Agenda item

Craffu cynigion y gyllideb

Craffu cynigion y gyllideb yn ymwneud â chylch gorchwyl y Pwyllogor.

 

20240117 Cabinet - Draft 2024-25 Budget - Covering report Final.pdf (monmouthshire.gov.uk)

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet y Cynghorydd Callard gynnig y gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod ac ateb cwestiynau aelodau gyda’r Aelod Cabinet Ian Chandler, Aelod Cabinet Marty Groucutt, Jane Rodgers, Tyrone Stokes, Peter Davies, Will McLean a Jonathan Davies. Esboniodd y Cynghorydd Callard fod y cynigion yn cynnwys gostyngiad o 3.2% yng nghyllideb Mon Life a chynnydd o 6.3% yn y gyllideb adnoddau. Cadarnhaodd fod y gyllideb ddrafft yn cynnwys cynnig i gynyddu’r Dreth Gyngor gan 7.5% a bod y Cyngor yn y cam ymgynghori cyhoeddus ar hyn o bryd.

 

Pwyntiau allweddol a godwyd gan Aelodau’r Pwyllgor: 

 

Addysg

 

·        Yng nghyswllt arbedion effeithiolrwydd ysgolion o £854k, holwyd sut fydd hyn yn edrych mewn gwirionedd ar gyfer ein hysgolion. Gofynnodd aelodau am enghreifftiau o sut yr aiff ysgolion ati i wneud yr arbedion hyn.

·        Gofynnodd aelodau os yw’r Cabinet yn bryderus am ddiwedd £21.3 miliwn o gronfa Llywodraeth Cymru at Gyflog Athrawon, ynghyd ag arbedion effeithiolrwydd, ac os y gallem o bosibl golli athrawon ac os felly faint. Gofynnwyd i’r aelod cabinet os oedd wedi lobïo Llywodraeth Cymru i ailosod cronfa cyflogau athrawon ar gyfer y flwyddyn i ddod i liniaru’r baich ar ysgolion. Holodd aelodau os y gallai maint dosbarthiadau gael ei gynyddu oherwydd pwysau staffio ac os y gallai plant fod dan anfantais fel canlyniad i’r cynigion hyn.

·        Gofynnodd aelodau os oes gan yr Aelod Cabinet unrhyw bryderon y gallai’r arbedion effeithiolrwydd gael effaith negyddol ar ansawdd y cynnyrch mae’n rhaid i ysgolion ei gaffael, gan arwain at i ysgolion ddewis opsiynau rhatach.

·        Gofynnodd aelodau pa fesurau lliniaru a wneid yng nghyswllt  unrhyw bryderon am anghydraddoldeb a amlygwyd.

·        Yng nghyswllt cyllid ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS), holodd Aelodau am effeithiau y gostyngiad yn y cyfraniad craidd at EAS ar Sir Fynwy.

 

Gofal Cymdeithasol 

 

·        Gofynnwyd cwestiynau am ddileu swyddi a swyddi gwag – faint, a ph’un a gânt eu llenwi.

·        Gofynnwyd am eglurhad os yw’r angen a aseswyd yn cael ei ostwng a sut y gallwn ddangos y bydd newid staff yn dal i ateb y goblygiadau statudol.

·        Roedd peth pryder os y bydd gan aseswyr gofal cymdeithasol y cymwysterau a goruchwyliaeth ddigonol i fedru cyflawni’r rôl, o gofio fod cyfeirio at wasanaethau yn wahanol i gynnal asesiad a chwestiynau os y bydd unrhyw effaith ar weithwyr cymdeithasol cofrestredig.

·        Yng nghyswllt Budden Crescent, gofynnodd Aelodau am sicrwydd fod rhan o’r ailgyflunio ar gyfer ailddylunio’r gwasanaeth a sicrhau rhannu bywydau.

·        Gofynnwyd cwestiwn ynghylch y cyllid ychwanegol ar gyfer gofal a cymorth, ac os y bydd gan y bobl hynny fynediad i gyngor ar hawliau llesiant.

·        Yng nghyswllt gofal maeth, gan ein bod yn dibynnu’n helaeth ar asiantaethau maeth annibynnol, gofynnodd Aelodau sut y caiff y gwahaniaeth mewn costau ei drin? Sut fyddwn ni’n denu gofalwyr maeth i’r sir ac a fedrid ystyried gostyngiad yng nghyfraniad y dreth gyngor? 

 

 Cerddoriaeth Gwent  

 

·        Holodd aelodau em effaith colli’r cymhorthdal ar Gerddoriaeth Gwent a’u hadborth ar y cynnig. Gofynnwyd faint o ysgolion fyddai’n medru cyllido hyfforddiant cerddoriaeth ysgol gyfan ac os y gallai’r cynnig gael effaith negyddol ar y disgyblion sydd fwyaf dan anfantais ac arwain at gyfle anghyfartal.

·        Esboniodd swyddogion fod Cerddoriaeth Gwent yn derbyn cyllid heblaw’r cymhorthdal a gynigiwyd gan y Cyngor. Dywedodd Aelod y gall unigolion hefyd gefnogi Cerddoriaeth Gwent a gofynnodd am i nodyn atgoffa gael ei anfon at Gynghorwyr.

 

Anghenion Dysgu Ychwanegol 

 

·        Gofynnodd aelodau pa ystyriaethau a roddwyd i leihau cynigion y gyllideb ar blant gydag anghenion dysgu ychwanegol ac os byddai arian yn ychwanegol yn dilyn plant y dynodwyd fod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol. 

 

Cwestiynau Eraill 

 

·        Roedd peth pryder am newidiadau i oriau agor canolfannau hamdden, yn arbennig ar benwythnosau a gofynnwyd am esboniadau am y gostyngiad.

·        Gofynnwyd cwestiynau am swyddi gwag a dileu swyddi a’r effaith ar ddarpariaeth staff a gwasanaethau presennol.

·        Gofynnwyd cwestiynau am eglurhad am y Dreth Gyngor, ffioedd ac ardollau a phraesept yr Heddlu a’r Awdurdod Tan.

·        Gofynnwyd am ddadansoddiad o gostau ysgolion bob blwyddyn (Gweithredu: Will McLean)

·        Gofynnwyd cwestiynau am y rhaglen gyfalaf, yn arbennig yng nghyswllt effaith cyllid ar gynnal a chadw parhaus Ysgol Cas-gwent. Gofynnodd Aelodau am sicrwydd na fydd Ysgol Cas-gwent ac eraill yn colli mas ar unrhyw waith cynnal a chadw angenrheidiol tra maent yn aros buddsoddiad cyfalaf.

·        Gofynnwyd cwestiynau am gludiant cymunedol ac os bydd newidiadau i Grassroots.

 

 Crynodeb y Cadeirydd: 

 

Rydym wedi craffu’n llawn ar oblygiadau cynigion y gyllideb ar y gwasanaethau a ddaw o fewn cylch gorchwyl y pwyllgor a gofyn llawer o gwestiynau am ysgolion, gofal yn y cartref, pwysau gofal cymdeithasol, hamdden, Cerddoriaeth Gwent, gwasanaethau maeth ac anghenion dysgu ychwanegol, a llawer maes arall. Mynegodd y pwyllgor ei bryder i sicrhau na chaiff pobl eu rhoi dan anfantais oherwydd cynigion y gyllideb a gofynnwn i’r Aelodau Cabinet ystyried ar y pwyntiau a godwyd wrth symud ymlaen gyda chyllideb y Cyngor ar gyfer 2024 i 2025. 

 

Dogfennau ategol: