Agenda item

Galwad i mewn o'r penderfyniad gan gyfarfod arbennig y Cabinet ar 4 Hydref 2023 mewn perthynas â diwallu Anghenion Caeau Sipsiwn, Roma a Theithwyr - Adnabod Tir.

Cofnodion:

Esboniodd y Pwyllgor Craffu y broses galw mewn, fel yr amlinellir yng Nghyfansoddiad y Cyngor. Siaradodd y Cynghorydd Taylor fel yr Arweinydd Galw Mewn, gan roi manylion y rhesymau dros alw’r penderfyniad mewn, fel y nodwyd yn y cais i alw mewn. Fe wnaeth y Cynghorwyr Howarth a Jones hefyd amlinellu’r rhesymau dros alw i mewn.

 

Pwyntiau allweddol a godwyd gan Aelodau Galw i Mewn:

 

·         Pryderon am gadernid a gwrthrychedd y broses.

·         Pryderon am gysondeb gweithredu’r graddiadau Coch, Oren a Gwyrdd a’r rhesymeg dros dderbyn neu wrthod rhai safleoedd fel rhan o’r broses. Soniodd aelodau fod ffeithiau anghywir ac anghyson ar agweddau tebyg i agosatrwydd at brif ffyrdd.

·         Pryderon am ddiffyg asesiadau ar safleoedd cyn eu cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd a chyn ymgynghoriad cyhoeddus – y ddadl yw fod y broses yn teimlo’n wallus.

·         Pryderon yn gysylltiedig â’r goblygiadau cost ac amseroldeb cynnal asesiadau y teimlir eu bod yn anaddas ar sail llygredd aer, llygredd s?n a halogiad tir posibl, yn arbennig o gofio’r hinsawdd ariannol anodd.

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet Paul Griffiths i’r pwyntiau yn y galw i mewn ac ateb cwestiynau aelodau gyda Mark Hand, Nicholas Keyse, Cath Fallon a Craig O’Connor.

 

Pwyntiau allweddol a godwyd gan Aelodau Pwyllgor:

 

·         Gofynnwyd i’r Aelod Cabinet gadarnhau ei fod ef a swyddogion wedi ymweld Gofynnwyd i’r Aelod Atebodd yr Aelod Cabinet, gan gadarnhau ei fod wedi ymweld â phob safle.

 

·         Cafodd pryderon a nodwyd gan y cyhoedd am y broses i lunio rhestr fer eu hadleisio gan Aelodau – clywsant yr argymhellwyd fod Gwndy yn y rhestr fer derfynol, ond y cafodd ei dynnu ers hynny oherwydd fod y tir wedi ei halogi. Holwyd sut y gellid sicrhau Aelodau fod y broses yn gadarn a fod y cynigion yn hyfyw. Mae gan Aelodau bryderon am addasrwydd y safleoedd eraill: yn benodol ddiogelwch ffordd a diffyg llwybrau teithio llesol, cysylltiad gwael gyda thrafnidiaeth gyhoeddus a diffyg mynediad i wasanaethau cyhoeddus hanfodol.

 

·         Mae Atodiad 1 yr adroddiad yn awgrymu bod anghysonderau, yng nghyswllt Oak Grove Farm (awgrymwyd mai Oakwell Farm oedd yr enw cywir), gyda’r adroddiad yn sôn am ‘fynediad rhwydd’ i’r pentref, gan awgrymu y daw o fewn y ffocws teithio llesol. Anghytunodd Aelod yn gryf gyda hyn, gan esbonio y byddai’n beryglus iawn cerdded ar hyd ymyl y B4245 heb unrhyw ffordd ddiogel o gyrraedd ysgolion a siopau. Awgrymwyd fod yr adroddiad yn gamarweiniol, gan fod yr agosatrwydd at lwybrau teithio llesol yn 1.6 milltir, sy’n beryglus ar gyfer cymunedau i gerdded heb lwybr troed. Enghraifft arall a roddwyd oedd Bradbury Way, lle dywedodd Aelod y gwrthodwyd caniatâd cynllunio i d? cyfagos am dramwyfa yn arwain i Heol Crug oherwydd y credai swyddogion ei bod yn rhy beryglus. Fodd bynnag mae’r Cyngor yn cynnig rhoi lleiniau fyddai angen mynedfa/allfan o’r ffordd hon, heb unrhyw lwybrau troed ar gyfer pobl i gael mynediad yn ddiogel i gyfleusterau lleol.

 

·         Adleisiwyd pryderon am addasrwydd cynnig Langley Close, a godwyd gan y cyhoedd, a siaradodd am bryderon diogelwch ffordd gyda ffyrdd prysur 50mya a 60mya a lleoliadau anodd eu cyrraedd. Dywedwyd nad oedd gan bob un o’r tri safle fynediad i lwybrau troed i’r preswylwyr gael mynediad diogel i gyfleusterau lleol – tebyg i ysgolion, siopau a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Dywedodd Aelod mai mynediad gwael iawn sydd i drafnidiaeth gyhoeddus a bod y traffig yng ngogledd Heol Crug eisoes yn broblemus iawn.

 

·         Gofynnwyd pam fod y safle a gynigir yn Langley Close mor agos at gartrefi presennol a ph’un a wyddem os byddai’r gymuned Sipsiwn Roma a Theithwyr yn hapus i fyw mor agos at aneddiadau. Holodd aelodau os ydym yn wir yn deall beth mae’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr ei eisiau ac i ba raddau yr ydym yn ateb eu hanghenion. Rhoddodd yr Aelod Cabinet sicrwydd i’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr a Travelling Ahead, y corff cynrychioli a fyddai’n ymwneud â’r broses ymgynghori cyhoeddus.

 

·         Soniodd Aelodau mai ychydig o adborth a gafodd y Cyngor gan y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ond i’r un teulu a roddodd adborth ddweud eu bod yn dymuno aros yn y gymuned gartref ar gyfer ysgol, cyflogaeth a rhesymau cymdeithasol. Awgrymodd yr Aelod fod angen i’r Cyngor letya pobl mor agos ag sydd modd at eu cysylltiadau, eto ymddengys ei fod yn gwrthod ymchwilio hyn ar gyfer y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr.  Gofynnodd os oedd Travelling Ahead wedi ymweld â’r safleoedd a thynnodd sylw at ddarpariaeth dogfen Senedd Cymru ar safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr sy’n dweud fod angen i gynghorau edrych lle y dynodir angen, yn hytrach na dweud wrth y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr lle mae’n rhaid iddynt fynd. Dywedodd fod Oak Grove Farm, a oedd yn hanesyddol yn rhan o Severn View Farm, yn awr yn cael ei ffermio gan Park Wall Farms – sydd 2.4 milltir i ffwrdd o Oak Grove Farm. Awgrymodd y byddai Bradbury Farm ac Oak Grove Farm wedi eu lleoli rhwng yr A48, M48 a’r B4245. Cyfeiriodd at ddogfen Senedd Cymru a ysgrifennwyd gan Martin Gallagher, sy’n Deithiwr Gwyddelig ac academydd, sy’n sôn yn benodol am bryderon am agosatrwydd at ffyrdd a dywedodd fod gan y Cyngor gyfle i ddilyn dull gweithredu gwahanol.

 

·         Gofynnodd Aelod os yw’r cyngor wedi edrych ar ddogfennau pwyllgor tai Senedd Cymru, yn arbennig ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr  ym mis Awst ac ymateb y Llywodraeth – mae awgrym fod mwy o hyblygrwydd yn yr adroddiadau hynny yng nghyswllt grantiau cyfleoedd a safleoedd preifat. Byddai’n ddefnyddiol cael trafodaeth ar ryw gam am fwy o hyblygrwydd am ddefnyddio grantiau cyfalaf i brynu safleoedd newydd neu wella safleoedd preifat.

 

·         Dywedodd Aelod fod y Comisiynydd Plant wedi nodi fod yn rhaid i awdurdodau lleol ystyried y Nodau Llesiant yng nghyswllt hyrwyddo iechyd, cydraddoldeb a chymunedau cydlynus. Fodd bynnag, mae plant Teithwyr a gweithwyr cymorth wedi codi pryderon gyda’i swyddfa am “hygyrchedd safleoedd a diffyg mynediad i wasanaethau tebyg i gyfleusterau chwarae neu lwybrau cerdded diogel”. Dywedodd yr Aelod Cabinet y rhoddir ystyriaeth i ganllawiau priodol.

 

·         Roedd pryderon am ddiffyg gwybodaeth yn yr adroddiad ar y goblygiadau ariannol i’r Cyngor o asesu’r safleoedd ar gyfer llygredd s?n, llygredd aer a halogiad tir, mewn hinsawdd ariannol heriol.

 

·         Codwyd cwestiynau pam y gofynnir i ymgeiswyr ar gyfer prosiectau eraill ystyried safleoedd ar gyfer y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn hytrach na’r prosiect yn eu cyflwyno.

 

·         Soniodd Aelod bod goblygiadau y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn mynd ymlaen ar gyfer Bradbury Farm, er enghraifft, yn awgrymu byddai o leiaf 750/850 o dai o’i amgylch. Teimlwyd fod dosbarthiad anghymesur o safleoedd ar gyfer y Gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ac y gall fod angen safleoedd ar draws y sir ac nid dim ond yn yr ardaloedd a gynigiwyd. Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet fod ystyriaeth ddyladwy yn cael ei rhoi i ble mae angen safleoedd.

 

·          Gofynnwyd cwestiwn yng nghyswllt categorïau pridd – mae safleoedd Dwyrain Cil-y-coed wedi eu dosbarthu fel 1, 2,3a, “gradd 1: - tir amaethyddol ansawdd rhagorol; gradd 2: tir amaethyddol ansawdd da, 3a: tir amaethyddol ansawdd da i ganolradd”. Er y dywedodd yr Aelod na fyddent yn hybu dyrannu ar safleoedd ar dir halogedig, gofynnwyd cwestiwn am werth amaethyddol y tir. Cadarnhaodd swyddogion y cafodd y tir a gynigiwyd ar gyfer safleoedd ei gynnig ar gyfer datblygu yn y dyfodol, yn hytrach na defnydd amaethyddol.

 

·         Gofynnwyd cwestiynau hefyd am sut y byddai tenantiaethau ffermio presennol yn cael eu trin ac iawndal ar gyfer tenantiaid. Cadarnhaodd y Swyddogion y broses ac esboniodd ei bod yn debygol y bydd tenantiaethau wedi dod i ben ar y pwynt hwnnw.

 

·         Holodd Aelod os yw grantiau cyfalaf gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys holl gostau halogi safle, costau llygredd aer a iawndal i landlordiaid.

 

·         Gofynnodd Aelodau am eglurdeb os y byddid yn cynnal asesiadau lefel uchel/llinell sylfaen ar yr un pryd â’r ymgynghoriad cyhoeddus. Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet na fyddai’r safle a ddynodwyd yn cael eu hasesu yn llawn tan y cam cais cynllunio. Dywedodd mai cam nesaf y broses fyddai mynd allan ar gyfer ymgynghoriad a chynnal yr asesiadau lefel uchel.

 

Canlyniad Ffurfiol y Pwyllgor Craffu (Crynodeb y Cadeirydd):

 

Yn dilyn dadl sylweddol gyda’r (rhan fwyaf) ar gael drwy’r ffrwd byw, symudodd y Pwyllgor i bleidlais.

 

Cytunodd tri Aelod i dderbyn penderfyniad y Cabinet. Cytunodd chwech Aelod i gyfeirio’r penderfyniad i’r Cyngor llawn am y rhesymau canlynol:

 

·         Mae aelodau yn bryderus am ddiffyg y canllawiau ar y goblygiadau ariannol i’r cyngor o asesu’r safleoedd ar gyfer llygredd s?n, llygredd aer a halogiad tir ac unrhyw gamau adfer y byddai angen eu cymryd.

 

Cariwyd y penderfyniad i gyfeirio’r mater at y Cyngor.

 

 

Dogfennau ategol: