gyfwerth â £34.7 miliwn, pan fod y Cyngor wedi
gorwario’n sylweddol ar ei wasanaethau creiddiol gofal
cymdeithasol dros y ddwy flynedd ariannol
ddiwethaf.
- Mae’r strategaeth yn amlygu’r
angen am ‘newid radical’ i fodel gweithredu y cyngor
a’i wasanaethau (y rhoddir y manylion yn y cynlluniau
arfaethedig), ond byddai’n ddefnyddiol i ni esbonio o leiaf
yn eang beth y gallai hyn ei olygu, gan fod y strategaeth yn
nodi’r ddibyniaeth ar ‘newid radical’ i reoli her
ariannol y diffyg o £34.7 miliwn. Dywedodd yr Aelod Cabinet
fod y ‘newid radical’ hwn yn cyfeirio at y rhaglen
newid a drafodwyd eisoes a’r gwelliannau sydd eu hangen.
Gofynnwyd cwestiynau pellach am sut y byddai gostwng costau ar y
raddfa hon a symud i fwy o wasanaethau ar-lein yn realistig yn
‘gwella’ gwasanaethau. Cytunodd yr Aelod Cabinet y gall
hyn fod angen mwy o eglurhad.
- Gofynnodd aelod os a sut y mae’r
sefyllfaoedd galw yn y strategaeth ariannol yn seiliedig ar y data
a’r rhagolygon diweddaraf..
- Gofynnodd aelod arall os ydym wedi cymharu
gyda chynghorau eraill ac os oeddem mewn sefyllfa wahanol i weddill
y wlad.
- Gofynnodd aelod beth yw’r tybiaethau
tu ôl i fodelu’r Dreth Gyngor yn y strategaeth
ariannol.
- Codwyd y bartneriaeth caffael gydag
‘Atebion’ Caerdydd, y cwestiwn oedd os yw 3 blynedd o
waith drwy’r bartneriaeth wedi galluogi’r Cyngor i
wella ei fodelu a chynllunio ariannol. Awgrymodd yr aelod, os
mai’r elfen allweddol oedd sicrhau fod data ariannol yn
aeddfed a chynhwysfawr, a oeddem yn fodlon ein bod yn
casglu’r data cywir i roi gwybodaeth gynnar i ni ac a oedd yr
Aelod Cabinet yn teimlo fod y data a gynhyrchwyd yn ddigon cadarn i
wneud y tybiaethau cyllideb gorau a phenderfyniadau mwy
gwybodus.
- Holodd aelod am y sefyllfaoedd ariannol a
amlinellir yn Ffigur 5 ar dudalen 20, gan ofyn o gofio naratif a
chyd-destun yr adroddiad, pam y teimlid y byddai Sefyllfa 1 yn fwy
tebygol na Sefyllfa 2.
- Gofynnodd aelod beth fyddai mwy o ddefnydd o
ddeallusrwydd artiffisial a dadansoddi data fel y nodir yn y
strategaeth yn ei olygu mewn gwirionedd mewn termau strategol ar
gyfer yr awdurdod.
- Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn bwysig bod yn
glir am yr hyn a gynigir a’r datrysiadau i sicrhau y gall
preswylwyr ddeall y cynllun a chefnogi ei gyflenwi, o gofio am
faint yr her ariannol.
- Cyfeiriodd y Cadeirydd at astudiaeth
Dadansoddiad Cyllid Llywodraeth Leol Cymru a gynhaliwyd gan
Brifysgol Caerdydd yn Ch3 2023 oedd yn rhagweld diffyg cyllidebol o
£744m ledled Cymru erbyn 2027-2028. Yn seiliedig ar hynny,
ymddengys fod y rhagamcan o ddiffyg Sir Fynwy yn sylweddol uwch
na’r cyfartaledd ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru.
Soniodd am ei bryderon am y sefyllfa gyllidol ac ar gyfer adrannau
heb gyllidebau wedi eu diogelu, ac awgrymodd y gallai hynny arwain
at ostyngiad mewn cyllid canolog. Cadarnhaodd swyddogion fod
Dadansoddiad Cyllidol diweddaraf Cymru
wedi rhoi ystyriaeth i amrywiaeth o sefyllfaoedd a bod hynny wedi
arwain at dybiaeth achos sylfaen ar gyfer cyllid llywodraeth leol
yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf, gan nodi fod hyn yn sail i
dybiaeth modelu y Cyngor am gyllid creiddiol.
·
Dywedodd y Cadeirydd hefyd o
gofio na fyddem pan oeddem yn cynnal ein modelu ariannol bum
mlynedd yn ôl wedi rhagweld pandemig, yr ymosodiad ar
Wcráin
a’r sioc ynni dilynol a chwyddiant uchel, a bod angen
ystyried i ba raddau y mae gennym gyfle am hyblygrwydd yn ein
cynllunio ariannol ar gyfer effeithiau mawr annisgwyl. Yng
nghyswllt hyn, awgrymodd bod defnydd y strategaeth ariannol
o’n derbyniadau arian parod a chyfalaf yn gonsyrn, yn
neilltuol yn nhermau delio gyda’r heriau gofal
cymdeithasol.
- Dywedodd aelod mai hon oedd y strategaeth
gyntaf o’i bath a’i bod yn galonogol fod y cynllun yn
cael ei adolygu bob 6 mis a gofynnodd aelod os y byddai’r
broses craffu yn rhan o’r ymgynghoriad gyda chynghorwyr ar y
cynllun ariannol.
- Awgrymwyd hefyd y gellid gwneud ffigurau 2 a
3 ychydig yn haws eu darllen o fewn y ddogfen.
Ymatebodd yr Aelod Cabinet a’r
swyddogion oedd yn bresennol i’r holl gwestiynau a godwyd, y
gellir eu gweld ar y ffrwd byw a thrawsysgrif y cyfarfod. Daeth y
Pwyllgor i’w benderfyniadau megis isod.
Crynodeb y
Cadeirydd:
Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod
Cabinet a’r swyddogion am eu hamser a’u hymatebion i
gwestiynau gan y Pwyllgor yn deillio o’r drafodaeth o’r
Strategaeth Ariannol. Cydnabu fod hwn yn gyfnod heriol tu hwnt i
edrych i’r dyfodol, mae’n dasg ddiflas a diolchodd
hefyd iddynt am eu hymdrechion yn llunio’r adroddiad
sy’n nodi’n glir y rhesymau dros yr heriau ariannol
sy’n wynebu’r Cyngor, ac yn ymgeisio esbonio’r
strategaeth ariannol mewn ffordd ddiddorol i breswylwyr.
Tanlinellodd fod y cwestiynau a godwyd yn y Pwyllgor Perfformiad a
Throsolwg yn bwysig gan eu bod yn codi materion o gonsyrn a
phroblemau pwysig gyda’r nod o gryfhau’r strategaeth
a’r adroddiad. Cafodd yr adroddiad ei gynnig a byddai’r
pwyntiau dilynol fel crynodeb yn cael ei osod fel adborth y
Pwyllgor ar yr adroddiad:
- Bod y Pwyllgor yn cydnabod fod hwn yn gyfnod
anodd i unrhyw Awdurdod Lleol ac mae’n gwerthfawrogi’r
gwaith o lunio’r adroddiad. Bu trafodaeth ar y prif heriau
a’r risgiau ar gyfer cyllid y Cyngor dros y pum mlynedd nesaf
a theimlwyd ei bod yn bwysig esbonio’n glir i’r cyhoedd
beth oedd y dull gweithredu a gynigir gan y
Cyngor.
- Oherwydd anhawster darogan bum mlynedd
i’r dyfodol, mae angen hyblygrwydd yn ein cynllunio ariannol
ac mae sefyllfa cronfeydd wrth gefn y Cyngor yn parhau yn gonsyrn i
rai aelodau.
- Teimlai’r Pwyllgor ei bod yn hanfodol
casglu data cadarn i roi gwybodaeth gynnar i ni er mwyn gwneud y
tybiaethau gorau ar y gyllideb a phenderfyniadau
gwybodus.