Agenda item

Plismona Cymunedol

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Arolygydd Amanda Thomas  drosolwg o'i rôl a'i chyfrifoldebau yn Sir Fynwy a Chasnewydd, gan egluro ei bod yn gweithio'n agos gyda'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a'i bod yn goruchwylio timau'r gymdogaeth, yr hybiau datrys problemau, y tîm troseddau gwledig, a'r portffolio troseddau casineb. Soniodd hefyd am rai o'r problemau a'r mentrau cyfredol sy'n ymwneud â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, megis troseddau cyllyll, swyddogion cyswllt ysgolion, a chyllid gan y llywodraeth ac eglurodd ei bod wedi ymrwymo i ddatrys problemau a gweithio gyda phartneriaid a chymunedau i wneud Sir Fynwy yn sir ddiogel.  

 

Cwestiynau gan yr Aelodau: 

 

·         Gofynnodd yr Aelodau beth yw prif flaenoriaethau'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (CSP) yn Sir Fynwy. Eglurodd Amanda fod gan y CSP bedwar maes thematig y mae'n canolbwyntio arnynt: troseddau cyfundrefnol difrifol, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a chamfanteisio. Mae hefyd yn gweithio ar alinio ei waith gyda'r byrddau a'r strwythurau rhanbarthol, megis Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent a'r Ddyletswydd Trais Difrifol.  

 

·         Gofynnodd y Pwyllgor sut mae'r CSP yn gweithiogydag ysgolion a phobl ifanc i atal a mynd i'r afael â thrais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod y CSP yn gweithio gydag ysgolion a phobl ifanc drwy amrywiol fentrau, megis rhaglen Headley Back, sef cynllun bychan gan yr heddlu sy'n anelu at addysgu ac ymgysylltu â phlant ysgolion cynradd ar faterion sy’n ymwneud â diogelwch cymunedol. Mae'r CSP hefyd yn cefnogi'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid a'r rhaglen Gelfyddydol, sy'n gwneud gwaith ymyrraeth ac atal gyda phobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu neu sydd wedi troseddu. Mae'r CSP hefyd yn gweithio gyda'r swyddogion cyswllt ysgolion, sy'n darparu cymorth ac arweiniad i ysgolion ar atal, diogelu a chyfiawnder adferol.  

 

·         Gofynnodd y Cadeirydd sut mae'r cytundeb CSP yn delio gyda phroblemau o ran trosedd casineb ac amrywiaeth yn Sir Fynwy. Dywedodd Amanda fod gan y CSP bortffolio troseddau casineb, sy'n cael ei arwain ganddi fel Prif Arolygydd. Mae'r CSP yn gweithio gyda'r tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, sy'n ymgysylltu ag amrywiol grwpiau cymunedol, megis grwpiau ieuenctid LHDT, arweinwyr mosgiau, grwpiau menywod Asiaidd, grwpiau ffoaduriaid a cheiswyr lloches, er mwyn codi ymwybyddiaeth ac annog pobl i adrodd am droseddau casineb a digwyddiadau casineb.  

 

·         Gofynnodd y Cadeirydd sut mae'r Heddlu yn ymdrin yn benodol â throseddau casineb a beth yw eu perthynas â'r ysgolion. Eglurodd Amanda fod troseddau casineb yn cael eu cofnodi a'u hadrodd yn unol â chanllawiau'r Coleg Plismona ac mae'r tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn ymgysylltu â grwpiau bregus a lleiafrifol er mwyn eu hannog i adrodd ac adeiladu ymddiriedaeth a hyder. Daeth Llywodraeth Cymru â chyllid swyddogion cyswllt ysgolion i ben ac mae angen dod o hyd i ffyrdd amgen o weithio gydag ysgolion ac addysgu pobl ifanc.  
 

·         Gofynnodd aelod sut mae'r heddlu yn ymgysylltu â'r cynghorau cymuned a'r gymuned ehangach. Esboniodd Amanda fod yr heddlu'n ceisio mynychu cyfarfodydd y cyngor cymuned a digwyddiadau lleol pan fo hynny'n bosib, ac yn ceisio cyfathrebu drwy e-bost, Facebook a gwefan Heddlu Gwent. Maent hefyd yn ceisio ailgyflwyno ymgysylltiad cymunedol o amgylch lle penodol er mwyn cael dealltwriaeth leol o'r problemau o ran diogelwch cymunedol.  

 

·         Gofynnodd Aelod arall beth oedd yr heddlu yn ei wneud er mwyn mynd i'r afael â'r troseddau gwledig a'r cerbydau nwyddau trwm anawdurdodedig mewn rhai ardaloedd.  Esboniodd Amanda fod gan yr heddlu dîm troseddau gwledig sy'n patrolio'r ardaloedd gwledig ac yn delio â phroblemau megis dwyn peiriannau, potsio, a beiciau oddi ar y ffordd. Maent hefyd yn gweithio gyda'r adran draffig ar geisio delio â'r cerbydau nwyddau trwm anawdurdodedig, ac maent yn annog y preswylwyr i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau drwy 101, Crime Stoppers, neu ar-lein.  

 

·         Cwestiynodd Aelodau beth mae'r heddlu'n ei wneud i fynd i'r afael â’r  trais difrifol a'r troseddau cyllyll yn y sir? Eglurodd Amanda fod yr heddlu'n gweithio gyda'r partneriaid i weithredu Strategaeth Dyletswydd Trais Difrifol Gwent, y craffwyd arni yn y cyfarfod hwn a bod pedair blaenoriaeth: gwell defnydd o ddata, mynd i'r afael â'r ffactorau risg, ymuno â'r dotiau a mabwysiadu dulliau sy’n seiliedig ar leoedd. Mae ganddynt hefyd dîm gorfodi cymdogaeth rhagweithiol a all helpu gyda gweithrediadau cudd a phatrolau ar droed yn yr ardaloedd ble mae’r troseddau hyn ar eu gwaethaf. Mae ganddynt gynllun gweithredol hefyd ar gyfer troseddau cyllyll yng Nghasnewydd, y maent yn bwriadu ei gyflwyno i Sir Fynwy hefyd.  

 

·          Tynnodd y Pwyllgor sylw at y ffaith bod ddiffyg presenoldeb yr heddlu yn bwnc trafod mewn ardaloedd gwledig, nid oedd trigolion Rhaglan wedi gweld patrôl heddlu ers cryn amser. Bu iddynt ofyn a oes unrhyw gynlluniau i gynyddu gwelededd yr heddlu hyd yn oed os yw hyn bob wythnos neu bob mis, gan gyd-daro â bore coffi cymunedol dydd Mawrth er enghraifft. Byddai hyn yn tawelu meddyliau trigolion ac yn galluogi'r swyddogion i gael adborth am broblemau cymunedol. Cam Gweithredu:  Cytunodd Amanda i drafod hyn gyda'i thîm.  

 

·         Gofynnodd yr aelodau a allai technoleg helpu o ran plismona cymunedol. Esboniodd Andy Mason (CSP Sir Fynwy) fod nifer cyfyngedig o unedau CCTV symudol y gellir eu defnyddio mewn mannau problemus, ond nid ydynt mor effeithiol â chamerâu canol tref sy'n cael eu monitro, ac mae angen gwneud asesiad o’r effaith ar breifatrwydd ac mae angen pwrpas clir arnynt. Mae gwefan Heddlu Gwent lle gall pobl roi gwybod am ddigwyddiadau ar-lein ac mae opsiwn DM ar Facebook hefyd. Dywedodd Amanda bod gwasanaeth Crime Stoppers o'r enw Fearless sydd wedi'i gynllunio ar gyfer pobl ifanc ac sy'n defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel TikTok a Snapchat i gael gwybodaeth a deallusrwydd.  

 

·         Cwestiynodd Aelodau sut y gallem wella hyder ac ymgysylltiad cymunedol. Atebodd Amanda fod pobl yn cael eu hannog i roi gwybod am ddigwyddiadau drwy 101, 999, Crime Stoppers, neu'r swyddog ward lleol neu CSO. Dywedodd Amanda fod yr Heddlu wedi cael £1m i ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, a ddylai eu galluogi i wneud mwy o batrolau ar droed. Dywedodd Andy, os oes pryder am ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn lleoliad, dylid rhoi gwybod am hyn fel y gellir cynnal ymchwiliadau ynghylch a yw troseddau'n cael eu hadrodd, a oes data ategol ac yna byddai penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch ai camera fyddai’r ateb gorau. 

 

·         Gofynnodd aelod gwestiwn am y Cynllun Gwarchod Cymdogaeth.  Dywedodd Amanda bod ganddynt Gydlynydd Gwarchod y Gymdogaeth a ariannwyd gan y Prosiect Strydoedd Saffach, ond tynnwyd yr arian yn ôl. Dywedodd eu bod yn ceisio gwella'r Cynlluniau Gwarchod Cymdogaeth a chynlluniau gwylio eraill, megis Canal Watch, Allotment Watch, a Farm Watch, gyda'r adnoddau sydd ganddynt.  Eglurodd fod Cynlluniau Gwarchod y Gymdogaeth yn hanfodol er mwyn darparu deallusrwydd i'r heddlu. Dywedodd hefyd eu bod yn bwriadu dod â'r posteri sy'n arddangos enwau ac wynebau swyddogion y ward a'r swyddogion cymorth cymunedol yn ôl, ac y byddan nhw'n sicrhau eu bod ar gael ar wefan Heddlu Gwent ac ar Twitter. Dywedodd y gall pobl gysylltu â'u swyddog ward lleol neu swyddog cymorth cymunedol drwy e-bost os oes ganddynt unrhyw broblemau neu bryderon.  

 

·         Gofynnodd yr Aelodau a yw gwasanaethau iechyd meddwl yn gweithio'n effeithiol gyda'r heddlu. Clywodd y Pwyllgor y gall gweithio ar draws partneriaethau fod yn anodd ac o'r herwydd, cytunodd yr Aelodau i gynnwys Gwasanaethau Iechyd Meddwl fel pwnc yn eu blaenraglen waith. Cam Gweithredu: Tîm Craffu. 

 

·         Dywedodd yr Aelodau eu bod yn ymwybodol bod disgwyl i'r Rhaglen Cyswllt Ysgolion ddod i ben ym mis Gorffennaf a bod ysgolion yn dweud wrthynt y bydd hyn yn golled fawr, gofynnodd yr aelodau sut mae'r Heddlu'n bwriadu llenwi'r bwlch y bydd hyn yn ei greu. Mae aelodau'n teimlo ei bod yn bwysig cryfhau’r cydweithio sy’n digwydd rhwng yr Heddlu ac ysgolion, er mwyn atal llawer o'r materion rhag digwydd, nid diogelu yn unig.?Eglurodd Amanda eu bod yn adolygu'r bwlch yn y ddarpariaeth ar hyn o bryd, a bod adroddiad yn cael ei baratoi ar hyn o bryd, ond eu bod yn dadansoddi achosion o droseddu ym mhob ysgol ac yn rhoi trefniadau brysbennu yn eu lle ar gyfer yr ysgolion sydd ei angen, ac er na fydd y gefnogaeth wedi’i ffocysu yn yr un modd ag y mae ar hyn o bryd heb yr arian, eu nod yw rhoi rhaglen ar waith ledled Gwent, gan gydnabod pa mor bwysig oedd y gwaith.  

 

·         Gofynnodd aelod am ddiweddariad byr ar ganlyniad Adroddiad Peel. Eglurodd Amanda  bod gwelliannau sylweddol wedi'u gwneud ym mhrosesau a hyfforddiant staff mewn ymateb i'r adroddiad, a bod yr heddlu wedi cyflawni safon dda o dystiolaeth ac asesiad risg yn y rhan fwyaf o achosion. O ganlyniad, cafodd y testun pryder ei ddileu gan y HMIC FRS. 

 

·         Gofynnwyd am ddiweddariad ar Ymgyrch Harley. Eglurodd Amanda mai Ymgyrch Harley yw ymateb yr heddlu i ddelio â cherbydau sy’n achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol, megis beiciau oddi ar y ffordd, sgwteri trydan, a cherbydau nwyddau trwm heb awdurdod, a'i fod yn cynnwys trefnu bod swyddogion a wardeiniaid diogelwch cymunedol yn patrolio mannau problemus, atafaelu cerbydau, a rhoi dirwyon neu rybuddion. Dywedodd fod yr ymateb yn cynnwys cydweithredu amlasiantaethol a bod Ymgyrch Harley wedi cael ei defnyddio ambell i dro yn Sir Fynwy, ond nad oes unrhyw atafaeliadau wedi'u hadrodd. Fodd bynnag, os oes unrhyw broblemau gyda'r mathau hyn o gerbydau yn y dyfodol, bydd y gweithrediad yn cael ei ddefnyddio yn y modd priodol.  

 

Crynodeb y Cadeirydd: 

 

Diolchodd y Cadeirydd i Amanda am ei chyfraniad sylweddol ar y ddau bwnc dan sylw, a dywedodd fod y Pwyllgor yn teimlo'n dawel eu meddwl oherwydd yr atebion cynhwysfawr a ddarparwyd.