Agenda item

Adroddiad Hunanasesu Drafft.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Perfformiad a Dirnadaeth Data yr Adroddiad Hunanasesu drafft. Yn dilyn y cyflwyniad sleidiau gwahoddwyd Aelodau ofyn cwestiynau:

                                         

·        Roedd Aelod yn hoffi’r dull cytbwys a realistig ac yn croesawu ystyried fersiwn hawdd ei darllen. Ychwanegodd yr Aelod y dylai fod cysondeb wrth ddefnyddio cymharwyr gan roi’r enghraifft o ddarpariaeth chwarae. Dywedwyd fod y graffiau angen mwy o sylw i wella pa mor ddefnyddiol yw’r data i nodi tueddiadau ac yn y blaen. Gofynnodd yr Aelod os gall y prosesau gwaith galluogi gyflwyno deilliannau’r dyfodol ar gyfer hunanasesu.

 

Cytunodd y Rheolwr Perfformiad a Dirnadaeth Data y dylai’r cymharwyr fod yn gyson ac y dylai’r graffiau ddangos effaith yn glir. Caiff yr adroddiad ei ddiwygio yn unol â hynny. Ychwanegwyd fod dangosfwrdd perfformiad yn ei le sy’n cynnwys yr holl fesurau ar gyfer y cynllun corfforaethol a chymunedol i alluogi adnabod tueddiadau, perfformiad o gymharu â thargedau ac yn y blaen. Mae hyn ar gael yn fewnol ar hyn o bryd a bydd holl aelodau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio yn cael mynediad drwy ddolen fel sydd angen. Y bwriad yn y dyfodol yw ymestyn mynediad i breswylwyr.

 

·        Soniodd Aelod hefyd am yr anghysondeb tebygol yn yr achosion lle mae canrannau am wirfoddoli yn gyfeiriadau yn yr adroddiad. Gofynnwyd am esboniad o Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol/Prydau Ysgol Am Ddim a pham fod y nifer yn cynyddu’n ddi-derfyn. Yng nghyswllt Amcan: Lle Gwyrdd i Fyw, awgrymwyd fod angen bod yn onest am y tebygrwydd o gyrraedd targedau. Yn yr un modd yn Amcan: Lle Diogel i Fyw yng nghyswllt digartrefedd, er yn gwerthfawrogi’r pwysau ariannol sylweddol, mae angen bod yn benodol am dargedau statudol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru a chynnwys yr agwedd yma mewn cyllidebau. Gyda phryder, tynnodd yr Aelod sylw at Amcan: Lle Dysgu  lle mae presenoldeb yn 88% (80% ar gyfer disgyblion prydau ysgol am ddim). Cydnabu’r Rheolwr Perfformiad a Dirnadaeth Data y pwynt am gysondeb am wirfoddoli a gwneir diwygiad. Esboniwyd nad yw prydau ysgol am ddim cyffredinol o reidrwydd yn rhai sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim. Yng nghyswllt Lle Gwyrdd i Fyw a Lle Diogel i Fyw, defnyddir y casgliadau yn yr adroddiad i lywio cynlluniau’r dyfodol a bydd yn cynnwys mwy o ffocws ar effaith wrth i’r dull gweithredu ddatblygu. Mae’r ffigurau presenoldeb yn amlygu’r her honno i’r awdurdod.

 

·        Diolchodd y Cadeirydd i’r tîm am eu gwaith gan nodi fod y dull gweithredu yn dangos dull cadarn a chytbwys yn arwain at adroddiad cynhwysfawr, wedi ei gynhyrchu’n dda ac ystyrlon i yrru perfformiad y dyfodol.

 

·        Yn nhermau camau gweithredu, cadarnhaodd y Swyddog y rhoddir adroddiad ar y camau gweithredu drwy Raglen Waith y Pwyllgor. Caiff cynnydd ei fonitro yn ôl gwasanaethau yn ystod y flwyddyn mewn cynlluniau busnes gwasanaeth ac adroddir yn ôl i’r Pwyllgor yn adroddiad hunanasesu y flwyddyn nesaf. Gofynnwyd y dylid rhoi adroddiad yn ôl y tu allan i’r adroddiad hunanasesu blynyddol wrth gyflawni’r camau gweithredu.

 

·        Mewn ymateb i ymholiad am adolygiad y panel allanol, cadarnhawyd fod hyn yn rhan o reoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 sy’n ei gwneud yn ofynnol cael adolygiad cymheiriad annibynnol unwaith mewn cylch etholiadol i asesu perfformiad yn fwy trwyadl. Caiff hyn ei drefnu o fewn y cylch perfformiad i gynyddu’r budd o adroddiadau hunanasesu. Hysbysir y Pwyllgor pryd y cynhelir yr adolygiad.

 

·        Cadarnhawyd fod yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a swyddogion eraill wedi cymryd rhan yn y prosesau yn arwain at lunio’r adroddiad.

 

·        Mewn ymateb i gwestiwn, esboniwyd nad yw’r traciwr archwilio yn fyw eto oherwydd rhai anawsterau yn y system ac mae gyda’r Tîm Digidol ar hyn  o bryd i’w ddatrys cyn symud ymlaen i brofi.

 

Fel yn argymhellion yr adroddiad, adolygodd y pwyllgor yr adroddiad hunanasesu drafft 2022/23 a gwnaed argymhellion am newidiadau i’r casgliadau neu’r camau gweithredu cyn i’r Cyngor ystyried yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: