Agenda item

Gwersi Cobvid a pharatoi ar gyfer pandemig

Trafod gwersi yn dilyn effaith y pandemig a sut ydym yn paratoi ar gyfer pandemig posibl yn y dyfodol, yn dilyn cyhoeddi Cynllun Rheoli Brigiad Cymru wedi ei ddiwygio.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Paul Griffiths a Dave Jones yr adroddiad ac ateb cwestiynau’r aelodau gyda Jane Rodgers, Louise Driscoll ac Alun Thomas. 

 

Pwyntiau allweddol a godwyd gan yr Aelodau: 

 

·       Nodwyd er budd trigolion mai LRF yw'r Fforwm Lleol Cymru Gydnerth, mae'n bwysig bod trigolion yn deall bod y fforwm hwn yn parhau mewn bodolaeth er mwyn sicrhau bod y sir yn cael ei chadw'n ddiogel, o ran unrhyw ddatblygiad penodol a allai achosi risg, nid yw’n ymwneud â’r pandemig yn unig. 

·        Mae’r adroddiad hwn, yn ddealladwy, o safbwynt Iechyd yr Amgylchedd, ond gofynnodd y pwyllgor hefyd am adolygiad o’r hyn a ddigwyddodd i weddill y staff: pan aeth staff i ffwrdd i weithio gyda Profi ac Olrhain, sut y bu i bawb ymdopi; sut y gwnaeth pobl ymdopi â gweithio gartref hy effaith y pandemig ar y cyngor a beth a wnaed mewn mwy o fanylder? A fydd adroddiad arall yn ymdrin â hyn, a beth fyddai’n cael ei wneud yn wahanol? – CAM GWEITHREDU: trafod a ellir llunio adroddiad pellach sy'n ymgorffori'r hyn a ddysgwyd o bob cyfarwyddiaeth gyda'i gilydd 

·        Anfonodd y Cynghorydd Bond adnodd yn flaenorol ar gyfer Adolygiad Cyn Gweithredu ac adolygiad Ar Ôl Gweithredu - a fydd hyn yn dilyn? – CAM GWEITHREDU: Cynghorydd Bond i ail-anfon 

·        Mae'r Asesiad Integredig o Effaith yn bwysig iawn, gan fod angen ysgrifennu yr hyn a wnaethpwyd i lawr, sut yr ystyriwyd lleiafrifoedd ethnig a phobl sy'n fwy agored i niwed, ac ati – os nad yw wedi'i ysgrifennu, yna gellid ei anghofio. 

·        Beth oedd rhan aelodau etholedig a’r Cabinet, ac a oes unrhyw beth wedi’i ddysgu o hynny o ran yr hyn y gellid ei wneud yn well? 

·        Sut cafodd newidiadau eu rheoli a’r gallu i sicrhau bod aelodau’r Cabinet, yr Arweinydd a’r holl aelodau’n cael eu hysbysu’n briodol? Sut byddai hynny’n gweithio o ran cynllun adfer ôl-Covid? 

·       Mae’n ymddangos bod materion nad ydynt yn ymwneud â’r pandemig yreffeithiwyd arnynt gan y pandemig, mewn ambell i sefyllfa, wedi dechrau rhoi straen ar rai o’r perthnasoedd a rhai o’r penderfyniadau a wnaed – a’i dyma oedd y sefyllfa? 

·        Rhoddodd y Cynghorydd Murphy safbwynt y Cabinet o’r cyfnod: Roedd Peter Davies ac yntau yn cael sesiynau briffio wythnosol a chyswllt ar ryw ffurf 7 diwrnod yr wythnos. Cyfnewidiwyd cryn dipyn o wybodaeth, ac er bod swyddogion yn naturiol yn cymryd yr awenau o ran y gweithrediadau penodol, teimlai'r Cynghorydd Murphy ei fod bob amser yn gwybod beth oedd yn digwydd, ac yn teimlo bod swyddogion yn gofyn ei farn ar ar bethau. Gwnaeth y ffordd yr oedd yr asiantaethau amrywiol yn cysylltu â'i gilydd argraff fawr arno. 

·        Sylwodd y Cynghorydd Murphy, mai ble methodd y system oedd, fod y cyhoedd i gyd yn dilyn y rheolau yn y lle cyntaf, yna bu iddynt ddechrau teimlo’n rhwystredig a daeth amharodrwydd i ddilyn y rheolau i’r amlwg. Effeithiwyd ar adrannau, gan fod Archwilio Mewnol a Monlife wedi diflannu, a rhan bwysig o'r strategaeth oedd rhoi cyn lleied o bobl â phosibl ar ffyrlo a'u symud i weithrediadau eraill. Un o’r pethau gorau a wnaethpwyd oedd cyflwyno’r Cwtch, i staff ddod at ei gilydd ar-lein i rannu eu rhwystredigaethau a chael eu diweddaru ar wybodaeth yn gyson. 

·        Nododd y Cynghorydd Murphy y byddai'n ddefnyddiol ystyried ble y gallai pethau fod wedi'u gwneud yn wahanol, er gwaethaf y llwyddiannau, a bod llawer o wersi a ddysgwyd eisoes wedi'u hymgorffori mewn gweithrediadau o ddydd i ddydd ee cyfarfodydd hybrid. 

·        Pe byddai methiant o ran ymddiriedaeth y cyhoedd yn rheolau’r llywodraeth genedlaethol, pa rôl sydd gan awdurdod lleol mewn gwirionedd wrth atgyfnerthu’r pwyntiau hynny er mwyn sicrhau bod pobl leol yn teimlo bod yna sefydliad mawr y gallant ymddiried ynddo ac nad yw popeth yn syrthio ar y llywodraeth genedlaethol? 

·        Yr hyn sydd angen ei gadw mewn cof yw, sut mae cymell pobl i gydweithredu mwy nag a gawsom mewn gwirionedd? #

·        A oedd protocolau ynghylch cofnodion ar gyfer gwneud penderfyniadau ble y dylent fod?  

·        I ba raddau y dylai’r profiadau allweddol hynny ein harwain o ran yr hyn a fyddai’n ddoeth i’w wneud yn awr i baratoi ar gyfer yr hyn sy’n ein wynebu yn y dyfodol? 

·        Mae'r wlad yn dal i ddioddef effeithiau'r pandemig, yn enwedig busnesau lletygarwch - a ddylem ymgysylltu mwy â busnesau lleol os bydd y fath beth yn digwydd eto, fel y dywedir wrthym y bydd? 

·        O ran tîm amlddisgyblaethol Cartrefi Gofal Rhanbarthol, a oes gennych farn ynghylch a fyddech wedi lobïo am gyfyngiadau gwahanol? hy a wnaeth peidio gadael i breswylwyr cartrefi gofal weld eu teuluoedd fwy o ddrwg nag o dda, mewn rhai amgylchiadau? 

·        Pa effaith gafodd mesurau ynysu ar ymadawyr gofal ee y rhai oedd yn byw ar eu pen eu hunain yn 16-17 oed – beth fyddai wedi cael ei wneud yn wahanol ac felly yn wahanol y tro nesaf? A ellid rhoi protocol ar waith er mwyn canolbwyntio ar bwysigrwydd cyfathrebu â'r ddemograffeg benodol hon? 

·        A oedd cydymffurfio â rheoliadau’n anodd , gan eu bod yn symud mor gyflym, ac a oedd pethau y gallech chi eu gweld yr oeddech yn teimlo mai da fyddai eu rhoi ar waith?  

·        Un casgliad y daethpwyd iddo oedd pwysigrwydd awyru da fel modd o wrthsefyll clefydau a gludir yn yr awyr: o ran ysgolion, beth ddylem ni fod yn ei wneud i ddatblygu gwell system awyru? 

·        O ran y Tîm Rheoli Digwyddiad a’r Gr?p Cynllunio Gweithredol Rhanbarthol, a oedd yna bethau yr hoffech chi fod wedi’u gwneud yn wahanol? Unrhyw bryderon? 

·        O ystyried y cyfyngiadau amser yn ystod y pandemig, sut y llwyddwyd i gydgynhyrchu dogfennau a chynlluniau? Ai gwir gydgynhyrchu oedd hwn neu a oedd hyn yn fwy o gydweithio a chyd-ddylunio gyda'n partneriaid? Sut y gweithiodd pethau gyda’n partneriaid a gomisiynwyd, yn enwedig darparwyr gofal? 

·        Pa mor fanteisiol oedd y paratoadau a wnaed mewn perthynas ag ymadawiad Prydain o'r Undeb Ewropeaidd ee mewn perthynas â mynediad at gyflenwadau allweddol? A oedd mynediad at y stociau hynny yn ddefnyddiol, yn enwedig yn ystod wythnosau a misoedd cynnar y pandemig? 

·        O ran gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr iechyd proffesiynol, a fyddai model rhanbarthol mwy rhesymol i ymdrin ag argyfwng o’r fath yn well o ran symleiddio, gwneud penderfyniadau a chynllunio gweithredol yn hytrach na’r model awdurdodau lleol bach? 

·        O gofio, roedd problemau difrifol o ran cyflenwad yn nyddiau cynnar y pandemig, felly mae'n faes pwysig iawn i ganolbwyntio arno - efallai ar gyfer y dyfodol, bod angen ymwneud mwy â deall llinellau cyflenwi a pheidio â phentyrru eitemau sydd ag oes silff fach iawn. 

·        Yn ôl pob tebyg, ni fyddai llawer iawn yn cael ei wneud yn wahanol y tro nesaf, yn bennaf oherwydd bod y tîm ar ddringfa dysgu serth a bod yr hyn a oedd yn cael ei wneud erbyn diwedd y pandemig yn wahanol i'r hyn a wnaed ar y dechrau? 

·        Mae'n rhaid bod llawer o'r gwaith wedi bod yn adweithiol - ee ymgorffori'r nifer fawr o reoliadau newydd ac ati - ac mae angen i ni gydnabod y gallai pandemig yn y dyfodol fod yn wahanol iawn i'r un diwethaf, felly nid hawdd fyddai ail gydio yn y gwaith a wnaed yn y gorffennol a'i roi ar waith yn yr un modd? 

·        O ran cyfeiriad yr adroddiad at gydbwysedd gwaith/bywyd: a oedd rhai o dîm Iechyd yr Amgylchedd yn agos gael eu hymestyn i’r eithaf o ystyried y pwysau oedd arnynt? A oes gennym ni broblem gan fod ein cronfa o bobl sy’n gorfod delio â’r pethau hyn yn rhy fach? A ellir gwneud unrhyw beth i edrych ar bwll y gellir ei ehangu mewn argyfwng yn y dyfodol? 

·        Byddai’n dda symud ymlaen â’r awgrym ar hyfforddiant y gellir ei gynnal nawr, i ddyrannu unigolion i rannau penodol o’r sir, er enghraifft, i ganiatáu inni gamu i fyny ar fyr rybudd gyda lefel llawer uwch o gapasiti. 

·        Mae’n bwysig ein bod yn cadw ac yn defnyddio pobl sydd â’r wybodaeth a’r profiad cywir os a phan fydd rhywbeth arall yn datblygu. 

·        A oes gennym unrhyw ddealltwriaeth o nifer y trigolion y mae Covid Hir yn effeithio arnynt? Os na, a ellir dod i wybod hyn er mwyn i allu gwneud mwy i’w cefnogi? – CAM GWEITHREDU: cael gwybod gan gydweithwyr yn Aneurin Bevan 

 

 

Crynodeb y Cadeirydd: 

 

Diolch i’r swyddogion a’r Aelod Cabinet am yr adroddiad hwn. Roedd yr ymateb i’r pandemig gan y cyngor a’r cymunedau yn eithriadol: mae’r pwyllgor hwn a gweddill y cyngor yn dragwyddol ddiolchgar i’r gymuned, y trydydd sector, swyddogion a gweithwyr y cyngor a wnaeth gymaint i helpu, a rhoi eu hunain mewn perygl. Hon oedd yr ymdrech fwyaf rhyfeddol ac un a fydd â’i phennod arbennig ei hun yn hanes Sir Fynwy. Ac rydym yn nodi ein partneriaid pwysig sy’n cael eu cynnwys yn yr adroddiad hwn: y GIG, yr heddlu, y gwasanaethau ambiwlans, y Gwasanaeth Tân ac Achub ac eraill y mae gennym ddyled fawr o ddiolchgarwch iddynt. Mae'r adroddiad hwn yn dweud cymaint am yr hyn sy'n gwneud Sir Fynwy a'r Cyngor Sir yn lleoedd mor wych. 

 

 

Dogfennau ategol: