Agenda item

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 23/24 Adroddiad Monitro - Craffu cynnydd y Cyngor.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Angela Sandles a Pennie Walker yr adroddiad ac atebwyd cwestiynau’r Aelodau:

 

Pwyntiau allweddol a wnaed gan yr Aelodau: 

 

  • Gofynnwyd a yw’r Cyngor yn bwriadu parhau i gefnogi prosiect iechyd meddwl gwledig Mind, gyda’r ffrwd ariannu wedi dod i ben ar 31ain Mai. – CAM GWEITHREDU: swyddogion i ddod yn ôl gyda chynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf
  • Dywedodd aelod fod siaradwyr Cymraeg yr awdurdod yn parhau i fod ar eu colled o ran gallu sgwrsio yn eu hiaith gyntaf wrth ymwneud â'r Cyngor, a bod Sir Fynwy ar ei hôl hi o'i gymharu ag awdurdodau eraill yn hyn o beth.
  • Yn enwedig yn y sefyllfa lle byddai preswylydd yn galw gyda mater cymhleth, dadleuwyd bod angen i'r Cyngor wneud mwy o gynnydd o ran cael gallu mewnol yn y Gymraeg, yn benodol drwy recriwtio’n well.
  • Yngl?n â chyfleoedd gwaith i bobl anabl, gofynnwyd a oedd hyn yn cynnwys gweithio hyblyg a dewisiadau rhan amser.
  • Awgrymwyd defnyddio'r nodweddion gwarchodedig gwirioneddol o'r Ddeddf Cydraddoldeb yn yr adroddiad yn lle termau generig megis rhyw a hil, a chynnwys y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol hefyd.
  • Gofynnwyd faint o sefydliadau dyled sydd wedi cael eu cefnogi gan y Cyngor i oresgyn anghydraddoldebau o ran mynediad at ffyniant economaidd ac ymdrin â thlodi plant.
  • Pwysleisiwyd pwysigrwydd peidio â datblygu hierarchaeth o nodweddion gwarchodedig a'u hystyried i gyd yn gyfartal.
  • Croesawyd rheolwr Cydraddoldeb a'r Gymraeg newydd a diolch iddi am y gwaith y mae'n ei wneud dros yr anabl.
  • Cynigiwyd bod sefyllfa Aelodau o deuluoedd y lluoedd arfog a chyn-filwyr yn cael ei gynnwys mewn gwaith cydraddoldeb yn y dyfodol, yn benodol mewn asesiadau effaith integredig.
  • Gofyn, fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, beth rydym yn ei wneud i gyrraedd Lefel 3.
  • Holwyd am gynlluniau'r dyfodol ar gyfer y fenter Adeiladu Teuluoedd Cryfach.
  • Gofynnwyd pa rwystrau posibl a ragwelir wrth gyflawni’r cynlluniau a’r amcanion, a sut y gellir addasu’r cynllun mewn amgylchiadau heriol e.e. pandemig yn y dyfodol.
  • Nodwyd pa mor bwysig yw hi i’r rhai yr effeithir arnynt gael mecanwaith i weld sut y bydd y cynllun hwn yn eu cefnogi, gan ofyn sut y byddwn yn derbyn adborth gan unigolion ar weithrediad y cynllun a monitro ei gynnydd.
  • Mynegwyd pwysigrwydd meithrin perthynas dda rhwng y rhai sy'n rhannu nodwedd warchodedig, a chytuno na ddylai fod unrhyw hierarchaeth rhwng nodweddion gwarchodedig.
  • Nodwyd bod annog pobl anabl i mewn i waith yn bwysig iawn ond er mwyn gwneud hynny mae angen cefnogi gofalwyr hefyd ond mae gwasanaethau cefnogol wedi eu torri, felly mae'n anodd iawn iddynt.
  • Mynegwyd pryder bod gan Sir Fynwy boblogaeth sy’n heneiddio ac eto mae yna awydd tuag at wasanaethau digidol – ni ddylem adael pobl ar ôl, ac felly mae angen ffordd i bobl ryngweithio â’r Cyngor heb fod angen gwasanaethau digidol i wneud hynny. Mae angen ystyried y rhai sydd â nam ar y synhwyrau hefyd.

 

Crynodeb y Cadeirydd: 

 

Rhoddwyd diolch i’r Aelod Cabinet a Pennie Walker am yr adroddiad ac am fynychu heddiw. Rydym wedi ymdrin â nifer o bwyntiau, sef nodweddion gwarchodedig, y symudiad tuag at gyfleoedd cyflogaeth i bobl anabl, adeiladu teuluoedd cryfach, monitro ac adrodd yn ôl ar yr hyn a ddysgwyd, gan gynnwys statws y Lluoedd Arfog, dim hierarchaeth ymhlith nodweddion gwarchodedig, cymorth i ofalwyr, cefnogaeth i Mind a chyllid parhaus, gwasanaethau digidol, a chynyddu gallu Cymraeg yr Awdurdod wrth gyfathrebu â thrigolion.

 

Dogfennau ategol: