Cofnodion:
Eglurodd a chyflwynodd y Rheolwr Partneriaethau Strategaeth Dyletswydd Trais Difrifol Gwent, a ddatblygwyd mewn ymateb i'r ddeddfwriaeth newydd sy'n gofyn am gydweithio amlasiantaethol er mwyn atal a mynd i'r afael â thrais difrifol. Esboniodd y diffiniad o drais difrifol, y ffynonellau data, yr heriau, y pedair blaenoriaeth, y camau gweithredu, y trefniadau llywodraethu ar gyfer y strategaeth a'r cyllid. Amlygodd yr angen am gydweithredu amlasiantaethol, dulliau lleol ac ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Esboniodd Martin Smith o Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu y cyd-destun cenedlaethol a lleol a dywedodd fod y ffocws ar ddynladdiad a throseddau’n ymwneud â cyllyll, a'r gwaith ymyrryd ac atal a wneir gyda phobl ifanc a throseddwyr. Cynorthwyodd y Prif Arolygydd Amanda Thomas hefyd wrth ateb cwestiynau’r Aelodau
Cwestiynau gan y Pwyllgor:
·
Gofynnodd Aelod sut mae'r cynghorau tref a chymuned yn cymryd
rhan yn y strategaeth a'r broses o gasglu data.
Eglurodd Sharon, Martin ac Amanda eu bod yn bartneriaid allweddol
a'u bod yn bwriadu gwella'r ymgysylltu â hwy a'r gymuned
ehangach trwy gyfarfodydd ac arolygon lleol.
· Gofynnwyd cwestiwn am ddadansoddi data a meincnodi, yn benodol, y dewis o 2019-2020 fel y flwyddyn a ddefnyddir fel llinell sylfaen, y canrannau yn yr adroddiad, cynnydd y system dadansoddi data, dyrannu cyllid, a'r gymhariaeth ag ardaloedd sy’n profi lefelau isel o droseddau. Atebodd y Rheolwr Partneriaethau mai’r Swyddfa Gartref a ddewisodd y flwyddyn, y bydd y data'n cael ei fireinio a'i ddiweddaru, y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwasanaethau presennol ac anghenion lleol, a bod y data ar droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei fonitro a bod ymateb yn cael ei roi iddo’n rheolaidd. Eglurodd Martin ac Amanda fod y data'n seiliedig ar ffenestr pum mlynedd, ond roedd amrywiadau oherwydd COVID, bod y system dadansoddi data yn defnyddio porth a gasglodd ddata gan fyrddau iechyd a'r heddlu, bod y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ymyriadau presennol a lleol. Eglurwyd bod y data'n esblygu a'u bod yn defnyddio gwahanol ffynonellau, gan gynnwys data’r adran Damweiniau ac Achosion Brys, i gael darlun gwell. Dywedon eu bod yn edrych ar feysydd eraill ar gyfer dysgu a chymharu. Dywedon hefyd eu bod yn defnyddio'r cyllid i ymgorffori newid systemig ac i fynd i'r afael â phroblemau lleol.
· Gofynnodd Aelod pam fod Sir Fynwy wedi gweld cynnydd mewn trais difrifol a sut y gall y strategaeth ddylanwadu ar y newid o ystyried gostyngiad mewn gwasanaethau ac adnoddau dros y blynyddoedd. Cydnabu Martin ac Amanda effaith ffactorau fel aces, Covid, cam-drin domestig a throseddau’n ymwneud â cyllyll a dywedodd eu bod yn gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â'r ffactorau risg ac i ddarparu gwaith ymyrraeth ac atal.
· Gofynnwyd cwestiwn am gysondeb o ran cofnodi ac adrodd ar ddata ymhlith y sefydliadau partner a throsiant arolygwyr. Atebodd Martin ac Amanda eu bod yn gweithio i sicrhau bod y data'n ddibynadwy ac y gellir ei gymharu, mai’r PCC sy’n gyfrifol am ddwyn yr heddlu i gyfrif a sicrhau bod dyletswyddau’n cael eu trosglwyddo’n esmwyth.
· Cwestiynodd yr Aelodau effaith toriadau cyllid ar wasanaethau cymorth iechyd meddwl a sut mae'r heddlu'n ymdopi â'r galw cynyddol. Eglurodd Amanda eu bod yn gweithio i orau eu gallu gyda'r gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau partner eraill, ond bod cyllid wedi cael effaith ar bob asiantaeth ac wedi cael effaith ar rywfaint o ddarpariaeth. Dywedodd fod ganddynt gynghorydd iechyd meddwl yn yr ystafell reoli a all wirio cofnodion iechyd pobl sy'n galw i mewn gyda phroblemau iechyd meddwl a rhoi arweiniad i swyddogion.
· Gofynnodd Aelod am y porth atal trais sy'n casglu data o Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys a gofynnodd sut y gall helpu i nodi gwraidd trais a phroblemau iechyd meddwl. Esboniodd Martin fod y porth yn caniatáu iddynt edrych ar y mathau o anafiadau, y lleoliadau, y grwpiau oedran, a rhyw pobl sy'n mynychu adrannau Damweiniau ac Achosion Brys gydag anafiadau sy'n gysylltiedig â thrais. Dywedodd y gall hyn eu helpu i ddeall yr hyn sy’n gyrru trais a'r ffactorau risg, ac i ddatblygu ymyriadau a strategaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
· Cwestiynodd Aelod arall y diffiniad o drais difrifol gan ofyn a yw'n cynnwys cam-drin domestig a thrais rhywiol. Eglurodd Sharon eu bod wedi datblygu eu diffiniad eu hunain o drais difrifol yn seiliedig ar y categorïau y maent yn edrych arnynt yn y data, a'i fod yn cynnwys cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn ogystal â stelcian ac aflonyddu, tanau bwriadol sy’n bygwth bywyd, ac ymosodiadau yn erbyn gweithwyr proffesiynol. Ychwanegodd mai dyma rai o'r categorïau y maent yn gweld tueddiadau cynyddol ynddynt a’u bod yn wynebu heriau sylweddol o ran casglu a dadansoddi data.
· Gofynnodd y Cadeirydd pam na chynhwyswyd Troseddau Casineb yn adran deddfwriaeth genedlaethol y ddogfen strategaeth trais difrifol. Cytunodd Martin o Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu y byddai'n mynd â'r pwynt hwnnw yn ôl i'r cyfarfod gr?p nesaf ac atebodd fod troseddau casineb wedi'u hymgorffori mewn categorïau troseddau treisgar. Rhoddodd Amanda hefyd rhywfaint o wybodaeth droseddau casineb o safbwynt weithredol gan egluro sut y maent yn gweithio gyda chymunedau a phartneriaid er mwyn annog pobl i roi gwybod am y troseddau a darparu cefnogaeth.
Crynodeb y Cadeirydd:
Mae'r Pwyllgor wedi trafod y cyllid ar gyfer y ddyletswydd trais difrifol a sut y bydd wedi'i ddyrannu ar draws y CSPs ac awdurdodau lleol, trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd y ddyletswydd a rôl y Cyngor fel cynullydd y dull amlasiantaethol. Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau ynghylch y rôl y mae cynghorau tref a chymuned yn ei chwarae, effaith COVID ar ddata'r llinell sylfaen, yr arfer gorau a meincnodi gydag ardaloedd eraill, ac achosion sylfaenol a gwraidd trais difrifol. Cydnabu'r Pwyllgor yr heriau sy’n bodoli o ran casglu a dadansoddi data a'r angen am well defnydd o ddata i lywio camau gweithredu ac ymyrraeth ac maent yn cefnogi blaenoriaethau'r strategaeth, megis mynd i'r afael â ffactorau risg trais, mabwysiadu dulliau seiliedig ar leoedd, a chydweithio gyda phartneriaid eraill ar hyn.
Dogfennau ategol: