Cofnodion:
Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weithredwr a’r Swyddog Busnes Cyllid Ddatganiad Cyfrifon 2022/23 drafft Cyngor Sir Fynwy a gofyn am adborth a sylwadau gan y Pwyllgor. Cadarnhaodd Swyddog Archwilio Cymru y cafwyd y cyfrifon ar 19 Gorffennaf 2023, ar ôl y dyddiad cau ond yn unol â phryd y dywedodd swyddogion. Dywedwyd y cafodd y cynnydd ei ohirio oherwydd materion gydag adnoddau Archwilio Cymru ac mae’r cyfrifon terfynol ac ISA260 yn annhebyg o fod yn barod erbyn cyfarfod mis Tachwedd. Caiff cynnydd ei adolygu yn y cyfarfod nesaf.
· Cyfeiriodd Aelod at y rhwymedigaeth pensiynau (gan nodi mai’r prif sbardun am y newid yw bod y cyfanswm gwerth yn ail-fesuriad sylweddol o rwymedigaethau pensiwn net y dyfodol o £202.6m) a gofynnodd am fwy o wybodaeth. Esboniodd y Dirprwy Brif Swyddog fod y diffyg yn y gronfa pensiwn yn debyg i lawer o awdurdodau eraill. Mae prisiadau tair-blynyddol o’r gronfa gan yr Actiwari yn mynd rhagddynt ynghyd ag ystyried cyflogwyr yn cynyddu cyfraniadau cyflogeion a chyflogwr i atal y sefyllfa. Mae canlyniadau’r prisiad actiwraidd diweddaraf yn rhoi sefyllfa fwy cadarnhaol yn nhermau asesu rhwymedigaethau oherwydd newid sylweddol yn y gyfradd disgownt, ffactorau chwyddiant, pa mor hir mae pobl yn byw i ymddeoliad ac yn y blaen gan arwain at ailstrwythuro rhwymedigaethau cynllun pensiwn. Mae’n gadarnhaol fod gwastatau cyfraniadau cyflogwr dros yr ychydig flynyddoedd nesaf gan fod yr Actiwari yn fwy cysurus fod y gronfa pensiwn yn gweithio tuag at sefyllfa o gael ei ariannu’n llawn.
Mae’r newidiadau yng nghyfrifon 2022/23 oherwydd bod y prisiad a gynhaliwyd ym Mawrth 2020 yn gweithio ei ffordd trwyddo.
Awgrymodd yr Aelod y gellid ehangu’r wybodaeth a roddwyd i roi sicrwydd i’r darllenydd. Awgrymwyd fod Swyddogion yn ystyried y pwynt hwn tu allan i’r cyfarfod.
Dywedodd Aelodau y byddai’n anodd darbwyllo pobl i gynyddu cyfraddau cyfraniad pan fo newid o 0.5% i gyfradd disgownt yn gwneud gwahaniaeth o £200m yn y gronfa. Cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weithredwr y caiff y gyfradd disgownt ei phenderfynu gan yr Actiwari yn seiliedig ar dystiolaeth. Cytunwyd rhoi esboniad pellach i roi cyd-destun i’r hyn mae’r newid mewn rhwymedigaethau yn ei olygu ar gyfer y Cyngor.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at dabl 14.2, (rhanddeiliaid pensiwn wedi eu gwahanu rhwng actif, gohiriedig a phensiynwyr) a chwestiynodd yr oedran cyfartalog o 52, a gofynnodd am gadarnhad am oedran cyfartalog uchaf aelodau actif sy’n gyflogeion yn gwneud cyfraniadau. A oes problem gyda gweithlu h?n a fedrai ymddeol mewn rhifau sylweddol yn y dyfodol? Cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod aelodau actif yn tueddu i fod yn h?n. Mae hon yn ymgyrch genedlaethol o awto-ymrestru i annog cyflogeion i wneud cyfraniadau pensiwn drwy gydol eu gyrfaoedd yn hytrach nag yn ddiweddarach.
Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i’r holl Swyddogion oedd yn ymwneud â chwblhau’r Datganiad Cyfrifon, gan werthfawrogi faint o waith sy’n gysylltiedig.
Fel yn argymhellion yr adroddiad, fe wnaeth y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio:
1. Adolygu Datganiad Cyfrifon drafft2022/23 ac amlygu unrhyw ymholiadau a sylwadau ; a
2. Nodi yn dilyn cwblhau’r broses archwilio allanol y caiff y Datganiad Cyfrifon archwiliedig ar gyfer 2022/23, wrth ochr canlyniad y broses archwilio allanol ei gyflwyno i’r Pwyllgor hwn.
Dogfennau ategol: