Rhoddodd Ian Bakewell a Rebecca
Cresswell gyflwyniad manwl (sydd ar gael ar wefan y Cyngor
gyda’r agenda), cyflwynodd yr adroddiad ac atebodd gwestiynau
aelodau gyda Jane Oates.
Pwyntiau allweddol a wnaed gan
Aelodau:
-
Gofynnwyd am eglurhad os
yw’r cynllun lesio yn weithredol i Tai Sir Fynwy hefyd,
a’r ymateb oedd ei fod.
-
Gofynnwyd cwestiynau am
nifer y cartrefi fforddiadwy (rhagwelir tua 130 o gartrefi
fforddiadwy), hyrwyddo gwasanaeth gosod Sir Fynwy, y llety ar gyfer
teuluoedd a chyfraddau lwfans tai lleol. Hysbyswyd aelodau y caiff
teuluoedd fel arfer eu gosod mewn anheddau hunan-gynwysedig, a bod
y cyfraddau lwfans tai lleol yn seiliedig ar ddata 2011 ac yn
llawer is na rhenti marchnad. Holodd Aelodau am ddefnydd data 2011
ar gyfer asesu’r Grant Tai Lleol.
-
Dywedodd Aelod mai nifer
isel yn ei ward sy’n defnyddio Gwasanaeth Gosod Sir Fynwy ac
efallai y gellid ei hyrwyddo’n well drwy gynghorau tref a
chymuned. Cydnabu swyddogion y byddai cysylltu â chynghorau
tref a chymuned yn gam gweithredu y gallent ei ddilyn er mwyn
hyrwyddo Gwasanaeth Gosod Sir Fynwy (Gweithredu: Rebecca
Cresswell).
-
Holodd Aelod am y cyfnod
aros cyfartalog ar gyfer tai cymdeithasol, y ffigurau cam-drin
domestig a lesio anheddau.
-
Gofynnodd aelodau am
eglurhad ar y stoc tai ar gyfer teuluoedd o gofio fod Severn View
ar gyfer pobl sengl.
-
Gofynnodd Aelodau os oedd
cam-drin domestig o fewn aelwydydd yn arwain at gynnydd mewn
digartrefedd.
-
Gofynnodd Aelod am eglurdeb
os mai diben lesio anheddau oedd lliniaru’r defnydd o Wely a
Brecwast a galw dros dro, yn hytrach na chynnig datrysiad
hirdymor.
-
Holodd Aelod os yw rhywun yr
aseswyd ei fod mewn llety anaddas yn cymhwyso fel bod mewn risg o
ddigartrefedd. Cytunodd y swyddog i drafod yr amgylchiadau unigol
gyda’r Aelod yn dilyn y cyfarfod.
-
Gofynnodd Aelod arall am
eglurhad ar bobl gyda nodweddion gwarchodedig fel y’u
diffinnir yn y Ddeddf Cydraddoldeb a hefyd aelodau’r lluoedd
arfog yn nhermau eu blaenoriaeth wrth gael annedd.
-
Gofynnwyd am eglurdeb os yw
‘person sengl’ yn cyfeirio at unigolyn sengl heb blant
– cadarnhawyd ei fod yn cyfeirio at berson sengl heb blant ac
mai nhw yw’r gyfran uchaf o geisiadau digartrefedd, ynghyd
â phrinder difrifol o anheddau un ystafell wely.
-
Holodd Aelod faint o dai
fforddiadwy a gafodd eu cyflenwi yn Sir Fynwy yn 2023-2024,
a’r ffigur yw 63.
-
Awgrymodd Aelod ein bod yn
ystyried yr eirfa wrth hyrwyddo anheddau ar gyfer pobl sydd angen
cartref er mwyn osgoi’r stigma sy’n gysylltiedig gyda
digartrefedd, a all hefyd ddenu mwy o landlordiaid. Ar gyfer diben
yr adroddiad, cadarnhaodd Swyddogion fod angen defnyddio’r
term ‘digartref’ i gyfeirio at bobl sy’n gymwys
am gymorth dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a’i bod yn diffinio
digartrefedd fel ‘peidio bod â llety addas neu fod mewn
risg o golli hynny o fewn 56 diwrnod”. Fodd bynnag rhoddir
ystyriaeth i farchnata a hyrwyddo cartrefi ar gyfer
pawb.
-
Holwyd os ydym yn derbyn
digon o arian grant gan Lywodraeth Cymru, ac os y gallai
landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wneud mwy. Cadarnhaodd
swyddogion iddynt gael cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru am gyflwr y
grantiau talu TAC sydd angen i anheddau a brynir gael eu
blaenoriaethu a gyfer pobl llety dros dro. Roeddent wedi nodi fod
hyn er anfantais aelwydydd eraill nad ydynt mewn llety dros dro ond
sydd â statws digartref ac angen uchel am dai addas. Fe
wnaethant hefyd ddweud fod ganddynt berthynas waith dda gyda
landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac wedi bod yn canolbwyntio
ar ganol trefi yn ddiweddar.
Mae’r Aelod Cabinet a
Swyddogion wedi ateb cwestiynau’r Pwyllgor yn llawn ac
mae’r Pwyllgor yn fodlon gyda’r ymatebion manwl a
roddwyd a’r gwaith a wneir i liniaru digartrefedd a
amlinellir yn Adroddiad Diweddaru Ailgartrefu Cyflym. Byddir yn dod
â diweddariad pellach at y Pwyllgor maes o law.